| (1, 1) 87 | Och fì! Pa beth, pa beth a wnaf! |
| (1, 1) 88 | Fy nhad ar ffo—a llengoedd Rhufain fawr |
| (1, 1) 89 | Yn orchfygedig! Minnau—beth a wnaf! |
| (1, 1) 91 | Ni feiddiaf ffoi y ffordd yr aeth fy nhad: |
| (1, 1) 92 | Anwaraidd lu sy'n erlyn ar ei ol! |
| (1, 1) 93 | Nis beiddiaf fyn'd yn ol—os aros wnaf |
| (1, 1) 94 | Daw'r gelyn ar fy ngwarthaf. O'r duwiau mawr! |
| (1, 1) 95 | O dacw hwynt yn dod! |
| (1, 1) 111 | Genwissa, merch i Cesar ydwyf fì. |
| (1, 1) 114 | Gan Cesar am i'w ferch gael mynd yn rhydd. |
| (1, 1) 126 | Gwae fi! O dywell ddydd! |
| (1, 1) 141 | Y goedwig hon, a'r brwydro gwaedlyd erch |
| (1, 1) 142 | Yn peri braw i'm calon wan... O! dwg fì at fy nhad! |
| (1, 1) 144 | O! Bennaeth mwyn —— |
| (1, 1) 150 | Pe gallwn gyrraedd ato, fyddai'n fwyn imi! {Yn troi ymaith dan wylo.} |
| (1, 1) 154 | Cei bridwerth mawr os dygi fi yn ol |
| (1, 1) 155 | I freichiau'm tad! |
| (1, 1) 159 | Yr adyn! Feiddi di fy nghadw i, |
| (1, 1) 160 | A minnau'n ferch i Cesar? |
| (1, 1) 164 | Ofìdio it' erioed wneud cam â mi! |
| (1, 1) 166 | Afarwy D'wysog, Brawd Caradog yw, |
| (1, 1) 167 | A chyfaill gynt imi yn Rhufain draw. |
| (1, 1) 171 | O holl benaethiaid Prydain yw efe. |
| (1, 1) 172 | Ac O! {Yn troi ymaith dan wylo.} Na chawn ei weled 'nawr! |
| (1, 1) 180 | Nid anghof wyt, nac anghof fyddi chwaith! |
| (1, 1) 181 | Ond dychryn oedd yn dal fy nghalon wan, |
| (1, 1) 182 | A minnau'n ddall gan ofn! |
| (1, 1) 185 | Gwna'r hyn a geisiaf gennyt, ynte. |
| (1, 1) 187 | Atolwg, bydd ddifrifol ennyd fer. |
| (1, 1) 192 | Na ato'r duwiau! Er mae'n anhawdd dweyd |
| (1, 1) 193 | Beth ydwyt mewn gwirionedd! |
| (1, 1) 195 | Wel, dwed, ynte. |
| (1, 1) 197 | Beth, eto? |
| (1, 1) 204 | Gwn; mi a'i gwn, neu mae fy nghalon ffol |
| (1, 1) 205 | Yn twyllo'm pen sy'n ffolach fyth. |
| (1, 1) 207 | Wel? |
| (1, 1) 216 | Mor ddiwerth felly yw merch Cesar gennyt ti. |
| (1, 1) 220 | Ac eto'm rhoddi fyny wnei am ddim. |
| (1, 1) 238 | A'th barchu 'rwyf yn fwy am beidio dweyd |
| (1, 1) 239 | Yr hyn a hoffai'm calon it' i'w ddweyd! |
| (1, 1) 240 | Gweddiaf ar y duwiau am i'r dydd |
| (1, 1) 241 | Gael gwawrio'n fuan pan y gelli ddweyd |
| (1, 1) 242 | 'Rhyn ddwed fy nghalon sy'n dy galon di, |
| (1, 1) 243 | A phan y gall fy nhafod innau ro'i heb sen |
| (1, 1) 244 | Yr ateb fynnai'm calon 'nawr ei ro'i! |