|
|
|
|
(1, 1) 270 |
Wel y mae drwg yma eto, pa beth ydyw'r mater? |
(1, 1) 271 |
Pwy sy'n dyrchafu natur Pleser? |
(1, 1) 272 |
O ran nid oes pleser yn y byd, |
(1, 1) 273 |
Na f'o Gofid ar ei gyfer. |
|
|
(1, 1) 278 |
Nid yw Pleser ond fel ergyd, |
(1, 1) 279 |
Neu fflam o eirias natur danllyd; |
(1, 1) 280 |
Os tyf arno ffrwythe cnawd a gwaed, |
(1, 1) 281 |
Maent yn gwywo dan draed Gofid. |
|
|
(1, 1) 284 |
Myfine ydyw, syth ei wâr, |
(1, 1) 285 |
Y Gofid, 'rwyf ar dy gyfer, |
|
|
(1, 1) 288 |
Yn mysg y prene, siwrne saeth, |
(1, 1) 289 |
Gydag Adda pan aeth i ymguddiad. |
|
|
(1, 1) 309 |
Felly 'roedd Saul yn Israel, |
(1, 1) 310 |
Yn cael heddwch gan y cythrel; |
(1, 1) 311 |
Ond pan ddystawo pob ystwr, |
(1, 1) 312 |
Mae Gofid yn siwr mewn gafel. |
(1, 1) 313 |
~ |
(1, 1) 314 |
Gwreiddyn euogrwydd, cydwybod effro, |
(1, 1) 315 |
Gofid a melldith wnaeth.i Gain ymwylltio; |
(1, 1) 316 |
A chalon g'ledwch fel Pharo ddiglod, |
(1, 1) 317 |
I'w ddirnad, oedd y nod oedd arno. |
(1, 1) 318 |
~ |
(1, 1) 319 |
Felly pan gollo rhai'r gwirionedd, |
(1, 1) 320 |
Hwy gym'rant eu pleser yn mhob agwedd, |
(1, 1) 321 |
Pe gwelit heddyw, mae ef fel o'r blaen, |
(1, 1) 322 |
Yma blant i Gain ddigonedd. |
|
|
(1, 1) 327 |
Wel, os ceir Pleser dipyn heno, |
(1, 1) 328 |
Bydd Gofid, cyn y fory, yn dechre cyfeirio; |
(1, 1) 329 |
Ni cheir Pleser cnawdol am fawr hyd, |
(1, 1) 330 |
Na fo Gofid gydag efo. |
|
|
(1, 1) 335 |
Ond ydyw'r boneddigion o'u mawrhydi, |
(1, 1) 336 |
Yn gwerthu tiroedd, ac yn tori, |
(1, 1) 337 |
Ac yn gadel eu gwlad o fan i fan, |
(1, 1) 338 |
Mae Gofid yn rhan i'r rhei'ni. |
|
|
(1, 1) 343 |
Pan darffo'r hen anian, mae natur yn oeri, |
(1, 1) 344 |
Mae'r balchder a ffrwgwd, a'r sibrwd yn sobri, |
(1, 1) 345 |
Dyna ddaeth a'r afradlon gynt |
(1, 1) 346 |
Am ei helynt i ymholi. |
|
|
(1, 1) 351 |
Digon gwir fod rhai'n cael eu gwared |
(1, 1) 352 |
Trwy ofid, ac erlid, a chaethiwed; |
(1, 1) 353 |
Gwasgfeuon y byd a th'lodi yn nglyn |
(1, 1) 354 |
Sy'n dwyn llawer dyn i deimlad, |
|
|
(1, 1) 364 |
Wel chwi glywsoch fel ca'dd yr Aiphtied, |
(1, 1) 365 |
Ddyodde llawn gystudd rhwng llau a locustied; |
(1, 1) 366 |
Ond mae pla'r cyfreithwyr yn fwy o frad, |
(1, 1) 367 |
I wneud dyben y wlad 'rwy'n tybied. |
(1, 1) 368 |
~ |
(1, 1) 369 |
Wrth ddilyn y gyfreth areth erwin, |
(1, 1) 370 |
Llaweroedd aeth heddyw heb na thy na thyddyn; |
(1, 1) 371 |
Rhyfedd os nad oes dial a braw, |
(1, 1) 372 |
Rhyw ddiwrnod a ddaw arnyn'. |
|
|
(1, 1) 377 |
Cyn barn mae dadlu, dyma'r bywyd |
(1, 1) 378 |
Y dyle'r annuwiol gael ei newid; |
(1, 1) 379 |
'Does ragor i'r cyfoethog na'r tylawd |
(1, 1) 380 |
A rodio'n ol y cnawd a'i ryddid. |
|
|
(1, 1) 385 |
Plesere diawledig sydd i rai tylodion, |
(1, 1) 386 |
Yfed a gwario, dyna fyd gwirion; |
(1, 1) 387 |
A'r gwpan yn sêl, heb gael prin fara sych, |
(1, 1) 388 |
A'r Gofid crych yn y crochon. |
|
|
(1, 1) 391 |
Rhwng trethi ac ardrethion, a balchder serth, |
(1, 1) 392 |
Mae Gofid anferth yno. |
(1, 1) 393 |
~ |
(1, 1) 394 |
A'r bon'ddigion geirwon sydd ar eu gore, |
(1, 1) 395 |
Am eu troi nhw'n ddinerth o'u tir a'u meddiane; |
(1, 1) 396 |
A hwythe'r offeiried yn gollwng i'r diawl, |
(1, 1) 397 |
Mor nodawl yr eneidie. |
(1, 1) 398 |
~ |
(1, 1) 399 |
Rhwng y cythrel a'r bon'ddigion, |
(1, 1) 400 |
Mae hi'n helynt lidiog ar dylodion, |
(1, 1) 401 |
'Does dim esmwythder i'w gael o hyd, |
(1, 1) 402 |
Yn un o'r ddau fyd i ynfydion. |
|
|
(1, 1) 407 |
O, siarad annghall yw son am dynged, |
(1, 1) 408 |
On'd oes gras i ragflaenu pob rhyw blaened? |
(1, 1) 409 |
Onide ni waeth i ddynion ddilyn eu chwant, |
(1, 1) 410 |
'Run foliant a'r anifeilied. |
(1, 1) 411 |
~ |
(1, 1) 412 |
Beth ydyw'r darllen a'r holl bregethu? |
(1, 1) 413 |
Ond galw dynion i gael daioni; |
(1, 1) 414 |
O ran mae'n rhaid i bob un ymroi, |
(1, 1) 415 |
Droi wyneb o'i drueni. |
|
|
(1, 1) 420 |
O, dynion gonest sy'n dawnsio ac yn canu, |
(1, 1) 421 |
Angylion i'w gweled, ond diawlied i'w teulu; |
(1, 1) 422 |
Pleser naturiol yw clywed swn tant, |
(1, 1) 423 |
A'r wraig a'r plant yn nadu. |
|
|
(1, 1) 426 |
Wel, os bydd iddi hithe ddilyn ei chwant, |
(1, 1) 427 |
Aiff ei dillad yn gant o dylle. |
|
|
(1, 1) 430 |
Ffarwel i ti rwan, mi âf ar fy rhod, |
(1, 1) 431 |
Ond na feddwl fy mod yn ymadel. |
|
|
(1, 1) 1438 |
O dramwy'r ddaear ac ymrodio ynddi, |
(1, 1) 1439 |
'Run fath a Satan, weithie yn mhob |city|. |
|
|
(1, 1) 1442 |
Oni chlywes ei fod yn dechre rhwystro? |
(1, 1) 1443 |
Tori gwaith i mi sydd yno. |
|
|
(1, 1) 1448 |
Ond ydwyf fine tan boene beunydd, |
(1, 1) 1449 |
Wrth deimlo'r fath wenwyn dygn sy'n di'gwydd; |
(1, 1) 1450 |
Lle dyle cariad fod yn cyraedde |
(1, 1) 1451 |
Mae'r wlad wedi chwiblo gan lid a chabledd. |
|
|
(1, 1) 1456 |
Mae hwy'n rhoi dyn bychan i farw dan bechod; |
(1, 1) 1457 |
Nid oes i hwnw ddim hawl mewn gras na chyfamod; |
(1, 1) 1458 |
Maent hwy'n fwy dichell na hwnw yn y dechre |
(1, 1) 1459 |
Fu'n cym'ryd plant bychen yn ei freichie. |
|
|
(1, 1) 1464 |
Mae llawer o drueni trwy'r byd ar gerdded |
(1, 1) 1465 |
A rhai'n barnu beunydd ar eu gilydd yn galed, |
(1, 1) 1466 |
Ond pwy all farnu gwas arall pe ba'i fe'n trawswyro? |
(1, 1) 1467 |
Ond i'w Arglwydd ei hun mae fe'n sefyll neu syrthio? |
|
|
(1, 1) 1477 |
Mae pob peth i'w elfen yn tynu'n gyson |
(1, 1) 1478 |
'Run fath a cheffyl yn piso mewn afon: |
(1, 1) 1479 |
Mae cnawd i 'nifeilied, i adar, i bysgod |
(1, 1) 1480 |
Naturieth a'u henfyn bob uneun i'w hanfod. |
(1, 1) 1481 |
~ |
(1, 1) 1482 |
Mae'r dydd yn mron tori derfydd pob twrw |
(1, 1) 1483 |
Ni thâl, Wele yma, neu, Wele acw; |
(1, 1) 1484 |
Ni cheiff neb |oil| i'w lamp oddi allan, |
(1, 1) 1485 |
Ond yr hyn a gynwysodd yndde'i hunan. |
|
|
(1, 1) 1488 |
Yn wir, Gofid a ddyle bregethu fynychaf, |
(1, 1) 1489 |
Mae amryw bregethwyr ar yr iachaf. |
(1, 1) 1490 |
~ |
(1, 1) 1491 |
Ond gwir yw'r gair, trwy gywir gariad, |
(1, 1) 1492 |
Ac yn haeddu beunydd bob derbyniad; |
(1, 1) 1493 |
Mae'r gwir yn ddidwyll yn gywir i'w ddywedyd |
(1, 1) 1494 |
Mewn amser, ac allan o amser hefyd. |
|
|
(1, 1) 1499 |
Dyna ddengys i chwi yn benaf beth yw |bath| bryniol, |
(1, 1) 1500 |
Fo heb ddelw'r brenin yn gyfreithlon a breiniol, |
(1, 1) 1501 |
Ond delw Cesar i Cesar, neu'r diawl os oes eisie, |
(1, 1) 1502 |
A'r twyllwr i'r twyllwr aed pob un i'w tylle. |
|
|
(1, 1) 1512 |
Wel erbyn y c'odont i chwilio'n pocede, |
(1, 1) 1513 |
Mi fyddaf fineu o bergl'n dwad atynt hwy'r bore, |
(1, 1) 1514 |
A dolur i'w clole ar ol bod yn clulian, |
(1, 1) 1515 |
Mewn blinder ac aflwydd oherwydd eu harian. |
(1, 1) 1516 |
~ |
(1, 1) 1517 |
Rhai'n bloeddio ac yn soundio, rhai eraill mewn syndod, |
(1, 1) 1518 |
Rhai'n llaesu boche wedi colli gwerth buchod, |
(1, 1) 1519 |
Un arall yn y gornel a dolur o'i gerne, |
(1, 1) 1520 |
A'i geiliog yn gorpws, a'i ddillad yn garpiau. |
(1, 1) 1521 |
~ |
(1, 1) 1522 |
A dyna i chwi ynfydion yn llwyr bendifadu, |
(1, 1) 1523 |
Wedi i felldith eu pleser a'r diawl eu cwplysu: |
(1, 1) 1524 |
O b'le ceiff y rhei'ny drugaredd na rhinwedd, |
(1, 1) 1525 |
Ond lle dalio hwy'n dewis, a diawl yn eu diwedd. |
|
|
(1, 1) 2091 |
Wel, dawnsio'r wyt ti, i ddal rhai yn 'runlle, |
(1, 1) 2092 |
I rythu llyged ac agor eu cege; |
(1, 1) 2093 |
On'd ydyw hi'n amser i bob un |
(1, 1) 2094 |
Mewn oedran gychwyn adre. |
|
|
(1, 1) 2099 |
Ni allaf ddim rhoi anair iddynt, |
(1, 1) 2100 |
Maent hwy'n rhydd i wneud fel y clywont arnynt; |
(1, 1) 2101 |
Os oes cynwr' neu ffwndwr yn eu ffydd, |
(1, 1) 2102 |
Llawenydd a'i ddeunydd ynddynt. |
(1, 1) 2103 |
~ |
(1, 1) 2104 |
Beth? a raid i wyr uffern gael eu rhaffe, |
(1, 1) 2105 |
Ar y |pit| ceiliogod, ac yn y tafarne? |
(1, 1) 2106 |
Ac ni all pechaduried roi dim clod, |
(1, 1) 2107 |
Os teimlan' hwy nod eu heneidie, |
(1, 1) 2108 |
~ |
(1, 1) 2109 |
Beth pe b'ai rhyw un o'r cwmpeini, |
(1, 1) 2110 |
Yma, wedi ei fwrw i'w grogi, |
(1, 1) 2111 |
Ac i air ddyfod y cai fod yn rhydd, |
(1, 1) 2112 |
Oni fydde llawenydd yn ei lenwi? |
(1, 1) 2113 |
~ |
(1, 1) 2114 |
Felly'r un modd yn eglur, |
(1, 1) 2115 |
Ydyw'r chwedel mewn pechadur: |
(1, 1) 2116 |
Ni all ef pan brofo fe beth o'r braint, |
(1, 1) 2117 |
Ddim gosod pa faint ei gysur. |
|
|
(1, 1) 2122 |
Nid y tro cyntaf wrth redeg, |
(1, 1) 2123 |
Mae dwfr yr afon yn llyfnhau'r gareg; |
(1, 1) 2124 |
Ni chwympodd mur Jerico ddim wrth un llef; |
(1, 1) 2125 |
Fe edwyn y nef ei hadeg. |
(1, 1) 2126 |
~ |
(1, 1) 2127 |
Gadewch i'r cwn, trwy'ch cenad, |
(1, 1) 2128 |
Gyfarth y ser a siarad; |
(1, 1) 2129 |
Ni wyr twrch daear ddim am yr haul, |
(1, 1) 2130 |
Na llawer am draul y lleuad. |
(1, 1) 2131 |
~ |
(1, 1) 2132 |
Ni wyr asyn gwyllt neu eidion |
(1, 1) 2133 |
Ddim byd am gyflwr Cristion, |
(1, 1) 2134 |
Ni wyr dyn cnawdol ddim am ras, |
(1, 1) 2135 |
Mae'n g'wilydd ac yn gas gan ei galon. |
|
|
(1, 1) 2138 |
Nid mynych y gwelir di (goelia i) |
(1, 1) 2139 |
Yn un o eglwysi Cymru. |
|
|
(1, 1) 2144 |
Y rhan fwyaf o ffydd y rhei'ny |
(1, 1) 2145 |
Yw dyfod i'r llan i siarad ac ymholi, |
(1, 1) 2146 |
Ac ysbio dillade'r naill a'r llall, |
(1, 1) 2147 |
Ac ystyried pob gwall |history|. |
(1, 1) 2148 |
~ |
(1, 1) 2149 |
Fe fydd rhai yn y llan yn pendwpian yn fusgrell, |
(1, 1) 2150 |
A'r lleill yn chwerthin tan eu 'sgafell, |
(1, 1) 2151 |
Heb wrando darlleniad mwy na brefiad bran, |
(1, 1) 2152 |
Na theimlo'n lân un linell. |
(1, 1) 2153 |
~ |
(1, 1) 2154 |
Ac wrth ddwad adre hwy fyddant yn dwndro, |
(1, 1) 2155 |
Pawb wrth eu natur a'i chwedl ganddo: |
(1, 1) 2156 |
Ni fydd am y bregeth odieth wawr, |
(1, 1) 2157 |
Na gwasaneth, fawr yn synio. |
|
|
(1, 1) 2160 |
Byddant yn son, fe alle'n siwr, |
(1, 1) 2161 |
Yn ddigynwr' o ran gwenieth. |
(1, 1) 2162 |
~ |
(1, 1) 2163 |
Hwy ddywedant, O! pe gwnaem ni'n loyw |
(1, 1) 2164 |
Gyment yn gyhoeddus ag a glywsom ni heddyw, |
(1, 1) 2165 |
Ni fydde raid ddim cerdded o fan i fan, |
(1, 1) 2166 |
I gocian yma ac acw. |
|
|
(1, 1) 2169 |
Fe fydde'n iachus ar les y plwyf, |
(1, 1) 2170 |
Pe bydde halen yn fwy heleth. |
(1, 1) 2171 |
~ |
(1, 1) 2172 |
Ond lle diflasodd halen cydwybod, |
(1, 1) 2173 |
A pha beth yr helltir? Dyna lle mae'r hylldod, |
(1, 1) 2174 |
Can's yn y tir yn wir ni wna, |
(1, 1) 2175 |
Na'r domen un da amod. |
(1, 1) 2176 |
~ |
(1, 1) 2177 |
Athrawieth lygoer, chwydlyd, lygredd, |
(1, 1) 2178 |
Ddifraw, digariad, heb fod na brwd nac oeredd, |
(1, 1) 2179 |
Mae melldith ar y grefydd hon |
(1, 1) 2180 |
Fel Meros a'i thrigolion marwedd, |
|
|
(1, 1) 2185 |
Mae llawer o ddynion yn llwyr ddiddaioni, |
(1, 1) 2186 |
Fel tyrchod daear yn gwrando ac yn tewi; |
(1, 1) 2187 |
Ac ni agorant mo'u llyged nes meirw'n llwyr |
(1, 1) 2188 |
Ar wyneb rhy hwyr drueni. |
|
|
(1, 1) 2194 |
Nid ydyw Gofid ond ail i gafod, |
(1, 1) 2195 |
Lle toro cwmwl mae'n rhaid ci ddigymod: |
(1, 1) 2196 |
Ni fydd ar neb â chalon iach |
(1, 1) 2197 |
Ond Gofid bach am bechod. |
(1, 1) 2198 |
~ |
(1, 1) 2199 |
Mae diwedd pob trwst yn dwad, |
(1, 1) 2200 |
Y Pleser a'r Gofid anfad: |
(1, 1) 2201 |
Peth gore i ddyn sy'n briddyn brau, |
(1, 1) 2202 |
Yw cyrhedd effeithie cariad. |
(1, 1) 2203 |
~ |
(1, 1) 2204 |
Mae'n bryd i ni dewi, a rhoi ymadawiad, |
(1, 1) 2205 |
Cofiwch mae diwedd ar bob peth yn dwad; |
(1, 1) 2206 |
Ni ail Gofid na Phleser, drawster dro, |
(1, 1) 2207 |
Ddim cyrhedd lle gwreiddio cariad. |
(1, 1) 2208 |
~ |
(1, 1) 2209 |
Chwi wyddoch bawb yn weddedd, |
(1, 1) 2210 |
Fel y galwyd pob peth yn wagedd: |
(1, 1) 2211 |
Mae pob rhyw gnawdol raddol rym, |
(1, 1) 2212 |
Yn dwad i ddim yn y diwedd. |