| (1, 0) 142 | Maggie, rwy'n mynd allan am ryw chwarter awr. |
| (1, 0) 146 | Mae awr o amser cyn cinio. |
| (1, 0) 149 | Y Bedol? |
| (1, 0) 150 | Pwy ddwedodd—? |
| (1, 0) 153 | Wel; wel, myn─ |
| (1, 0) 166 | Gad iddo aros. |
| (1, 0) 167 | Ar hyn o bryd rwy'i am gael gair â'r merched ffroen-uchel sydd yn fy nhŷ fy hun, a mae'n rhaid i chi wrando arna'i. |
| (1, 0) 168 | Byth er pan fu'ch mam farw, rydych chi wedi ymroi i ennill y llaw ucha' arna'i. |
| (1, 0) 171 | Rwy'i'n siarad nawr, a chwithau'n gwrando. |
| (1, 0) 172 | Fe drefnodd Rhagluniaeth i chi gael eich amddifadu o gyfarwydd eich mam yn yr adeg pan mae merched dibriod yn mynd yn ffroen-uchel ac yn mynnu cael rheoli rhywun. |
| (1, 0) 173 | Ond cymrwch chi hyn genny', chewch chi ddim rheoli arna'i. |
| (1, 0) 175 | Wyt, yr wyt ti. |
| (1, 0) 176 | Rwyt yn ferch brydferth ond yr wyt yn ffroen-uchel, a mae merch ffroenuchel mor atgas imi a chyfreithiwr. |
| (1, 0) 179 | Ond y fi sy'n rhoi a chwithau'n cymryd, a rhaid cael pen ar hynny. |
| (1, 0) 181 | Does a wnelo hynny ddim â'r mater |
| (1, 0) 183 | Merched ffroen-uchel yw'r pwnc o dan sylw ar hyn o bryd, a rwy'n eich rhybuddio bod yn rhaid i chi newid yn hollol yn eich ymddygiad tuag at eich tad. |
| (1, 0) 185 | Ac nid dim ond hynny yn unig. |
| (1, 0) 186 | Peth o fewn cylch y teulu yw hynny. |
| (1, 0) 187 | Rwy'i am son nawr am rywbeth arall, eich ymddygiad yn y cyhoedd. |
| (1, 0) 188 | Rwy'i wedi sylwi ar 'mhlant yn cerdded y strydoedd ac wedi gwrido o gywilydd. |
| (1, 0) 189 | Mae enw da Hobson wedi ei lychwino gan aelodau o deulu Hobson ei hun, a balchder ffroen-uchel yw'r achos o hynny. |
| (1, 0) 191 | Rwyt yn dlos, Vickey, ond fe alli dithau ddweyd celwydd fel "gas-meter." |
| (1, 0) 192 | Pwy oedd yn gwisgo dillad newydd yr wythnos ddiwetha? |
| (1, 0) 194 | Ydw. |
| (1, 0) 196 | Dwy'i ddim wedi aros i mewn y bore yma ac esgeuluso "business appointments" er mwyn arbed fy anadl. |
| (1, 0) 198 | Ydw: rwy'n hoffi gweld fy merched wedi eu gwisgo'n neis. |
| (1, 0) 200 | Dyna pam rwy'n talu deg punt ar hugain bob blwyddyn ì Mr. Tudsbury, y Draper, i'ch dilladu chi'n weddus. |
| (1, 0) 201 | Mae hynny'n llonder i'r llygad ac yn fantais i fasnach. |
| (1, 0) 202 | Ond deallwch hyn, pe gallasai rhai merched weld eu hunain fel mae dynion yn eu gweld, buasent yn cael "shock" ofnadwy. |
| (1, 0) 203 | Ac fe fynna'i air â Tudsbury am adael i chi ddewis gwisgoedd fel bwganod. |
| (1, 0) 205 | Fe'th welais di ac Alice drwy ffenestr parlwr Y Bedol nos Iau, a dyna 'nghyfaill Sam Minns─ |
| (1, 0) 208 | Ie, tafarnwr. |
| (1, 0) 209 | Ond dyn cywir, cofia, mor gywir a gonest ag undyn â godwyd gan Ragluniaeth i gadw tafarn, merch i. |
| (1, 0) 210 | Dyna 'nghyfaill, Sam Minns yn gofyn imi pwy yn y byd oeddech chi. |
| (1, 0) 211 | Pa ryfedd! |
| (1, 0) 212 | Roeddech yn cerdded i lawr Chapel Street a chlap mawr na luniwyd erioed gan natur ar waelod eich cefn. |
| (1, 0) 215 | Ac roedd y clap yn siglo wrth i chi gerdded a chwithau'n sangu ar y ddaear fel pe buasai llosg-eira ar eich traed, ie, eich penliniau yn gwegian o'tanoch chi, ond a'ch pennau yn y gwynt yn warsyth a ffroen-uchel. |
| (1, 0) 216 | Digywilydd-dra noeth! |
| (1, 0) 218 | Ffasiwn y diawl, ddweda'i. |
| (1, 0) 222 | Os ydyn' nhw rhywbeth yn debig ichi gwell genny' beidio. |
| (1, 0) 223 | Rwy'i'n ddyn bucheddol. |
| (1, 0) 224 | Hobson yw fy enw, aelod o'r dosbarth canol, asgwrn cefn ac addurn Teyrnas Loegr. |
| (1, 0) 225 | Rwy'i'n sefyll dros synnwyr cyffredin a gonestrwydd barn. |
| (1, 0) 226 | Rydych chi'n fursennaidd, a dyw hynny na synnwyr cyffredin na gonestrwydd. |
| (1, 0) 227 | Rydych chi wedi peidio â gwisgo yn addas ac yn ceisio bod yn smart—{mae VICKEY yn eistedd}─nodweddion ffyliaid a phobl ddisens. |
| (1, 0) 228 | Rydych chi'n anghofio urddas masnach a rhagoriaethau y Wladwriaeth Brydeinig, pethau sy'n dibynnu ar sefydlogrwydd meddwl y dosbarth canol, ynghyd â diwydrwydd y dosbarth gweithiol. |
| (1, 0) 229 | Ond am danoch chi, rydych chi'n gwyro mewn barn; rydych chi'n gosod pethau diwerth o flaen pethau hanfodol. |
| (1, 0) 230 | Os ydych am lanw eich lle ym mywyd Lancashire, os er am gadw eich lle yn nhy Hobson, rhaid ichi ddangos synnwyr cyffredin. |
| (1, 0) 232 | Na, na fel merched Ffrainc chwaith. |
| (1, 0) 233 | Dyw hynny ddim yn weddus yn y wlad hon. |
| (1, 0) 235 | O'r gora. |
| (1, 0) 236 | Dyma fi yn rhoi eich dewis i chi'ch dwy, ti Vickey ac Alice. |
| (1, 0) 237 | Rhaid i chi ddangos synnwyr cyffredin os ydych i aros yn y tŷ hwn; dim rhagor o'r balchder ffôl yna sydd wedi gafael ynoch chi. |
| (1, 0) 238 | Os nad ydych yn fodlon ar hynny cewch fynd oddiyma, a cheisio rhywun arall i ddiodde'ch ffolineb chi. |
| (1, 0) 239 | Dych chi ddim yn sylweddoli byd mor dda sydd arnoch chi; ond fe ddowch i wybod fydda'i wedi gorffen â chi. |
| (1, 0) 240 | Fe ddewisa'i bob o ŵr i chi, dyna beth wna'i. |
| (1, 0) 242 | A minnau wedi bod am y pum munud diwetha 'ma yn dweyd wrthych nad ydych yn ffit i ddewis hyd yn oed eich dillad eich hunain! |
| (1, 0) 245 | Y ti? |