Ciw-restr

Anne Frank

Llinellau gan Llais (Cyfanswm: 44)

 
(0, 1) 3 Mehefin 12, 1942.
(0, 1) 4 Rydw i'n gobeithio y galla i ymddiried y cyfan i ti gan nad ydw i erioed wedi gallu ymddiried yn neb o'r blaen, ac yn gobeithio y byddi di'n gefn ac yn gysur mawr i mi.
 
(0, 2) 50 Dydd Sadwrn, Gorffennaf 11, 1942.
(0, 2) 51 Dwi ddim yn meddwl y do' i byth i deimlo'n gartrefol yn y ty yma ond dydi hynny ddim yn golygu fy mod yn ei gasau.
(0, 2) 52 Mae fel bod ar wyliau mewn rhyw westy digon od.
(0, 2) 53 Efallai fod hynny'n ffordd ryfedd o edrych ar bethau, ond felly dwi'n teimlo.
(0, 2) 54 Mae'n le perffaith i guddio.
(0, 2) 55 Efallai ei fod yn damp a'r waliau'n gam, ond go brin fod yna guddfan fwy cyfforddus yn unman.
 
(0, 3) 162 Dydd Gwener, Tachwedd 20, 1942.
(0, 3) 163 Beth bynnag dwi'n ei neud, alla i ddim peidio a meddwl am y rhai sydd wedi mynd.
(0, 3) 164 Rydw i'n dal fy hun yn chwerthin ac yn cofio nad oes gen i hawl bod mor hapus.
(0, 3) 165 Ond a ddyliwn i dreulio'r diwrnod cyfan yn crio?
(0, 3) 166 Na, alla i ddim gneud hynny, ac mae'r tristwch hwn yn siwr o fynd heibio.
 
(0, 4) 221 Dydd Sadwrn, 30 Ionawr 1943
(0, 4) 222 Mae pawb yn meddwl mod i'n dangos fy hun pan fydda i'n siarad…yn ddiog pan ydw i'n flinedig, yn hunanol pan fyddai'n byta un tamaid yn fwy nag y dyliwn i…ac yn y blaen ac yn y blaen.
(0, 4) 223 Y cwbl ydw i'n ei glywed trwy'r dydd ydi mod i ddigon a gwylltio rhywun, ag er fy mod i'n ceisio chwerthin a chymryd arnaf beidio malio ─ rydw i yn malio.
(0, 4) 224 Rydw i'n gneud fy ngorau glas i bleisio pawb, mwy nag y mae neb yn ei sylweddoli.
 
(0, 5) 289 Dydd Gwener, Hydref 29 1943.
(0, 5) 290 Mae fy nerfau yn cael y gorau arna i, yn enwedig ar ddydd Sul; dyna pryd fydda i'n teimlo fwyaf digalon…
(0, 5) 291 Does na run aderyn i'w glywed tu allan…
(0, 5) 292 Ar adegau fel hyn, dydi Dad, Mam a Margot yn golygu dim i mi.
(0, 5) 293 Dwi'n crwydro o stafell i stafell, i fyny ac i lawr y grisiau, ac yn teimlo fel aderyn a'i adenydd wedi eu rhwygo ymaith…
(0, 5) 294 Mae llais y tu mewn i mi yn sgrechian, 'Gadewch fi allan lle mae awyr iach a chwerthin!'
(0, 5) 295 Fydda i ddim hyd yn oed yn trafferthu ateb bellach, dim ond gorwedd ar y gwely a chysgu er mwyn i'r amser, y tawelwch a'r arswyd dychrynllyd fynd heibio'n gynt, gan nad oes modd eu dileu.
 
(0, 6) 324 Dydd Gwener, Rhagfyr 24 1943.
(0, 6) 325 Mi fydda i'n meddwl weithiau os fydd na rywun yn fy nallt i byth.
(0, 6) 326 Be di'r ots os ydw i'n Iddewes neu beidio?
(0, 6) 327 Pam na allan nhw weld mai dim ond merch ifanc ydw i, a'r cwbl ydw i isio ydi mymryn o hwyl?
(0, 6) 328 Allwn i byth son am hyn hefo neb, neu mi fyddwn i'n siwr o grio.
(0, 6) 329 Mae crio yn gallu dwyn rhyddhad, ond i rywun beidio a gneud hynny ar ei ben ei hun.
 
(0, 7) 384 Dydd Sadwrn, Ionawr 22 1944.
(0, 7) 385 Pam y mae gan bobl cyn lleied o ffydd yn ei gilydd?
(0, 7) 386 Mi wn fod na reswm am hynny, ond mi fydda i'n meddwl weithiau ei fod o'n beth ofnadwy na elli di byth ymddiried yn neb, hyd yn oed y rhai agosaf atat ti.
 
(0, 8) 471 Dydd Sadwrn, Chwefror 12 1944.
(0, 8) 472 Mae'r haul yn disgleirio, yr awyr yn las dwfn, mae na awel fendigedig ac rydw i'n dyheu- yn dyheu yn wirioneddol ─ am bopeth; sgwrs, rhyddid, ffrindiau, bod ar fy mhen fy hun.
(0, 8) 473 Rydw i'n dyheu… am gael crio.
(0, 8) 474 Rydw i'n teimlo fel pe bawn i ar fin ffrwydro.
(0, 8) 475 Mi wn byddai crio o help, ond alla i ddim.
(0, 8) 476 Rydw i mewn stad o ddryswch llwyr, heb wybod be i ddarllen, beth i'w ysgrifennu, beth i'w neud.
(0, 8) 477 Y cyfan wn i ydi fy mod i'n dyheu am rywbeth.
 
(0, 17) 790 Mae'n gwbl amhosibl i mi allu adeiladu fy mywyd ar sylfaen o ddryswch, dioddefaint a marwolaeth.
(0, 17) 791 Rydw i'n gweld y byd yn cael ei drawsnewid yn anialwch fesul tipyn, rydw i'n clywed y taranu agos sy'n mynd i'n dinistrio ninnau hefyd, ryw ddydd a ddaw, rydw i'n teimlo dioddefaint miliynau.
(0, 17) 792 Ac eto, pan fydda i'n edrych i fyny ar yr awyr, rydw i'n teimlo rywfodd y bydd popeth yn newid er gwell, y daw terfyn ar y creulondeb hwn hefyd, ac y bydd heddwch a thangnefedd yn dychwelyd i'r byd unwaith eto.
(0, 17) 793 Yn y cyfamser, mae'n rhaid i mi ddal gafael ar y fy ngobeithion.