| (1, 1) 110 | Halo! Mavis! Ble ry chi os! |
| (1, 1) 113 | P'am! Beth sy'n bod? |
| (1, 1) 126 | Dir! Gwelwch fel mae'r babi yn enjoyo'ch clywed chi'n canu, Mavis! |
| (1, 1) 127 | Mae e'n edrych fel pe licse fe ganu gyda chi, yr un bach anwyl, shwd ag yw e! |
| (1, 1) 128 | Ond does dim shwd gantwraig a chi, Mavis, yn y wlad yma. |
| (1, 1) 130 | Hen wraig wir! |
| (1, 1) 131 | Dy chi ddim ond croten, ond croten yn canu yn gwmws fel angel. |
| (1, 1) 135 | Hanner cant o blismen dierth! |
| (1, 1) 139 | Glywsoch chi ddim! |
| (1, 1) 140 | O achos y streic! |
| (1, 1) 143 | Nag oes, eitha gwir! |
| (1, 1) 144 | Ond mae nhw'n gweyd fod Symonds, y manager, wedi persuado Mr Wynn i hala i mo'yn lot o blismen a gwyr ceffylau rhag ofn i'r bechgyn ar streic wneud niwed i'r gwaith |
| (1, 1) 146 | Fe allawn feddwl hynny wir! |
| (1, 1) 147 | Fe wnaiff Gruffydd Elias fwy ei hunan i gadw'r bechgyn yn dawel nag a wnaiff cant o blismen Bendith ar ei ben e! |
| (1, 1) 149 | Tae chi'n ei nabod e fel fi fe fysech chithau'n ei addoli e hefyd. |
| (1, 1) 150 | Rwy'n meddwl weithiau mai rhyw un tebyg i Gruffydd Elias oedd Iesu Grist! |
| (1, 1) 154 | Na gwrandewch chi arna'i Mavis fach! |
| (1, 1) 155 | Ry chi'n cofio i fì gladdu'r gwr, William Huw, yr haf diweddaf. |
| (1, 1) 156 | Doedd gen i neb i ennill tamaid o fara i'r plant bach yco, ond William bach, a doedd ei gyflog e, fel gwyddoch chi, ddim yn fawr. |
| (1, 1) 157 | Ond fe ymdopson nes i'r streic yma ddod. |
| (1, 1) 158 | Dim ond shar crwt oedd William bach yn gael o arian y streic, wrth gwrs—a doedd hynny ddim digon i gadw bara yn y ty chwaethach dim rhagor. |
| (1, 1) 162 | Fe wn hynny, merch fach i! |
| (1, 1) 163 | Ond fues i erioed yn cardota, a alla i ddim dechreu 'nawr. |
| (1, 1) 164 | Ond ta beth, fe ethon i'r gwely un noswaith, y plant a finnau, heb ddim tamaid o ddim byd oddiar amser cinio. |
| (1, 1) 165 | Wel fe weddiais i'r noswaith honno fel nw weddiais i erioed o'r blaen! |
| (1, 1) 166 | Wyddoch chi ddim, Mavis fach, beth yw teimlad mam yn gwel'd ei phlant bach yn dioddef eisieu bwyd! |
| (1, 1) 167 | Ond ar ol gweddio, fe dawelodd fy nghalon, a fe es i'r gwely a fe gysgais drwy'r nos. |
| (1, 1) 168 | Bore tranoeth roedd Mari fach yn chwilio am rywbeth ar ffenest y gegin, a dyma hi'n gwaeddi: |
| (1, 1) 169 | "Mam fach! dyma bapur ar y ffenest a'i lond e o arian!" Ac erbyn edrych dyna beth oedd e hefyd. |
| (1, 1) 170 | 'Roedd yno dwll bach yn nghornel y ffenest, a rhyw un wedi saco papur a chwpl o sylltau ynddo fe mewn yn y nos. |
| (1, 1) 173 | Wel, rown i'n meddwl am y gigfran yn porthi Elias, ac fe ddwedais wrth y plant mai Duw oedd wedi danfon ei angel i'n porthi ninnau pan ar newynu! |
| (1, 1) 174 | Ond fe dd'gwyddws yr un peth wed'yn y pythefnos diweddaf yma, a hynny bob tro pan bysen ni wedi mynd heb ddim tamaid o fara yn y ty. |
| (1, 1) 175 | A rown i'n meddwl am y wraig weddw a'r phiol olew a'r blawd yn y celwrn, ac yn ceisio meddwl pwy oedd y prophwyd santaidd oedd yn bendithio ffenest y gegin i fi a'r plant bach. |
| (1, 1) 176 | A rown i a'r plant yn siarad yn aml licsen ni wel'd angel yr Arglwydd oedd mor garedig ini. |
| (1, 1) 178 | Wel, neithiwr ddiwetha, doedd dim o Sioned fach yn dda iawn, ac fe godais wedi canol nos rywbryd i fynd lawr i'r gegin i mo'yn cwpaned o ddwr iddi. |
| (1, 1) 179 | Fe etho heb un ganwyll, waeth fe wyddwn ble i roi fy llaw ar y cwpan a'r dwr. |
| (1, 1) 180 | A chyda mod i'n cyrraedd godre'r stair, gwelwn law rhywun yn gwthio papur mewn drwy'r twll yn y ffenest. |
| (1, 1) 181 | "Dyna'r angel does dim dowt!" myntwn i wrthyf fy hun. |
| (1, 1) 182 | 'Roedd hi'n oleu leuad fel y dydd, ac fe welais ar unwaith nag oedd dim adenydd gan yr angel, ta beth. |
| (1, 1) 183 | A mlaen a fi'n ddistaw bach i edrych drwy'r ffenest ar yr angel yn mynd ar hyd y llwybr, a phan gyrhaeddodd e gat fach yr ardd, fe drows eì wyneb nes oedd goleuni'r lleuad yn taro arno fe, a fe welais oleuni'r nefoedd, a thrugaredd, a Duw yn llewyrchu ar ei wyneb gwyn e—a phwy oedd e ond Gruffydd Elias! |
| (1, 1) 187 | Ie. Fe oedd e. |
| (1, 1) 188 | Yn rhanu ei damaid bach ei hunan rhwng y weddw a'r amddifad! |
| (1, 1) 189 | A bore heddy gwnes ryw esgus i fynd draw at Shani, lle mae e'n lodjo, a fe ddwedodd Shani wrthyf ei bod hi'n siwr fod Gruffydd Elias yn hanner starvo ei hunan, nag oes gydag e ddim hanner digon o fwyd i gynnal dyn yn reit. |
| (1, 1) 190 | A rhoi ei fwyd mae e, welwch chi, i fi a rhai fel fi, sydd heb ddim i'w gael, ac yn gwneyd hynny'n ddistaw bach, heb neb yn cael gwybod gydag ef. |
| (1, 1) 192 | Ry chi'n gwel'd nawr pa'm rw i'n dweyd mod i'n meddwl fod Iesu Grist yn debyg i beth oedd gwyneb Gruffydd Elias neithwr. |
| (1, 1) 196 | A dyna'r dyn mae'n rhaid cael hanner cant o blismen i'w gadw e rhag gwneud drwg! |
| (1, 1) 200 | Ody! ody! |
| (1, 1) 201 | Dyna'r hen air: |
| (1, 1) 202 | "Hir yr erys Duw cyn taro, |
| (1, 1) 203 | Llwyr y dial pan y delo!" |
| (1, 1) 204 | Ond peidwch a becso am y babi. |
| (1, 1) 205 | Gwaith dannedd sy' arno fe'r un bach. |
| (1, 1) 206 | 'Rwy'n mynd nawr i gael clywed yr hanes. |
| (1, 1) 207 | 'Roedd Gruffydd Elias a rhai o'r dynion i gael siarad a Mr Wynn a Symonds heddy i gael treio setlo. |
| (1, 1) 208 | Fe ddo i nol maes law. |