| (1, 0) 162 | le, ma'm. |
| (1, 0) 163 | Mi aeth allan yn gynarach nag arfer heddyw, ac mi ddywedodd wrthyf y byddai yn ei hol yn union deg. |
| (1, 0) 164 | Fydd hi ddim yn arfer mynd allan mor gynnar. |
| (1, 0) 167 | Yr ydw i yn credu mai allan yr aeth yntau hefyd. |
| (1, 0) 168 | Ni ddywedodd o ddim wrthyf i ble'r oedd o yn mynd, dim ond peri i mi, os doe yma ryw wr bonheddig i holi amdano, ofyn i hwnnw fod mor garedig a galw eilwaith, neu ynte aros hyd nes y doe o yn ei ôl. |
| (1, 0) 173 | Ar unwaith, ma'm, wrth gwrs. |
| (1, 0) 183 | Dyna'r te, ma'm, os gwelwch yn dda. |
| (1, 0) 184 | Miss Joues |
| (1, 0) 186 | : O, diolch i chwi! |
| (1, 0) 188 | Dacw'r gloch, os bydd arnoch eisiau rhywbeth arall, ma'm. |
| (1, 0) 193 | Do, ma'm. |
| (1, 0) 194 | Rydw i hefo Mrs. Owen er pan ddaethon nhw i fyw i'r ty yma gyntaf. |
| (1, 0) 198 | O, ydw, ma'm, yn ddigon bodlon ar fy lle. |
| (1, 0) 199 | Mae Mrs. Owen yn garedig dros ben, yn gadael i mi fynd allan pan fynnwyf. |
| (1, 0) 200 | Ac y mae Mr. Owen mor garedig, mor ddigri a llawen bob amser─ni chefais i erioed air croes ganddo. |
| (1, 0) 201 | Wyddwn i ddim cyn dwad yma fod pobl 'run fath a nhw i'w cael. |
| (1, 0) 204 | Yn galed iawn ma'm. |
| (1, 0) 205 | Mae ganddo le i weithio, yn nhop y ty, stiwdio y mae o yn i alw. |
| (1, 0) 206 | Welsoch chi 'rioed y fath le─yn llawn o bob math o bethau. |
| (1, 0) 207 | Mae yno sgerbwd dyn─digon i roi braw i chi!─a lluniau o bob math; hen gleddyfau a dillad a llestri─fedra i ddim deyd wrthych, ma'm, gymaint o bethau sydd yno. |
| (1, 0) 208 | A dyna lle bydd o drwy'r dydd. |
| (1, 0) 209 | Mae o wedi paentio cannoedd o luniau o Mrs. Owen, mi gymraf fy llw, mewn pob math o ddillad, ac heb ddillad o gwbl, weithiau a'i gwallt i lawr, fel aur o'i chwmpas hi. |
| (1, 0) 210 | O! mae hi'n glws hefyd! |
| (1, 0) 211 | Ac y mae o wedi paentio fy llun innau yn fy nillad gwaith─'dydw i ddim yn deyd bod hwnnw yn glws, ond mae o yr un ffunud, welsoch chi 'rioed beth mor fyw ydi o─mi fasech yn disgwyl iddo siarad a chi. |
| (1, 0) 212 | Mae Mr. Owen yn deyd y ca i hunnw pan fydda i yn mynd i 'mhriodi, a'i fod o am wneud un arall i mi yn fy nillad goreu hefyd, ma'm. |
| (1, 0) 213 | Yn wir, mae o wedi dechreu eisoes, mi fyddaf yn gorfod eistedd iddo fo. |
| (1, 0) 217 | Deyd y bydd o, ma'm, y base'n llawer gwell iddo fod yn labrwr nag yn baentiwr. |
| (1, 0) 218 | Nid yw pobl yn leicio 'i baent o, medde fo─ond ni welais i ddim byd clysach erioed. |
| (1, 0) 220 | Wn i ddim, ond mi clywais o'n deyd y base fo'n gwneud yn llawer gwell 'tase fo wedi dysgu paentio â'i dafod. |
| (1, 0) 221 | Roeddwn i wedi synnu, achos wyddwn i ddim fod neb yn medru paentio â'u tafodau, ac mi ddywedais hynny wrtho. |
| (1, 0) 222 | "O, oes, Marged," medde fo, "mae'r paent yn fwy llyfn felly, a phobol yn ei leicio fo yn well, Ond, dda gen i ddim blas paent ar fy nhafod, dyna'r drwg," |
| (1, 0) 223 | Ac wedyn, dyma fo yn chwerthin, ac yn cydio am ganol Mrs. Owen, a gwneud iddi ddawnsio ar ganol y llawr yma. |
| (1, 0) 224 | O! un digri ydi o! |
| (1, 0) 228 | Wel, ma'm, y cytundeb oedd fy mod i gael y peth ofynnais i, ond, welwch chi, ma'm, o achos nad ydi pobol─y ffyliaid gwirion iddyn nhw─ddim yn leicio paent Mr. Owen, mae'n anodd iddo fo bob amser dalu yn i bryd. |
| (1, 0) 229 | Ond waeth gen i am hynny. |
| (1, 0) 230 | 'Rydw i yn cael pob peth fel hwythe yn union, ac os bydd arnaf eisie ychydig arian i rywbeth, mi caf nhw, ac ni fydd Mrs, Owen byth yn son amdanyn nhw wedyn, nac yn eu tynnu nhw o'r cyflog pan fydda i yn cael hwnnw chwaith. |
| (1, 0) 231 | Ac 'rydech chi'n gweld, ma'm, yr ydw inne yn leicio'r ffordd y mae nhw yn byw, a'r canu a'r dawnsio a'r chwerthin a'r pethe digri a'r pethe clws. |
| (1, 0) 232 | Hwyrach fy mod i yn wirion, ond mi fydde'n well gen i fod yma am ddim na chael cyflog mawr mewn rhai lleoedd y gwn i amdanynt, lle na chaiff rhywun barch mwy na phe tae o gi ac na welwch chi ddim byd clws ddydd mewn blwyddyn! |
| (1, 0) 241 | Wn i ar y ddaear beth i'w wneud ma'm, os maddeuwch i mi am ddwad atoch chi fel hyn. |
| (1, 0) 243 | Wel, mi ddaeth rhyw ddyn dieithr at y drws, a holi am Mr. Owen. |
| (1, 0) 244 | Dywedais innau nad oedd i mewn, a'i fod wedi peri i mi ofyn i rywun a allai alw i holi amdano fod cystal a galw eilwaith, neu ynte aros hyd nes doe o yn ei ôl. |
| (1, 0) 245 | Dyma'r dyn gofyn i mi a oedd yma biano yn y ty. |
| (1, 0) 246 | Dywedais innau fod, yn y rwm yma. |
| (1, 0) 247 | Daeth yntau at y drws yn syth, ond caeodd ef yn sydyn drachefn. |
| (1, 0) 248 | Ac y mae o yrwan yn sefyll yn y lobi, ac ni wn i ar y ddaear beth i'w wneud ag o, ma'm. |
| (1, 0) 250 | Wel, oes, ma'm, ond, nid oes─'rydym ar ganol glanhau, fel tae, ac y maent yn o annhrefnus, felly, i gyd ond hon, ma'm. |
| (1, 0) 252 | Diolch yn fawr i chi, ma'm. |
| (1, 0) 346 | Maddeuwch i mi ma'm. |
| (1, 0) 347 | Mae rhyw ddynion wrth y drws yn holi am─am─am ryw Mr. Morgan─ |
| (1, 0) 356 | Wel, ma'm. |
| (1, 0) 359 | le ma'm, wrth gwrs─debyg iawn─mewn ffordd o siarad─fel tae─ |
| (1, 0) 362 | Do, ma'm─o leiaf, felly y deallais i─ |
| (1, 0) 364 | Dau ddyn, ma'm, yn holi am Mr. Morgan. |
| (1, 0) 367 | Wel, ma'm, fel tae─mi welwch─hynny ydi, ma'm─mae'n rhaid i mi ddeyd, mae'n debyg. |
| (1, 0) 368 | Deyd yr oedden nhw, ma'm, eu bod wedi dwad, ma'm, i nôl y piano, ma'm, os gwelwch yn dda. |
| (1, 0) 372 | Diolch i chi, ma'm. |