(1, 0) 67 | Pysgodyn anferth a all dy lyncu fel y llwnc yr iâr falwoden. |
(1, 0) 68 | Cymer di gyngor gen' i—cadw dy draed ar dir sych. |
(1, 0) 69 | Dos yn yrrwr camelod os wyt ti am weld y byd. |
(1, 0) 70 | Y cwmni difyr dan y sêr, heddiw yn Antioch, yfory yn Ramoth-Gilead! |
(1, 0) 71 | A chyrraedd Ninefe ar doriad y wawr—ei muriau o farmor a'i thyrrau o aur coeth, ei phlasau o arian ar lawnt o risial. |
(1, 0) 72 | Ninefe fawr, perl y dwyrain. |