| (1, 0) 104 | Shwt ych-chi 'ma heno? |
| (1, 0) 112 | 'D yw Mrs. Evans, Ty-capal, ddim wedi cynnu tamad o dân yn y vestry, na gola chwaith, ag on ni'n meddwl, os nag os gwaniath gita chi, y celsa-ni gynnal y pwyllgor yma. |
| (1, 0) 127 | Pwy ishai chi gynnu tân yn y rwm genol sy? |
| (1, 0) 128 | Fe fyddwn ni yn itha cysurus man hyn. |
| (1, 0) 145 | 'R wy'n eilio'r cynyciad. |
| (1, 0) 167 | Galwch hi i gownt, Malachi, galwch hi i gownt; chi yw'r cadeirydd. |
| (1, 0) 168 | Ordor Mrs. Williams! |
| (1, 0) 179 | Ia, ia, Malachi, trio'ch helpu chi ôdd hi. |
| (1, 0) 180 | Dewch nawr, pitwch a pwti. |
| (1, 0) 181 | Dyw Mrs. Williams ddim wedi arfadd bod mewn pwyllgor, ond ar ol iddi ddod yn fwy cyfarwydd, fe all fod o help mawr i ni. |
| (1, 0) 182 | (Yn troi at MARI). |
| (1, 0) 183 | Chi'n gweld, Mrs. Williams, os byddwch chi yn cydweld â'r hyn ma'r sharatwr yn wêd, raid i chi waeddu "Clywch, clywch"—ma hynny yn g'londid mawr iddo-fa. |
| (1, 0) 186 | Dewch mlan, Malachi, dechreuwch eto. |
| (1, 0) 191 | Ond ych helpu chi ma-hi; cerwch mlan, wr. |
| (1, 0) 196 | Ordor, ordor. |
| (1, 0) 208 | Wel, os na phenderfynws yr eclws, fe fuws sharad ymhlith y brotyr. |
| (1, 0) 219 | Ordor, ordor. |
| (1, 0) 232 | Cerwch mlan Jacob. |
| (1, 0) 274 | Ma gen-i welliant. |
| (1, 0) 275 | 'R wy-i'n cynnyg yn bod ni'n cal consart. |
| (1, 0) 307 | O ble 'r ych-chi yn gallu gwêd 'na? |
| (1, 0) 316 | 'D yn-ni ariod wedi cal unrhyw gymwynas oddiwrth aelota Salam. |
| (1, 0) 321 | 'R yn-ni yn fwy tebyg o nithir ffwliad o aelota Salam o beth dychrynllyd. |
| (1, 0) 335 | Ho! 'r hen ganu, iefa? |
| (1, 0) 336 | 'R ych chi, Obadiah, wedi mynd yn getyn o slebyn oddiar enillsoch chi'r wobor 'na yn y |Penny Readings|. |
| (1, 0) 354 | Ordor, ordor. |
| (1, 0) 378 | Y peth cynta sy gita ni gofio pan yn dewish y prif-ddarn yw bod y byd-cerddorol yn symud ymlan. |
| (1, 0) 379 | Pob parch i'r "Blodeuyn bach" a phetha o'r fath, ond os yn-ni am ddangos yn bod ni yn y |front| gita cherddoriaeth, raid i ni ddewish dernyn |classical|. |
| (1, 0) 382 | Os ych-chi, Obadiah, yn cretu y gallwch chi guddio'ch hanwybotath wrth wherthin, 'd ych-chi'n twyllo neb. |
| (1, 0) 383 | Ma isha rwpath mwy na |phitchfork|, cofiwch, i nithir cerddor. |
| (1, 0) 388 | |Classical|, dernyn |classical|. |
| (1, 0) 392 | Wel, nawr ta, i fi gal sponio. |
| (1, 0) 393 | Ffordd galla-i ddangos i chi nawr, dernyn |classical|—dernyn—na, ddaw hi ddim felna chwaith. |
| (1, 0) 394 | Dernyn—miwn ffordd o wilia—dernyn—chi'n gweld, ma-hi fel hyn yn gwmws os nag ych chi'n gyfarwdd iawn â cherddoriath, yn enwetig yr hen nodiant, 'd ôs dim shwt beth a'ch doti chi i ddeall beth yw |classical|. |
| (1, 0) 399 | Wel, dyna'r dernyn ôdd ar ym meddwl i, "Worthy is the Lamb." |
| (1, 0) 401 | Ia, Sisnag yw-a. |
| (1, 0) 402 | Atnod o'r Scrythur yw'r geira. |
| (1, 0) 405 | Wel, ma'n raid cyfadda, 'dyw-hi ddim 'r un peth. |
| (1, 0) 429 | 'D os dim cerddoriath |glassical| i gal yn Gwmrag. |
| (1, 0) 432 | Ma'n ddrwg gen-i fynd yn ych herbyn chi, ond fel cerddor ma'n rhaid i fi fod yn gydwybotol. |
| (1, 0) 433 | 'R wy-i'n cynnyg "Worthy is the Lamb." |
| (1, 0) 437 | Mannars, Obadiah, mannars os gwelwch chi'n dda. |
| (1, 0) 440 | Os nagw-i yn cal ym ffordd gita'r gerddoriath, dyma fi'n mynd sha thre. |
| (1, 0) 495 | Ordor, ordor. |
| (1, 0) 503 | Ma-fa'n wilia'n gwmws fe tsa fa wedi llyncu dicshnari. |
| (1, 0) 507 | Orgraff—O, ffordd smala o spelian y Gwmrag. |
| (1, 0) 509 | |Chair|, |chair|. |
| (1, 0) 525 | Dyna ryw synnwyr nawr. |
| (1, 0) 545 | 'R wy-i'n cretu mod i yn 'i ddiall-a wath ma'r hen grotyn 'na sy gen i yn clepran petha tepyg amball waith. |
| (1, 0) 546 | A nawr, er mwyn i ni ddangos yn bod ni yn ddynon gwybotus a diwyllietic, yn diall ysbryd yr ôs—er mwyn i ni gal testun |realistic|, ac er mwyn pleso Obadiah, 'rwy-i'n cynnyg gwobor o gini am yr awdl ora ar "Dwlc Mochyn." |
| (1, 0) 564 | Ma fa lawar gwath. |
| (1, 0) 572 | Clywch, clywch. |
| (1, 0) 577 | Nid 'steddfod |spite| fydd hi. |
| (1, 0) 578 | Ma gita ni gystlad hawl a nhw i gynnal 'steddfod ar ddydd Calan. |
| (1, 0) 606 | Malachi! |