|
|
|
|
(0, 9) 803 |
Ha, Pobun, pa beth sydd arnat ti? |
(0, 9) 804 |
Yr wyt yn frawychus yn dy frys, a chyn welwed â'r calch. |
|
|
(0, 9) 806 |
Nid adwaenost fy wyneb, ac eto, mynnit fy llusgo oddi yma gyda thi? |
(0, 9) 807 |
Dy gyfoeth wyf i, yn wir, dy arian, dy unig beth a'th bopeth yn y byd. |
|
|
(0, 9) 811 |
Beth bynnag fo rhaid, gellir gwneud hynny oll oddi yma, gwyddost yn dda faint fy ngalluoedd i. |
(0, 9) 812 |
Dywed pa beth sydd yn dy boeni, rhof innau gymorth i ti. |
|
|
(0, 9) 815 |
Oddi... |
|
|
(0, 9) 818 |
Ai felly y mae hi arnat? |
(0, 9) 819 |
Rhaid mynd oddi yma? |
(0, 9) 820 |
Ai ê? wela wir! nawdd iti! |
|
|
(0, 9) 822 |
Felly! |
(0, 9) 823 |
Daeth cennad ato i'w ddwyn i'r ochr draw. |
(0, 9) 824 |
Wela! bu hynny ar gryn frys. |
(0, 9) 825 |
Ni chlywais i erioed o'r blaen am alwad felly. |
|
|
(0, 9) 827 |
Dim un cam, 'rwy'n ddedwydd yma. |
|
|
(0, 9) 829 |
Eiddot ti? |
(0, 9) 830 |
Ha, paid â chodi chwerthin arnaf. |
|
|
(0, 9) 833 |
Aros, cymer ofal! |
(0, 9) 834 |
Nid yw dy lid yn ddim yn y byd i mi. |
(0, 9) 835 |
Gall fod pethau'n gwbl groes. |
(0, 9) 836 |
Myfi sydd fawr, tithau fel corrach. |
(0, 9) 837 |
Tydi'r bychan yw'r gwas, ac os buost yn meddwl mai fel arall y byddai, nid oedd hynny ond twyll ac ynfydrwydd. |
|
|
(0, 9) 839 |
A mi oedd yn llywodraethu yn d'enaid. |
|
|
(0, 9) 841 |
[A thithau'n dawnsio wrth fy nhennyn!] |
|
|
(0, 9) 843 |
Nage, mwnci-ar-ben-pric i mi oeddit ti. |
|
|
(0, 9) 845 |
[A minnau fy hun yn d'arwain dithau wrth dy drwyn.] |
(0, 9) 846 |
Y penbwl, yr ynfytyn na roes erioed mo'i fys yn y tân, y pen ffŵl, Pobun, dal sylw—yma yr arosaf i, ymha le y byddi di? |
(0, 9) 847 |
Pa beth bynnag a rown i yn dy ben, dyna fyddai d'amcan di—y rhwysg, yr ymddangosiad, y balchter a'r ymchwyddo, a rhyw chwant melltigaid, didoriad. |
|
|
(0, 9) 849 |
Myfi oedd yn cynhyrfu'r cwbl, a'r peth oedd hyd eto yn ei gadw ar ei draed, rhag iddo ddisgyn yn llipryn ar lawr a'i bedwar aelod ar led, a'r peth a'i deil eto a'i ben i fyny, nid yw ond ei arian a'i dda. |
|
|
(0, 9) 851 |
Hwn! o hwn y tardd egni dy fywyd i gyd, ond syrth yn ei ôl i'r coffr, a chyda hynny dyna ddiwedd ar dy ddedwyddwch. |
(0, 9) 852 |
Cyn hir fe byla dy synhwyrau ac ni'm gweli i byth mwy. |
(0, 9) 853 |
Nid oeddwn i ond benthyg dros dy ddyddiau ar y ddaear, ac nid af gyda thi mwy, nid af, yma yr arosaf, gan dy ado ar dy ben dy hun, yn gwbl noeth, yn dlawd a gofidus. |
(0, 9) 854 |
Ni thâl iti ddim oll daflu breichiau na rhincian dannedd, cei fynd i'r pridd yn noethlymyn groen, yn union fel y daethost o groth dy fam. |