Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Mam Pobun (Cyfanswm: 42)

 
(0, 3) 220 Fy mab, y mae'n llawen gennyf dy weled, canys mawr boen i'm calon yw na bydd gennyt nemor amser i ymddiddan â mi, gan faint dy brysurdeb gyda phethau'r byd.
 
(0, 3) 223 A ddoi di gyda mi ac aros gartref?
 
(0, 3) 225 Felly, ni ddigi di ddim wrthyf am dy gadw yn y fan yma.
 
(0, 3) 227 Am fy iechyd i nid rhaid iti mo'r poeni; yr wyf i eisoes ag un troed yn y bedd; nid oes arnaf i ddim pryder am fy iechyd yn y byd yma, ond yn hytrach am fy iechydwriaeth yn y byd tragywydd.
(0, 3) 228 Ai tynnu wyneb yr wyt ti, fy machgen i, pan fyddaf yn sôn am hynny?
(0, 3) 229 Ac a fyddai'n beth annymunol gennyt pe bawn i'n gofyn iti a yw d'enaid ti'n troi tuag at Dduw?
(0, 3) 230 Ai ymystwyrian a fynni di a cholli d'amynedd?
(0, 3) 231 Ai dewisach gennyt fod yn euog o bechod [yn hytrach na throi i mewn i ti dy hun o ddifrif a meddwl fel y dylit am dy Dduw?
(0, 3) 232 Ac eto, rhwng heddiw ac yfory, gallai ddyfod cennad oddi wrtho ef yn sydyn a'th alw ger bron Gorsedd ei farn Ef i roddi iddo Ef gyfrif clir o'th holl fywyd ar y ddaear.]
 
(0, 3) 235 [Yn rhywle arall y bydd y tywyllwch yn dew, ond clir a golau yw'r syniadau hyn.
(0, 3) 236 Y sawl a wnêl ddaioni yn ei ddydd, daw cadernid bryd i hwnnw, a bydd hwnnw orfoleddus yn awr angau, am y bydd iddo ef ddedwyddwch.
(0, 3) 237 O, y sawl a gofio yn ei galon bob amser am awr angau, am hwnnw nid rhaid i galon mam ddwyn na phryder na phoen.]
 
(0, 3) 239 Ond sut, pan gano utgorn y Farn, y gelli di roi cyfrif clir am dy holl olud i Dduw, fel y caffech naill ai marwolaeth ai bywyd yn dragywydd?
(0, 3) 240 Fy mab, peth drwg ydyw marw, a pheth gwaeth fyth yw llygredigaeth dragywydd.
 
(0, 3) 242 A fynni di guddio dy ben yn y tywod, ac oni weli di'r angau, a ddichon syrthio arnat un adeg?
 
(0, 3) 245 [Y mae bywyd yn llifo heibio fel dwfr, ac nid yn hawdd y try'r meddwl.]
 
(0, 3) 247 [Fy mab annwyl!]
 
(0, 3) 249 [Y mae f'ymddiddan yn ddiflas ddigon gennyt ac y mae hynny yn dyblu fy nhristwch innau.
(0, 3) 250 Fy mab annwyl, y mae rhywbeth yn dywedyd wrthyf na byddaf i ddim yn hir eto gyda thi, baich arnat eto, efallai, am ryw chydig bach, ac yna canu'n iach a mynd oddi yma; ond eto byddi di dy hun ar ôl yma, fy mhlentyn heb neb i'w gynghori.]
(0, 3) 251 Felly, gwrando un gair eto, rhag dy flino ag ymddiddan hir—cofia'r Arglwydd dy Dduw, a hefyd roddion mawr Ei ras; y saith sagrafen sanct, [o'r rhai y daw pob lles i ni a chymorth i'n gwendid bawb ohonom ym mhob modd, a nerth i ni at daith y bywyd hwn].
 
(0, 3) 253 Yr wyt yn ŵr golygus, a chariad gwragedd wrth dy fodd.
(0, 3) 254 [Ac oni roes ein Prynwr ni, a wybu bopeth ar y ddaear, ac a wnaeth bopeth er ein lles, oni osododd Ef Sagrafen sydd yn newid y peth a fynni di ac yn ei droi o fod yn chwant i fod yn lendid?]
(0, 3) 255 A fynni di fyth ymdrôi mewn chwant a bod yn ddieithr i gyflwr glân briodas?
 
(0, 3) 257 [Eto, ni throes dy galon di ddim.]
 
(0, 3) 259 [Ac eto, ag angau mor agos!]
 
(0, 3) 261 Felly rhaid i minnau fod fyth mewn pryder.
 
(0, 3) 263 Pwy a ŵyr pwy a'i gwêl?
 
(0, 3) 265 Fy mab annwyl, am y gair yna, boed fy mendith arnat; [llawer o ddiolch am dy glywed yn addef peth mor dda].
 
(0, 3) 267 [Cyhyd ag na bo'r ewyllys yn erbyn hynny, bydd calon mam yn fodlon iawn lle ni chaffer ond y gair lleiaf a fo da.
(0, 3) 268 Nid yw dy fwriad ond bychan a gwan eto, ond y mae'n tueddu at beth sanctaidd] ac y mae'r ateb hwn a roddaist yn tynnu baich trwm oddi ar fy nghalon i.
 
(0, 3) 270 Mi gaf, fy mab annwyl; ac y mae i mi fel pe bai sain mor fwyn â sain pib a thelyn i'w chlywed yn adseinio yn d'eiriau di!
(0, 3) 271 Ni bu'r dyddiau hyn heb arwyddion a gweledigaethau o'r fath i mi.
(0, 3) 272 Cymeraf hwy fel rhybudd y byddaf innau farw yn fuan iawn.
 
(0, 12) 1001 A ydym ni ynteu mor hwyr?
(0, 12) 1002 A ydyw'r offeren wedi dechrau eisoes?
(0, 12) 1003 Mi glywaf hefyd seiniau gogoneddus, fel pe bai'r angylion oll yn canu!
 
(0, 12) 1005 Yr wyf i'n ei glywed a gwn yn fy nghalon mai canu nefol yw, canant ger bron gorsedd Dduw.
(0, 12) 1006 Oblegid fy annwyl fab y canant, yr wyf yn teimlo bod ei enaid wedi ei iachâu yn yr awr dywyll hon o'r nos.
(0, 12) 1007 [Cymodwyd ef â'r Arglwydd Dduw, am hynny, marw a allaf innau yn ddedwydd a pharod.
(0, 12) 1008 Gwrandawyd ar fy ngweddi fawr,] a gwn fy mod yn mynd fy hun ger bron gorsedd fy Nghrewr, ac y caf yno fy mab annwyl.
(0, 12) 1009 Ar fyr y gollyngi dy wasanaethferch i mewn i'th lawenydd fry.
(0, 12) 1010 Amen.