| (1, 0) 275 | Waw. |
| (1, 0) 276 | Chi 'di neud jobyn fan hyn! |
| (1, 0) 278 | Ie? |
| (1, 0) 282 | Ma fe'n neis. |
| (1, 0) 284 | A boudy odd e'n arfer bod! |
| (1, 0) 285 | Dw i'n cofio do miwn 'ma pan o'n i'n fach... a ogle'r da a'r gwair, a'r cêc. |
| (1, 0) 286 | Odd wenoliaid yn arfer nythu lan fan 'na. |
| (1, 0) 287 | O, Duw,... {mae hi'n ddagreuol nawr} mae 'na jyst cymint o bethe... |
| (1, 0) 288 | A ma'n nhw ma o hyd... |
| (1, 0) 290 | Na, dw i'n iawn. |
| (1, 0) 291 | Wfff! |
| (1, 0) 292 | Ma'r llefydd ma'n jyst dod â pethe nôl i ti. |
| (1, 0) 294 | A chi 'di bod ma drw'r amser a finne 'di mynd o 'ma. |
| (1, 0) 296 | O 'nghariad bach i. |
| (1, 0) 297 | Beth o'n bod arna i? |
| (1, 0) 302 | Odd Angharad yn gweud. |
| (1, 0) 303 | Neis. |
| (1, 0) 308 | Pwy, Dat? |
| (1, 0) 309 | Ti'n meddwl? |
| (1, 0) 311 | Ma' golwg deidi arno fe. |
| (1, 0) 324 | Ie. |
| (1, 0) 325 | Dw i'n gweld. |
| (1, 0) 331 | Shwt? |
| (1, 0) 333 | Beth, Babs a - |
| (1, 0) 337 | - Whare teg iddi - |
| (1, 0) 339 | Beth ti'n feddwl, 'Sort of'? |
| (1, 0) 347 | Ma' fe bach yn touchy am y peth, odi fe? |
| (1, 0) 349 | Ddim 'i ferch e yw hi. |
| (1, 0) 350 | Na'n un i, cweit, o ran hynny. |
| (1, 0) 352 | Whare teg iddi hi. |
| (1, 0) 353 | Goffodd hi wmla am 'i lle eriôd. {Saib.} |
| (1, 0) 354 | ~ |
| (1, 0) 355 | Tair blwydd ôd odd hi, pan dda'th hi aton ni gynta'; ond ot ti'n gweld e bryd 'ny - odd hi'n benderfynol o gâl dy sylw di. |
| (1, 0) 356 | Wel ffilodd yr hen Emyr â godde' pethe, a fuodd e 'm yn hir cyn 'i heglu 'ddi. |
| (1, 0) 357 | 'Ti odd eisie', medde fe wrtha i; a bant ag e. |
| (1, 0) 358 | Odd rhyw fenyw 'dag e'n barod bryd 'ny dw i'n meddwl. |
| (1, 0) 359 | So ddethon ni nôl fan hyn. {Saib.} |
| (1, 0) 360 | ~ |
| (1, 0) 361 | Dw i'n cofio bod miwn 'ma 'da Babs, yn dangos y sheds iddi; a hithe'n gofyn, 'Ble ma buwch wedi mynd? |
| (1, 0) 362 | Ble ma buwch wedi mynd?'. |
| (1, 0) 363 | Wedes i bo' nhw'n 'di mynd ar 'i holidays. |
| (1, 0) 364 | Odd hi'n gwbod mai dwli odd hynny; ond odd hi'n benderfynol - os mai ffarm odd e, odd rhaid ca'l da yn y boudy a moch yn twlce a defed a ieir a hwyaid, a'r cwbwl i gyd. |
| (1, 0) 365 | Ac os on nhw wedi mynd ar 'u holidays, odd e'n bryd 'u câl nhw nôl, iddi hi ca'l whare ffarm. {Saib.} |
| (1, 0) 366 | ~ |
| (1, 0) 367 | Odd hyn cyn i fi ga'l ti, ar ôl yr holl amser 'na o feddwl na allen i byth. |
| (1, 0) 368 | Do. |
| (1, 0) 382 | Mae'n edrych yn neis iawn 'da ti mewn fan hyn, cariad. |
| (1, 0) 386 | Ddylsen i fynd miwn i'r tŷ; sa i 'di gweld y lle 'to. |
| (1, 0) 388 | Na, paid. |
| (1, 0) 389 | Dw i ddim yn meddwl - |
| (1, 0) 391 | - Sdim hast, mae'n OK. |
| (1, 0) 396 | - Na, na, Ger - |
| (1, 0) 400 | - peidwch, ddim 'to. {Saib.} |
| (1, 0) 401 | Sa i'n meddwl y galla i fynd mewn 'na 'to ta beth. |
| (1, 0) 422 | Aros funud, Anji. |
| (1, 0) 423 | Beth odd y cynnig 'ma odd 'da ti, 'de, Eilir? |
| (1, 0) 435 | 'Rhoswch funud. |
| (1, 0) 436 | Dw i bia'r lle 'ma 'fyd. |
| (1, 0) 437 | Eilir, drycha: diolch iti am y cynnig, ond mae'n rhy gynnar i fi feddwl am bethe fel hyn. |
| (1, 0) 438 | Newydd gyrra'dd nôl wdw i, a ma ishie i fi ga'l 'y mhethe i'n hunan mewn trefen cyn bo fi'n dechre meddwl am stwff fel hyn. |
| (1, 0) 442 | Odi fe? |
| (1, 0) 443 | Be' ti'n weud? |
| (1, 0) 444 | Be' ti'n feddwl? |
| (1, 0) 448 | Dere 'mlân 'te, Eilir. |
| (1, 0) 451 | Talu beth nôl? |
| (1, 0) 453 | Talu beth, beth s'da ni i dalu'n ôl? |
| (1, 0) 455 | Ôs dyled arnoch chi, 'de? |
| (1, 0) 457 | Ŷch chi mewn dyled? |
| (1, 0) 458 | Ger? |
| (1, 0) 459 | Beth sy'n mynd 'mlân - wyt ti mewn dyled? |
| (1, 0) 471 | Ody 'ddi'n ddrwg arnot ti, 'de? |
| (1, 0) 473 | Shw' ma' dyled wedi mynd arnoch chi, 'de? |
| (1, 0) 474 | Shwt all dyled fod wedi mynd ar y lle 'ma? |
| (1, 0) 476 | Ie? |
| (1, 0) 483 | O, Iysu bach, Ger - |
| (1, 0) 487 | - Dw i'n deall 'ny - |
| (1, 0) 498 | So, o fan 'ny dda'th yr arian i dalu am hwn? {sef y siop} |
| (1, 0) 500 | Ôs arian yn dod miwn, 'de? |
| (1, 0) 528 | Ma fe 'r hyd lle o hyd, ody fe? |
| (1, 0) 536 | Mae'n iawn. |
| (1, 0) 537 | Dethed. |
| (1, 0) 538 | Chi'n ffrindie 'da'ch gilydd, ych chi? |
| (1, 0) 540 | A bydd rhaid i fi weld e yn pen draw, on' bydd e? |
| (1, 0) 542 | Ma fe'n gwbod 'mod i nôl, ody fe? |
| (1, 0) 543 | Pete, Peter. |
| (1, 0) 547 | Na ddeith. |
| (1, 0) 548 | OK, de. |
| (1, 0) 550 | Dw i'n gwbod, a dw i 'm yn bod yn deg ag e. |
| (1, 0) 551 | Ond alla i ddim peido â meddwl: tase fe 'di bod â'i feddwl ar 'i waith, tase fe 'di gweld beth odd yn digwydd yn gynt, na fyse Bryn wedi... o, sdim iws meddwl nawr os e - |
| (1, 0) 553 | Do, do, do, dw i'n siŵr do fe. |
| (1, 0) 554 | A welodd ddim un ohonoch chi'r peth yn digwydd, chwaith. |
| (1, 0) 555 | Odd e wedi mentro o'i ddwfnder, 'n un bach i! |
| (1, 0) 556 | A erbyn iddyn nhw ga'l e mâs odd hi'n rhy hwyr. |
| (1, 0) 558 | Do. |
| (1, 0) 559 | Do, do. |
| (1, 0) 560 | Fan hyn o'dd e! |
| (1, 0) 561 | Fan hyn fuodd e! {Mae hi yn ei dagrau nawr.} |
| (1, 0) 581 | Ma'n iawn bach, gad nhw fod lle ma' nhw am y tro. |
| (1, 0) 583 | Wdw, cariad, sdim ishie nhw arna i am un sbel. |
| (1, 0) 585 | Ond dw i 'di gadel 'y mag bach i yn y car. |
| (1, 0) 586 | Cer i ôl hwnnw os ti moyn. |
| (1, 0) 599 | Surprise? |
| (1, 0) 604 | Hello Peter. |
| (1, 0) 608 | Wyt. |
| (1, 0) 609 | Gwd. |
| (1, 0) 610 | Let me see you. |
| (1, 0) 611 | Gad fi ddrychyd arnat ti. |
| (1, 0) 621 | Beth wyt ti'n neud dyddie 'ma what do you do now? |
| (1, 0) 627 | Ma dy wallt di'n dechre teneuo, Peter. |
| (1, 0) 633 | Dere i'r tŷ 'da ni. |
| (1, 0) 635 | Ie. |
| (1, 0) 636 | Surprise. |
| (2, 0) 809 | Elli di brynu peth miwn os ôs rhaid. {Saib fer.} |
| (2, 0) 810 | 'N gelli di? |
| (2, 0) 820 | Dw i'n cofio. {Saib.} |
| (2, 0) 823 | Naddo. |
| (2, 0) 824 | I weud y gwir wrthot ti. |
| (2, 0) 831 | Beth odd 'da ti, 'de? |
| (2, 0) 843 | O. |
| (2, 0) 844 | Wel, 'na fe te. |
| (2, 0) 850 | Yn Parc yr Onnen? |
| (2, 0) 853 | - un bren sy' ar dop yr Onnen. |
| (2, 0) 858 | Os. |
| (2, 0) 867 | O, siarad am y pethe ŷn ni. |
| (2, 0) 871 | - Y Rhos - |
| (2, 0) 880 | Sawl un o'r rhein wyt ti'n meddwl godi, 'te, Eilir? |
| (2, 0) 889 | Neu'r coste. |
| (2, 0) 901 | Bois, dw i'n credu bod chi'i gyd wedi gweud digon am un nosweth. |
| (2, 0) 906 | Hwyl i ti Eilir. |
| (2, 0) 922 | Elli di ddim bod ar ofyn y tywy' drw'r amser - |
| (2, 0) 931 | Be' wyt ti Pete yn weud 'de? |
| (2, 0) 933 | - Ti'n gwbod am y pethe 'ma, ndwyt ti, Pete? |
| (2, 0) 935 | Be' wyt ti'n weud y dylen ni neud? |
| (2, 0) 938 | - O Ger, paid â bod yn blentynnedd - |
| (2, 0) 944 | It's just - it's 'cynhyrchu': producing. |
| (2, 0) 945 | You said something else. |
| (2, 0) 950 | Go on Pete. |
| (2, 0) 951 | You were saying about farming. |
| (2, 0) 954 | Yes, go on, Peter - |
| (2, 0) 956 | - don't worry about him. |
| (2, 0) 975 | Beth ddylen ni neud, 'te? |
| (2, 0) 990 | Hmh. |
| (2, 0) 994 | O ie, ie - |
| (2, 0) 996 | - ie, ie, paid â becso - |
| (2, 0) 1003 | It's lovely tonight, isn't it? |
| (2, 0) 1013 | Glywes i rwbeth. |
| (2, 0) 1017 | No, I don't think so. |
| (2, 0) 1019 | Hmh. |
| (2, 0) 1022 | Well i ni fynd, ife? |
| (2, 0) 1031 | Weden i 'i fod e ar goll. |
| (2, 0) 1039 | O, fe? |
| (2, 0) 1040 | Jim, odd yn arfer - |
| (2, 0) 1047 | Odd e'n arfer gweitho lan 'ma. |
| (2, 0) 1048 | He used to help out up here, years ago. |
| (2, 0) 1049 | Relief milker. |
| (2, 0) 1074 | Helo. |
| (2, 0) 1077 | - o, na, nage - |
| (2, 0) 1086 | - o; OK, ie - |
| (2, 0) 1089 | - cer 'di nôl at Peter, bach - |
| (2, 0) 1092 | - ie, ie - |
| (3, 0) 1272 | Digon o fwyd ar ôl. |
| (3, 0) 1274 | Paid â becso, fe ddaw'r bois 'ma nôl rownd 'to. |
| (3, 0) 1275 | Unwaith 'ma nhw wedi ifed 'u siâr. |
| (3, 0) 1278 | Fe ddeith e. |
| (3, 0) 1280 | Fe ddeith; ma' rhwbeth wedi cropo lan 'dag e, na i gyd. |
| (3, 0) 1282 | Hm? |
| (3, 0) 1286 | Sa i'n gwbod. |
| (3, 0) 1287 | Falle a'th y meeting 'da'r banc mlân - |
| (3, 0) 1290 | Wel, falle, na 'dy. |
| (3, 0) 1292 | Gerallt a Eilir? |
| (3, 0) 1294 | O. |
| (3, 0) 1295 | Na, sa i' credu 'ny. |
| (3, 0) 1297 | Fe 'na i e nawr. |
| (3, 0) 1298 | Dere nawr, magu bwcïod yw rhwbeth fel hyn - |
| (3, 0) 1304 | Be' ma fe 'di neud? |
| (3, 0) 1309 | Goffes i ffono fe, pan o'dd 'na ddim sein o Gerallt. |
| (3, 0) 1310 | Ddâth e â'r pethe 'ma {mae hi'n cyfeirio at y bwyd} draw jyst cyn saith. |
| (3, 0) 1312 | Gâd e fod, Babs, newn ni fe wedyn! {ond mae hi wedi mynd. Saib.} |
| (3, 0) 1314 | O, ti sy' na. |
| (3, 0) 1315 | Pam wyt ti miwn fan hyn? |
| (3, 0) 1317 | Ody. |
| (3, 0) 1318 | Wel, ddeith hi nôl nawr... |
| (3, 0) 1323 | - bydde fe'n well i ti beido - |
| (3, 0) 1325 | Dyn ni 'm yn gwbod ar hyn o bryd. |
| (3, 0) 1326 | Ma fe - dyw e ddim 'di bod yn ateb 'i ffôn. |
| (3, 0) 1328 | Na 'dy, Peter, 'dyw hi ddim. |
| (3, 0) 1329 | A ddylset ti 'mo'i phrofocio hi, chwaith. |
| (3, 0) 1331 | Gynne fach: galw 'Mrs Lewis' arni 'ddi - |
| (3, 0) 1333 | - mae'r holl beth yn ofid iddi. |
| (3, 0) 1335 | O, gâd hi i fod, 'nei di? |
| (3, 0) 1336 | Eu busnes nhw yw e. {Saib.} |
| (3, 0) 1337 | Dw i 'm eishie iddi hi ga'l 'u siomi. |
| (3, 0) 1338 | Ma hi 'di bod yn anlwcus. |
| (3, 0) 1340 | O, dyw hwnna ddim yn wir, Peter. |
| (3, 0) 1345 | Ody ddi, wir. |
| (3, 0) 1348 | Hy! |
| (3, 0) 1350 | A ych chi'ch dou yn teimlo fel 'na, ych chi? |
| (3, 0) 1352 | Meddet ti. |
| (3, 0) 1354 | Mae'n ddigon rhwydd i ti 'weud 'na nawr, yndyw hi? |
| (3, 0) 1355 | Mutual respect, wir: 'sda ti'm unrhyw alwade arnat ti 'to. |
| (3, 0) 1356 | Ti'n ifanc. |
| (3, 0) 1357 | Beth wyt ti? |
| (3, 0) 1358 | Twenty-five? |
| (3, 0) 1360 | Iysu, mae'n bryd i ti neud rhwbeth â dy hunan. |
| (3, 0) 1361 | Beth wyt ti'n neud? |
| (3, 0) 1362 | Byw yn y lle carafáns 'na, mynd o un peth i'r llall, a, ti yn y coleg o hyd - sa i'n credu y gelli di fenu unrhyw beth wyt ti'n 'i neud! |
| (3, 0) 1363 | Ond na fe, gwyn dy fyd di, so ti'n ddigon hen i wbod gwell. |
| (3, 0) 1365 | O, gronda 'ma - |
| (3, 0) 1367 | - 'sda ti 'm clem! |
| (3, 0) 1368 | 'Sda ti mo'r syniad cynta am bethe! |
| (3, 0) 1369 | O, ti'n iawn fel wyt ti nawr, wyt; ond fydd pethe'n newid, a pan 'na nhw, 'sdim byd elli di neud amdanyn nhw! |
| (3, 0) 1370 | A be' wyt ti'n mynd i neud wedyn? |
| (3, 0) 1371 | Ti a dy mutual respect, pan s'da ti ddim dewis? |
| (3, 0) 1372 | Fyddi di mor cŵl am bethe wedyn? {Nid yw PETER yn ateb.} |
| (3, 0) 1373 | Ti'n gwbod, dy oedran di, o'n i'n byw lan yn Llunden, yn gweitho fflat owt, a pob un yn meddwl mod i'n neud jobyn eitha' da ohoni 'ddi. |
| (3, 0) 1374 | Ond o'n i'n gwbod, bryd 'ny, fod 'na rwbeth ddim yn iawn. |
| (3, 0) 1375 | A ffinjes i mâs beth odd e cyn o hir, 'fyd. |
| (3, 0) 1376 | O'n i'n ffili ca'l plant. |
| (3, 0) 1377 | O'n i'n treial a treial 'da Emyr, ond, na; no gwd. |
| (3, 0) 1378 | Dim dewis. |
| (3, 0) 1379 | 'Tough luck,' medde rhywun, 'ti 'm yn ca'l nhw'. |
| (3, 0) 1380 | So beth o'n i'n mynd i neud? |
| (3, 0) 1381 | Ishte lawr, dewis a dethol? |
| (3, 0) 1382 | Iysu nage, bwrw 'mlân, rhyw ffordd: jyst bwrw 'mlân. |
| (3, 0) 1383 | Peido â dechre gadel i bethe fynd yn drech arna i. {Saib.} |
| (3, 0) 1384 | A 'na pam nes i fynnu bod ni'n ca'l Babs i ddod aton ni, a mynnu neud i'r holl beth weitho. |
| (3, 0) 1385 | Bod yn fam iawn iddi. |
| (3, 0) 1386 | A 'madodd Emyr â fi - gwynt teg ar 'i ôl e. |
| (3, 0) 1387 | A wedyn, o rywle, ges i Angharad! |
| (3, 0) 1388 | O'n i'n siŵr na fysen i byth, byth yn ca'l 'y 'mhlant yn hunan, fyth. |
| (3, 0) 1389 | A wedyn, jyst mâs o ddim byd, on i'n disgw'l. |
| (3, 0) 1390 | Ar y 'mhen yn hunan, dim gŵr, roces fach 'da fi, un arall ar y ffordd. |
| (3, 0) 1391 | Plan? |
| (3, 0) 1392 | Dewis? {Saib.} |
| (3, 0) 1393 | Ti'n gwbod, nes i drïal torri pob cyswllt allen â'i thad hi. |
| (3, 0) 1394 | O'n i 'm ishie'i rhannu 'ddi, 'da neb. |
| (3, 0) 1395 | Ond wedyn fe dda'th e nôl; a gallen i 'm gwadu. |
| (3, 0) 1396 | O'n i'n 'i garu fe. |
| (3, 0) 1397 | A 'rhosodd e da fi a wedyn gethon ni Bryn, a - o'n i'n gweud wrtha i 'nhunan, 'ma fe'r tro 'ma, 'ma pethe 'da fi nawr; 'ma beth 'dw i moyn, wastad wedi moyn, o'r diwedd ma fe 'ma. |
| (3, 0) 1398 | Buodd e 'm dou fis cyn gadel am Auckland. {Saib.} |
| (3, 0) 1399 | A mlân â fi 'to. |
| (3, 0) 1400 | A fan hyn o'n i - draw fan 'na {mae hi'n pwyntio tuag at gornel yr ystafell wrth ddrws y gegin} - |
| (3, 0) 1401 | whech mlyne wedyn, pan ethoch chi â Bryn, druan bach ag e, pan ethoch chi ag e lawr i'r trath i gyd y dwrnod 'ny {mae hi yn ei dagrau nawr}. |
| (3, 0) 1402 | A weles i fe byth wedyn. |
| (3, 0) 1403 | A na'r diwedd wedyn. |
| (3, 0) 1404 | Allen i ddim mynd mlân un cam o fan 'ny. |
| (3, 0) 1405 | O'n i ar goll, a, jyst eisie diflannu. |
| (3, 0) 1406 | A, God, bennes i lan yn y carchar yn New Zealand! {Rhwng chwerthin a chrïo. Saib.} |
| (3, 0) 1407 | A nawr dw i nôl, a ma deg mlyne arall 'di mynd heibo a - 'ma lle ddechreuodd popeth! |
| (3, 0) 1408 | A beth s'da fi i ddangos am y cwbl nawr? |
| (3, 0) 1409 | Dim, jyst... |
| (3, 0) 1410 | O Iysu bach, y boen dw i 'di hala ar y ddwy fach arall 'na. |
| (3, 0) 1411 | Dw i 'di bod yn fam yffyrnol iddyn nhw - shwt ma nhw'n madde i fi, sa i'n gwbod! {Saib.} |
| (3, 0) 1412 | Ond 'ma lle ddechreuodd e i gyd... {Saib.} |
| (3, 0) 1413 | Elli di ddim pigo dy ffordd drwy bethe am byth, ti'n gweld, Pete: ma bywyd yn mynd i ddigwydd i ti! |
| (3, 0) 1414 | A well ti fod yn barod pan 'neith e, achos ma fe'n brofiad ar cythrel. |
| (3, 0) 1418 | On i'n meddwl falle mai Gerallt fydde fe. |
| (3, 0) 1419 | Neu Eilir... {Saib. Mae hi'n edrych ar PETER} |
| (3, 0) 1420 | O God, Grant o'dd e 'to - tad Angharad; a Bryn. |
| (3, 0) 1421 | Yn tecsto, o Seland Newydd. |
| (3, 0) 1422 | Ma fe'n erfyn arna i, bob dydd nawr; i fynd nôl ato fe. |
| (3, 0) 1423 | Ma fe'n sâl. |
| (3, 0) 1424 | A dw i'n 'i garu fe, o hyd. |
| (3, 0) 1425 | Alla i ddim peido, alla i? |
| (3, 0) 1462 | Gadwch hi fod! |
| (3, 0) 1463 | Barbara! |
| (3, 0) 1464 | Babs! |
| (3, 0) 1510 | Dyw'r cars arall ddim yn gelled mynd mâs |
| (3, 0) 1515 | Sa i'n gwbod, cariad. |
| (3, 0) 1518 | Do. |
| (3, 0) 1521 | Dw i ddim yn gwbod yn iawn! |
| (3, 0) 1524 | Ma fe'n dod nawr. |
| (3, 0) 1525 | Â i i ga'l gweld nawr. |
| (3, 0) 1543 | Beth wedyn? |
| (3, 0) 1544 | Dere, dwed wrtha i - |
| (3, 0) 1549 | Ma hi'n gwbod fod ti 'di bod, Ger - |
| (3, 0) 1572 | 'Da pwy o'dd e 'di siarad? |
| (3, 0) 1580 | Beth? |
| (3, 0) 1584 | Mab Craig Simmonds? |
| (3, 0) 1591 | Paid â gweiddi, Babs. {Saib.} |
| (3, 0) 1600 | Eilir. |
| (3, 0) 1611 | Aros, Babs. |
| (3, 0) 1612 | Cer 'mlân, Eilir. |
| (3, 0) 1619 | - Babs, aros funud, nei di - |
| (3, 0) 1632 | Babs, Babs - |
| (3, 0) 1651 | Byddwch dawel. |
| (3, 0) 1652 | Eilir; benna beth odd 'da ti i weud. |
| (3, 0) 1669 | Beth? |
| (3, 0) 1671 | Ti a'r bachan - Darren - |
| (4, 0) 1830 | O't ti'n gwbod bod e 'na? |
| (4, 0) 1834 | Beth o't ti'n mynd i neud 'te? |
| (4, 0) 1835 | Gadel e 'na? |
| (4, 0) 1837 | O Babs, be' sy'n bod 'na ti? |
| (4, 0) 1838 | Ishe i ni agor hwn cyn bo ni'n mynd! |
| (4, 0) 1840 | Diawl, ôs: ni sy' bia fe! |
| (4, 0) 1841 | So ni'n gadel hwn ar 'i ôl! |
| (4, 0) 1845 | O, cym on, be' yw'r ots sy'! |
| (4, 0) 1852 | O dere Babs, aros. |
| (4, 0) 1855 | Barbara... |
| (4, 0) 1858 | Pfff. |
| (4, 0) 1863 | Dere 'te, Anj; ti odd moyn e gynta'. |
| (4, 0) 1866 | So ni'n gwbod! |
| (4, 0) 1871 | Wel? |
| (4, 0) 1874 | Dere â bach i fi 'de. |
| (4, 0) 1876 | Mmmm. |
| (4, 0) 1880 | Ie, Pete bach, go on - |
| (4, 0) 1888 | It has. |
| (4, 0) 1892 | O. |
| (4, 0) 1893 | Helo; on i 'm yn - |
| (4, 0) 1895 | - disgwyl dy weld ti heddi. |
| (4, 0) 1898 | O. |
| (4, 0) 1899 | OK. |
| (4, 0) 1900 | Whare teg i ti 'fyd. |
| (4, 0) 1902 | Do. |
| (4, 0) 1904 | Ha. |
| (4, 0) 1905 | Ie, odyn. |
| (4, 0) 1909 | Ger, paid nawr - |
| (4, 0) 1912 | Na, arhosa di fan 'yn - |
| (4, 0) 1914 | Mi a i - |
| (4, 0) 1977 | Ie, wel. |
| (4, 0) 1978 | On ni'n jyst yn gweud gwbei wrth y lle a gweud y gwir. {Saib.} |
| (4, 0) 1980 | Na, na, mae'n iawn - |
| (4, 0) 1985 | Odyn. |
| (4, 0) 1986 | Dw i'n hedfan bore 'fory nawr. |
| (4, 0) 1988 | Overnight ar bwys Heathrow, a wedyn... |
| (4, 0) 1989 | Lando dydd Iou. |
| (4, 0) 1990 | Ti'n colli dwrnod cyfan yn yr awyr. |
| (4, 0) 1992 | Na. |
| (4, 0) 1993 | Dyw e 'm yn ddigon da. |
| (4, 0) 1994 | So fe'n ca'l dreifo. |
| (4, 0) 1997 | Mae'n iawn. |
| (4, 0) 1998 | 'Ma beth dw i moyn. |
| (4, 0) 2000 | Allen i 'm fod wedi dod i ben â 'i onibai bo ti 'di - |
| (4, 0) 2002 | - ddylsen i fod yn talu nôl i ti - |
| (4, 0) 2004 | - ma fe'n lot o arian. |
| (4, 0) 2005 | Fyse Dat yn mynd off i ben tase fe'n gwbod bo ni'n - |
| (4, 0) 2011 | Falle nag o's e. |
| (4, 0) 2012 | Ond dyw hi 'm cweit mor rhwydd â hynny chwaith, ody 'ddi? {Saib. Chwerthinad fach.} |
| (4, 0) 2013 | Iysu Eilir, ti 'di dod yn bell o ga'l lifft ar gefen y beic 'da fi lan ffor' 'yn - |
| (4, 0) 2015 | Wdw; o ti 'di cwmpo a ca'l y black eye ryfedda' - |
| (4, 0) 2017 | - a fytest ti lond lle o fisgits 'da ni - |
| (4, 0) 2019 | - do; a gafel rownd 'y nghanol i'n ôl' ffast ar y ffordd nôl - |
| (4, 0) 2021 | Siŵr bo' ti'r diawl bach. |
| (4, 0) 2023 | Os gobeth i ti a Barbara neud rwbeth â'ch gily' 'to? |
| (4, 0) 2025 | Na'r gofid mwya' sy' 'da fi o fynd o 'ma. |
| (4, 0) 2029 | O, be-ti'n-galw, mab Falmai. |
| (4, 0) 2031 | Pethe 'da Ger iddo fe, glei. |
| (4, 0) 2032 | Finne'n meddwl bod y tacsi 'di dod yn gynnar. |
| (4, 0) 2034 | O. |
| (4, 0) 2037 | Ti 'di dod i bigo'r bocsys 'ma lan? |
| (4, 0) 2047 | Beth yw e 'da ti? |
| (4, 0) 2054 | Wir? |
| (4, 0) 2055 | Sa i'n deall y pethe 'ma. |
| (4, 0) 2059 | Lwcus! |
| (4, 0) 2062 | Fydd neb 'ma wedyn, Gordon; ŷn ni'n mynd. |
| (4, 0) 2064 | Ni'n gadel. |
| (4, 0) 2070 | Ma hi'n benu 'da ni heddi, ody. |
| (4, 0) 2072 | Yn tŷ o'dd hi. |
| (4, 0) 2074 | Nawr? |
| (4, 0) 2076 | Go on, 'de. |
| (4, 0) 2077 | Ond ma tacsi'n myn â ni cyn bo hir! |
| (4, 0) 2084 | Gnethen fel ma' nhw moyn. |
| (4, 0) 2085 | Dyw e 'm byd i neud 'da fi. |
| (4, 0) 2088 | Drycha nawr, Eilir, son nhw'n gwbod. |
| (4, 0) 2089 | Bo fi 'm yn dod nôl. |
| (4, 0) 2091 | So paid â gweud dim. |
| (4, 0) 2093 | Allen i byth â meddwl dod nôl a bod y lle 'ma ddim 'da ni. |
| (4, 0) 2097 | Y bydda i nôl 'mhen cwpwl o fishodd. |
| (4, 0) 2098 | Sdim lot o ots 'da Barbara, ma' hi'n mynd off ta beth. |
| (4, 0) 2099 | Ond ma' Anji; a Ger, sa i'n gwbod be' neith e'. |
| (4, 0) 2101 | Ma fe 'di ca'l ryw fflat yn dre', a ma' job 'dag e ar yr Industrial Estate. |
| (4, 0) 2102 | Pethe bach s'ag e fan hyn a fan draw, dw i'n credu, a dim un o'nyn nhw'n talu. |
| (4, 0) 2103 | Dyw e 'm lico gweud. |
| (4, 0) 2104 | Ti'n gwbod shw' ma fe. |
| (4, 0) 2109 | Na, 'rhosa di. |
| (4, 0) 2110 | Dw i'n mynd i ga'l gweld be' sy'n digwydd. |
| (4, 0) 2113 | Ger, der' 'da fi; dere 'da fi nawr! |
| (4, 0) 2159 | O, Babs, 'y mach i... |
| (4, 0) 2162 | - ie, ie - |
| (4, 0) 2164 | - 'na ti - |
| (4, 0) 2170 | Mae'n iawn. |
| (4, 0) 2171 | Fydd hi'n iawn nawr. |
| (4, 0) 2176 | Bydd e 'ma nawr. |
| (4, 0) 2180 | Ti'n siŵr? |
| (4, 0) 2190 | I thought you were waiting for - um - |
| (4, 0) 2193 | Oh; olreit de. |
| (4, 0) 2197 | Oh, Maria, Mr Lewis was looking for you. |
| (4, 0) 2208 | Ta-ra, bach! |
| (4, 0) 2212 | Gad nhw fod, Ger bach, gei di 'm byd amdanyn nhw. |
| (4, 0) 2214 | Ody fe? |
| (4, 0) 2217 | 'Nghofia nhw. |
| (4, 0) 2218 | Geith e wared o'nyn nhw. |
| (4, 0) 2222 | Reit 'de. |
| (4, 0) 2227 | Ody popeth 'da ti? |
| (4, 0) 2230 | Nage, Gerallt. |
| (4, 0) 2231 | Ody popeth 'da ti? |
| (4, 0) 2233 | O, ie. |
| (4, 0) 2234 | Sdim ishie i chi fynd â'r rheina i gyd ych hunen! |
| (4, 0) 2238 | Ma'n nhw 'di mynd â'r cwbl. |
| (4, 0) 2240 | Co ni 'de. |
| (4, 0) 2242 | Ma'r allwedd 'da ti. |
| (4, 0) 2244 | Alla i weld e a Mam wrthi o hyd miwn fan hyn o hyd. |
| (4, 0) 2247 | O Ger - {mae'n hi'n crïo} |
| (4, 0) 2258 | Ie. |