| (0, 1) 595 | Pwy ydach chi, deudwch? |
| (0, 1) 596 | Dyn y Llywodraeth? |
| (0, 1) 599 | Wel edrych yma, machgen i, wn i ddim sut rydach chi'n disgwyl inni fyw. |
| (0, 1) 600 | Ni, yr hen begnos, ar ein mymryn pensiwn. |
| (0, 1) 601 | A'r prisia mor uchel. |
| (0, 1) 602 | Cynilo hyd at yr asgwrn. |
| (0, 1) 603 | Byw ar botas-maip a sucan. |
| (0, 1) 604 | Ac eto'n hanner llwgu. |
| (0, 1) 606 | Ac yn fferru gyda'r nos heb dewyn o dân. |
| (0, 1) 607 | Dydan ni ddim yn gofyn am gardod, w'sti. |
| (0, 1) 608 | Dim ond ichi gofio bod gynnon ni dipyn bach o hunan-barch o hyd. |
| (0, 1) 609 | Mi ddylen ni gael ein trin fel pobol nid fel sbwriel wedi cael ei daflu ar y domen. |
| (0, 1) 613 | Be? |
| (0, 1) 616 | Wn i ddim be wnawn ni pan ddaw'r gaea', a'r gwynt a'r glaw a'r tarth. |
| (0, 1) 617 | Mi fydd rhen fegin yma'n gwichian fel olwyn ferfa. |
| (0, 1) 618 | Mi ddweda i wrtha ti be hoffwn i, os ca'i fyw ac iach, 'machgen i. |
| (0, 1) 619 | Cael mynd o'r hen fyd yma, pan ddaw f'amser, efo traed cynnes. |
| (0, 1) 620 | Dydy o ddim llawer i ofyn. |
| (0, 1) 621 | Ond yn ormod i' ddisgwyl reit siwr. |
| (0, 1) 623 | Ia, wel, peswch sych diwedd pob nych, meddan nhw, ynte... |
| (0, 1) 624 | Ia siwr... |
| (0, 1) 625 | Digon gwir... |
| (0, 1) 626 | Digon gwir! |
| (0, 2) 973 | Dyn y Llywodraeth ydy o, deudwch? |
| (0, 2) 974 | Digon hawdd iddo fo dorsythu a swagro o gwmpas fel congrinero! |
| (0, 2) 975 | Mae o'n cael llond 'i fol o fwyd yn amlwg! |
| (0, 2) 976 | Nid run fath â ni, yr hen bobol, sy'n gorfod byw ar wellt ein gwely bron. |
| (0, 2) 977 | Pensiwn wir! |
| (0, 2) 978 | Edrychwch arna i — mi fydda i mor dena â weiran-gaws gyda hyn. |
| (0, 2) 980 | Mae'r hen wlad yma'n mynd â'i phen iddi. |
| (0, 2) 981 | Dyna'r gwir i chi... âi phen iddi... |