|
|
|
|
(1, 0) 147 |
O, fe wnaf o'r goreu â Gruffydd Huws; does dim ofn i frathiad o arna i. |
|
|
(1, 0) 152 |
O, mae hi wedi'ch cyrraedd chitha felly? |
(1, 0) 153 |
Wel, cael f'annog gan amryw gyfeillion ddaru mi i gymryd |agency| dros y Gymdeithas yn y gymdogaeth hon, ac mi gydsyniais. |
(1, 0) 154 |
Fydd y swydd wrth gwrs yn ymyrryd dim â ngwaith i fel gweinidog Horeb, a wela i ddim fod y ddau waith yn taro chwaith yn erbyn i gilydd yn y gronyn lleia, achos does dim amheuaeth am onestrwydd y Gymdeithas; mae hi fel y banc, ac mae dynion o ymddiried wrth i chefn hi─dynion sydd â'u henwau yn barchus mewn cylchoedd eglwysig. |
|
|
(1, 0) 162 |
Mi wela wrth gwrs ma nid ameu'r Gymdeithas yr ydach chi ond ameu y nghymwyster i i'r swydd yntê? |
(1, 0) 163 |
Wel, mae llu go fawr o weinidogion o bob enwad yn |agents| iddi hi, ac yn sicr mae gen i gystal siawns i lwyddo a llawer ohonyn nhw. |
(1, 0) 164 |
Mi wnaf ddigon ohoni, gobeithio, i gael ambell i lyfr newydd i mi fy hun; anodd ydi cael rheini fel mae petha rwan─''y pris yn rhy fawr a'r pres yn rhy fach." |
(1, 0) 165 |
Heblaw hynny, mi rydw i wedi cael dau'n barod i gymryd |shares| yn y Gymdeithas. |
|
|
(1, 0) 170 |
Pirs Davies, Rhyd y Fen, ydi un. |
|
|
(1, 0) 174 |
Huw Tomos y Ffridd ydi'r llall. |
|
|
(1, 0) 182 |
Os na wna i, pwy wnaiff? |
(1, 0) 183 |
Rydw i'n barod wedi rhoi'r geinog bach oedd gen i mewn yn y Gymdeithas. |
(1, 0) 184 |
Be am danoch chi a Mari Huws, Gruffydd Huws? |
|
|
(1, 0) 202 |
O'r gora. |
(1, 0) 203 |
Wel, meddyliwch am y Gymdeithas yma'ch dau a chitha hefyd, Dafydd Roberts, mae hi'n camol i hun heb i mi ddeyd dim. |
(1, 0) 204 |
Nos dawch i chi'ch tri. |