| (1, 0) 258 | Esgusodwch fi ma'm, am aflonyddu arnoch fel hyn─ |
| (1, 0) 262 | Ie, ma'm. |
| (1, 0) 263 | Yr oedd y forwyn yn dywedyd na byddai 'n hir, ac y mae'n bwysig i mi ei weld rhag blaen. |
| (1, 0) 269 | Ydwyf, ma'm, yn hoff iawn. |
| (1, 0) 270 | Ac y mae hon yn biano ardderchog hefyd, onid yw? |
| (1, 0) 276 | Wel, na minnau chwaith. |
| (1, 0) 277 | Wn i ddim pa beth a barodd i mi ei gofio, os nad rhyw ddamwain yn y peth a genais gyntaf. |
| (1, 0) 278 | Ac wedi i mi ddechreu wel─ |
| (1, 0) 280 | Rhaid i chwi f'esgusodi i am chwerthin, ond ni fedrwn i yn fy myw beidio. |
| (1, 0) 283 | Pob math. |
| (1, 0) 284 | Mi welaf eich bod chwithau 'n deall miwsig, ma'm. |
| (1, 0) 287 | Wel, mi ddylwn esbonio i chwi pam y chwerddais innau. |
| (1, 0) 288 | Pan oeddwn yn hogyn, yr oeddwn innau yn hoff iawn o ganu─o gystadlu, felly. |
| (1, 0) 289 | Un tro, yr oedd côr o honom wedi mynd i Eisteddfod y Glyn, fel y gelwid hi, ac yr oedd cystadleuaeth ar ganu'r ddeuawd yna. |
| (1, 0) 291 | Galwyd enwau'r cystadleuwyr, ond nid oedd neb yn ateb dros un cwpl. |
| (1, 0) 292 | Galwodd yr ysgrifennydd yr enwau drachefn. |
| (1, 0) 293 | Neb yn ateb. |
| (1, 0) 294 | "Well i ni gynnyg?" meddwn innau wrth y ferch oedd yn eistedd o'm blaen─y soprano oreu yn ein côr. |
| (1, 0) 295 | "le," meddai hithau, gan chwerthin─un lawen oedd hi. |
| (1, 0) 296 | "Ydi'r cwpl arall yma bellach?" ebe'r ysgrifennydd. |
| (1, 0) 297 | "Yma!" meddwn innau. |
| (1, 0) 298 | Ac felly, i fyny yr aethom, a chanasom a chawsom y wobr. |
| (1, 0) 299 | Ond wedi hynny, dyma'r rhai a gurwyd yn clywed nad oeddym ni wedi danfon ein henwau i mewn, ac yn gwrthdystio yn erbyn rhoi'r wobr i ni. |
| (1, 0) 300 | Wedi cryn helynt barnwyd fod yn rhaid i ni droi'r wobr yn ei hôl, am fod yr amodau yn ein herbyn. |
| (1, 0) 301 | Felly fu, ond yr oedd y gynulleidfa o'n plaid, a rhoes y cadeirydd wobr arbennig i ni. |
| (1, 0) 306 | Fo'n gwarchod! |
| (1, 0) 307 | Nid Elin Jones sydd yma? |
| (1, 0) 311 | Wel, ar fy ngair─cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd. |
| (1, 0) 312 | Ni welais i byth monoch ar ol y diwrnod hwnnw. |
| (1, 0) 314 | Euthum i ffwrdd i'r America, fel y gallai eich bod yn cofio, yn union deg wedyn. |
| (1, 0) 316 | A dyma chwi─wel, erbyn sylwi, rhaid i mi ddywedyd nad ydych wedi altro cymaint, ond bod eich gwallt wedi troi ei liw, fel fy ngwallt innau. |
| (1, 0) 317 | Wel, y mae'n dda gennyf eich gweled, yn wir. |
| (1, 0) 319 | Wel, yn wir, peth rhyfedd yw bywyd! |
| (1, 0) 320 | Nid wyf yn meddwl i mi weled neb o'r hen gartref o'r dydd hwnnw hyd y funud yma. |
| (1, 0) 321 | A pha beth yn y byd a barodd i mi ganu'r dernyn yna ar y piano? |
| (1, 0) 323 | le, pwy ŵyr! |
| (1, 0) 324 | Clywais ddarlithiwr yn America yn dywedyd fod greddf dyn yn ateb i filoedd o fân bethau na ŵyr ei ymwybod ddim yn y byd amdanynt. |
| (1, 0) 328 | le, pwy ŵyr!... |
| (1, 0) 329 | Ond ym mha le yr ydych yn byw─yn yr hen gartref o hyd? |
| (1, 0) 332 | Mrs. Owen─a yw hi yn nith i chwi? |
| (1, 0) 334 | Dyn byw! |
| (1, 0) 335 | Dafydd eich brawd─hen gyfaill. |
| (1, 0) 336 | Llawer tro digrif a ddigwyddodd iddo fo a minnau. |
| (1, 0) 337 | A yw Dafydd yn fyw o hyd?─mi garwn ei weled. |
| (1, 0) 339 | Felly yn wir, y mae'n chwith gennyf feddwl, Ni chlywswn i ddim o'r hanes. |
| (1, 0) 340 | Wrth gwrs, ychydig amser sydd er pan ddeuthum i adref o'r America, wyddoch. |
| (1, 0) 342 | A! yr hen amser gynt! |
| (1, 0) 349 | O, myfi yw hwnnw. |
| (1, 0) 350 | Yr wyf yn meddwl y gwn beth yw eu neges─yr oeddwn wedi sôn wrthynt fy mod yn mynd i alw heibio i Mr. Owen. |
| (1, 0) 351 | Esgusodwch fi funud, Miss Jones, mi af atynt. |
| (1, 0) 379 | Maddeuwch i mi am eich gadael chwi. |
| (1, 0) 380 | Y mae gennyf ryw ddynion dylach na'r cyffredin yn fy ngwasanaeth. |
| (1, 0) 381 | Daethant yma ar f'ôl i holi, yn lle gwrando pan oeddwn yn dywedyd wrthynt pa beth i'w wneud. |
| (1, 0) 383 | Ie, siwr─dyna fy mhethau hyd heddyw, welwch chwi. |
| (1, 0) 385 | Ie, siwr, ac un o'r rhai goreu ydyw hefyd. |
| (1, 0) 386 | A chawsant hi yn rhad. |
| (1, 0) 388 | Yn wir, Miss Jones, y mae hi yn tynnu at amser cinio, a rhaid bod rhywbeth yn cadw Mr. |
| (1, 0) 389 | a Mrs. Owen. |
| (1, 0) 390 | A roech chwi'r anrhydedd ar eich hen gydymaith gynt o ddyfod i ginio gydag ef? |
| (1, 0) 391 | Y mae acw le gweddol gysurus, digon o fwyd plaen, digon o offer cerdd a miwsig; a phob croeso. |
| (1, 0) 392 | Byddai'n bleser anghyffredin gennyf pe doech, yn wir. |
| (1, 0) 397 | Bydd, yn wir. |
| (1, 0) 398 | A! |
| (1, 0) 399 | Yr hen amser gynt! |
| (1, 0) 400 | Eisieu bod yn fawr oedd arnom y pryd hwnnw, onid e, ond erbyn hyn─yr hen amser gynt! |
| (1, 0) 568 | Do, yn wir, ac yn cofio hen ganeuon─ni chefais i gymaint o bleser ers blynyddoedd lawer! |
| (1, 0) 584 | Eisteddwch Mrs. Owen. |
| (1, 0) 585 | Eisteddwch Mr. Owen. |
| (1, 0) 586 | Eisteddwch chwithau, Miss Jones. |
| (1, 0) 587 | Yr wyf meddwl fy mod yn deall yn awr, ac mai myfi, os caf ddywedyd hynny, yw'r goreu i siarad am y tro. |
| (1, 0) 589 | Mr. Owen, mi gredaf fy mod yn gweled drwy'r paent bellach, ac y mae'n ddrwg gennyf na welswn yn gynt. |
| (1, 0) 590 | Sut bynnag, y mae'n dda gennyf ddywedyd wrthych fod Smith wedi gwerthu pump o'ch pictiwrs am bris da y prynhawn yma. |
| (1, 0) 591 | A dyma'r papur hwnnw y buom yn son amdano'r dydd o'r blaen─ |
| (1, 0) 593 | y mae'n sicr eich bod yn cofio─y mae'n ddrwg gennyf na chawsech ef yn gynt. |
| (1, 0) 608 | Campus! |