| (0, 10) 861 | Pobun! |
| (0, 10) 863 | Pobun, oni'm clywi? |
| (0, 10) 870 | Pobun! |
| (0, 10) 872 | Pobun, oni'm clywi? |
| (0, 10) 874 | Pobun, d'eiddo di ydwyf; erot ti yr wyf yn gorwedd yma. |
| (0, 10) 877 | Gwel, dy holl weithredoedd da wyf i. |
| (0, 10) 879 | [Dyred ynteu ychydig yn nes ataf.] |
| (0, 10) 882 | [Yr wyf yn wan iawn a baich mawr arnaf, am na feddyliaist ti erioed amdanaf.] |
| (0, 10) 884 | Bydd arnat angen amdanaf i. |
| (0, 10) 885 | Y mae'r ffordd yn hir echryslon, a thithau heb neb i'th ganlyn. |
| (0, 10) 887 | Na, mynnaf ddyfod i'th ganlyn, gan mai d'eiddo di wyf. |
| (0, 10) 889 | Oni bai dydi, gallwn ymsymud yn rhwydd, a chydgerddwn â thi lle'r elit. |
| (0, 10) 894 | Pobun, clywais dy wysio ger bron dy waredwr i'r farn oruchaf. |
| (0, 10) 895 | [Oni fynni dy golli, na ddos heb neb onid ti dy hun i'r daith hon, meddaf i ti.] |
| (0, 10) 897 | A fynnaf i ddyfod gyda thi i'r daith? |
| (0, 10) 898 | A wyt ti'n gofyn hynny i mi, Pobun? |
| (0, 10) 901 | [O, Pobun, dy fod ti ar awr mor hwyr yn troi at fy llygaid a'm genau!] |
| (0, 10) 905 | Pe buasit ti yn deall gynt nad wyf i lawn mor ddiolwg, buasit wedi aros llawer gyda mi [ymhell o'r byd a phob rhyw ddrwg chwarae! |
| (0, 10) 906 | Tyred yn nes,—gwan yw fy llais i—aethit at y tlodion megis brawd yn gymwys, gyda chydymdeimlad a gofid, a buasit wedi dechrau eu caru hwy, a'th galon wedi. |
| (0, 10) 907 | llawenhau, a minnau, sy mor fethiantus,] buaswn innau, drwy fod yn eglur o flaen dy feddwl, megis llestr dwyfol i ti, megis cwpan a gras yn llifo drosodd ohono i'th wefusau di. |
| (0, 10) 910 | [Cwpan oeddwn i a safai o'th flaen, a lanwyd hyd yr ymyl gan y nefoedd ei hun. |
| (0, 10) 911 | Nid oedd yn y cwpan hwnnw ddim daearol, am hynny, dibwys oeddwn yn dy olwg di!] |
| (0, 10) 913 | [O, gwae! bellach bydd syched byth ar dy wefus! |
| (0, 10) 914 | Ni fynnaist yfed ond o bethau'r byd, ac am hynny, cipiwyd y cwpan oddi wrthyt.] |
| (0, 10) 917 | [Dyna'r edifeirwch chwerw, llosg, y gofid cudd. |
| (0, 10) 918 | O, pe gallent hwy lunio dy galon di o'r newydd, mor ddedwydd fyddai hynny i ni'n dau!] |
| (0, 10) 931 | O na bai i'r edifeirwch tanbaid hwn fy rhyddhau oddi wrth y llawr! |
| (0, 10) 932 | [Gwae na allaf sefyll ar fy nhraed wrth ei ystlys ef yrawr hon. |
| (0, 10) 934 | Mor druan, gwan a chlaf wyf i!] |
| (0, 10) 939 | [O, Pobun!] |
| (0, 10) 941 | Y mae i mi chwaer, Ffydd y gelwir hi. |
| (0, 10) 942 | Pe gadawai hi erfyn arni ddyfod i'th ganlyn ar dy ffordd, a sefyll gyda thi ger bron brawdle Duw! |
| (0, 10) 944 | [Efallai mai troi oddi wrthyt a wnai, a'th ado i fynd heb gysur i'th fedd, ond pe gwyddit ti ba fodd i lefaru wrthi, fe roddai hithau ei chynorthwy iti.] |
| (0, 10) 947 | [Nid rhaid galw'n groch, teimlaf fod y chwaer yn dyfod!] |
| (0, 10) 948 | F'annwyl chwaer, y mae'r gŵr hwn mewn cyfyngder tost, a sefi di gydag ef pan drengo? |
| (0, 10) 949 | Nid oes i mi mo'r nerth, rhy wan wyf, ni allaf ddadlau drosto. |
| (0, 13) 1018 | Pobun, wele fi, dy gyfeilles; bendithiaf di yn fy meddwl; rhyddheaist fi o'm gofid, ac yn awr, canlynaf di lle'r elych. |
| (0, 13) 1050 | Nid oes yma ffordd i ti. |
| (0, 13) 1055 | [{Gan sefyll eto o'i flaen.} |
| (0, 13) 1056 | Dim ffordd!] |
| (0, 14) 1117 | [Oni theimlais i fod Pobun yn dyfod? |
| (0, 14) 1118 | Ie, ef ydyw, a daw yma. |
| (0, 14) 1119 | Yr oedd rhywbeth yn dywedyd wrthyf mai ef ydoedd. |
| (0, 14) 1120 | Fe allodd fodloni ei Arglwydd, 'rwy'n teimlo drwy f'aelodau oll y nerth at ehedeg fry!] |
| (0, 14) 1126 | Ni thynnaf i mo'm llaw oddi ar y ffon cyn bod y daith ar ben. |
| (0, 14) 1135 | A deuaf innau gyda thi, Pobun. |
| (0, 14) 1138 | Arglwydd, boed dawel ein diwedd ni, i'th lawenydd di yr awn i mewn. |