Ciw-restr

Golff

Llinellau gan Morris (Cyfanswm: 388)

 
(1, 0) 360 'Neno'r nefo'dd, paid â dechra codi bwganod rŵan 'nei di.
 
(1, 0) 362 Arglwydd, ma' hi'n brimin yma.
 
(1, 0) 364 Fydd 'na ddim gwrthwynebiad.
(1, 0) 365 Does gin y ffernols ddim sail i wrthwynebiad.
 
(1, 0) 367 Yli.
(1, 0) 368 Ty'd yma.
(1, 0) 369 Dos i'r caea 'na.
(1, 0) 370 Stydia hwn yn iawn.
(1, 0) 371 Ma' pob twll wedi'i farcio, reit?
(1, 0) 372 Dos.
(1, 0) 373 Seria fo ar dy go' iti ga'l rhoid taw arnyn nhw yn y pwyllgor 'na.
(1, 0) 374 Ma'r twll cynta ar y range 'i hun.
 
(1, 0) 377 Gwrthwynebiad o ddiawl.
 
(1, 0) 379 Helo!
(1, 0) 380 Ashgrove Golf Range...
 
(1, 0) 383 Sorry about that...
(1, 0) 384 You've been ringing all afternoon?
 
(1, 0) 386 Lle uffar ti 'di bod?...
 
(1, 0) 388 Opening times...
(1, 0) 389 From eight in the morning until the last person leaves.
(1, 0) 390 It's floodlit so there's no problem...
(1, 0) 391 No, no, no need to book.
(1, 0) 392 Just come round.
 
(1, 0) 394 Dy le di ydi atab petha fel hyn yn yr offis 'na.
(1, 0) 395 Pam wyt ti'n porthi bendro'n fan'ma?
(1, 0) 396 Dos i hel y peli 'na ne' rwbath.
 
(1, 0) 398 Be ti'n feddwl?
 
(1, 0) 401 Wel?
 
(1, 0) 405 Sut?
 
(1, 0) 408 Does 'na ddim craig i fod 'na.
 
(1, 0) 410 Fedra 'na ddim bod.
 
(1, 0) 412 Ma' isio chwalu'r diawl wal 'na.
(1, 0) 413 Mi wna'i hefyd un o'r diwrnodia 'ma.
(1, 0) 414 A ma'n siŵr dy fod titha yn mynd fath â rhwbath o'i go'.
 
(1, 0) 416 Paid â malu awyr.
(1, 0) 417 'Dw i 'di dy weld ti washi.
(1, 0) 418 Mynd nôl a mlaen ar y range fel tasa rhwbath yn dy gnoi di.
(1, 0) 419 'Dw i ddim wedi talu arian am beth fel 'na i ryw dw-lal fath â chdi 'i falu o y cyfla cynta geith o.
 
(1, 0) 421 Be ti'n feddwl, be 'nei di?
 
(1, 0) 423 Gneud te?
 
(1, 0) 425 Picia i Bedfords.
 
(1, 0) 427 Sut gwn i?
(1, 0) 428 Mynd yno a holi, te washi?
 
(1, 0) 430 Ia.
(1, 0) 431 Rŵan.
(1, 0) 432 Munud 'ma...
(1, 0) 433 Be sy?
 
(1, 0) 435 Be sy o'i le ar y fan?
 
(1, 0) 437 Be ti'n mynd i falu nesa?
(1, 0) 438 Hwdia.
 
(1, 0) 440 A chym' bwyll wir dduw...
 
(1, 0) 442 Lembo.
 
(1, 0) 445 Ashgrove Golf Range...
(1, 0) 446 O...
(1, 0) 447 Na, ma'n ddrwg gin i.
(1, 0) 448 Llawn dop wsnos yma.
(1, 0) 449 Rhaid bwcio o flaen llaw, rhaid...
(1, 0) 450 A'r un fath i titha hefyd. washi...
(1, 0) 451 Damia nhw!
(1, 0) 452 Blydi locals.
 
(1, 0) 454 Arwyn?
(1, 0) 455 Dos at yr ail dwll yn Cae Ffynnon.
(1, 0) 456 Cym'a d'amsar!
 
(1, 0) 464 Wedi picio i Bedfords.
 
(1, 0) 467 O'n i'n ama ma' fel hyn basa hi.
 
(1, 0) 469 Be ar wynab y ddaear ydi petha fel 'na?
 
(1, 0) 471 Debycach i floda crachod.
 
(1, 0) 473 I be?
(1, 0) 474 Ydi hi'n fain arnan ni ne' rwbath?
(1, 0) 475 Ydan ni ar y blydi grindil?
(1, 0) 476 Mi fasan ni wedi medru ordro rhei go iawn, bysan?
(1, 0) 477 Llwythi ohonyn nhw.
(1, 0) 478 Mi faswn i wedi medru ca'l rhei am ddim gin y boi 'na sy 'di agor market garden yn Rhos.
(1, 0) 479 Arglwydd Mawr!
(1, 0) 480 Fi ga'th blanning iddo fo.
 
(1, 0) 482 Ddeudis i ddigon do?
(1, 0) 483 Pawb call yn mynd allan am bryd o fwyd i rwla os oes gynnyn nhw rwbath i' ddathlu.
(1, 0) 484 Ond na, rhaid i hon ga'l rhyw sioe bin yn fan'ma.
 
(1, 0) 486 Ble ti'n mynd?
 
(1, 0) 489 Triw ar y diawl iddi, twyt?
 
(1, 0) 492 Joyce?
(1, 0) 493 'Dw i'n mynd i Leamington Spa ddydd Mercher...
(1, 0) 494 Cynrychioli'r pwyllgor cynllunio...
(1, 0) 495 Rhyw gonsortiwm o'r ochra yna wedi dangos diddordab yn yr hen bictiwrs 'na yn dre...
(1, 0) 496 Isio troi'r lle'n ganolfan siopio.
(1, 0) 497 'Dw i'n rhyw feddwl lladd dau dderyn efo un garrag.
(1, 0) 498 E'lla picia' i i Warwick.
(1, 0) 499 Sortio un ne' ddau o betha allan efo Peter tad Nigel ynglŷn â'r cwrs golff 'ma.
(1, 0) 500 Twrna da, Peter.
(1, 0) 501 Peter yn ddyn sy'n mynnu ca'l 'i faen i'r wal...
(1, 0) 502 Rhyw feddwl aros noson yn rhwla.
 
(1, 0) 504 Ochra braf, 'r ochra yna.
(1, 0) 505 Enwa'r llefydd.
(1, 0) 506 Swyno rhywun.
(1, 0) 507 Be o'dd 'u henwa nhw d'wad?
(1, 0) 508 Y pentrefi 'na...
(1, 0) 509 Morton Morrell.
(1, 0) 510 Norton Lindsey.
 
(1, 0) 513 Evesham.
(1, 0) 514 Gest ti dy swyno os 'dw i'n cofio'n iawn?
 
(1, 0) 518 Y ffrog 'na brynis i iti yn Evesham.
(1, 0) 519 'Dwyt ti byth yn 'i gwisgo hi...
(1, 0) 520 Gwisga hi heno...
 
(1, 0) 523 Mi fydd Ceinwen gartra... yli...
(1, 0) 524 Chwilia am ryw esgus.
(1, 0) 525 Deuda fod y chwaer 'na sy gin ti ym Machynlleth wedi ffonio.
(1, 0) 526 Y gŵr 'na sy gynni hi wedi ca'l pwl go ddrwg ar 'i galon eto.
(1, 0) 527 Mi ddalltith.
 
(1, 0) 531 Bydda'n amyneddgar.
 
(1, 0) 537 Y?
 
(1, 0) 540 Yli, am y tro dwytha, 'nes i ddim gofyn iti ddwad yma i godi bwganod, Arwyn.
 
(1, 0) 543 Wedi gneud ma'n nhw.
(1, 0) 544 Hynny ydi, wedi gneud ydach chi ar hyd y beit.
(1, 0) 545 'Dw i isio fo trwadd ddydd Merchar heb na thwrw bach na thwrw mawr.
(1, 0) 546 Sêl bendith.
(1, 0) 547 A dyna ddiwadd arni.
 
(1, 0) 549 Pa wahania'th 'neith hynny?
(1, 0) 550 Ma' rhei o'r cyrsiau mwya enwog wrth ymyl mynwant.
(1, 0) 551 Ballybunion?
(1, 0) 552 Glywist ti am fanno?
(1, 0) 553 Dydi'r ffernols sy'n y fynwant 'na ddim yn mynd i falio rhyw lawar nac ydyn?
 
(1, 0) 555 Be ti'n feddwl, rhyfygu?
(1, 0) 556 Duw, duw, tydi fy nheulu i fy hun wedi'u claddu tu ôl i'r clawdd terfyn 'na.
(1, 0) 557 Yr hen ddyn, mam, y giwad i gyd hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm blydi casânt yno.
 
(1, 0) 559 Y byw sy'n bwysig, was.
(1, 0) 560 Y byw.
(1, 0) 561 Cofia di hynny.
 
(1, 0) 563 A phwy sy'n mynd i wrthwynebu?
(1, 0) 564 Tacla'r eglwys 'na ym Mangor?
(1, 0) 565 Does 'na ddim person yma ers dros ugain mlynadd.
(1, 0) 566 Now bach?
(1, 0) 567 Jini?
(1, 0) 568 Harri clochydd?
(1, 0) 569 Trindod ar y naw i godi dani.
(1, 0) 570 Pum mlynadd arall ac mi fyddan nhw'n cau drws y lle a lluchio'r goriad.
(1, 0) 571 Unwaith y mis ma'n nhw'n cynnal gwasana'th yno...
(1, 0) 572 Nyth cacwn, o ddiawl.
(1, 0) 573 Twt lol!
 
(1, 0) 576 Pa fusnas ydi o iddyn nhw?
 
(1, 0) 579 Pam ddiawl na wnân nhw ddechra mynychu'r llefydd 'ma os ydyn nhw'n golygu cymaint iddyn nhw?
 
(1, 0) 582 Pwy sy'n darllan rwts hwnnw?
 
(1, 0) 585 Ia, ia...
 
(1, 0) 588 Ond ca'l y maen i'r wal 'naethon ni, te?
 
(1, 0) 591 Y twll cynta?
(1, 0) 592 Fan'cw, ar y range.
(1, 0) 593 Yr ail?
(1, 0) 594 Cae Ffynnon.
(1, 0) 595 Y trydydd?
(1, 0) 596 Yn fan'cw, Cae Fedwan.
(1, 0) 597 Mi fydd y tee wrth y giât bella'.
 
(1, 0) 600 Y pedwerydd.
(1, 0) 601 Cae'r Onnan.
(1, 0) 602 Fan'cw.
(1, 0) 603 Lle ma'r hen bonc 'na.
(1, 0) 604 A honno ydi'r broblem.
(1, 0) 605 Wel, na dim problem chwaith.
 
(1, 0) 608 'Dw isio'i lle hi i'r green.
 
(1, 0) 610 Ma' hi ar y ffordd, tydi?
 
(1, 0) 612 Lle arall roi'r green?
(1, 0) 613 Na.
(1, 0) 614 Mi fydd raid statu'r job lot...
(1, 0) 615 Mi fydd rhaid saethu.
(1, 0) 616 Edrach ymlaen at hynny.
(1, 0) 617 Mi awn ni at y bonc 'na ryw ben bora pan fydd tacla'r pentra 'ma yn rhochian yn 'u gwlâu.
(1, 0) 618 A...
 
(1, 0) 620 Mi fyddan nhw'n meddwl y bydd hi'n armablydigedon yma.
(1, 0) 621 Y dyddia wedi dwad i ben...
(1, 0) 622 Mi fydd yn ordor ar y diawl.
(1, 0) 623 Ffonia' i di pan fyddwn ni wrthi, iti ga'l dwad draw i weld y sioe...
(1, 0) 624 Ond fydd 'na ddim sioe i neb, na fydd, os nad eith hwn drwadd, a hynny'n reit handi?
(1, 0) 625 Mi 'dan ni'n dallt yn gilydd?
 
(1, 0) 627 Wyt, gobeithio.
(1, 0) 628 Mi fydda' i'n dy ffonio di o Leamington nos Ferchar.
 
(1, 0) 631 Chdi, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, awgrymodd 'mod i'n mynd.
 
(1, 0) 633 ... beidio â bod yma pan eith hi'n dân?
 
(1, 0) 635 O, rhaid.
(1, 0) 636 Rhaid bod yn ddoeth.
 
(1, 0) 640 Damia!
(1, 0) 641 Yli'r rhein.
(1, 0) 642 Mi dyfan drwy rwbath...
(1, 0) 643 'Dw i di deud a deud wrth yr hogyn Gruff 'ma am roid dôs iawn o sodium chlorate i'r lle 'ma.
(1, 0) 644 Mae o'n deud i fod o wedi gneud.
(1, 0) 645 Dangos rhyw dynia gwag a ballu.
(1, 0) 646 Synnwn i ddim nad ydi o'n bachu 'i hannar o a'i werthu o i'r tacla 'na yn y Ship...
(1, 0) 647 'Dw i'n deud wrthat ti was, ma'n well ca'l estron i weithio iti.
(1, 0) 648 Llai o stryffîg o beth diawl.
(1, 0) 649 Ond dyna fo, ma' fy llafur i bron ar ben.
(1, 0) 650 Ymhen rhyw bum mlynadd, ga' i roid 'y nhraed i fyny.
(1, 0) 651 Mi redith y lle 'ma 'i hun.
(1, 0) 652 Ca'l rhyw hoe bach myn diawl.
(1, 0) 653 Gweld dipyn ar yr hen fyd 'ma cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
 
(1, 0) 664 Fasa ots gin ti?
 
(1, 0) 666 Helpu Joyce i nôl y byrdda 'na.
 
(1, 0) 681 Deud be?
 
(1, 0) 698 Dwad â phwy yma rŵan?
 
(1, 0) 700 Ia, ia.
(1, 0) 701 Mi fydd croeso iddo fo bob amsar yn fan'ma.
(1, 0) 702 Mi geith yr un croeso â'i daid.
(1, 0) 703 Ac mi fydd yn esgus am uffar o sbri arall.
(1, 0) 704 Y?
(1, 0) 705 Hynna'n f'atgoffa i...
 
(1, 0) 707 Ma' gin i lond bŵt o ddiod.
 
(1, 0) 736 Wele!...
 
(1, 0) 740 Rhyw hannar awr yn y ffrisar yn ddigon...
 
(1, 0) 742 Rhaid lladd y gwreiddia.
 
(1, 0) 744 Mi wna' i , gwna?...
(1, 0) 745 Os na roi di ddôs i'r gwraidd, dwad eto 'neith y sglyfa'th petha.
 
(1, 0) 747 Iawn.
(1, 0) 748 Iawn.
 
(1, 0) 750 Dim rhaid iti.
 
(1, 0) 752 Tua'r chwech 'ma.
 
(1, 0) 754 Ia.
(1, 0) 755 Ia.
 
(1, 0) 757 Fydd 'na ddim stomp.
 
(1, 0) 760 Duw duw, rho'r gora i...
 
(1, 0) 762 Mi stedda i ar ben y blydi ffrisar efo cloc larwm yn 'y llaw os leci di?
 
(1, 0) 765 Mi fydd hi'n noson orfoleddus, fythgofiadwy, ddedwydd, lawen.
(1, 0) 766 Iawn?
 
(1, 0) 769 Yn be?
 
(1, 0) 771 Pa fag?
 
(1, 0) 773 Wisgi ma' Arwyn yn 'i yfad.
 
(1, 0) 775 'Dw inna hefyd.
 
(1, 0) 777 Medra!
 
(1, 0) 779 Wna' i ddim.
 
(1, 0) 781 Fedra i ddim blydi canu.
 
(1, 0) 783 Rwbath arall 'lly?
(1, 0) 784 Tra 'ti wrthi?
 
(1, 0) 786 Y?
 
(1, 0) 792 Do dam las!
(1, 0) 793 Be 'nei di?
 
(1, 0) 796 Glenmorangie ddeudis i wrth yr het.
(1, 0) 797 Wn i ddim be gebyst ydi hwn ma' hi wedi'i roid imi.
(1, 0) 798 Gwrando dim ar rywun, te?
(1, 0) 799 Dim.
(1, 0) 800 Duw duw, pan wyt ti'n gneud tsiec i rywun am bron i gant a hannar ti'n disgwl rwbath gwell na rhyw lol fel hyn, twyt?
(1, 0) 801 O'n i isio Glenmorangie yn un swydd i Arwyn.
(1, 0) 802 Hwnnw mae o'n yfad.
(1, 0) 803 Ond dyna fo.
(1, 0) 804 Be sy i' ddisgwl?
 
(1, 0) 807 'S gin i amsar i fynd â nhw'n ôl dwad?
(1, 0) 808 Faint 'neith hi?
(1, 0) 809 Oes duw.
 
(1, 0) 813 Damia!
(1, 0) 814 Ma'r car gin Gruff, tydi?
 
(1, 0) 816 Y?
 
(1, 0) 818 Dim byd dylat ti fwydro dy ben yn 'i gylcho...
 
(1, 0) 820 Gwrando dim, te.
(1, 0) 821 Gwrando dim.
 
(1, 0) 823 Hogan Dei Pandy.
 
(1, 0) 825 Fedra i ddim dallt neb yn cyflogi'r hulpan dwp.
 
(1, 0) 828 Y cwrs naw twll 'na welis i yn y Wirral.
(1, 0) 829 Ro'dd y boi wedi plannu tua thri dwsin o goed.
(1, 0) 830 Wedi dewis pob un ohonyn nhw'n ofalus.
 
(1, 0) 832 Wedi marcio ar y cynllunia ble o'dd pob un wân jac yn ca'l 'i phlannu.
 
(1, 0) 834 Dim rwla-rwla.
(1, 0) 835 O naci.
(1, 0) 836 Ro'dd 'na batrwm, sti?
(1, 0) 837 Trefn, rheolaeth.
(1, 0) 838 Y fo o'dd i ddeud.
(1, 0) 839 Neb arall.
 
(1, 0) 841 A fel 'na bydd hi'n fan'ma dallta.
(1, 0) 842 Fel'na'n union.
 
(1, 0) 848 A mi fydd raid i hwn ga'l dipyn o help yn y lle 'ma, rhaid?
(1, 0) 849 Ca'l swyddfa bach dwt.
(1, 0) 850 Nid rhyw gwt sinc fel sy gynno fo rŵan.
(1, 0) 851 Ysgrifenyddas bach e'lla.
(1, 0) 852 Gwbod am rywun?
(1, 0) 853 Be am rei o'r petha 'ma sy'n dwad i lawr i'r Ship nos Wenar?
(1, 0) 854 Clywad dy fod ti'n rêl hwyliwr ar rei ohonyn nhw.
 
(1, 0) 856 Prynu rownd ar ôl rownd, hwn.
(1, 0) 857 Dyna lle ma' mhres i'n mynd sti.
(1, 0) 858 I lawr corn gyddfa hŵrs o Lerpwl.
 
(1, 0) 860 Deud be d'wad?
 
(1, 0) 862 Ers pryd?
 
(1, 0) 865 Gest ti ddarn i'r olwyn 'na?
 
(1, 0) 868 Be 'nei di rŵan?
 
(1, 0) 870 Fedri di dynnu un oddi ar rwbath arall?
(1, 0) 871 Ma' 'na ddigon o ryw 'nialwch yn y rhiwal 'na.
 
(1, 0) 873 Wel, gneud ta te, yn lle porthi bendro yn fan'ma.
 
(1, 0) 891 A dos i chwilio am ddarn i'r olwyn 'na.
(1, 0) 892 Ma'r cae 'na'n un o beli.
(1, 0) 893 Drycha!
 
(1, 0) 901 Na!
(1, 0) 902 Trin yr olwyn 'na gynta.
(1, 0) 903 'Dw i ddim isio fflyd o bobol yn hewian wrth y drws 'na.
(1, 0) 904 Dos wir dduw.
 
(1, 0) 957 Da i rwbath?
 
(1, 0) 959 Hon?
 
(1, 0) 964 Cystal â'r Glenmorangie?
(1, 0) 965 Y?
 
(1, 0) 967 Hogan Dic Pandy ddim cymaint o hulpan ag o'n i'n feddwl, felly?
 
(1, 0) 969 Pwy?
 
(1, 0) 971 Ynglŷn â be?
 
(1, 0) 973 Ydi hi wedi bod yn mulo am honno eto?
 
(1, 0) 976 Oes!...
(1, 0) 977 Pa wahania'th 'neith o iddi hi; mi fydd hi...
 
(1, 0) 979 A ma' hwn yn stwff go lew ydi?
(1, 0) 980 Wel, wel.
 
(1, 0) 984 Tywallt olew ar y dyfroedd yn ôl dy arfar.
(1, 0) 985 Ti'n giamstar ar hynny bellach.
(1, 0) 986 Giamstar arni 'rioed, Arwyn bach.
(1, 0) 987 Y meistr ar eiria.
(1, 0) 988 Ro'ddat ti'n dipyn o fardd un adag, toeddat?
(1, 0) 989 Be ddigwyddodd?
(1, 0) 990 Be 'nest ti?
(1, 0) 991 Hudo'r hen awen i borfeydd mwy gwelltog?
(1, 0) 992 Ca'l dy dywys gerllaw'r llygredd tawel...
(1, 0) 993 Ac ni ddychwel yr enaid, ia?
 
(1, 0) 998 Cwpan dena.
(1, 0) 999 Fydda'r hen wraig 'y mam yn 'i hiwsio hi i drin menyn ers talwm.
 
(1, 0) 1003 Dos â'r diawl peth o'ma.
(1, 0) 1004 Presant bach i Nans.
 
(1, 0) 1007 Be ma' hi'n da i mi?
 
(1, 0) 1011 Dwi i wedi deud a deud wrth Gruff 'na am roid matsian i'r job lot.
(1, 0) 1012 'Dw i isio clirio'r lle 'ma, Arwyn.
(1, 0) 1013 A does 'na ddiawl o neb yn dallt hynny!
 
(1, 0) 1019 Wel?
(1, 0) 1020 Be amdani?
 
(1, 0) 1084 Gwylia'r blydi coesa 'na!
(1, 0) 1085 Pwyll!
(1, 0) 1086 Pwyll!
 
(1, 0) 1089 Gafa'l ynddyn nhw!
 
(1, 0) 1091 A rho dy law dano fo!
 
(1, 0) 1093 Fedri di 'neud rwbath heb gwyno d'wad?
 
(1, 0) 1095 'D wn i'm duw.
(1, 0) 1096 Tara fo yn fan'ma.
 
(1, 0) 1098 Fan'ma.
(1, 0) 1099 Rhwla.
 
(1, 0) 1101 Ty'd â fo i mi 'nei di?
(1, 0) 1102 'Dw i 'di dysgu bellach 'i bod hi'n haws o lawar gneud petha dy hun yn yr hen fyd 'ma.
(1, 0) 1103 Llai o draffarth o beth diawl.
 
(1, 0) 1105 Pwy uffar ma' hwnna'n feddwl ydi o?
 
(1, 0) 1107 Hwnna'n fan'cw.
(1, 0) 1108 Ar y range.
(1, 0) 1109 Yli arno fo.
 
(1, 0) 1112 Sefyll yn fanna'n rhythu ar bawb.
(1, 0) 1113 Be mae o isio?
 
(1, 0) 1115 Drw'r chwaral 'na ma'n nhw dwad.
(1, 0) 1116 Ma' gofyn ffensio'r lle.
(1, 0) 1117 Rhwbath i Nigel i' 'neud dros yr ha'.
(1, 0) 1118 O gofio sut cafodd o'i fagu ma' rwbath digon ffetus yn'o fo.
(1, 0) 1119 O, oes.
(1, 0) 1120 Fo beintiodd hwn yli.
 
(1, 0) 1122 Edrach yn siort ora, tydi?
(1, 0) 1123 Y?
 
(1, 0) 1125 Paid â'i gada'l hi'n rhy hwyr rŵan.
 
(1, 0) 1128 Cofia fi ati...
(1, 0) 1129 A Karen hefyd.
 
(1, 0) 1131 A ffonia'n criw ni heno hefyd tra wyt ti wrthi.
(1, 0) 1132 'Dw i ddim isio dim lol ddydd Merchar.
(1, 0) 1133 Rhoid sêl bendith arno fo.
(1, 0) 1134 A dyna ddiwadd arni...
(1, 0) 1135 Y babi 'ma, pan gyrhaeddith o...
(1, 0) 1136 Pwy fydd y tad bedydd?
 
(1, 0) 1140 Ceinwen.
 
(1, 0) 1144 Pam na fasat ti wedi deud wrtha' i 'u bod nhw wedi cyrra'dd?
 
(1, 0) 1147 Wir?
 
(1, 0) 1152 Rhywun i roid trefn arna' i Arwyn?
 
(1, 0) 1158 Joyce?
(1, 0) 1159 Gwydr, y munud 'ma!
 
(1, 0) 1161 Gwydra champagne te!
 
(1, 0) 1164 Digon da byth.
 
(1, 0) 1167 Ro'th yr hulpan y poteli iawn imi tro 'ma tybad?
 
(1, 0) 1169 Be welodd hi?
 
(1, 0) 1171 "Am hynny, cadwn ŵyl", yntê, Arwyn?
(1, 0) 1172 Y?
 
(1, 0) 1176 Gwranda ar hon yn rhefru.
(1, 0) 1177 E'lla ca' i dipyn o lonydd a chditha gartra.
(1, 0) 1178 Rhoid 'y nhraed i fyny dros yr ha'.
(1, 0) 1179 Gweld yr hen le 'ma'n dwad i drefn.
(1, 0) 1180 Fyddi di ddim yn nabod y lle 'ma mhen chydig fisoedd 'mechan i.
(1, 0) 1181 O, na fyddi.
(1, 0) 1182 Mi fydd hi fel ail Eden yma 'bydd Arwyn?
(1, 0) 1183 Y?
 
(1, 0) 1187 Oes, gobeithio, am igain punt y botal.
 
(1, 0) 1193 A lle ma'r Nigel 'ma sy gin ti?
(1, 0) 1194 Wedi picio i'r range ia?
(1, 0) 1195 Euros
(1, 0) 1196 Ble 'dw i fod i roid hwn?
 
(1, 0) 1198 Hei!
(1, 0) 1199 O'ma!
(1, 0) 1200 Lôn!
(1, 0) 1201 Lle preifat ydi fan'ma!
(1, 0) 1202 Glywist ti fi?
(1, 0) 1203 Euros
(1, 0) 1204 Mae o braidd yn drwm.
(1, 0) 1205 Ga' i 'i daro fo'n fan'ma?
 
(1, 0) 1210 Y?