Cuesheet

Glyndwr, Tywysog Cymru

Lines spoken by Iolo (Total: 48)

 
(1, 1) 35 Gwir bob gair!
(1, 1) 36 Chydig o ffrwyth welais i arno, nac o hono erioed, ond anghydfod.
(1, 1) 37 Ac o hwnnw cawn ddigon─a mwy.
 
(1, 1) 41 Na!
(1, 1) 42 Choeliai fawr!
(1, 1) 43 Mi faswn i'n llwgu fel twrna─mi rydw i'n rhy onast, wyddost!
 
(1, 1) 45 Ydw'n tad!
(1, 1) 46 Ond ar y delyn, ac ar fwyd da, bwrdd yr Arglwyddes, dy fam, wel di.
(1, 1) 47 Does le fel Sycharth na gwraig fel dy fam i ofalu am angen corff prydydd.
(1, 1) 48 ~
(1, 1) 49 Amla lle nid er ymliw
(1, 1) 50 Penhwyaid a gwyniaid gwiw;
(1, 1) 51 A'i dri bwrdd, a'i adar byw
(1, 1) 52 Paunod, cryhyrod hoewryw.
 
(1, 1) 60 Be sy'n iawn sy o bwys i ni!
 
(1, 1) 64 Twt! lol wirion!
(1, 1) 65 Llosgodd Grey ei fysedd y tro dweutha.
(1, 1) 66 Fe losgir ei esgyrn os daw eto.
(1, 1) 67 ~
(1, 1) 68 Pwy a ostwng Powysdir
(1, 1) 69 Tra bo cyfraith a gwaith gwir!
 
(1, 1) 72 Onid wyt tithau cyn belled yn llawes y brenin ag ydyw Grey?
(1, 1) 73 Neu mi ddylit fod, a thithau wedi cynnal ei freichiau mewn gwledydd pell.
(1, 1) 74 Mi clywais i o yn dy frolio am yr hyn a wnest yn y twrnameint trosto yn Calais a Thunis, a'r brwydro ar lannau'r Baltic yn erbyn y Germaniaid, ac ar y Danaw fawr yng ngwlad y Twrc.
(1, 1) 75 A be wnai Grey, greadur truan, mewn lleoedd felly, amgen beichio fel llo neu ffoi am ei hoedl!
 
(1, 1) 158 Cyfra'n gywir y ffwl!
(1, 1) 159 Mae yma ugain, gan fod un Cymro yn werth deg Sais, a dwrn Cymro'n well nag arf estron!
 
(1, 1) 188 Da iawn, Glyndwr.
(1, 1) 189 Ond un peth a anghofiaist.
 
(1, 1) 191 Mae'r fanner yn ei lle─ond ble mae'r parch?
(1, 1) 192 Anrhydedd yw i Sais gael cyfarch y Ddraig!
 
(1, 2) 237 Nid Iorwerth Llwyd ond Iolo Goch, os gwel eich Gras yn dda.
(1, 2) 238 Llwyd oeddwn i tra'n byw yn Lloegr.
(1, 2) 239 Yn Sycharth daethum i yn goch!
 
(1, 2) 244 Ni thal i mi, eich Gras, ddweyd dim am wychder Llunden, ond am Sycharth gallaf ddweyd:
(1, 2) 245 ~
(1, 2) 246 Anfynych iawn fu yno
(1, 2) 247 Weled na chlicied na chlo;
(1, 2) 248 Na gwall, na newyn, na gwarth,
(1, 2) 249 Na syched fyth yn Sycharth!
 
(1, 2) 259 Llabwst, a thrwsgl, a diddysg dy hun!
(1, 2) 260 Ac os Cymro wyf, 'rwy'n well Cymro, a gwell gwr, ac o ran hynny yn well Sais hefyd, tae raid, na'ch di a'th lygad cam, a'th dafod sy'n barotach na'th gledd!
 
(1, 2) 262 Oes amser gwell na rwan, dwêd?
 
(1, 2) 273 Ie!
(1, 2) 274 Mae'n siwtio'n well lle mae o, 'rwy'n coelio.
(1, 2) 275 Ond caf gyfle eto ar Ddafydd Gam!
 
(1, 2) 371 Ie, dyna gyfraith dda ond rheswm gwael!
 
(1, 2) 415 Caiff fwy o groesau nag a ga o dir, os wyf yn adnabod Glyndwr ac ysbryd Cymru!