| (1, 0) 16 | Y mae'r postmon yn hwyr iawn heddyw. |
| (1, 0) 19 | Wel, beth a wyddoch na ddaw â hanes cwsmer ì chwi? |
| (1, 0) 24 | O, rhag cywilydd i chwi, Merfyn─dynwared ych tad fel yna o hyd! |
| (1, 0) 31 | O, yn wir? |
| (1, 0) 32 | Beth oedd hwnnw? |
| (1, 0) 35 | O, Merfyn, Merfyn! |
| (1, 0) 38 | O, Merfyn! |
| (1, 0) 39 | Yr ydych yn rhy gas! |
| (1, 0) 46 | Tewch, Merfyn, da chwithau. |
| (1, 0) 48 | Dowch i mewn! |
| (1, 0) 53 | O twt, lol! |
| (1, 0) 54 | Edrychwch ar y llythyrau, a gadewch lonydd iddi hi a'i gwallt─hi pia fo. |
| (1, 0) 74 | H'm! |
| (1, 0) 75 | Y mae fy modryb yn dyfod heddyw─ |
| (1, 0) 78 | Modryb Elin─hyhi a roes y piano i ni yn hytrach, hyhi a roes ddeugain punt i ni brynu piano, fel y gwyddoch yn dda, Merfyn. |
| (1, 0) 81 | O, Merfyn, peidiwch â dywedyd y fath beth! |
| (1, 0) 85 | O, wel, wel, beth a wnawn ni bellach? |
| (1, 0) 87 | Dyma hi ar ben arnom o'r diwedd! |
| (1, 0) 91 | Ond beth a wnawn ni? |
| (1, 0) 92 | Os dont i ymofyn y piano cyn i'm modryb gyrraedd, beth a ddywedwn ni? |
| (1, 0) 93 | A phe baent yn dyfod a hithau yma, dyna hi yn waeth fyth! |
| (1, 0) 94 | Byddai raid i ni gyfaddef y cwbl─ein bod wedi gwario'r deugain punt i fynd am y mis mel, yn lle talu am y piano! |
| (1, 0) 95 | O, beth a wnawn ni? |
| (1, 0) 99 | Ond yr wyf i wedi blino ar ddyfeisio a dyfeisio pethau o hyd ac o hyd i'w dywedyd wrth bobl! |
| (1, 0) 102 | Yr ydych yn cymryd popeth yn ysgafn, Merfyn! |
| (1, 0) 103 | Fyddwch chwi byth o ddifrif! |
| (1, 0) 107 | Ond ni waeth heb siarad fel yna. |
| (1, 0) 108 | Rhaid i ni wneud rhywbeth heb law siarad. |
| (1, 0) 111 | Wn i ddim. |
| (1, 0) 113 | Pa faint oedd i'w dalu am y piano y mis diweddaf? |
| (1, 0) 116 | Pedair punt? |
| (1, 0) 117 | Wel, dylem fedru cael cymaint a hynny rywsut─ |
| (1, 0) 119 | O, Merfyn, 'does bosibl!─ |
| (1, 0) 122 | O, drugaredd fawr! dyna ddeuddeg punt. |
| (1, 0) 126 | Â pha faint yr ydym wedi eu talu eisoes? |
| (1, 0) 129 | Ond ni wiw iddi fynd! |
| (1, 0) 130 | Beth a ddywedwn ni wrth fy modryb? |
| (1, 0) 134 | A hithau wedi bod yma ddeufis yn ol, ac wedi gweld hon! |
| (1, 0) 139 | O, Merfyn! |
| (1, 0) 147 | Wel, mi af at fy nghyfnither i edrych a fedr hi ddim rhoi benthyg deuddeg punt i ni─ni fedraf i feddwl am ddim arall. |
| (1, 0) 152 | O'r goreu. |
| (1, 0) 153 | Mi ddywedaf wrth Marged beth i'w wneud. |
| (1, 0) 154 | Rhaid i ni fod yn ein holau cyn canol dydd yn sicr. |
| (1, 0) 156 | A bydd fy modryb yma cyn hynny, y mae'n debyg! |
| (1, 0) 413 | Yn siop Edwards─dau swllt oeddynt. |
| (1, 0) 414 | Ac mi ddaethoch o'm blaen i. |
| (1, 0) 417 | Wel, a gawsoch chwi rywfaint? |
| (1, 0) 420 | Pam? |
| (1, 0) 421 | Beth a wnaeth o? |
| (1, 0) 423 | Ond, beth a wnai 'r dyn, a chwithau wedi dywedyd pymtheg wrtho? |
| (1, 0) 428 | Dowch, yn awr, Merfyn, ni thâl peth fel yna ddim─ |
| (1, 0) 431 | O, yn ofer, wrth gwrs. |
| (1, 0) 432 | Nid oedd gan fy nghyfnither ddim ond ychydig arian gwynion yn y ty, ac ni ddaw'r gwr adref tan yr wythnos nesaf. |
| (1, 0) 435 | Cofio beth? |
| (1, 0) 438 | Wel, dylasai yn sicr! |
| (1, 0) 439 | Yr oeddwn innau wedi anghofio. |
| (1, 0) 440 | Tybed a fu hi yma, a mynd i ffwrdd am nad oeddym i mewn? |
| (1, 0) 441 | Un go lew yw'r hen fodryb, calon iawn ganddi─buasai'n ddrwg gennyf─ |
| (1, 0) 444 | Wn i ddim. |
| (1, 0) 445 | Nid oedd hi yn y gegin pan ddeuthum i i mewn. |
| (1, 0) 446 | Gobeithio nad oedd hi ddim wedi mynd allan a bod fy modryb wedi galw a neb yn ateb. |
| (1, 0) 447 | Mi af i edrych amdani yn awr. |
| (1, 0) 452 | Na, 'does dim golwg arni. |
| (1, 0) 454 | Popeth o chwith! |
| (1, 0) 457 | Merfyn, fy machgen i, pa beth a wnawn ni? |
| (1, 0) 458 | Yr ydym wedi chwarae fel dau löyn byw ddigon o hyd! |
| (1, 0) 461 | Mi wn hynny, fy machgen i, bellach─yr wyf yn dechreu deall; ond dylasem fod wedi meddwl am y pethau hyn yn gynt. |
| (1, 0) 466 | Am ba beth? |
| (1, 0) 469 | Beth yw dy feddwl di? |
| (1, 0) 474 | Merfyn! |
| (1, 0) 475 | O, Merfyn! |
| (1, 0) 478 | Wyt ti'n deall bellach? |
| (1, 0) 481 | Ac eto, y mae'n gas gennyf dy weled ti mor drist. |
| (1, 0) 482 | Ni welais i erioed monot ti fel hyn o'r blaen, Merfyn! |
| (1, 0) 485 | O, Merfyn, pe taswn i yn gwybod! |
| (1, 0) 491 | Merfyn! un waith, a'r olaf─gresyn na buasai yma rywun wrth y piano! |
| (1, 0) 492 | Yn awr, ynteu! |
| (1, 0) 499 | Dyna'r ddau löyn byw wedi darfod! |
| (1, 0) 500 | Yn awr, Merfyn, gwrando! |
| (1, 0) 502 | Dos a hon i'w gwerthu─na, ni chei di ddim mynd. |
| (1, 0) 503 | Mi af a hi fy hun─fy lle i ydyw mynd. |
| (1, 0) 504 | Cawn ddeuddeg punt amdani, beth bynnag─y mae hi yn werth mwy na hynny─petae ddim ond y garreg. |
| (1, 0) 510 | Merfyn, nid wyf i wedi gwneud dim byd er pan briodwyd ni, dim ond prynu pethau fel hyn, hyd yn oed heddyw ddiwethaf yn y byd! |
| (1, 0) 517 | le, druain bach! |
| (1, 0) 518 | Ond, gwrando, nid wyf i wedi gwneud dim, a thithau'n gweithio bob dydd. |
| (1, 0) 519 | Nid wyf yn hoffi ymadael â'r hen gadwyn, y mae'n wir─y mae hi'n dlws, ac yn hen. |
| (1, 0) 520 | Ond y mae un peth gwell gennyf na'r cwbl. |
| (1, 0) 522 | Tydi! |
| (1, 0) 523 | Weli di, mi werthaf y mân dlysau yma i gyd, ac mi gawn glirio pethau felly, a dechreu o ddifrif wedyn. |
| (1, 0) 524 | Ac hwyrach y cawn ni hyd i'r ty bychan hwnnw wedi'r cwbl! |
| (1, 0) 525 | Pwy ŵyr? |
| (1, 0) 528 | Eistedd di i lawr yn dawel─paid â dywedyd gair─dim un gair! |
| (1, 0) 529 | Yn awr, rhaid i mi gael fy ffordd fy hun y tro yma. |
| (1, 0) 530 | Hwda, tyrd yma! |
| (1, 0) 532 | Dyro gusan i mi, neu ynteu i hon. |
| (1, 0) 534 | Yn awr, a wyt ti'n deall? |
| (1, 0) 536 | Ni byddaf i ddim yn hir, Merfyn! |
| (1, 0) 574 | Ble y mae'r gadwyn, Merfyn? |
| (1, 0) 576 | O! O! 'modryb! |
| (1, 0) 602 | Wel, nid wyf innau yn deall y cwbl yn iawn, ac y mae geiriau yn swnio'n wag, rywfodd!... |
| (1, 0) 603 | Ond, Merfyn, dyma'r haul yn tywynnu ar y glöyn byw eto! |
| (1, 0) 605 | Yn awr, ynteu! |
| (1, 0) 606 | Unwaith eto! |