| (1, 1) 216 | Cob Malltraeth. |
| (1, 1) 218 | Peidwch â gada'l imi'ch styrbio chi. |
| (1, 1) 222 | Chi pia'r...? |
| (1, 1) 229 | Tomi. |
| (1, 1) 232 | Ia. |
| (1, 1) 234 | Ia. |
| (1, 1) 236 | Ar hyn o bryd beth bynnag. |
| (1, 1) 238 | Pam 'dach chi'n deud hynna? |
| (1, 1) 240 | Oes, ma' siŵr. |
| (1, 1) 247 | Be'n union dach chi'n 'neud allan yn fanna? |
| (1, 1) 250 | Y ffrwd 'na sy 'di gorlifo? |
| (1, 1) 253 | Dolig? |
| (1, 1) 257 | I be? |
| (1, 1) 267 | E'lla bod nelo fo rwbath â'r gwerthu. |
| (1, 1) 269 | Rhyw betha fel hyn yn codi gwerth llefydd, tydyn? |
| (1, 1) 271 | Ond mae o'n beth hurt ar y naw i' ga'l, a chitha'n gwynebu'r môr, tydi? |
| (1, 1) 272 | Rhwbath yn chwithig mewn ca'l llyn a môr yn yr un llun o flaen ych llygad chi... |
| (1, 1) 273 | Neb adra 'lly? |
| (1, 1) 275 | Lle ma' hi? |
| (1, 1) 277 | Ydi 'mrawd wedi cyrraedd? |
| (1, 1) 280 | Wel caf, caf? |
| (1, 1) 286 | Gin bwy? |
| (1, 1) 301 | Pam na fasach chi wedi mynd? |
| (1, 1) 317 | Nac 'dw, ond gweithio'n yr un maes. |
| (1, 1) 319 | Geneteg. |
| (1, 1) 321 | 'Dach chi wedi clywad am y petha 'ma felly? |
| (1, 1) 326 | Wel, ia. |
| (1, 1) 336 | Claire?... |
| (1, 1) 337 | Meilir... |
| (1, 1) 338 | Are you teaching?... |
| (1, 1) 339 | Just ringing to tell you I've arrived... |
| (1, 1) 340 | Tonight... |
| (1, 1) 341 | I don't think it's much of a do. |
| (1, 1) 342 | Just the family, a few friends and some local dignitaries. |
| (1, 1) 343 | Look. |
| (1, 1) 344 | I'm coming down to London tomorrow... |
| (1, 1) 345 | There's this conference at Imperial College. |
| (1, 1) 346 | I also want a chat with the prof... |
| (1, 1) 347 | Yes, I've applied for the post... |
| (1, 1) 348 | How many times do I have to tell you? |
| (1, 1) 349 | I don't care what Eleri says. |
| (1, 1) 350 | Could we meet tomorrow evening somewhere?... |
| (1, 1) 351 | A concert? |
| (1, 1) 352 | Where? |
| (1, 1) 353 | What time does it finish?... |
| (1, 1) 354 | Meet me afterwards... |
| (1, 1) 355 | What about that little French place in Covent Garden?... |
| (1, 1) 356 | I have to see you, Claire... |
| (1, 1) 359 | I'll give you a ring later on... |
| (1, 1) 360 | Fine. |
| (1, 1) 361 | Great. |
| (1, 1) 362 | Cheers. |
| (1, 1) 365 | Newydd landio. |
| (1, 1) 367 | Ia. |
| (1, 1) 368 | Eleri'n methu dwad. |
| (1, 1) 369 | Rhyw gwrs gynni hi. |
| (1, 1) 370 | A ma' Deian a Glain yn cymryd rhan mewn gala nofio. |
| (1, 1) 371 | Rhwbath gin yr Urdd. |
| (1, 1) 372 | 'Nes i ddim dallt yn iawn. |
| (1, 1) 374 | Ia, wel, fel 'a ma' hi... |
| (1, 1) 375 | Faint o'r gloch ma'r cyfarfod 'ma? |
| (1, 1) 377 | Syniad gwallgo' pwy o'dd trefnu peth fel hyn? |
| (1, 1) 379 | Be? |
| (1, 1) 381 | Ond yn y capal ma'n nhw'n rhoid y plac er cof am dad. |
| (1, 1) 383 | Gwasanaeth crefyddol. |
| (1, 1) 385 | Pwy fydd yn cymryd y gwasanaeth 'ma? |
| (1, 1) 387 | Ydi o 'di cytuno 'lly? |
| (1, 1) 389 | Diddorol. |
| (1, 1) 392 | Rhys? |
| (1, 1) 393 | Yn Llundain rhyw ychydig ar ôl Dolig. |
| (1, 1) 394 | Ro'n i mewn cynhadledd yn Imperial College. |
| (1, 1) 395 | Amsar cinio o'dd hi. |
| (1, 1) 396 | Bicis i i Jermyn Street. |
| (1, 1) 397 | Isio prynu crys ne' ddau a phwy ddoth rownd rhyw gongol ond Rhys. |
| (1, 1) 398 | Dau offeiriad arall hefo fo. |
| (1, 1) 399 | Ges i dipyn o sioc a deud y gwir. |
| (1, 1) 400 | Wedi cymryd ychydig ddyddia o wylia medda fo. |
| (1, 1) 401 | 'Chawson ni fawr o sgwrs. |
| (1, 1) 402 | Ro'dd o ar frys. |
| (1, 1) 403 | Ar 'i ffordd i weld rhyw sioe neu'i gilydd. |
| (1, 1) 405 | Edrach yn ddigon bodlon 'i fyd. |
| (1, 1) 406 | Ac yn medru byw yn ddigon twt ar gyflog offeiriad. |
| (1, 1) 407 | Mi fydd yn gyrru rhyw gildwrn i'r plant 'cw rownd y rîl. |
| (1, 1) 408 | Fydd o'n gyrru rhwbath i Tudur? |
| (1, 1) 411 | Faint 'neith Tudur rŵan? |
| (1, 1) 413 | Llond llaw? |
| (1, 1) 415 | Mynd i'r ysgol feithrin? |
| (1, 1) 417 | Pam? |
| (1, 1) 419 | Lle mae o rŵan? |
| (1, 1) 421 | Gin bwy? |
| (1, 1) 431 | Leciwn i 'i weld o. |
| (1, 1) 432 | Plant yn altro. |
| (1, 1) 433 | Rhei acw 'di altro'n ofnadwy. |
| (1, 1) 434 | Yn enwedig Glain. |
| (1, 1) 435 | Glain yn ca'l hwyl ar y cello. |
| (1, 1) 436 | Ddoth adra o'r ysgol ryw ddiwrnod a deud "Dad, 'dw i'n mynd i ddysgu chwara'r cello." "Wyt ti wir?" medda fi, "a phwy sy'n mynd i brynu peth felly iti, mwyn tad?" |
| (1, 1) 437 | "Chi, siŵr iawn", medda hi. |
| (1, 1) 438 | Be fedrwn i ddeud? |
| (1, 1) 439 | Chwe chant o bunna. |
| (1, 1) 440 | Ond mae o wedi bod 'i werth o. |
| (1, 1) 441 | Ma' hi'n dda iawn chwara teg 'ddi. |
| (1, 1) 444 | Be sy?... |
| (1, 1) 445 | Dal i 'meio i twyt? |
| (1, 1) 447 | Ti'n dal i 'meio i am y busnas Arthur 'na twyt? |
| (1, 1) 449 | Trio achub dy groen di o'n i. |
| (1, 1) 451 | Ro'dd o 'di hannar malu'r lle 'ma. |
| (1, 1) 453 | Ac wedi dy gicio di'n ddu las a chditha'n disgwl i blentyn o. |
| (1, 1) 454 | Be ddiawl o'n i fod i 'neud? |
| (1, 1) 457 | Fedra neb ddal pen rheswm hefo fo. |
| (1, 1) 458 | Ro'dd o wedi meddwi, toedd? |
| (1, 1) 463 | Pa floda? |
| (1, 1) 465 | Naddo. |
| (1, 1) 472 | Ydi Barry yn gwbod? |
| (1, 1) 476 | Ŵyr o ddim ma' yma o'dd o? |
| (1, 1) 480 | Be ti'n feddwl, 'llawia'? |
| (1, 1) 490 | O? |
| (1, 1) 491 | A lle ti'n mynd, 'lly? |
| (1, 1) 493 | Brighton? |
| (1, 1) 498 | Petha ar i fyny? |
| (1, 1) 500 | Ei di â Tudur hefo chdi? |
| (1, 1) 503 | 'Dach chi wedi trafod y peth? |
| (1, 1) 508 | Ti'n sylweddoli faint 'neith hynny gostio? |
| (1, 1) 511 | Lle eith o felly? |
| (1, 1) 514 | Newydd 'neud cais am gadair. |
| (1, 1) 516 | Naci. |
| (1, 1) 517 | Llundain. |
| (1, 1) 519 | Siawns reit dda. |
| (1, 1) 521 | Cefnogol, fel arfar. |
| (1, 1) 523 | Ia? |
| (1, 1) 524 | Wel? |
| (1, 1) 526 | Ma' siŵr. |
| (1, 1) 528 | Felly ma'n nhw'n deud. |
| (1, 1) 530 | Fydd hynny ddim problem. |
| (1, 1) 532 | O'n inna wedi bwriadu gyrru rhei 'cw i ysgol breswyl hefyd. |
| (1, 1) 534 | Ydan, tydan? |
| (1, 1) 535 | Ond dyna fo, ma' rhaid talu am addysg dda dyddia yma... |
| (1, 1) 536 | Mi fuon ni fel plant yn lwcus, sti? |
| (1, 1) 537 | Ca'l mynd i lefydd a gweld petha, ca'l ehangu'n gorwelion. |
| (1, 1) 538 | Cofio fel byddan ni'n mynd i Stratford 'stalwm? |
| (1, 1) 539 | Stopio yn y dafarn 'na tu allan i Warwick. |
| (1, 1) 540 | Be o'dd 'i henw hi d'wad? |
| (1, 1) 542 | Gardd fawr yn y cefn i blant. |
| (1, 1) 543 | Cofio ar ôl rhyw beint ne' ddau mi fydda' nhad yn mynd i hwyl. |
| (1, 1) 544 | Dechra dyfynnu o'r ddrama ro'ddan ni wedi dwad i lawr i' gweld. |
| (1, 1) 546 | ~=v |
| (1, 1) 547 | "There may be in the cup |
| (1, 1) 548 | A spider steep'd and one may drink, depart |
| (1, 1) 549 | And yet partake no venom, for his knowledge |
| (1, 1) 550 | Is not infected; but if one present |
| (1, 1) 551 | The abhorr'd ingredient to his eye, make known |
| (1, 1) 552 | How he hath drunk, he cracks his gorge, his sides |
| (1, 1) 553 | With violent hefts. |
| (1, 1) 555 | I have drunk, and seen the spider." |
| (1, 1) 558 | Gwybodaeth yn llwyr newid y byd. |
| (1, 1) 559 | Newid y cwbwl lot. |
| (1, 1) 560 | Popeth. |
| (1, 1) 563 | Nhad wrth 'i fodd yn mynd at y ffrwd 'na. |
| (1, 1) 564 | Yn yr ha' mi fydda'n mynd â chadair lan môr ac ista am oria yna. |
| (1, 1) 565 | Mynd â dim hefo fo. |
| (1, 1) 566 | Dim ond gorfadd yn ôl, cau'i lygaid a myfyrio. |
| (1, 1) 567 | Tuag amser te, mi fydda mam yn mynd â phanad iddo fo. |
| (1, 1) 568 | Wedyn mi ddôi i mewn, mynd at y piano a chyfansoddi tan berfeddion. |
| (1, 1) 583 | Pwy o'dd 'na? |
| (1, 1) 585 | O. |
| (1, 1) 593 | Ia, iawn. |
| (1, 1) 616 | |Ffrwd Ceinwen|. |
| (1, 1) 618 | Ia. |
| (1, 1) 620 | 'Nath o rioed 'i chyhoeddi hi. |
| (1, 1) 626 | Na. |
| (1, 1) 627 | Fedra i ddim yn 'y myw gofio'r gweddill. |
| (1, 1) 629 | Wn i'm. |
| (1, 1) 630 | Rhyw ddarn na fedrwch chi rywsut deimlo be sy'n dwad nesa'. |
| (1, 1) 631 | Y cwbwl ar chwâl, rywsut. |
| (1, 1) 633 | Oes, yn y stydi 'cw'n rhwla. |
| (1, 1) 634 | Yng nghanol y nialwch. |
| (1, 1) 636 | Gythreulig. |
| (1, 1) 638 | Be sy' mor ddoniol? |
| (1, 1) 640 | Pam? |
| (1, 1) 645 | Ges i 'magu yma. |
| (1, 1) 648 | Pwy? |
| (1, 1) 650 | Ynglŷn â be? |
| (1, 1) 652 | Os o'dd o, ddeudodd o 'rioed. |
| (1, 1) 654 | Fo roth hi imi. |
| (1, 1) 656 | Rhyw fis cyn iddo fo farw. |
| (1, 1) 657 | Ro'dd o'n Clatterbridge. |
| (1, 1) 658 | Newydd ga'l 'i driniaeth. |
| (1, 1) 659 | Do'dd o ddim hannar da ond mi fynnodd mod i'n mynd â fo am dro. |
| (1, 1) 660 | Mi aethon ni i Hoylake. |
| (1, 1) 661 | Parcio'r car wrth y môr. |
| (1, 1) 662 | Hwyl dda arno fo. |
| (1, 1) 663 | Aethon ni am dro gerddad. |
| (1, 1) 664 | Fel ro'ddan ni'n cerddad yn ôl at y car dyma fo'n tynnu'r darn papur 'ma allan. |
| (1, 1) 665 | "Rhwbath bach iti", medda fo. |
| (1, 1) 666 | "Ges i hyd i biano yn y diawl lle 'na." |
| (1, 1) 667 | Ddeudis i ddim byd ond 'i daro fo ym mhocad rhyw anorac o'dd gin i. |
| (1, 1) 668 | Yr holl ffordd nôl i'r sbyty, ro'dd o'n sôn am y darn. |
| (1, 1) 669 | Ond do'n i ddim yn gwrando. |
| (1, 1) 670 | Yr unig beth o'dd ar 'y meddwl i o'dd rhyw ddarlith o'n i'n 'i rhoid yn Lerpwl gyda'r nos. |
| (1, 1) 671 | Pan gyrhaeddon ni'r 'sbyty, do'dd o ddim isio imi fynd â fo'n ôl i'r ward. |
| (1, 1) 672 | Ffarweliodd hefo fi yn y maes parcio. |
| (1, 1) 673 | Llusgo cerddad o'r car ac fel o'n i'n cychwyn troi i edrach arna'i. |
| (1, 1) 674 | Codi'i law a gwenu. |
| (1, 1) 675 | Duw a ŵyr lle taris i hi. |
| (1, 1) 677 | E'lla... |
| (1, 1) 678 | Barry Williams? |
| (1, 1) 680 | Nabod o? |
| (1, 1) 682 | Mam a fynta'n dipyn o lawia, medda Dona. |
| (1, 1) 684 | Ma 'na fwy iddi na hynny, toes? |
| (1, 1) 686 | Syniad pwy o'dd gwerthu'r lle 'ma? |
| (1, 1) 687 | Fo ta hi? |
| (1, 1) 690 | Atab 'y nghwestiwn i! |
| (1, 1) 691 | Be sy'n mynd ymlaen rhwng y ddau! |
| (1, 1) 692 | Atab fi!... |
| (1, 1) 693 | Ma'n ddrwg gin i. |
| (1, 1) 701 | O... diolch. |
| (1, 1) 706 | I'r gwaelodion 'na i rwla. |
| (1, 1) 708 | Wn i'm... |
| (1, 1) 709 | Pryd ddechreuodd y ddau ddwad yn llawia? |
| (1, 1) 711 | Barry a mam. |
| (1, 1) 714 | Be o'dd enw'i wraig o? |
| (1, 1) 716 | Ia. |
| (1, 1) 718 | Pam 'naethon nhw ysgaru? |
| (1, 1) 721 | Ond ro'ddan nhw wedi gwahanu, toeddan? |
| (1, 1) 723 | O'dd o'n potsian hefo rhywun? |
| (1, 1) 726 | Yr haf y buo nhad farw fues i gartra am bythefnos. |
| (1, 1) 727 | Es i am dro i Langwyfan. |
| (1, 1) 728 | Ar ganol y lôn 'na sy'n arwain at y traeth, ro'dd 'na Land Rover. |
| (1, 1) 729 | Ro'n i'n meddwl ma' rhyw ffarmwr o'dd pia hi. |
| (1, 1) 730 | Symud defaid ne' rwbath. |
| (1, 1) 731 | Ond pwy ddoth ond Barry. |
| (1, 1) 732 | Rhyw hogan hefo fo. |
| (1, 1) 733 | Dal i gofio be o'dd hi'n 'i wisgo. |
| (1, 1) 734 | Côt laes ddu. |
| (1, 1) 735 | Golwg y diawl arni hi. |
| (1, 1) 736 | Mae'n amlwg 'i bod nhw wedi bod yn ffraeo. |
| (1, 1) 737 | Mi fagis i'r car at ben lôn i neud lle iddo fo basio. |
| (1, 1) 738 | Dydw i ddim yn meddwl iddo fo nabod i. |
| (1, 1) 739 | 'Mhen rhyw ddeuddydd, ro'n i'n nôl petrol yn y garej 'na yn Borth a phwy ddreifiodd i mewn ond y fo. |
| (1, 1) 740 | Droth o'i ben. |
| (1, 1) 741 | Ddeudodd o ddim gair wrtha'i... |
| (1, 1) 742 | Ma' nhw'n fwy na llawia, tydyn? |
| (1, 1) 744 | Pam ddeudist ti g'llwydda wrtha'i? |
| (1, 1) 746 | Do'ddat ti ddim isio imi ga'l gwbod am hyn, nac o'ddat? |
| (1, 1) 748 | Pam? |
| (1, 1) 754 | Be? |
| (1, 1) 755 | Dydyn nhw 'rioed yn bwriadu...? |
| (1, 1) 763 | Iawn. |
| (1, 1) 764 | Iawn. |
| (1, 1) 772 | Mm? |
| (1, 1) 774 | Be? |
| (1, 1) 795 | Tsiecio rhyw ystadega. |
| (1, 1) 797 | Am funud, Dona, plîs... |
| (1, 1) 804 | Diffa hwnna, 'nei di? |
| (1, 1) 806 | Fedra'i ddim canolbwyntio. |
| (1, 1) 808 | 'Dw i ddim isio mynd i'r llofft. |
| (1, 1) 810 | O's rhaid iti? |
| (1, 1) 812 | Ti ddim yn gweld? |
| (1, 1) 813 | 'Dw i'n trio gweithio! |
| (1, 1) 815 | 'Cha' i ddim cyfla heno! |
| (1, 1) 817 | Tro hi i lawr ta! |
| (1, 1) 826 | Be ddiawl haru ti, d'wad! |
| (1, 1) 827 | Faint ti'n feddwl ydi d'oed di? |
| (1, 1) 836 | Rhyw hannar awr yn ôl. |
| (1, 1) 838 | Ydw. |
| (1, 1) 840 | Di-fai. |
| (1, 1) 873 | Oes, ma' siŵr. |
| (1, 1) 875 | Ges inna ddalfa'n fanno hefyd. |
| (1, 1) 876 | Be ma'n nhw'n 'neud yna? |
| (1, 1) 910 | Na wn i. |
| (1, 1) 925 | Ydw. |
| (1, 1) 932 | Yn y labordy ma' siŵr. |
| (1, 1) 937 | Ma' hi'n ysgrifenyddes ardderchog. |
| (1, 1) 957 | Ydi, handi ar y naw. |
| (1, 1) 960 | Tua mil. |
| (1, 1) 962 | Costio mwy i 'gneud nhw meddan nhw i mi. |
| (1, 1) 965 | Peidiwch â twtsiad hwnna! |
| (1, 1) 967 | 'Dw i ar ganol gneud rhwbath. |
| (1, 1) 1053 | Nac 'dw. |
| (1, 1) 1055 | Du ddim yn gweddu ichi. |
| (1, 1) 1056 | Lle ro' i rhein? |
| (1, 1) 1060 | Be mae o wedi'i 'neud i hwn? |
| (1, 1) 1062 | Ma' rhywun 'di bod yn chwara hefo fo. |
| (1, 1) 1064 | Ro'dd 'na stwff ar y sgrin 'na. |
| (1, 1) 1065 | Lle mae o 'di mynd? |
| (1, 1) 1067 | 'Nes i ddeud wrtho fo am beidio twtsiad yn'o fo. |
| (1, 1) 1070 | 'Nes ti dwtsiad o? |
| (1, 1) 1073 | Wrth gwrs bod 'na rwbath pwysig arno fo. |
| (1, 1) 1074 | Lle mae o? |
| (1, 1) 1080 | Fedra i ddim coelio hyn! |
| (1, 1) 1095 | Ydi Rhys yn gwbod i fod o'n rhoi'r deyrnged? |
| (1, 1) 1097 | Pryd cytunodd o? |
| (1, 1) 1099 | Ac mi ro'dd o'n fodlon gneud? |
| (1, 1) 1102 | Be ydi peth fel hyn? |
| (1, 1) 1104 | Yr emyn 'ma. |
| (1, 1) 1106 | Iawn, iawn. |
| (1, 1) 1107 | Ond pam dewis yr hen dôn yma? |
| (1, 1) 1109 | |Degannwy.| |
| (1, 1) 1112 | Ro'dd 'y nhad yn 'i chasáu hi. |
| (1, 1) 1114 | Oedd. |
| (1, 1) 1115 | Gyda chas perffaith. |
| (1, 1) 1116 | Chi ddaru 'i dewis hi? |
| (1, 1) 1126 | Ia? |
| (1, 1) 1127 | A be wedyn, mam? |
| (1, 1) 1137 | Dallt dim. |
| (1, 1) 1156 | Be ddaru chi ofyn imi? |
| (1, 1) 1163 | Anghyffredin. |
| (1, 1) 1167 | Ia, du... |
| (1, 1) 1183 | Well imi nôl petrol. |
| (1, 1) 1184 | Mi fydd rhaid imi gychwyn ben bora. |
| (1, 1) 1186 | Gwaith. |
| (1, 1) 1188 | Ia. |
| (1, 1) 1189 | Y busnes geneteg 'ma. |
| (1, 1) 1191 | Be'n wir? |
| (1, 1) 1194 | 'Dw i ddim yn meddwl. |
| (1, 1) 1196 | 'Naethon nhw rwbath arall, 'rioed? |
| (1, 1) 1202 | Rhys. |