|
|
|
|
18 |
Pwy? |
19 |
Y Morgansiaid? |
|
|
21 |
Beth maen nhw wedi'i wneud? |
|
|
23 |
Beth? |
24 |
Ble cawsant gyfle? |
25 |
Pwy gafodd afael arno? |
|
|
29 |
Ond beth wnaeth e iddyn nhw ei saethu? |
|
|
32 |
Ond tadcu, wyddoch chi ddim yn iawn ai bechgyn Rhydyfran a'i saethodd ai peidio. |
|
|
35 |
Pa ddrwg oedd Rofer wedi'i wneud? |
|
|
37 |
O'r annwyl, roeddwn i'n dechrau meddwl bod pawb wedi anghofio'r hen gynnen erbyn hyn. |
38 |
Roedd pethau wedi bod mor dawel y chwe mis diwetha. |
|
|
40 |
Dydw i ddim wedi anghofio, ac nid yw'n debyg y gwna i. |
41 |
Ond rwy wedi sylweddoli nad yw cadw'r hen gynnen yn fyw yn gwneud lles i neb—dim ond magu gofid i ni fel teulu. |
|
|
45 |
Meddyliwch am y plant—dyna'r etifeddiaeth y byddwch yn ei throsglwyddo iddynt. |
|
|
47 |
Ond dydy e'n ddim i'r plant eto—pam na allant dyfu i fyny heb gysgod yr hen gweryl a'r hen elyniaeth drostynt. |
|
|
51 |
Dydych chi ddim i ddweud wrtho beth sydd wedi digwydd i Rofer. |
|
|
55 |
Ie, ond peidiwch â dweud wrtho pwy a'i saethodd. |
56 |
Dwedwch mai anlwc oedd, dwedwch rywbeth, rhywbeth ond y gwir. |
57 |
Peidiwch â'i dynnu ef i mewn i'r gynnen ac yntau'n ddim ond deg oed. |
58 |
Dydy hi ddim ond creulondeb i'w dynnu ef ac Olwen i mewn i'r gynnen—rydw i wedi gofalu nad oes neb wedi sôn dim am y peth wrth y ddau—gadewch iddynt fod yn eu diniweidrwydd. |
59 |
Fy mhlant i ydyn nhw ac y mae gen i hawl i'w magu nhw fel yr ydw i am. |
|
|
61 |
Nac ydw i ddim yn anghofio. |
62 |
Roedd e'n ŵr i mi yn ogystal â bod yn fab i chi—sut galla i anghofio fyth? |
63 |
Ond rydw i am i'r plant dyfu i fyny yn eu hanwybodaeth. |
64 |
Maent mor hapus ac yr ydw i am iddynt gadw'r hapusrwydd yna cyhyd ag sy'n bosibl. |
|
|
70 |
Dydych chi ddim yn gwybod mai'r Morgansiaid a ddaeth ar ei draws. |
71 |
Ni wyddoch chi ddim beth a ddigwyddodd. |
72 |
A does gennych chi run hawl i ddweud wrth y plant mai'r Morgansiaid oedd yn gyfrifol am farwolaeth eu tad. |
|
|
74 |
Efallai mai rhedeg i ffwrdd a wnaeth yr ebol. |
|
|
78 |
Beth gwell fyddwch chi a hwythau a phawb arall o hynny? |
79 |
Ni wnaeth gelyniaeth a digofaint fel hyn les i neb erioed. |
80 |
Ceisiwch sylweddoli beth a fyddwch yn ei wneud. |
81 |
Chwerwi ysbryd a natur y plant—rhoi baich ar eu hysgwyddau—baich i'w gario drwy eu hoes. |
82 |
Dau sydd mor hapus a llon bob amser. |
|
|
86 |
Tadcu, dewch i ffwrdd, dewch i ffwrdd tra bo'r plant yn ifainc, cyn iddynt sylweddoli'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol. |
|
|
88 |
Ie, pam lai? |
89 |
Mae fferm yn rhydd nawr yn ymyl lle Marged fy chwaer yn Lloegr—rhywle ymhell, bell oddi yma—lle na bydd sôn am dylwyth Rhydyfran—lle geill y ddau blentyn dyfu i fyny heb yr hen gynnen yma yn bla ar eu heneidiau. |
90 |
Dechrau bywyd newydd, a hyd yn oed os na allwn ni anghofio yr hyn a fu, ni fydd eisiau i'r plant fyth ddod i wybod. |
|
|
95 |
Be waeth am hynny? |
96 |
Ni ddaw i wybod am y gynnen. |
97 |
Rydw i am fagu fy mhlant yn rhywle heb gysgod y cwmwl hwnnw yno. |
|
|
99 |
Ond ni ddaw hynny â'i dad yn ôl. |
100 |
Pa lesâd â fydd y cwbl? |
101 |
Roedd colli ei dad yn fwy o golled i mi nag i neb, ond... |
|
|
104 |
Tadcu, rwy'n erfyn arnoch chi, gwnewch addo peidio â dweud y gwir wrtho heno. |
|
|
106 |
Rwy'n gofyn i chi er mwyn y plant ac er eich mwyn chithau. |
107 |
Rydych ar y groesffordd heno. |
108 |
Os gwrthodwch chi ddilyn y llwybr a ofynnais i chi ei ddilyn, fe ddanfonwch y ddau blentyn yna ar lwybr sy'n arwain i atgasedd a dialedd, a chymylu eu holl fywyd. |
109 |
Rydych chi'n hen, ond y mae gan y ddau yna flynyddoedd Ìawer o'u blaen. |
110 |
Eu mam sy'n erfyn arnoch chi—nid er fy mwyn fy hun, ond er eu mwyn hwy. |
|
|
119 |
Rhaid i ti beidio â holi beth a ddigwyddodd i Rofer, Dafydd. |
|
|
121 |
Fe gei di gi arall yn ei le. |
|
|
136 |
Dafydd, os cei di boni i'w marchogaeth, a wyt ti'n fodlon peidio â gofyn rhagor sut y cafodd Rofer ei ddiwedd? |
|
|
144 |
Dafydd, cerdd allan am funud at Ifan. |
|
|
151 |
Nac oes ganddo, ddim hawl. |
152 |
Ni ŵyr beth y mae'n ei ofyn. |
153 |
Arnoch chi mae'r cyfrifoldeb i gyd. |
154 |
Peidiwch â cheisio ei daflu ar ei ysgwyddau ef. |
|
|
158 |
Arnoch chi mae'r cyfrifoldeb, cofiwch. |
159 |
Chi yn unig. |
|
|
174 |
Dafydd! |
175 |
Dwyt ti ddim i ddweud pethau felna. |
|
|
179 |
Rhaid i ti addo i mi nawr, Dafydd, na ddwedi di ddim peth fel yna eto. |
|
|
183 |
Fe gei di gi eto... |
|
|
189 |
A ydych chi'n sylweddoli nawr beth yr ydych wedi'i wneud? |
|
|
192 |
Rydych wedi cynnau tân na welwch chi na minnau mo'i ddiffodd. |