Ciw-restr

Hamlet, Tywysog Denmarc

Llinellau gan Laertes (Cyfanswm: 73)

 
(1, 2) 314 Fy arglwydd mawr, eich cenad ffafriol chwi,
(1, 2) 315 I ddychwel eto yn fy ol i Ffrainc;
(1, 2) 316 O'r hon i Denmarc daethum i o'm bodd
(1, 2) 317 I roi gwarogaeth i'ch coroniad chwi;
(1, 2) 318 Ond wedi ei roi, rhaid i mi addef fod
(1, 2) 319 Fy meddwl a'm dymuniad eto 'n troi
(1, 2) 320 I Ffrainc, ac eu cyflwyno wnaf yn awr
(1, 2) 321 I'ch cenad graslawn a'ch maddeuant chwi.
 
(1, 3) 601 Mae pob peth angenrheidiol yn y llong;
(1, 3) 602 Yn iach. Fy chwaer, gan fod y gwynt yn deg,
(1, 3) 603 A bod nawddlongau wrth ein galwad ni,
(1, 3) 604 Na huna ddim. Rho air yn fynych im'.
 
(1, 3) 606 Am Hamlet, ac y modd dangosa 'i ffafr,
(1, 3) 607 Cyfrifa 'r cwbl yn arfer, tegan mewn
(1, 3) 608 Gwaedoliaeth; a millynen dlos o fewn
(1, 3) 609 Ieuenctyd, natur yn ei blodau yw,
(1, 3) 610 Awyddus, nid safadwy; mwyn, nid yn
(1, 3) 611 Barhâus; arogledd, a chyflenwad am
(1, 3) 612 Un funyd; ond dim mwy.
 
(1, 3) 614 Na wna ei dybied ef yn fwy, can's pan
(1, 3) 615 Gynyddo natur, ni thyf yn unig mewn
(1, 3) 616 Cyhyrau, ac mewn maint; ond fel y gwna
(1, 3) 617 Y deml hon fyn'd ar gynydd, yna bydd
(1, 3) 618 Gwasanaeth mewnol meddwl, enaid, yn
(1, 3) 619 Cynyddu 'n fawr. Fe allai y câr ef chwi
(1, 3) 620 Yn awr; ac weithiau nid oes unrhyw laid,
(1, 3) 621 Na thwyll, yn aflunieiddio rhinwedd ei
(1, 3) 622 Ewyllys; ond mae 'n gweddu i chwi ofni,
(1, 3) 623 Pan ddwys ystyriwn, yna diau ceir
(1, 3) 624 Nad yw'r ewyllys ddim yn eiddo'i hun;
(1, 3) 625 Can's rhwym i'w enedigaeth ydyw ef:
(1, 3) 626 Nas gall, fel dynion o iselach radd,
(1, 3) 627 Ddim dewis drosto 'i hun; can's ar ei ddoeth
(1, 3) 628 Ddewisiad y dibyna iechyd a
(1, 3) 629 Diogelwch yr holl deyrnas; felly rhaid
(1, 3) 630 I'w ddewis ynte'n ddarostyngol fod
(1, 3) 631 I lais a thuedd teulu i yr hwn
(1, 3) 632 Y mae yn ben; am hyny, os dywed ei
(1, 3) 633 Fod yn eich caru chwi, mae 'n gweddu i'ch
(1, 3) 634 Doethineb beidio 'i gredu, ond mor bell
(1, 3) 635 Ag y gall ef o ran ei uchel le,
(1, 3) 636 Wneud gair yn weithred, ond yn hyn nid aiff
(1, 3) 637 Ddim pellach nag yr ä llais Denmarc.
(1, 3) 638 Ystyriwch hyn, y golled fawr a fydd
(1, 3) 639 I'ch urddas teg, os a hygoelus glust,
(1, 3) 640 Gwrandewch ei gân, ac wed'yn golli eich
(1, 3) 641 Holl galon; neu eich diwair drysor roi 'n
(1, 3) 642 Agored i'w aflywodraethus nwyd.
(1, 3) 643 Ophelia, ofnwch—ofnwch, f' anwyl chwaer,
(1, 3) 644 Ymgedwch chwi tu cefn i'ch cynes serch
(1, 3) 645 O olwg holl beryglon nwyd a'i saeth,
(1, 3) 646 Mae 'r wyryf fwya' gwilgar yn dra ffol,
(1, 3) 647 Os dadorchuddia ei thegwch ger y lloer;
(1, 3) 648 Ni ddianc rhinwedd deg ei hunan rhag
(1, 3) 649 Ymosodiadau enllib: y cancr wna
(1, 3) 650 Ddirboeni 'n fynych, ieuanc blant y fron,
(1, 3) 651 Cyn bod, yn aml, fotwm ar eu gwisg;
(1, 3) 652 Ac yn moreuddydd, ac yn nhyner wlith
(1, 3) 653 Ieuenctyd, mae deifiadau llygrus yn
(1, 3) 654 Fygythiol i'r gradd eithaf. Yna bydd
(1, 3) 655 Ochelgar: mae y diogelwch mawr
(1, 3) 656 Mewn ofn yn gorwedd; canys mynych mae
(1, 3) 657 Yr ieuanc yn milwrio âg ef ei hun,
(1, 3) 658 Pryd na ddygwyddo arall fod gerllaw.
 
(1, 3) 666 Nac ofna ddim. 'R wy 'n aros yn rhy hir;—
(1, 3) 667 Ond wele yma mae fy nhad yn d'od.
 
(1, 3) 669 Mae bendith ddyblyg, yn ddauddyblyg ras;
(1, 3) 670 Achosa wenau wrth ro'i ail ffarwel.
 
(1, 3) 704 Tra gostyngedig y cymeraf fi;
(1, 3) 705 Fy nghenad, f' arglwydd.
 
(1, 3) 708 Ffarwel, Ophelia; cofiwch hyny 'n dda
(1, 3) 709 A ddywedais gyneu.
 
(1, 3) 712 Ffarwel.