| (1, 1) 5 | Does gen i gynnyg i'r hen Symonds yna, ys wedi dod yn |fanager| gwaith Mr Wynn. |
| (1, 1) 6 | Rwy'n siwr mai hen greadur twyllodrus yw e, ac mai hen un cas yw e hefyd! |
| (1, 1) 7 | Fuaswn i byth yn esmwyth fy meddwt tae William dano fe. |
| (1, 1) 8 | Y lwc fwya yn y byd oedd i William gael cynnyg ar y lle yna yn offis Mr Davies. |
| (1, 1) 9 | Fe fydda i'n esmwyth fy meddwl nawr am William, ta beth! |
| (1, 1) 10 | A does dim ond mis eto cyn bydd William a finnau wedi priodi! |
| (1, 1) 11 | Dim ond mis! |
| (1, 1) 12 | Rwy'n ofni bydd rhaid i fi roi'r canu heibio wed'yn. |
| (1, 1) 13 | Rwy'n gwybod nad yw William yn leicio mod i'n mynd ar gerdded cymaint i ganu. |
| (1, 1) 14 | A leiciwn i ddim er y byd i wneud dim i siomi William. |
| (1, 1) 15 | Ond fe gaf ganu gartref, a digon o achos canu rwy'n siwr. |
| (1, 1) 17 | Canu, canu, canu, |
| (1, 1) 18 | Y mae'r aderyn pur: |
| (1, 1) 19 | Canu, canu, canu, |
| (1, 1) 20 | Y mae fy nghalon wir. |
| (1, 1) 21 | Canu mae'r aderyn, |
| (1, 1) 22 | Wrth gofio'i gydmar cu; |
| (1, 1) 23 | Canu mae fy nghalon, |
| (1, 1) 24 | Wrth gofio'th gusan di! |
| (1, 1) 28 | William anwyl! |
| (1, 1) 32 | Chi, Mr Symonds, sydd yna! |
| (1, 1) 33 | Rwy'n synnu atoch! |
| (1, 1) 35 | A ry chi'n galwch hunan yn foneddwr! |
| (1, 1) 36 | Does dim gweithiwr yn Nghymru na fuase'n teimlo'i hunan yn ormod o wr bonheddig i insulto merch dd'amddiffyn! |
| (1, 1) 41 | A dyma beth yw gyniad Sais am fod yn foneddwr! |
| (1, 1) 42 | Insulto merched ifanc ar yr heol. |
| (1, 1) 48 | Ry chi'n lwcus nad oes un o'r gweithwyr yr ydych chi'n edrych lawr arnyn' nhw yma nawr, neu fe gawsech wel'd! |
| (1, 1) 56 | Help! |
| (1, 1) 61 | Gruffydd Elias anwyl! |
| (1, 1) 83 | Fe allswn feddwl hynny, wir! |
| (1, 1) 98 | A nawr dyma'r streic wedi bod am chwech wythnos yn ngwaith Mr Wynn! |
| (1, 1) 99 | Diolch byth na arhosodd William yn yr offis yno o dan Symonds! |
| (1, 1) 100 | Mae lle William yn saff o dan Mr Davies yn ngwaith y Glyn, neu wn i ddm beth wnelawn i! |
| (1, 1) 101 | Oh! hen greadur cas yw'r hen Symonds yna! |
| (1, 1) 102 | Mae nhw'n dweyd mai fe yw achos y drwg i gyd yn nglŷn a'r streic yma. |
| (1, 1) 103 | Rwy'n methu deall shwd mae Mr Wynn, ac yntau'n gystal gwr bonheddig ei hunan, yn rhoi cymaint o'i ffordd i greadur fel yr hen Symonds yna. |
| (1, 1) 106 | Dyco'r babi'n llefain! |
| (1, 1) 107 | Dyw e ddim hanner 8 iach, yr un bach at wyl ag e! |
| (1, 1) 112 | Mae'n dda gen i eich gwel'd chi, fenyw! |
| (1, 1) 114 | Dyw'r babi ddim hanner iach gen i. |
| (1, 1) 115 | Dyna! dyna! Paid ti llefain y nghariad bach i. |
| (1, 1) 116 | Dyma mami'n canu i ti. |
| (1, 1) 118 | Myfi sy'n magu'r baban, |
| (1, 1) 119 | Myfi sydd yn siglo'r cryd, |
| (1, 1) 120 | Myfi sy'n hwian hwian, |
| (1, 1) 121 | Ac yn hwian hwy o hyd. |
| (1, 1) 122 | Bu'n crio bore heddyw |
| (1, 1) 123 | O hanner y nos tan dri, |
| (1, 1) 124 | Ond fi sy'n colli'm cysgu, |
| (1, 1) 125 | Mae'r gofal i gyd arnaf fi. |
| (1, 1) 132 | Hush! Beth sy'na, gwedwch? |
| (1, 1) 136 | Plismen dierth! |
| (1, 1) 137 | Hawyr bach! |
| (1, 1) 138 | Beth mae nhw'n wneud a phlismen yma! |
| (1, 1) 141 | Ond beth mae plismen yn wneud a'r streic! |
| (1, 1) 142 | Does yma ddim |rows|! |
| (1, 1) 145 | Dyna gywilydd, ontefe! |
| (1, 1) 148 | Ry chi'n hanner addoli Gruffydd Elias, rwy'n credu! |
| (1, 1) 151 | Mari! Mari! |
| (1, 1) 152 | Ody chi'n ystyried beth ry chi'n ddweyd! |
| (1, 1) 153 | Ymswynwch! |
| (1, 1) 160 | Pa'm ne fuasech yo dod yma ata i! |
| (1, 1) 161 | Fe gesech dorth bryd mynsech chi, a'ch greso! |
| (1, 1) 171 | Oh! Mari! |
| (1, 1) 172 | Rhyw un caredig oedd e! |
| (1, 1) 185 | Oh! Mari fach! |
| (1, 1) 186 | A fe oedd e! |
| (1, 1) 193 | Odw! odw! |
| (1, 1) 194 | Rwy'n deall! |
| (1, 1) 195 | Duw a'i fendithio! |
| (1, 1) 197 | Ie! Onid yw e'n gywilydd! |
| (1, 1) 198 | Ond gwaith yr hen Symonds y felldith yna yw'r cwbwl! |
| (1, 1) 199 | Ond mae Duw yn siwr o ddial arno cyn hir. |