Cuesheet

Cofia'n Gwlad

Lines spoken by Kitty (Total: 199)

 
(1, 6) 163 Ie?
 
(1, 6) 166 Ble wyt ti'n disgwyl i fi fod?
(1, 6) 167 Ma' swper yn barod.
(1, 6) 168 Ddô'i mewn 'wan.
 
(1, 6) 170 Beth!
(1, 6) 171 Allu di ddim mynd heb fwyd.
 
(1, 6) 173 Rhaid i ti f'yta.
 
(1, 6) 175 Labro drw'r dydd.
(1, 6) 176 Sdim mynd heb fwyd i fod.
 
(1, 6) 179 Pryd?
 
(1, 6) 182 O.
(1, 6) 183 A fe f'ytes di heb aros amdana'i.
 
(1, 6) 186 Ie-ie.
(1, 6) 187 I gwrdd â'r lodes 'na.
 
(1, 6) 189 Wel, ffwrdd â thi, te.
(1, 6) 190 Paid adel i fi fod yn fwy o rwystr i ti.
 
(1, 6) 193 Ie.
(1, 6) 194 A dim ond heno s'da fi i gael y lle hwn yn lân 'fyd.
(1, 6) 195 Fel wyt ti'n gw'bod yn iawn.
 
(1, 6) 198 O, cer er mwyn popeth.
(1, 6) 199 Ddô'i ben ben y'n hunan.
(1, 6) 200 Dwi wedi 'neud digon o'r blaen a mi wna'i ddigon eto, siŵr o fod.
(1, 6) 201 Hy!
(1, 6) 202 Bydd raid i fi unwaith briodi di'r lodes 'na.
 
(1, 6) 204 Ifan-John bach, sdim ise dim 'sôn' oes-e?
(1, 6) 205 Pan fydd raid, bydd raid.
 
(1, 6) 207 Nagyw.
(1, 6) 208 Wrth gwrs nag yw hi.
 
(1, 6) 210 Na. –
(1, 6) 211 A ti?
 
(1, 6) 214 Dim.
(1, 6) 215 Dim byd.
 
(1, 6) 217 Gofynnes di hanes y Gerlan wedyn?
 
(1, 6) 219 Ifan-John!
 
(1, 6) 222 Nagoes.
(1, 6) 223 Wrth gwrs does byth gyfle.
(1, 6) 224 Mae raid i ti wneud cyfle, 'chan.
(1, 6) 225 Beth dwi wedi bod yn gweud a gweud 'thot ti.
(1, 6) 226 Wyt ti byth yn mynd i gael dy le dy hunan fel hyn.
(1, 6) 227 Wyt ti am sefyll yn was bach i Mister Hollbwysig Morris am weddill dy oes?
 
(1, 6) 230 Gwas mawr, gwas bach.
(1, 6) 231 Beth yw'r gwa'niaeth.
(1, 6) 232 Gwas yw gwas a mistir yw mistir.
 
(1, 6) 234 Wyt ti'n gwneud 'ny 'wan, beth bynnag.
 
(1, 6) 236 Ie.
(1, 6) 237 Ow'n i wedi clywed.
(1, 6) 238 Bachan mawr – tu ôl 'i gefen!
 
(1, 6) 240 Ie.
(1, 6) 241 Cer.
(1, 6) 242 Gwylia di nag yw un o'i gynffonwyr yn gweud wrtho, 'na'i gyd.
 
(1, 6) 245 Fydd hi ar ben arnat ti'n cael lle dy hunan wedyn, 'machgen i, on-fydd-hi!
 
(1, 13) 653 Ie?
 
(1, 13) 656 Mati!
 
(1, 13) 658 Wyt ti wedi gweld Ifan-John yn 'weddar?
(1, 13) 659 Dyw e'n gweud dim.
(1, 13) 660 Llai nag erioed nawr, wrth gwrs.
 
(1, 13) 662 O.
(1, 13) 663 Wyt ti'n gw'bod te.
 
(1, 13) 665 O.
(1, 13) 666 Wrth gwrs.
(1, 13) 667 Yn gw'bod ers sbel.
(1, 13) 668 Ers meityn.
(1, 13) 669 'Mhell cyn ow'n i'n gw'bod, siŵr o fod.
(1, 13) 670 Faint, sgwn i?
(1, 13) 671 O, be' 'di'r ots.
(1, 13) 672 Mae e'n benderfynol o fynd.
 
(1, 13) 674 Ond 'sdim rhaid iddo.
(1, 13) 675 'Na beth dw-i ddim yn deall.
(1, 13) 676 Odi e'n teimlo'n gryf am y rhyfel 'ma?
(1, 13) 677 Beth mae e'n gweud?
(1, 13) 678 Dyw e'n gweud dim wrtho'i.
(1, 13) 679 Dwi heb glywed e'n siarad am y peth o gwbwl.
(1, 13) 680 Darllen yr un papur na dim.
(1, 13) 681 Dwi ddim yn deall.
 
(1, 13) 684 Pam na wedith e wrtho'i te.
(1, 13) 685 Siarad.
(1, 13) 686 Gweud beth sydd ar ei feddwl.
 
(1, 13) 690 Elgan yn dod gatre – i beth?
 
(1, 13) 693 Ie-ie, Ifan-John yn meddwl.
(1, 13) 694 Mae Ifan-John yn meddwl beth sy'n siwto Ifan-John i feddwl.
(1, 13) 695 Man-a-man i ti ddysgu gymaint â hynny nawr, 'merch i.
(1, 13) 696 Beth bynnag, pam bydde Elgan Morris o bawb yn dod gatre.
(1, 13) 697 'Sdim elfen ffarmwr ynddo o gwbwl.
 
(1, 13) 702 Mor saff â mae hi ar Ifan-John nawr.
(1, 13) 703 A phan fydd y whare-plant yma drosodd, fydd y Gerlan yn rhydd – yn disgwyl amdano.
 
(1, 13) 705 Mae e wedi sôn wrthot ti, siŵr o fod.
(1, 13) 706 Ffarm fach net i chi gael dechreuad arni.
(1, 13) 707 Gael y'ch tra'd 'danoch.
(1, 13) 708 Wyt ti'n dod mlaen yn iawn yn y Plas, ond-wyt-ti – dod mlaen â hi a fe'n iawn?
 
(1, 13) 711 Da iawn.
(1, 13) 712 Fydd hynny'n help.
(1, 13) 713 Un peth ma' rhaid gweud am 'rhen Pryse, Gogerddan – mae e'n dewis ei denantiaid yn dda.
(1, 13) 714 Yn deg hefyd.
(1, 13) 715 'Sda fi ddim lot arall i 'weud amdano – dim un ohonyn nhw, o ran hynny.
(1, 13) 716 A nawr ma'hwn – Ifan-John...
(1, 13) 717 O, beth yw'r pwynt pregethu ragor.
(1, 13) 718 Oni bai bod 'da ti ddylanwad arno.
 
(1, 13) 721 Mwy nag wyt ti'n feddwl, siŵr o fod.
 
(1, 13) 726 A mae Dafydd y Fagwyr yn mynd hefyd.
 
(1, 13) 728 Sôn am y byd yn wallgo.
 
(1, 13) 733 A mae hynny i fod yn gysur, Mati?
 
(2, 4) 1101 Whilo rhein, syr - Mr. Jones?
 
(2, 4) 1106 Cyn dydd Sul?
 
(2, 4) 1109 O.
(2, 4) 1110 Mynd bant?
 
(2, 4) 1116 Ry' chi'n ddyn lwcus, Mr. Jones.
(2, 4) 1117 Y Bardd yn troi i edrych arni...
(2, 4) 1118 Os oes 'da chi rywle i ddianc iddo.
(2, 4) 1119 Lwcus.
 
(2, 4) 1123 'Sdim ise.
(2, 4) 1124 O gwbwl.
 
(2, 4) 1127 Y llythyr arferol.
 
(2, 4) 1130 Mae'n iach – hyd yn hyn, diolch yn fawr i chi.
 
(2, 4) 1138 Mr. Jones...
 
(2, 4) 1144 Debyg iawn.
 
(2, 4) 1146 Mr. Jones...
 
(2, 4) 1148 Y gerdd honno - yn y'ch nodiadau...
 
(2, 4) 1150 Mi oedd y cyfan ar y llawr. Dros y lle i gyd.
 
(2, 4) 1152 Yr un am y dail yn murmur a'r... a'r deuddeg abad a'r tawelwch a'r...
 
(2, 4) 1155 Ystrad Fflur.
(2, 4) 1156 Ie.
(2, 4) 1157 Y'ch chi... chi'n mynd i'w cyhoeddi?
 
(2, 4) 1161 Pam?
 
(2, 7) 1201 O!
(2, 7) 1202 Ti'n gynt nag arfer 'wythnos hon.
 
(2, 7) 1205 Odi Peggy'n gw'bod bo' ti wedi mynd yn gynnar?
 
(2, 7) 1207 A des ti fan hyn.
(2, 7) 1208 At Kitty, druan bach â hi.
 
(2, 7) 1210 O, paid bod mor groen-denau, lodes.
 
(2, 7) 1212 Nag wyt ynta.
 
(2, 7) 1214 Ma' cwpwl bach o dato'n berwi.
(2, 7) 1215 Fyddan nhw ddim yn hir 'wan.
 
(2, 7) 1220 Peggy roiodd e i ti?
 
(2, 7) 1224 Wyt ti'n gweud y gwir, gobeithio.
(2, 7) 1225 Dwi ddim angen unrhyw gardod oddi wrth Peggy na'r plas, ti'n gw'bod.
 
(2, 7) 1227 Na fyddet.
(2, 7) 1228 Dwi'n amau dim.
 
(2, 7) 1230 Ond ma' dwyn oddi wrthyn nhw'n iawn, odi-hi?
 
(2, 7) 1235 Gormod o frasder!
(2, 7) 1236 Siwt wyt ti'n dal dy dafod yn y fath le, dwn i ddim.
 
(2, 7) 1238 Ma' 'na bwrpas i hynny.
 
(2, 7) 1241 A be' sy'n bod ar fod yn daeog os mae'n golygu ffarm fach dda i chi'ch dau – dechreuad da.
(2, 7) 1242 Dechreuad.
(2, 7) 1243 Cael siawns go lew i wneud y gore ohoni.
 
(2, 7) 1245 A wedyn – hwn.
(2, 7) 1246 Yr holl ddwli 'ma.
(2, 7) 1247 Difetha'r cwbwl.
 
(2, 7) 1249 Wrth gwrs.
(2, 7) 1250 Beth arall?
(2, 7) 1251 Erbyn iddo ddod nôl fydd tenantiaeth Y Gerlan wedi mynd.
(2, 7) 1252 Wedi hen fynd.
 
(2, 7) 1255 Beth?
 
(2, 7) 1258 Mati?
 
(2, 7) 1261 I le ti'n mynd?
(2, 7) 1262 Le allu di fynd?
(2, 7) 1263 Beth am dy dad?
(2, 7) 1264 Beth am y plas?
(2, 7) 1265 'Sdim unman gen' ti i fynd.
 
(2, 7) 1267 Nagoes.
(2, 7) 1268 Wyt ti heb gael diwrnod mwy o ysgol na ges i.
(2, 7) 1269 Wyt ti wedi 'neud yn dda i gael lle yn y Plas.
(2, 7) 1270 Yn dda iawn.
(2, 7) 1271 'Sdim unman arall i fynd, heblaw...
 
(2, 7) 1276 Ble wyt ti'n mynd?
 
(2, 7) 1278 Ble!
(2, 7) 1279 I weithio yn un o'r ffatrïoedd 'ny?
 
(2, 7) 1281 Helpu'n hannwyl Lloyd George?
 
(2, 7) 1284 Ble te?
(2, 7) 1285 Gwed, ferch.
 
(2, 7) 1291 Ble byddan nhw'n dod ag Ifan-John.
 
(2, 7) 1294 Fydd e ddim.
 
(2, 7) 1297 Be' ti'n mynd i 'wneud 'na?
(2, 7) 1298 Glanhau lloriau?
(2, 7) 1299 Cario bwcedi?
 
(2, 7) 1302 'Ond, wel' beth?
 
(2, 7) 1304 Mati fach!
 
(2, 7) 1306 Wyt ti heb gael ysgol.
 
(2, 7) 1309 Gwyn dy fyd di.
 
(2, 7) 1311 Pryd wyt ti'n mynd?
(2, 7) 1312 Wyt ti wedi gweud gatre 'to?
(2, 7) 1313 Wrth y Plas?
 
(2, 7) 1316 Ond, mi wyt ti yn mynd.
 
(2, 7) 1319 A beth am Ifan-John?
(2, 7) 1320 Beth mae e'n gweud?
 
(2, 7) 1325 Pryd wyt ti'n mynd i 'weud?
(2, 7) 1326 Ma' rhaid i ti 'weud.
(2, 7) 1327 Ma' hawl gydag e i w'bod.
 
(2, 7) 1335 Deufis?
 
(2, 7) 1338 Wedest ti...
(2, 7) 1339 'Sdim pythefnos wedi mynd ers i ti 'weud i ti gael llythyr ganddo.
 
(2, 7) 1341 Ond...
 
(2, 7) 1358 Mati...
 
(2, 7) 1360 Ddaw e nôl, ti'n meddwl?
 
(2, 9) 1419 ... fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd.
 
(2, 9) 1421 ... ychwanega ofid.
 
(2, 9) 1423 ... mi a welais yr un ddamwain yn digwydd iddynt oll.
 
(2, 9) 1425 ... fel yr annoeth.
 
(2, 9) 1427 ... gwagedd...
 
(2, 9) 1432 Ifan-John!