Cuesheet

Absalom Fy Mab

Lines spoken by Joab (Total: 281)

 
(1, 0) 216 Wele, ferch Sŵnem, yr hyn addewais iti
(1, 0) 217 Yn nhŷ dy dad—ddeisyfiad mawr dy fywyd.
(1, 0) 218 Portha dy drem ar wychder neuadd brenin
(1, 0) 219 A'th glust ar frebliach llysoedd, fel y gwypech
(1, 0) 220 Ragoriaeth pebyll y bugeiliaid syml.
 
(1, 0) 228 Beth a dâl bardd wrth frenin a rhyfelwr?
(1, 0) 229 Estynnodd Israel o Dan hyd Beerseba!
 
(1, 0) 235 Abisâg,
(1, 0) 236 Cofia d'addewid im. Yn nhŷ dy dad
(1, 0) 237 Addewaist os arweiniwn di at y brenin
(1, 0) 238 Fel telynores, a chael ohonot ffafr
(1, 0) 239 Y brenin am dy ganu ac am dy degwch,
(1, 0) 240 Y rhoddit lais i ddyheadau'r bobol
(1, 0) 241 Ac erfyn arno alw am Absalom.
 
(1, 0) 245 Ar fy llw,
(1, 0) 246 Coronodd Duw dy degwch di â dewrder,
(1, 0) 247 Ac mor aeddfetach na'th flynyddoedd wyt:
(1, 0) 248 Nac ofna ddim.—Dy enaid di a rwymwyd
(1, 0) 249 Yn rhwymyn bywyd gan yr Arglwydd Dduw.
 
(1, 0) 272 Gwarchod y Bugail fel dy fywyd, Cŵsi!
(1, 0) 273 A gwêl na ddelo neb trwy'r ardd i'r Llys
(1, 0) 274 Heb fedru'r gair. A gair yr arwydd heddiw
(1, 0) 275 A roed i'r Osgordd ydyw "Cymod." Dos.
(1, 0) 276 Os myn fy Arglwydd Frenin, galwaf arnoch
(1, 0) 277 I ddwyn y neges iddo o Gesŵr.
(1, 0) 278 A wyt-ti'n deall?
 
(1, 0) 284 Cleddyf Goleiath, a tharianau'r cedyrn
(1, 0) 285 A'r orsedd aur... ond 'does gan delynores
(1, 0) 286 Lygad i ddim ond i hen delyn fud
(1, 0) 287 A'i thannau wedi llacio ers llawer dydd.
 
(1, 0) 289 Gwir, delynores.
 
(1, 0) 292 Cymer hi!
 
(1, 0) 296 Cymer hi!
(1, 0) 297 Hon ydyw'r delyn, a fu gynt yn ymlid
(1, 0) 298 Yr ysbryd drwg a lethai enaid Saul.
(1, 0) 299 O dan dy law dychweled Duw ei rhin.
 
(1, 0) 347 Maddau hyn,
(1, 0) 348 Gapten Beneia. Mae gennyf reswm da
(1, 0) 349 Dros roddi Cŵsi i warchod gardd y Brenin.
 
(1, 0) 362 Gwrando, Beneia, nid rhag ofn llaw brad
(1, 0) 363 Y rhoddais Cŵsi i wylio'r ardd; ond mynnwn
(1, 0) 364 Gael cyfle i'r delynores fedrus hon
(1, 0) 365 Ganu o flaen y brenin, er ymlid ymaith
(1, 0) 366 Ei ysbryd pruddglwyf: a rhag tarfu dim
(1, 0) 367 Ar naws ei chanu, pan ddaw'n teyrn i'w neuadd,
(1, 0) 368 Gosodais Cŵsi i gadw eirchiaid draw
(1, 0) 369 Y bore hwn,—rhag torri ar y rhin...
(1, 0) 370 Credais dy fod ar daith.
 
(1, 0) 377 Yn ardal Sŵnem.
 
(1, 0) 388 Ac nid fel gordderch y daeth-hi at y Brenin.
(1, 0) 389 A deall hyn o'r cychwyn,—yn forwyn daeth
(1, 0) 390 Y llances hon i'r llys, a rhois fy llw
(1, 0) 391 I'w thad mai'n forwyn y dychwelai. Rho
(1, 0) 392 Fy rhybudd caeth i'th osgordd na chyffyrddont
(1, 0) 393 Â hi ar boen eu bywyd. {Yn filwrol.} Mae'n orchymyn!
 
(1, 0) 396 Dywed pwy yw hwn—
(1, 0) 397 Y cloff a ddygaist tithau i lys y brenin
(1, 0) 398 Â'i garpiog glog? {Yn ysgafn.} Wneith hwn ddim gŵr o gard!
 
(1, 0) 405 Pa beth sy ym mryd y Brenin?
 
(1, 0) 417 Tŷ Saul! Pa ffafr a wnaethant hwy erioed
(1, 0) 418 Â'm hewythr Dafydd? Mur, y nos a'r dydd
(1, 0) 419 Oedd ef a'i filwyr rhyngddynt a'r Philistiaid.
(1, 0) 420 A'i dâl?—Ei hela o le i le fel petris.
 
(1, 0) 424 Eto pa bleser crogi llencyn cloff
(1, 0) 425 Fel hwn? Gresyn na bai'n rhyfelwr hy
(1, 0) 426 Fel Abner, hen gadfridog byddin Saul!
 
(1, 0) 489 Y delynores orau yn y deyrnas.
(1, 0) 490 Ni fedd apothecari ddim fel balm
(1, 0) 491 Ei llais gan dant at godi calon drom.
(1, 0) 492 Myfi a'i cyrchais hi i lys y brenin.
 
(1, 0) 573 Nage, ddim.
 
(1, 0) 577 Nage, F'arglwyddes. Gad i'r bachgen fod.
(1, 0) 578 Na feier gormod arno. 'Doedd y cast
(1, 0) 579 Ond gwers a bwniodd athro ffôl i'w ben
(1, 0) 580 Wrth ddysgu darllen.
 
(1, 0) 649 Nid gordderch yw, ond telynores gywrain
(1, 0) 650 A merch pendefig. Gwael i Frenhines Israel
(1, 0) 651 Sarhau'r forwynig dirion hon, a ŵyr
(1, 0) 652 Holl Salmau Dafydd a holl rin ei delyn.
 
(1, 0) 655 O garedigrwydd daeth,
(1, 0) 656 A hynny heb ofyn gwobr nac unrhyw dâl,
(1, 0) 657 I ganu ei delyn iddo, a chodi'r cwmwl
(1, 0) 658 Sydd ar ei ysbryd blin, os myn y nef.
 
(1, 0) 885 Er mwyn y fyddin, galw Absalom!
 
(1, 0) 909 Yn awr, fy Mrenin, gwn im dderbyn ffafr
(1, 0) 910 Yn d' olwg am fy holl ryfeloedd erot.
(1, 0) 911 —Cyflawnaist ddyheadau dwys dy weision.
 
(1, 0) 915 Mae cennad o Gesŵr nawr yn yr ardd
(1, 0) 916 Tan ofal Cŵsi'n aros am dy weled,
(1, 0) 917 —Hen ŵr o fugail o'r bugeiliaid nomad;
(1, 0) 918 Daeth yma ar ran Absalom.
 
(1, 0) 921 Gofyn y mae am arwydd o'th faddeuant,
(1, 0) 922 A'i warant ydyw modrwy aur dy fab.
(1, 0) 923 A fynni ei weld?
 
(1, 0) 927 Nid yw'n llefaru ein tafodiaith ni,
(1, 0) 928 Ond mae'n ei deall.
 
(1, 0) 932 F'arglwydd, dyma'r gennad.
 
(2, 1) 1125 'Does dim sy'n haws i'w ateb,—Byddin gref.
(2, 1) 1126 Nid cynnull sydyn haid ar alwad rhyfel
(2, 1) 1127 Er atal goresgyniad,—haid â'u calon
(2, 1) 1128 Yn toddi wrth sain cyrn, neu garlam meirch.
(2, 1) 1129 Rhowch imi fyddin hur yn ein prifddinas,
(2, 1) 1130 Gwŷr sydd bob dydd yn trin y cledd a'r bwa;
(2, 1) 1131 Yn nofio, yn rhedeg, ac yn ymgodymu,
(2, 1) 1132 Yn ufuddhau'n ddigwestiwn; gwŷr sy'n sefyll
(2, 1) 1133 Fel clawdd o ddur o flaen taranau'r meirch,
(2, 1) 1134 Neu unrhyw ddirgel arf fo gan y gelyn.
(2, 1) 1135 Rhowch imi fyddin felly i gadw heddwch,
(2, 1) 1136 A bydd ei harswyd ar ein holl gymdogion;
(2, 1) 1137 Ac os bydd tref yn Israel hithau'n gyndyn,
(2, 1) 1138 Fe syrth fy ergyd arni fel llaw barn.
(2, 1) 1139 Does dim sy'n uno gwlad fel byddin gref.
 
(2, 1) 1188 Ai digon fydd pythefnos i drefnu'r dydd?
 
(2, 1) 1209 Go brin, a chanddo hanner cant o wŷr
(2, 1) 1210 Tan arfau'n rhedeg gyda'i gerbyd rhyfel!
 
(2, 1) 1215 Pum cant! Pum cant o wŷr? Pan wêl gwŷr Hebron.
(2, 1) 1216 Fyddin fel honno ar ei ffordd, fe gaeant
(2, 1) 1217 Eu pyrth i sefyll gwarchae, ac nid eir
(2, 1) 1218 I mewn i'r ddinas ond trwy drais a gwaed.
(2, 1) 1219 Pum cant! Yr wyt ti'n gofyn gosgordd brenin!
 
(2, 1) 1221 Gwnaf, Dywysog,
(2, 1) 1222 Deucant o wŷr dewisol tan lawn arfau,
(2, 1) 1223 Detholaf hwy fy hun o blith y llu
(2, 1) 1224 Yn osgordd deilwng o Dywysog Jwda.
 
(2, 1) 1241 Na, fy lle
(2, 1) 1242 Fydd gyda'r brenin ddydd yr aberth mawr.
(2, 1) 1243 Eithr anfonaf fy rhedegwr Cŵsi
(2, 1) 1244 I'ch canlyn; ac os ymosodir arnoch,
(2, 1) 1245 Gyrrwch-o'n gennad fuan ataf fi
(2, 1) 1246 I'r Llys. Nid oes yn Israel ei gyflymach.
(2, 1) 1247 Fe red o Hebron yma o fewn teirawr.
(2, 1) 1248 Dof finnau ag atgyfnerthion yr un dydd.
 
(2, 1) 1250 A gwae i'r neb fo'n bygwth mab y brenin.
 
(2, 1) 1257 Os esgusoda'r Brenin fi yn awr,
(2, 1) 1258 Mi af yn syth i gynnull gosgordd deilwng
(2, 1) 1259 O aer y goron, deucant o'n milwyr gorau,
(2, 1) 1260 Cledd ar bob clun, a tharian ar bob bron,—
(2, 1) 1261 A galwaf gyda Sadoc yr offeiriad
(2, 1) 1262 I erfyn am ei weddi gyda'r antur.
 
(2, 2) 1545 Am in gael byw i weld y dwthwn hwn
(2, 2) 1546 I Dduw bo'r clod.
 
(2, 2) 1550 Cael clywed Sadoc,
(2, 2) 1551 Offeiriad nef, heddiw ar ran ei frenin
(2, 2) 1552 Yn codi ei lef mewn mawl i Dduw.
 
(2, 2) 1556 Yfwch, gyfeillion, eto i lwydd y brenin,
(2, 2) 1557 A phob rhwyddineb, i'w fab Absalom.
(2, 2) 1558 Yn Ninas Hebron heddiw.
 
(2, 2) 1560 Llwydd i'n Brenin!
 
(2, 2) 1564 I goroni'n gwledd.
(2, 2) 1565 Atolwg rhoed ein telynores fwyn
(2, 2) 1566 Salm gyda'r tannau.
 
(2, 2) 1588 Pa beth sy'n bod? Pa beth a wnaeth gwŷr Hebron?
 
(2, 2) 1590 Yr wyt ti'n drysu. Ni chydsyniai byth.
 
(2, 2) 1603 Ar flaen eu byddin? A chyrhaeddant heddiw?
 
(2, 2) 1608 Estyn fy arfau... Cân y Gloch Alarwm!
(2, 2) 1609 Tyn wrth ei rhaff nes clywo'r ddinas gyfan!
 
(2, 2) 1635 Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron.
(2, 2) 1636 A bydd ei fyddin yma ym mhen dwyawr.
 
(2, 2) 1642 Caeer holl byrth y ddinas.
(2, 2) 1643 Brysied pob gwyliwr i'w le ar y mur.
(2, 2) 1644 Wrth Borth y Glyn gosoder y Cerethiaid;
(2, 2) 1645 A'r Gethiaid o dan Itai wrth Borth y Ffynnon;
(2, 2) 1646 Fe gymer y Brenin a minnau Borth y Meirch
(2, 2) 1647 A Thŵr y Ffyrnau.
 
(2, 2) 1652 Beth yw dy gyngor?
 
(2, 2) 1662 Duw! Dyna'r tinc
(2, 2) 1663 A hoffwn yn dy lais pan oeddit iengach.
(2, 2) 1664 Ogof Adŵlam oedd dy blas bryd hynny,
(2, 2) 1665 Ninnau, o'n cuddfan, yn dal i herio Saul;
(2, 2) 1666 Ac myn y nef, gwych yw dy gynllun eto!
(2, 2) 1667 ~
(2, 2) 1668 Gapten Beneia, trefna'r llu. Ymdeithiwn
(2, 2) 1669 Dros Afon Cedron, a llechwedd Bryn Olewydd,
(2, 2) 1670 A chroesi Rhyd Iorddonen am y gwyllt.
 
(2, 2) 1672 Oes. Mae pob milwr i drafaelu'n ysgafn.
(2, 2) 1673 Dim ond ei arfau. Ymborthwn ar y wlad.
 
(2, 2) 1703 Bydd awch dy feddwl
(2, 2) 1704 Yn brwydro dros ein teyrn fel awch fy nghledd.
 
(2, 2) 1755 Utgorn Beneia! Mae'r Gwŷr o Gard yn disgwyl.
 
(3, 1) 2273 Boreddydd clir! Y mae'n arwyddo'n dda
(3, 1) 2274 I'n hachos. A diffodded gobaith Absalom
(3, 1) 2275 O flaen yr haul brenhinol, fel y diffydd
(3, 1) 2276 Y lantern hon o flaen goleuni'r wawr.
 
(3, 1) 2290 Am amryw bethau:—rhai am wraig a phlant,
(3, 1) 2291 Eraill am rannu'r ysbail, ac am lancesi
(3, 1) 2292 A gânt i'w treisio yn nhrefi'r gelyn; rhai
(3, 1) 2293 Yn rhwygo a rhegi a lladd a llosgi eisoes
(3, 1) 2294 Yn feddw braf; ac eraill wrth y tân
(3, 1) 2295 Yn sôn yn sobr am fyd gwell wedi'r rhyfel.
 
(3, 1) 2297 Na fydd, neb.
(3, 1) 2298 Marwolaeth ydyw'r hyn sy'n dod i eraill,
(3, 1) 2299 Nid byth i'r dyn ei hun... Ac o'r amryfal
(3, 1) 2300 Elfennau hyn yr asiais iti fyddin.
 
(3, 1) 2307 Gwnaethost dy orau iddynt; ac mae plan
(3, 1) 2308 Dy frwydyr, tan Law Dduw, yn warant concwest.
(3, 1) 2309 Mae'n cyfiawnhau dy deirnos flin, ddi-gwsg
(3, 1) 2310 Yn planio trostynt.
 
(3, 1) 2315 Rhyngom a'r afon dacw Fforest Effraim,
(3, 1) 2316 Fel rhyw anghenfil du ar draws y fro;
(3, 1) 2317 Fan acw, 'nôl dy blan, bydd maes y gad.
 
(3, 1) 2323 Beth yw d'orchmynion olaf?
 
(3, 1) 2337 Mae'n gynllun rheiol, teilwng o'th filwriaeth
(3, 1) 2338 Yn nydd dy nerth... Un pwynt a wrthwynebaf,
(3, 1) 2339 Nid ei di gyda ni i'r frwydyr hon.
(3, 1) 2340 Rhag ofn diffoddi golau Israel.
 
(3, 1) 2343 Nid ei di ddim i'r frwydyr y waith hon.
(3, 1) 2344 Pe cwympai'n hanner |ni|, fe safai'n hachos
(3, 1) 2345 Tra byddai'n Brenin eto'n fyw. Pe cwympai
(3, 1) 2346 Ein Brenin, cwympai'n hachos a'n calonnau,
(3, 1) 2347 A'r gelyn a'n difethai â lladdfa fawr.
(3, 1) 2348 Gan hynny, gwell i'r Brenin aros heddiw
(3, 1) 2349 Tan siars Beneia a chyda'r Gwŷr o Gard
(3, 1) 2350 Yn atgyfnerthiad in o Mahanâim.
 
(3, 1) 2358 Ffarwel, fy Mrenin.
 
(3, 1) 2361 Os lleddir dy was heddiw'n Fforest Effraim,
(3, 1) 2362 Ymffrostia f'anadl olaf mai gwas fûm
(3, 1) 2363 I'r milwr mwyaf mawr a fagodd Israel,
(3, 1) 2364 Nid Josiwa, ac nid Barac, ac nid Saul,
(3, 1) 2365 Nid Abner na Gideon, ond Dafydd Frenin.
 
(3, 1) 2367 Ac yn awr
(3, 1) 2368 Dangosed f'Arglwydd Frenin ei wedd rasol
(3, 1) 2369 I'w filwyr teyrngar fel yr elont heibio.
(3, 1) 2370 Safed fan hyn, ar y ddisgwylfa hon,
(3, 1) 2371 Lle y'i gwelo pawb, â'i law mewn bendith drostynt.
 
(3, 1) 2402 Yn iach it, arglwydd.
 
(3, 1) 2405 Dowch, Ahimâs a Chŵsi! Glynwch wrthyf!
 
(3, 2) 2784 Pe le mae'r Brenin?... Pe le mae ffrind y bradwyr?
(3, 2) 2785 Pa le mae'r dyn sy'n gyrru gwarth ar fyddin
(3, 2) 2786 O'i ŵyr ffyddlonaf?
 
(3, 2) 2789 "Ei glwyfo," meddai hi! Welodd-o'r gwaed
(3, 2) 2790 Fu'n llifo'r dwthwn hwn o'n clwyfau ni
(3, 2) 2791 Fu'n ymladd drosto?
 
(3, 2) 2797 Yn ddistaw, ai e?... Ers pryd mae telynoresau
(3, 2) 2798 Yn rhoi gorchmynion i gatrodau Israel?
 
(3, 2) 2800 Rhaid imi weld y Brenin.
 
(3, 2) 2805 Fy Mrenhines,
(3, 2) 2806 Rhaid imi weld y Brenin. Mae dyfodol
(3, 2) 2807 Ei deyrnas yn dibynnu ar hynny'n awr,
(3, 2) 2808 A theyrnas Solomon.
 
(3, 2) 2814 Agor, O Frenin! Mater bywyd yw!
 
(3, 2) 2818 Beth ydyw hyn?—Dy fyddin di'n dychwelyd
(3, 2) 2819 O drechu deugain mil, a'u Brenin surbwch
(3, 2) 2820 Yn sorri yn ei stafell, heb un gair
(3, 2) 2821 O ddiolch iddynt am eu holl galedi
(3, 2) 2822 Er mwyn dy achub di a'th dylwyth.
 
(3, 2) 2825 Ie, Absalom, mae'n siŵr! Cafodd ei haeddiant.
(3, 2) 2826 Dangosaist tithau nad yw neb o'th weision
(3, 2) 2827 Yn cyfrif dim yn d'olwg wrth y bradwr;
(3, 2) 2828 Caru caseion a chasâu pob ffrind!
 
(3, 2) 2831 O! mi wn yn burion
(3, 2) 2832 Pe Absalom fuasai byw, a ninnau'n feirw,
(3, 2) 2833 Da fuasai hynny yn dy olwg di;
(3, 2) 2834 A dyna'n tâl a'n diolch!
 
(3, 2) 2837 Na wnaf, nes ychwanegu eto hyn—
(3, 2) 2838 Hwn ydyw'r peth ynfyta' a wnest erioed,
(3, 2) 2839 O'th ran dy hun, o ran parhad dy orsedd,
(3, 2) 2840 O ran dy dylwyth... Fel mai byw yr Arglwydd,
(3, 2) 2841 Oni ddangosi di dy wyneb heno
(3, 2) 2842 O ben y mur i'th filwyr, ni saif neb
(3, 2) 2843 Ohonynt gyda thi o hyn ymlaen.
(3, 2) 2844 Gwasgara'r fyddin ddewr, ac ni fydd neb
(3, 2) 2845 I ddwyn y Brenin adref i Gaersalem
(3, 2) 2846 Er sicrhau olyniaeth Solomon.
(3, 2) 2847 Tyrd, ymwrola. Dangos dy hun i'th fyddin.
 
(3, 2) 2852 Tyrd, yn awr.
 
(3, 2) 2859 Ffyddloniaid Dafydd, wele daeth eich Brenin
(3, 2) 2860 I'ch derbyn adre'n llawen o'r Ddisgwylfa
(3, 2) 2861 Mewn diolchgarwch,—yr hen ryfelwr dewr,
(3, 2) 2862 Llew o Lwyth Jwda. Arswyd y Philistiaid,
(3, 2) 2863 A chyfaill da pob milwr.
 
(3, 2) 2865 Mae'n dymuno,
(3, 2) 2866 Wedi'r fath goncwest, i chwi orymdeithio
(3, 2) 2867 Yn orfoleddus at y wledd a'r gwin
(3, 2) 2868 Sydd heno yn eich disgwyl yn y ddinas,
(3, 2) 2869 Pob catrawd gyda'i gilydd. Mae y pyrth
(3, 2) 2870 O led y pen mewn croeso. Ac yn awr
(3, 2) 2871 Seiniwch yr utgyrn eto a'r bib a'r drwm,
(3, 2) 2872 A thanied pawb ei ffaglen o dân gwyllt
(3, 2) 2873 Nes fflamio'r nen.
(3, 2) 2874 ~
(3, 2) 2875 Parod yn awr?... Ymlaen!