|
|
|
|
(1, 0) 16 |
Morris yn dyfod i lawr yn nhraed ei sanau, gyda channwyll oleu yn un llaw, a'i goler yn y llall. |
(1, 0) 17 |
Dengys ei lodrau gwynion mai chwarelwr ydyw, chwarelwr yn byw ar dyddyn, y math perffeithiaf o werinwr a allodd gwareiddiad Cymru ei godi eto; dyn distaw penderfynol, ac ôl diwylliant nid bychan ar ei iaith a'i foes. |
(1, 0) 18 |
Gwasged gordoroy werdd, a chôt frethyn lychlyd am dano. |
(1, 0) 19 |
Dyry ei esgidiau am ei draed yn bwyllog, ac yna, cyfyd i fyny ei freichiau i ymestyn. |
(1, 0) 20 |
Saif fel pe bai rhwng dau feddwl am funud, a dyry ochenaid ddofn, ond â allan yn araf drwy'r drws, a daw'n ol ymhen munud neu ddau, gyda choed tân yn un llaw, a glo mewn bwced yn y llall; penlinia o flaen y tân, gan ddechreu ei osod. |
(1, 0) 21 |
~ |
(1, 0) 22 |
Yna daw Catrin Morris i lawr, gwraig ieuanc brydweddol, serchog yr olwg, dan glymu ei barclod o'r tu ol. |
(1, 0) 23 |
Cymer lamp oddiar y dresel i'w goleu, ac wrth siarad a'i gŵr, y mae'n paratoi'r bwrdd at bryd. |
|
|
(1, 0) 26 |
Mae o'n ddigon cyndyn y bore yma, beth bynnag─well i chi gael y fegin, neu ynte ferwith y tecell yma byth. |
|
|
(1, 0) 32 |
Nag oes, dim; beth wnaeth i chwi feddwl hynny? |
|
|
(1, 0) 35 |
Beth, meddwch chi? |
|
|
(1, 0) 38 |
Nagê, wir, Catrin, doeddwn i ddim yn meddwl o gwbwl am yr hen fargen, ac mae yma ddigon o bobol ar y Rhos yma yn cael llai nac hyd yn oed deirpunt, fel gês i'r mis dwytha. |
|
|
(1, 0) 47 |
Catrin, faint sy ers pan yden ni wedi priodi, deudwch? |
|
|
(1, 0) 49 |
le, chwe blynedd, a faint o wylia yden ni wedi gael drwy'r chwe blynedd yna? |
|
|
(1, 0) 53 |
Nage,─sawl diwrnod gollis i o'r chwarel? |
|
|
(1, 0) 57 |
Wn i ddim, neno'r tad annwyl. |
(1, 0) 58 |
Rydw i'n dechra blino ar yr hen chwarel yna; ydw wir. |
(1, 0) 59 |
Mi fydda i'n meddwl weithia am fynd oddiyma i Awstralia neu rywle arall─yn ddigon pell, lle caiff rhywun dâl gonest am i waith... |
(1, 0) 60 |
Mae Tomos ych brawd yn cadw sŵn o hyd arna'i fynd hefo fo. |
|
|
(1, 0) 63 |
Wyddoch chi'n iawn y mod i'n hapus yma, Catrin─ar ych cownt chi ag Ifan yr ydw i'n poeni. |
(1, 0) 64 |
Rydw i'n câl digon o bopeth sy arna i eisio, ond mi fyddai'n ama weithia y byddwch chi ag Ifan bach yn byw ar wynt a dŵr pan fyddai yn y chwarel... |
(1, 0) 65 |
Wel, wir, waeth imi dewi. |
(1, 0) 66 |
Fedrwn i byth adael yr hen le yma debig, er mor gandryll ydi o─hen aelwyd y nhad a mam─y siambar lle buon nhw i gyd farw, a'r hen gapel lle ces i'r olwg gynta... |
(1, 0) 67 |
Ar hen lwybra yma lle buon ni'n caru ystalwm... |
(1, 0) 68 |
Does arna i fawr o eisio bwyd y bore yma. |
|
|
(1, 0) 71 |
Wel? |
|
|
(1, 0) 73 |
Newch chi ddim ond chwerthin am y mhen i, mi wn, dawn i'n deud wrthoch chi. |
(1, 0) 74 |
Ydi Mr. Jones y scŵl yn sôn am godi Ifan i'r |First Class| y tro yma? |
|
|
(1, 0) 77 |
Steddwch i lawr, Catrin, a mi dreia i ddeud a wrthoch chi, os peidiwch chi a chwerthin am y mhen i. |
|
|
(1, 0) 80 |
Hen freuddwyd câs gês i neithiwr. |
(1, 0) 81 |
Mi fuom i bron a'ch deffro chi, i ddeud owrthoch chi, ond mi feddylis y basa'n well peidio, wedyn, ac mae'n debig imi huno tipin rhwng rhyw gwsc ac effro wedyn. |
|
|
(1, 0) 83 |
Mae'n gâs genni feddwl am dano fo, na'i ddeud o. |
|
|
(1, 0) 86 |
Fyddwch chi'n credu mewn breuddwydion, deudwch? |
|
|
(1, 0) 88 |
Mi fyddai'n meddwl weithia fod yna ryw synnwyr ymhob dyn wedi mynd ar goll, rhywbeth sy gan yr anifeiliaid nag sy gynnon ni, a phan fydd y synwyra erill yn cysgu, mi fydd hwnnw'n cael i gyfle i ddeud gair weithia. |
(1, 0) 89 |
Ydech chi'n y nghofio i'n sôn am Sion y Muria rywdro? |
|
|
(1, 0) 91 |
la, dyna fo─y creadur meddwa yn yr holl sir, heb ddim dowt.. |
(1, 0) 92 |
Mi fethodd y capal, ag mi fethodd y jêl, mi fethodd i wraig o a'i blant i droi o,─fydda fo byth yn sobor. |
(1, 0) 93 |
Ond mi freuddwydiodd ryw noson i fod o wedi lladd i wraig a'i blant bach yn i ddiod, a phan ddeffrodd o yn y bore, mi aeth ar i union cyn brecwast at Mr. Huws, Sardis, i seinio dirwest, a chyffyrddodd o â dafn byth wedyn. |
(1, 0) 94 |
Mae o'n coelio hyd heddiw tasa fo wedi meddwi unwaith wedyn y basa fo wedi gneud fel yr oedd o'n breuddwydio. |
(1, 0) 95 |
Mae ambell un yn medru gweld yng ngola llwyd i freuddwyd yr hyn na feder o weld yn llygad haul pan yn effro; mae'r gola yn i ddallu o. |
|
|
(1, 0) 97 |
Gweld drwy amser, Catrin, heb len o gwbl. |
(1, 0) 98 |
Mae yna ddwy len o'n cylch ni, un o'n hola ni, sef llen y gorffennol, ac un o'n blaena, sef llen y dyfodol. |
(1, 0) 99 |
Mae'r co yn medru gweld drwy'r llen gynta, ac mae yna ryw synnwyr arall yn medru gweld drwy'r llall, pan fyddwn ni'n breuddwydio. |
|
|
(1, 0) 103 |
Wel, mi welwn fy hunan wrthi hi'n tyllu ar wyneb y graig, a Tomos ych brawd, fel arfer, yn taro imi. |
(1, 0) 104 |
Mi fuon ni wrthi hi yn ddygyn am oria, debygwn i, a phan oedden ni ar ddarfod, dyma'r corn yn canu, a ninna'n codi i fynd at y trên i ddwad adre, ond cyn y mod i wedi rhoi fy nghôt am dana, mi welwn ddyn ar ben y clogwyn yn galw arna i wrth f'enw, ac yn gwaeddi |wâr|, a chyn i fod o wedi tewi, mi welwn y graig wrth yn penna ni yn gwegian ac yn plygu drosodd, ac i lawr a hi am yn penna ni. |
(1, 0) 105 |
Mi welwn blyg mawr yn taro Tomos yn i ben, a wedyn dyma'r cwbwl i lawr, am danon ni... |
(1, 0) 106 |
Mi ddeffris yn chwys oer drosta'i gyd, ac yn crynu fel deilen... |
(1, 0) 107 |
Catrin, wyddoch chi pwy oedd y dyn oedd yn gwaeddi |wâr| arnai? |
|
|
(1, 0) 111 |
Yr hen Huw Lewis y Buarth,─hwnnw gafodd i ladd pan syrthiodd y Clogwyn Mawr ystalwm. |
|
|
(1, 0) 116 |
le, rydw i fel Joseph yn breuddwydio ar y mwya, bob amser─ond breuddwyd hollol ddisynnwyr oedd hwnnw. |
|
|
(1, 0) 118 |
Ond dyma i chi rwbeth mwy rhesymol. |
(1, 0) 119 |
Rydw i dest a pheidio mynd i'r chwarel─heblaw fod arnon ni eisio arian i orffen pen y flwyddyn yn y capel, dawn i ddim chwaith. |
|
|
(1, 0) 122 |
Ie, dim iws rhoi coel ar bopeth─esgus dyn diog ydi peth felly yn amal. |
(1, 0) 123 |
Rhaid imi fynd i molchi. |
|
|
(1, 0) 144 |
Hylo, Twm, ti sy'na? |
(1, 0) 145 |
Sut mae hi'n canu? |
(1, 0) 146 |
Beth wyt ti'n neud yma mor fora? |
|
|
(1, 0) 151 |
Beth! ddim am fynd i'r chwarel? |
(1, 0) 152 |
A hitha'n ben y mis? |
(1, 0) 153 |
Wyt ti'n wael? |
|
|
(1, 0) 155 |
Bedi'r rheswm? |
(1, 0) 156 |
Wyt ti'n mynd i briodi, dwad? |
(1, 0) 157 |
Ynte wyt ti'n mynd i riteirio a byw'n ŵr bonheddig? |
|
|
(1, 0) 162 |
Eh! |
(1, 0) 163 |
Breuddwyd? |
(1, 0) 164 |
Beth odd o? |
|
|
(1, 0) 169 |
Ddaru ti ddal sylw ar y dyn oedd yn gweiddi |wâr|? |
|
|
(1, 0) 171 |
Pwy oedd o? |
|
|
(1, 0) 175 |
Wel, dyma'r peth rhyfedda glywis i erioed. |
(1, 0) 176 |
Wyddost ti beth? |
(1, 0) 177 |
Mi freuddwydis inna 'r un breuddwyd yn union neithiwr. |
|
|
(1, 0) 179 |
Ia, yr un breuddwyd yn union, air am air, a mi glywis yr hen Huw Lewis yn galw |wâr| a phopeth fel y deudisti. |
|
|
(1, 0) 186 |
Ia, dyden ni ddim i fynd i'r chwarel heddiw, mae hynny'n amlwg ddigon. |
|
|
(1, 0) 189 |
Aros funud! |
(1, 0) 190 |
Faint well fyddwn ni wedi aros adre? |
(1, 0) 191 |
Doedd y breuddwyd ddim yn deud pa bryd yr oedd y ddamwain i fod,─hwyrach mai fory neu'r wythnos nesa, neu'r flwyddyn nesa... |
|
|
(1, 0) 194 |
Wn i ddim, na wn i wir... |
|
|
(1, 0) 196 |
Dyna hi'r trên wrth Gefn y Gwyndy. |
|
|
(1, 0) 198 |
O'r gore. |
(1, 0) 199 |
Mi adwn ni iddi hi yn y fan yna ynte... |
(1, 0) 200 |
Dydw i ddim yn mynd. |
|
|
(1, 0) 203 |
Mae'r hogyn bach yna wedi cael annwyd ofnadwy yn rhywle... |
(1, 0) 204 |
Rhaid ini gymryd gofol hefo fo, neu mae o'n siwr o droi yn rhywbeth gwaeth arno fo. |
|
|
(1, 0) 208 |
Catrin! sana pwy ydi'r rhain? |
|
|
(1, 0) 211 |
Y mae nhw'n lyb dyferu! |
|
|
(1, 0) 213 |
Ia, teimlwch nhw... |
(1, 0) 214 |
Does dim rhyfedd fod y peth bach wedi cael annwyd... |
(1, 0) 215 |
Rhowch imi weld i sgidia fo. |
|
|
(1, 0) 217 |
Wel, edrychwch ar i sgidia fo... ond tydyn nhw'n dwll drwadd!... |
(1, 0) 218 |
Oes gynno fo bâr arall? |
|
|
(1, 0) 223 |
Faint o arian sydd yma yn y ty? |
|
|
(1, 0) 225 |
Oes coel i gael gan gryddion y Dre? |
|
|
(1, 0) 229 |
Wel, dyna ben arni hi. |
(1, 0) 230 |
Fedra i ddim aros adra i ddiogi ag lfan bach heb sgidia am i draed... |
(1, 0) 231 |
Cadwch o yn i wely heddiw. |