Ciw-restr

Macbeth

Llinellau gan Macbeth (Cyfanswm: 34)

 
(1, 3) 105 Ni welais i erioed ddydd mor arw ac mor deg.
 
(1, 3) 113 Lleferwch, os medrwch, pa beth ydych chwi?
 
(1, 3) 133 Arhoswch, â'ch geiriau dyrys.
(1, 3) 134 Dywedwch i mi ragor.
(1, 3) 135 Drwy farw Sinel, mi wn fy mod yn Arglwydd Glamis.
(1, 3) 136 Ond Arglwydd Cawdor?
(1, 3) 137 Y mae Pendefig Cawdor eto'n fyw, yn wrda ffyniannus; a bod yn frenin, ni saif hynny ddim y tu mewn i gylch pethau credadwy, mwy nag y saif fy nyfod i yn Arglwydd Cawdor.
(1, 3) 138 Dywedwch o ba le y mae'r wybodaeth ryfedd hon i chwi, neu baham, er y rhos melltigaid hwn, yr ydych yn ein hatal ar ein hynt â'r fath air darogan?
(1, 3) 139 Yr wyf yn eich tynghedu, lleferwch!
 
(1, 3) 143 I'r awyr, y mae'r hyn oedd megis sylwedd wedi toddi i'r gwynt.
(1, 3) 144 Drwg na baent wedi aros!
 
(1, 3) 146 Bydd eich plant chwi'n frenhinoedd.
 
(1, 3) 148 Ac yn Bendefig Cawdor hefyd, onidê?
 
(1, 3) 159 Y mae Arglwydd Cawdor eto'n fyw, paham yr ydych yn fy ngwisgo â dillad benthyg?
 
(1, 3) 163 Glamis ac Arglwydd Cawdor!
(1, 3) 164 Y mae'r peth mwyaf eto'n ôl.
 
(1, 3) 166 Diolch i chwi am eich trafferth.
 
(1, 3) 168 Onid ydych chwithau'n gobeithio y bydd eich plant yn frenhinoedd, am nad oedd y rhai a addawodd imi arglwyddiaeth Cawdor yn addo llai iddynt hwythau?
 
(1, 3) 173 Dyma ddywedyd y gair ddwywaith, fel rhyw rag-chwarae dymunol i chwarae mawr mater y frenhiniaeth.
(1, 3) 174 (Wrth y lleill.}
(1, 3) 175 Diolch i chwi, foneddigion.
 
(1, 3) 177 Ni ddichon y gwahoddiad goruchnaturiol hwn fod yn ddrwg nac yn dda; os drwg, paham y rhoes i mi ernes o lwyddiant, yn dechrau gyda'r gwir?
(1, 3) 178 Dyma fi yn Arglwydd Cawdor.
(1, 3) 179 Os da, paham yr wyf yn ildio i'r awgrym y mae ei lun erchyll yn codi gwallt fy mhen, ac yn peri i'm calon guro yn erbyn f'asennau, yn groes i arfer natur?
(1, 3) 180 Y mae ofnau presennol yn llai o beth na'r dychmygion arswydus y mae fy meddyliau innau, nad yw'r mwrdwr sydd ynddynt eto'n ddim ond rhyw ledrith, yn f'ysgwyd gymaint ynof fy hun fel dyn nes bod ofer dyb yn mygu gallu gweithred, a dim nid oes onid peth nad yw.
 
(1, 3) 183 Os myn siawns fy ngwneuthur i'n frenin, wela, coroned siawns fi heb i mi mo'r symud.
 
(1, 3) 186 Doed a ddêl.
(1, 3) 187 Bydd yr amser a'r awr yn rhedeg ar hyd y dydd garwaf.
 
(1, 3) 189 Maddeuwch i mi, yr oedd pethau anghofiedig, yn moedro f'ymennydd dwl!
(1, 3) 190 Garedig foneddigion, y mae eich poenau ar fy rhan i lawr lle bynnag y trof y ddalen beunydd i'w darllen.
(1, 3) 191 Awn tuag at y Brenin.
(1, 3) 192 Meddyliwch am y peth a ddigwyddodd, a phan gaffom amgen hamdden, gadawer i ni ymddiddan y naill a'r llall yn galon rydd.
 
(1, 3) 194 Digoned hyn hyd hynny.
(1, 3) 195 Dowch, gyfeillion.