| (1, 13) 651 | Mrs. Jones? |
| (1, 13) 654 | 'Wedodd e mai fan hyn fyddech chi, fwy na thebyg. |
| (1, 13) 657 | Popeth yn iawn. |
| (1, 13) 661 | Weles i e neithiwr – ryw awr fach. |
| (1, 13) 673 | Odi. |
| (1, 13) 682 | Na. |
| (1, 13) 683 | Mae e'n gw'bod hynny. |
| (1, 13) 688 | Ma' sôn wedi bod bod Elgan yn dod gatre. |
| (1, 13) 689 | Odi e wedi gweud 'ny wrthoch chi? |
| (1, 13) 691 | I weithio ar y ffarm, ma' nhw'n gweud. |
| (1, 13) 692 | Bydd raid i un o'r gweision fynd wedyn a ma' Ifan-John yn meddwl ma... |
| (1, 13) 698 | Nagoes. |
| (1, 13) 699 | Ond dyna beth ma' nhw'n gweud bydd lot sydd wedi mynd bant i'r coleg a pethe'n 'neud os daw hi'n fater o gonsgripsiwn. |
| (1, 13) 700 | Dod gatre i weithio ar y tir. |
| (1, 13) 701 | Fyddan nhw'n saff wedyn, on-fyddan-nhw. |
| (1, 13) 704 | Y Gerlan? |
| (1, 13) 709 | Odw. |
| (1, 13) 710 | Odw – ar y cyfan. |
| (1, 13) 719 | Na. |
| (1, 13) 720 | Dim dylanwad. |
| (1, 13) 722 | Na. |
| (1, 13) 723 | Dwi ddim yn credu. |
| (1, 13) 724 | Ddim ar y foment, beth bynnag. |
| (1, 13) 727 | Mae'n debyg. |
| (1, 13) 729 | Dwi'n gw'bod. |
| (1, 13) 731 | 'Na fe. |
| (1, 13) 732 | Fyddan nhw'n gwmni i'w gilydd. |
| (2, 6) 1172 | I le'r wyt ti'n myned, fy machgen ffein i? |
| (2, 6) 1173 | 'Myned i ryfel yr wyf' mynte'n hy; |
| (2, 6) 1174 | O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' |
| (2, 6) 1175 | Draw dros grib y mynydd, aeth gyda'r llu. |
| (2, 6) 1176 | ~ |
| (2, 6) 1177 | Pam wyt ti'n myned, fy machgen ffein i? |
| (2, 6) 1178 | 'I brofi beth s'da bywyd i gynnig'mynte'n hy; |
| (2, 6) 1179 | O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' |
| (2, 6) 1180 | Bant i gael ei hyfforddi aeth gyda'r llu. |
| (2, 6) 1181 | ~ |
| (2, 6) 1182 | Am faint fyddi yno, fy machgen ffein i? |
| (2, 6) 1183 | 'Fydda'i nôl erbyn 'dolig sdim dowt' mynte'n hy; |
| (2, 6) 1184 | O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' |
| (2, 6) 1185 | I wersyll 'mherfedd Lloeger aeth gyda'r llu. |
| (2, 6) 1186 | ~ |
| (2, 6) 1187 | A gofi di amdana'i, fy machgen ffein i? |
| (2, 6) 1188 | 'Mi sgwenna'i yn ffyddlon bob wythnos' mynte'n hy; |
| (2, 6) 1189 | O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' |
| (2, 6) 1190 | Draw dros y moroedd aeth gyda'r llu. |
| (2, 6) 1191 | ~ |
| (2, 6) 1192 | Ddôi di nôl yn gyfan, fy machgen ffein i? |
| (2, 6) 1193 | 'Dwi'n iach ac yn effro a chydnerth' mynte'n hy; |
| (2, 6) 1194 | O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' |
| (2, 6) 1195 | Ymhell, mor bell o gartre sydd gyda'r llu. |
| (2, 7) 1203 | Lady Pryce yn Nanteos. |
| (2, 7) 1204 | Soirée, fel ma' nhw'n gweud. |
| (2, 7) 1206 | Hi 'wedodd wrtho'i. |
| (2, 7) 1209 | Os nagych chi ise 'nghwmni i... |
| (2, 7) 1211 | Dwi ddim yn credu mai fi sy'n groen-denau. |
| (2, 7) 1217 | O! |
| (2, 7) 1218 | Ma' rhywbeth bach o'r gegin gen' i fan hyn i chi. |
| (2, 7) 1219 | Cigach. |
| (2, 7) 1221 | Nage. |
| (2, 7) 1222 | Fi ddaeth ag e. |
| (2, 7) 1223 | Briwsion casgles i pnawn 'ma tra'r oedd Peggy'n cael napyn bach. |
| (2, 7) 1226 | Fydden i ddim ise chwaith. |
| (2, 7) 1231 | Dwyn? |
| (2, 7) 1232 | I'r cŵn fydde hwnna'n mynd. |
| (2, 7) 1233 | Gormod o frasder. |
| (2, 7) 1237 | Peidiwch chi a dweud dim – 'rholl siarsio i chi wedi gwneud ar Ifan-John i gadw'i gapan yn strêt efo Morris Penrallt a'r Plas! |
| (2, 7) 1239 | Oes. |
| (2, 7) 1240 | Gwneud yn siŵr fod cenhedlaeth y'ch mab a finne yr un mor daeog a'ch cenhedlaeth chi. |
| (2, 7) 1248 | Y rhyfel, chi'n feddwl. |
| (2, 7) 1254 | A fi, Mrs. Jones. |
| (2, 7) 1256 | Dwi'n mynd. |
| (2, 7) 1257 | 'Madael. |
| (2, 7) 1259 | Ow'n i wedi bwriadu gweud wythnos ddiwetha', ond... |
| (2, 7) 1266 | Oes. |
| (2, 7) 1277 | Birmingham. |
| (2, 7) 1282 | Na. |
| (2, 7) 1286 | Ysbyty. |
| (2, 7) 1288 | Y Southern General. |
| (2, 7) 1289 | Ble ma' nhw'n dod a'r milwyr. |
| (2, 7) 1292 | Os bydd e'n lwcus. |
| (2, 7) 1295 | Mrs. Jones... |
| (2, 7) 1300 | I ddechrau – siŵr o fod. |
| (2, 7) 1301 | Ond, wel... |
| (2, 7) 1303 | Dwi ise bod yn nyrs – yn y pen draw. |
| (2, 7) 1307 | 'Sdim ots am bethe felna - ond bo' ni'n gallu 'neud – fodlon 'neud - popeth sydd i 'neud. |
| (2, 7) 1310 | Mrs. Jones? |
| (2, 7) 1314 | Naddo. |
| (2, 7) 1315 | Neb. |
| (2, 7) 1317 | Odw. |
| (2, 7) 1318 | Dwi wedi trefnu popeth. |
| (2, 7) 1321 | Dim, hyd-yn-hyn. |
| (2, 7) 1324 | Dyw e ddim yn gw'bod. |
| (2, 7) 1328 | Oes-e? |
| (2, 7) 1331 | Mae e'n sgwennu atoch chi bob wythnos? |
| (2, 7) 1332 | O hyd? |
| (2, 7) 1334 | Os na ddaw rhywbeth gyda'r post fory fydd deufis wedi mynd ers ges i'r llythyr diwetha'. |
| (2, 7) 1336 | Deufis. |
| (2, 7) 1340 | Ie, wel – doedd hynny ddim yn wir. |
| (2, 7) 1343 | Y'ch bai chi. |
| (2, 7) 1344 | Chi a'ch breuddwyd. |
| (2, 7) 1347 | Ifan-John a fi a'r ffarm fach gysurus. |
| (2, 7) 1348 | Dedwydd. |
| (2, 7) 1349 | Y'ch dedwyddwch chi. |
| (2, 7) 1350 | A'n un i hefyd, falle. |
| (2, 7) 1351 | Ond dim Ifan-John. |
| (2, 7) 1352 | Mae hynny'n ddigon amlwg 'wan. |
| (2, 7) 1353 | Odi. |
| (2, 7) 1354 | Ddigon amlwg. |
| (2, 7) 1359 | Ie? |