|
|
|
|
(1, 0) 189 |
Da iawn, diolch, Modryb Tabitha. |
|
|
(1, 0) 193 |
Na, mae gan Dilys ddigon o feddwl am briodi, a phriodi arian, heb i chi ei chymell, Modryb. |
(1, 0) 194 |
Byddai'n foethyn iddi feddwl am rywbeth arall, 'rwy'n tybio—meddwl am ennill, er enghraifft. |
|
|
(1, 0) 197 |
Mae'n rhyfedd bod eisiau sôn am hynny, wedi i ti gael yr holl ysgol a choleg. |
(1, 0) 198 |
Dymuno 'rwyf i dy fod wedi llwyddo yn dy arholiad, fel y gelli sefyll ar dy draed dy hunan, o'r diwedd. |
|
|
(1, 0) 211 |
Fe ddysgodd 'nhad y ffordd i mi i weithio, beth bynnag, a 'chydig o goleg fyddet ti, Dilys, wedi weld onibai hynny. |
|
|
(1, 0) 214 |
'Ddanodais i erioed. |
(1, 0) 215 |
'Doedd dim byd yn falchach gen i na dy fod di wedi gallu cael coleg. |
|
|
(1, 0) 220 |
Ydi, bron â bod, mam, ond mae Letitia'n gorffen tipyn bach o waith i mi gyntaf. |
|
|
(1, 0) 224 |
Wel, ydi, druan, mae Letitia dipyn yn lletchwith. |
(1, 0) 225 |
'Rwy'n gwybod na fyddai yn taro nemor un. |
(1, 0) 226 |
Dyna pam y cymerais drugaredd arni; ond erbyn hyn y mae wedi dod at fy llaw yn gwmws. |
|
|
(1, 0) 228 |
Ydi. |
(1, 0) 229 |
Mae'n syndod fel y mae wedi dod i deipio. |
(1, 0) 230 |
Teipio llythyr y mae hi 'nawr, ond fe gaiff fynd at y te yn union. |
|
|
(1, 0) 234 |
Fe gei di weithio tê, os yw'n well gennyt, Dilys. |
(1, 0) 235 |
Chaiff Letitia ddim bod yn destun gwawd i ti. |
|
|
(1, 0) 238 |
Mi âf i at y bwyd 'nawr, mam. |
|
|
(1, 0) 246 |
Mi wnaf fy ngorau, Modryb... a fydd dim blâs copor arno i chi! |
|
|
(1, 0) 309 |
Mae te'n barod. |
(1, 0) 310 |
Dewch 'nawr. |
|
|
(1, 0) 313 |
Ydi, heno, am fod yr elw tuag at yr Ysbyty. |
(1, 0) 314 |
Rwyf innau wedi addo mynd heno. |
(1, 0) 315 |
Nid wyf byth yn arfer mynd, a byddai'n well gen i beidio mynd heno, hefyd—ond rhaid mynd, er mwyn yr Achos. |
|
|
(1, 0) 319 |
Nag ydi, 'rwy'n deall. |
|
|
(1, 0) 321 |
'Sylwais i ddim fod eisiau cefnogaeth arni, Modryb. |
|
|
(1, 0) 324 |
Gwisg un arall 'te, Dilys. |
(1, 0) 325 |
Mae sawl un i'w cael gennyt. |
(1, 0) 326 |
Dewch 'nawr, wir, neu bydd y te yn... |
|
|
(1, 0) 330 |
Ti ŵyr orau Dilys. |
|
|
(1, 0) 333 |
Na wna, wir. |
(1, 0) 334 |
Sut y gelli di ofyn y fath beth? |
(1, 0) 335 |
Nid wyf i wedi cael un ffrog ginio ers blynyddau, a thithau wedi cael un bob blwyddyn oddiar 'rwyt yn y Coleg. |
|
|
(1, 0) 340 |
Beth sydd arnoch chi i gyd, â'ch "'Nawr yw ei hamser hi?" |
(1, 0) 341 |
A beth yw dy reswm neilltuol di heno, Dilys? |
|
|
(1, 0) 345 |
O, sut ych chi'n meddwl hynny? |
|
|
(1, 0) 350 |
Ond mae'n rhaid iddi gael ffrog newydd! |
|
|
(1, 0) 355 |
"John Gray" wir! |
(1, 0) 356 |
Bydd John Gray yn sylwi dim ar dy ffrog, gelli fentro. |
|
|
(1, 0) 360 |
Clod, wir! |
(1, 0) 361 |
Chi â'ch John Gray! |
|
|
(1, 0) 365 |
Dyna ddigon o reswm dros ei gyfarfod, ynteu! |
|
|
(1, 0) 370 |
Nag ydw i, nag am glywed gair pellach amdano. |
|
|
(1, 0) 372 |
Wel dewch at eich te. |
|
|
(1, 0) 375 |
Wel... gan ei bod hi mor bwysig i ti... cei. |
|
|
(1, 0) 381 |
Tendia di Dilys y te. |
(1, 0) 382 |
Mae popeth yn barod, ond mae'n rhaid i mi wneud tipyn bach o fusnes cyn te. |
|
|
(1, 0) 389 |
Ie, Letitia. |
(1, 0) 390 |
Mae'n rhaid i chi fynd â neges y'r Athro ar unwaith. |
(1, 0) 391 |
Mae rhywbeth pwysig wedi digwydd. |
|
|
(1, 0) 393 |
Alla i ddim mynd i'r Ginio, wedi'r cyfan. |
|
|
(1, 0) 396 |
'Rwyf wedi addo, 'rwy'n gwybod, ond allaf i ddim mynd. |
|
|
(1, 0) 398 |
Dyna pam na wna ffonio'r tro nawr. |
(1, 0) 399 |
Rhaid i chwi fynd lawr ar eich beisicl i esbonio'n iawn sut y mae'n bod. |
(1, 0) 400 |
Dwedwch nas gallaf fynd am... am {yn chwerthin} am fod Dilys wedi mynnu fy unig ffrog {yn chwerthin eto} i gwrdd â John Gray. |
(1, 0) 401 |
LETITIA |
|
|
(1, 0) 403 |
'Dych chi ddim wedi rhoi eich ffrog bert i Miss Dilys, os bosib! |
(1, 0) 404 |
Ydw wir. |
(1, 0) 405 |
Does neb yma'n meddwl fod eisiau ffrog bert ar hen ferch ddeugain oed. |
|
|
(1, 0) 407 |
'Nawr 'nawr, Letitia! |
(1, 0) 408 |
Wel, dwedwch wrth yr Athro fod yn ddrwg gen i... |
|
|
(1, 0) 411 |
Gorau gyd. |
(1, 0) 412 |
Dyna oedd yr Athro'n obeithio—er mwyn yr Ysbyty. |
|
|
(1, 0) 417 |
Byddai'n hwyl iawn i chwi, Letitia, ond 'rwyf i wedi bod yn crynu digon wrth feddwl am y peth. |
(1, 0) 418 |
Rwy'n methu deall sut y perswadiwyd fi i roi fy ngair. |
|
|
(1, 0) 420 |
Ie, ond y mae'n amhosib 'nawr, beth bynnag. |
|
|
(1, 0) 422 |
Alla i ddim gadael y tŷ cyn y daw'r post. |
(1, 0) 423 |
Addawodd y Cyhoeddwyr roi gwybod i mi heddiw'n ddi-ffael, a... a gwyddoch mor bwysig yw eu dedfryd y tro hwn. |
|
|
(1, 0) 427 |
O Letitia! |
(1, 0) 428 |
Gwyn fyd na fyddech yn dweud y gwir! |
|
|
(1, 0) 431 |
Peidiwch rhagrithio, Letitia. |
|
|
(1, 0) 433 |
Ie, ie. |
(1, 0) 434 |
'Wnawn i ddim byd heboch chi, Letitia. |
|
|
(1, 0) 437 |
O'r gorau. |
(1, 0) 438 |
Cystal i mi fynd ynteu. |
|
|
(1, 0) 441 |
Fydda i ddim yn hir. |
|
|
(1, 0) 510 |
Hawyr bach! |
(1, 0) 511 |
Beth yw'r twrw 'ma? |
(1, 0) 512 |
Troais 'nol i 'mofyn llythyr i'w bostio, a 'chefais i erioed y fath fraw. |
(1, 0) 513 |
Be sy'n bod, dwedwch? |
|
|
(1, 0) 520 |
Beth sy'n bod, Letitia? |
|
|
(1, 0) 524 |
O dyna dda! |
(1, 0) 525 |
Diolch byth! |
|
|
(1, 0) 527 |
Eisteddwch, Modryb Tabitha. |
(1, 0) 528 |
Mae'n rhaid i mi roi esboniad i chi i gyd, ond wn i ddim yn iawn sut y mae dechrau. |
|
|
(1, 0) 530 |
Ond y fi. |
|
|
(1, 0) 532 |
Ie... ac yr wyf wedi addo mynd â Letitia gen i fel ysgrifennydd. |
|
|
(1, 0) 540 |
Efallai y dylwn fod wedi dweud wrthych chi, 'mam, o'r blaen, mae y fi yw John Gray. |
|
|
(1, 0) 542 |
Ond yr o'wn yn gallu 'sgrifennu'n fwy rhydd, a chael mwy o lonydd pan nad oedd neb yn gwybod... |
(1, 0) 543 |
'Nawr y cafodd Letitia glywed fod y Cyhoeddwyr wedi derbyn fy llyfr newydd. |
|
|
(1, 0) 551 |
Peth rhyfedd na fyddech yn deall na allwn i byth gadw cartre fel hyn wrth deipio yn unig. |
|
|
(1, 0) 554 |
Fe oedd yn darllen fy ngwaith, ac yn fy nghymell ymlaen. |
|
|
(1, 0) 556 |
Bydd arian y llyfr newydd i chi 'mam. |
(1, 0) 557 |
Neges y ffôn heno sydd wedi penderfynu tynged yr Athro a minnau. |
(1, 0) 558 |
Yr wyf wedi gwrthod priodi nes eich bod chi 'mam yn annibynnol. |
(1, 0) 559 |
Fydd dim eisiau i'r Athro eich cynnal chi, o gwbl. |