| (1, 2) 294 | Mor barod ag yw'r ci i ddod i wyneb ei ysglyfaeth. |
| (1, 2) 304 | Fy Arglwydd Frenin. |
| (1, 2) 305 | Parch iti yn unig a wnaeth imi ymatal pan gododd y bocsachwr hwn ei lais mor groch yngwydd ei well. |
| (1, 2) 308 | Tywysogion Cymru'n wir! Tywysogion geifr! |
| (1, 2) 328 | Dymunaf ofyn cwestiwn teg i'r gwr difoes a saif mor haerllug yma o flaen ei deyrn. |
| (1, 2) 332 | Ai Cymro ynte Sais wyt ti? |
| (1, 2) 335 | Ni fynnet felly hawlio bod yn Sais? |
| (1, 2) 337 | Sais ydwyf fi o waed a chalon. |
| (1, 2) 340 | Wel, felly yn fyr. |
| (1, 2) 341 | 'Rwyf fi yn hawlio'r Croesau ar fy llw, fel Sais. |
| (1, 2) 342 | Syr Owen, yntau hawlia'r Croesau ar ei lw fel Cymro. |
| (1, 2) 343 | Gwnaed hynny'n hollol glir. |
| (1, 2) 344 | 'Nol deddfau Lloegr ni all amheuaeth fod. |
| (1, 2) 345 | Ni ellir derbyn llw'r un Cymro byth yn erbyn llw Sais. |
| (1, 2) 362 | A yw Syr Edmund Mortimer yntau'n troi yn dwrnai? |
| (1, 2) 388 | Ond nid anghofiaf fi! |
| (1, 2) 396 | Apelio 'rwyf am ddedfryd o fy mhlaid. |
| (1, 2) 398 | Mae deddf yn ddeddf er hyn i gyd, ac ar y ddeddf, a thrwy y ddeddf, 'rwyf eto'n hawlio'r tir. |