| (1, 0) 47 | Alff! |
| (1, 0) 48 | O'n i'n meddwl bo ni wedi colli ti! |
| (1, 0) 49 | Ma'i mor dywyll fan hyn, lan yn y mynyddoedd... A mor beryglus. |
| (1, 0) 54 | Cysga di'n dawel nawr, Alff. |
| (1, 0) 55 | Fydd Patshyn yn edrych ar dy ol di, a cadw'r bleiddied bant. |
| (1, 0) 61 | Watsha di, yr hen flaidd! |
| (1, 0) 62 | Fi yw Patshyn. |
| (1, 0) 63 | A ma pob un patshyn ar y clogyn 'ma yn adrodd stori. |
| (1, 0) 64 | Y cwbwl all blaidd neud yw codi ofon ar bobol, a'u lladd nhw, ond ma Patshyn yn gallu adrodd straeon! |
| (1, 0) 66 | Weda i stori, ble ma'r blaidd yn ca'l 'i ladd. |
| (1, 0) 69 | Wedyn fydd y bleiddied ma's fanna ddim yn codi siwd ofon arnon ni! |
| (1, 0) 70 | Wy'n mynd i adrodd stori Hugan Goch Fach. |
| (1, 0) 72 | O'dd hi'n gwisgo cap coch, a clogyn coch, a o'dd hi'n byw gyda'i mam ar ymyl y goedwig. |
| (1, 0) 73 | Un dywrnod, wedodd 'i mam hi: |
| (1, 0) 74 | "Wy ishe i ti fynd a basged o fwyd at mamgu. |
| (1, 0) 75 | Rhaid i ti gerdded trwy'r goedwig, and paid a crwydro, ne ddaw'r bleiddied ar dy ol di. |
| (1, 0) 76 | Cofia di nawr". |
| (1, 0) 77 | "O.K. mam", wedodd Hugan Goch Fach. |
| (1, 0) 78 | Ond yn y goedwig dywyll welodd Hugan Goch Fach flode o bob lliw... blode rhyfedd, blode pinc a blode melyn a blode coch, coch, coch – yr un lliw a'r clogyn a'r cap o'dd hi'n wisgo... blode yn tyfu rhwng y coed mawr... a'th hi i grwydro trwy'r coed, a'n sydyn... ro'dd hi ar goll! |
| (1, 0) 79 | Wedyn fe glywodd hi lais o'r tywyllwch... |
| (1, 0) 80 | "Ble wyt ti'n mynd Hugan Goch Fach?" |
| (1, 0) 81 | A'r cwbl alle hi weld o'dd dau lygad mawr gwyrdd... |
| (1, 0) 82 | "At mamgu, yr ochor arall i'r goedwig" wedodd Hugan Goch Fach... |
| (1, 0) 83 | "Ddangosa i'r ffordd i ti" wedodd y ddau lygad mawr gwyrdd... |
| (1, 0) 84 | "Diolch syr" wedodd Hugan Goch Fach... |
| (1, 0) 85 | A ddechreuodd hi gerdded ar hyd y llwybr at dy mamgu. |
| (1, 0) 86 | Ond welodd hi ddim beth o'dd tu ol y ddau lygad gwyrdd – blaidd mawr llwyd, a dannedd fel cyllyll bara. |
| (1, 0) 87 | A ro'dd y blaidd yn rhedeg o flaen Hugan Goch Fach, rhedeg drw dywyllwch y goedwig fawr... |
| (1, 0) 88 | A wedyn... |
| (1, 0) 90 | A wedyn... |
| (1, 0) 92 | A wedyn... |
| (1, 0) 94 | O diar, wy wedi anghofio diwedd y stori. |
| (1, 0) 95 | Wy erio'd wedi angofio hon o'r bla'n...! |
| (1, 0) 101 | Wy wedi anghofio'r diwedd. |
| (1, 0) 102 | Wy wedi anghofio tair stori wythnos hyn yn barod! |
| (1, 0) 103 | Edrych faint o'r hen batshus straeon ma sy'n dechre diflannu. |
| (1, 0) 104 | Diflannu o'r clogyn, a diflannu o mhen i. |
| (1, 0) 111 | Llyfyr yw e |
| (1, 0) 113 | Llyfyr yw e! |
| (1, 0) 115 | Llyfyr! |
| (1, 0) 117 | Ond sdim defnydd iddo fe! |
| (1, 0) 121 | Ie ie ie... wy'n gwybod. |
| (1, 0) 122 | Allwch chi ddim 'i fwyta fe, allwch chi ddim 'i wisgo fe, allwch chi ddim 'i glywed e... bla bla bla... |
| (1, 0) 128 | Ond siwd all e fwydo ni, siwd all e gadw ni'n dwym, siwd all e siarad a ni? |
| (1, 0) 130 | A pam wyt ti'n gweud mai gobennydd yw e nawr? |
| (1, 0) 131 | Llyfyr o't ti'n galw fe bore ma. |
| (1, 0) 136 | 'Na fe! |
| (1, 0) 138 | Y famgu! |
| (1, 0) 139 | Yn marw... Yn ca'l 'i bwyta yn fyw...! |
| (1, 0) 141 | Dim dy famgu di Alff, ond y famgu yn y stori, mamgu Hugan Goch Fach. |
| (1, 0) 142 | Redodd y blaidd mawr llwyd trwy'r goedwig, bwyta'r famgu, gwisgo'i ffroc hi, gorwedd yn 'i gwely hi... |
| (1, 0) 144 | A ma hi'n dweud, "Ma'ch llyged chi mor fawr... " |
| (1, 0) 146 | "A'ch clustie chi... " |
| (1, 0) 153 | Ni wedi bod yn poeni'n ofnadw amdanot ti Sosban, y'n do fe Alff? |
| (1, 0) 158 | Yr hen Sosban druan. |
| (1, 0) 169 | Wy ddim eishie siarad am gewri |
| (1, 0) 178 | Yn cerdded aton ni fan hyn? |
| (1, 0) 224 | Hisht Alff, fyddan nhw'n clywed ti... |
| (1, 0) 229 | Ie, ti'n iawn. |
| (1, 0) 231 | Fory, ewn ni lawr i'r cwm... |
| (1, 0) 234 | Wy eishe adrodd... |
| (1, 0) 235 | Stori'r deryn bach, a'r gath wyllt. |
| (1, 0) 236 | Stori ddysgodd dadcu i fi. |
| (1, 0) 243 | Titw Tomos. |
| (1, 0) 244 | Titw Tomos Las... |
| (1, 0) 245 | Yr aderyn bach perta a mwya lliwgar yng Nghymru... |
| (1, 0) 250 | Ma'r Titw Tomos bach yn hedfan dros y gerddi, yn gwrando, yn chwilio. |
| (1, 0) 252 | ~ |
| (1, 0) 253 | Gwrando ar adenydd |
| (1, 0) 254 | Adenydd bach yn curo |
| (1, 0) 255 | Calon fach yn curo |
| (1, 0) 256 | Mewn gobaith a llawenydd |
| (1, 0) 257 | ~ |
| (1, 0) 258 | Ma'r titw bach yn ffindio'i nyth. |
| (1, 0) 259 | Mewn gardd fawr. |
| (1, 0) 260 | Mewn coeden dal. |
| (1, 0) 261 | Yn y nyth ma gyda hi ddwy o adar bach. |
| (1, 0) 262 | Dwy ferch. |
| (1, 0) 263 | Yn cysgu yn dawel yn y nyth fach dwym... |
| (1, 0) 264 | Ma'r nos yn dod... |
| (1, 0) 266 | A wedyn, yn y nos, ma'r Titw Tomos yn gweld dau lygad melyn mawr. |
| (1, 0) 267 | Yn edrych lan ar y nyth. |
| (1, 0) 268 | Cath wyllt, yn sefyll lan ar i tra'd ol, yn mestyn 'i pawen at y nyth fach... |
| (1, 0) 269 | A ma'r Titw Tomos yn... |
| (1, 0) 271 | ~ |
| (1, 0) 272 | Gwrando ar adenydd |
| (1, 0) 273 | Adenydd bach yn curo |
| (1, 0) 274 | Calonne bach yn curo |
| (1, 0) 275 | Mewn ofon a nerfusrwydd |
| (1, 0) 276 | ~ |
| (1, 0) 277 | Ma'r hen gath yn gweud, |
| (1, 0) 278 | "Paid bod ofon, y Titw Tomos bach, wy ddim eishe dy fwyta di. |
| (1, 0) 279 | Ishe cwmni ydw i, ishe ffrind bach. |
| (1, 0) 280 | Rhywun i ganu can i fi, i neud i'n hapus. |
| (1, 0) 281 | Ma dwy o ferched bach gyda ti fanna. |
| (1, 0) 282 | Gad i fi ga'l un. |
| (1, 0) 283 | Y ferch leia. |
| (1, 0) 284 | Fydd hi'n hapus gyda fi, yn canu trw'r dydd, a fydda inne, o, mor hapus gyda'n ffrind bach newydd... |
| (1, 0) 289 | Odi ma hi Alff. |
| (1, 0) 290 | Fel 'na ma'r stori'n mynd... |
| (1, 0) 292 | Wel 'na'r stori.... |
| (1, 0) 333 | O na! |
| (1, 0) 334 | Ma'i wedi mynd! |
| (1, 0) 337 | Diwedd stori y Titw Tomos Las a'r gath. |
| (1, 0) 338 | Ma stori arall yn dechre diflannu o mhen i nawr. |
| (1, 0) 341 | Ma popeth yn mynd i farw Sosban. |
| (1, 0) 342 | Pob stori, pob can yn |
| (1, 0) 343 | mynd i ddiflannu... |
| (1, 0) 357 | Rwbeth hyfryd... |
| (1, 0) 358 | I fyta? |
| (1, 0) 366 | Dyw briwsion ddim yn swper... |
| (1, 0) 370 | Briwsion mawr...? |
| (1, 0) 375 | Bara... |
| (1, 0) 376 | W! |
| (1, 0) 379 | Caws... |
| (1, 0) 380 | W! |
| (1, 0) 384 | Cacen... |
| (1, 0) 385 | W! |
| (1, 0) 389 | Y nghalon i hefyd. |
| (1, 0) 390 | Bwm-bwm-bwm. |
| (1, 0) 396 | A nghalon i... |
| (1, 0) 399 | Fel swn... |
| (1, 0) 404 | Ma nhw wedi nghlywed i'n adrodd straeon! |
| (1, 0) 420 | Cer di – ti yw'r mwya... |
| (1, 0) 430 | Gweud beth? |
| (1, 0) 434 | Hello. |
| (1, 0) 435 | Nice weather for the time of year... |
| (1, 0) 440 | O'dd hwnna'n rybish, rybish! |
| (1, 0) 455 | O'n i'n gwbod hefyd. |
| (1, 0) 456 | Hy, hy! |
| (1, 0) 462 | Not that we were scared. |
| (1, 0) 470 | Ond siwd o'dd hi'n gwbod bod ni fan hyn? |
| (1, 0) 474 | Said to who? |
| (1, 0) 475 | Said to you? |
| (1, 0) 478 | Celwydd! |
| (1, 0) 479 | Sbei yw hi. |
| (1, 0) 480 | Y cewri sy wedi hala hi lan ma. |
| (1, 0) 488 | Ond ble ddysgodd hi'n iaith ni? |
| (1, 0) 491 | Rybish! |
| (1, 0) 492 | Ma hi'n gweud celwydd. |
| (1, 0) 493 | A beth y'n ni'n neud a sbeis, eh? |
| (1, 0) 499 | Os yw hi'n sbei, rhaid crogi hi. |
| (1, 0) 515 | Celwydd! |
| (1, 0) 522 | Pah... |
| (1, 0) 528 | Hyh! |
| (1, 0) 529 | Rybish... |
| (1, 0) 541 | Pah! |
| (1, 0) 571 | Stori a diwedd iddi. |
| (1, 0) 572 | Diwedd da. |
| (1, 0) 573 | Bravo! |
| (1, 0) 578 | Wwwwww! |
| (1, 0) 580 | Diwed y stori... y diwedd hyfryd 'na. |
| (1, 0) 581 | Wy wedi anghofio fe'n barod! |
| (1, 0) 620 | Alff! |
| (1, 0) 621 | Sosban! |
| (1, 0) 622 | Help! |
| (1, 0) 625 | Y clogyn straeon! |
| (1, 0) 628 | Wedes i bod hi'n gweud celwydd.... |
| (1, 0) 631 | Sbei yw hi. |
| (1, 0) 632 | Sbei y cewri! |
| (1, 0) 637 | A finne wedi colli'r clogyn straeon hyfryd 'ma. |
| (1, 0) 641 | A nghlogyn straeon i. |
| (1, 0) 643 | Dim ond llyfyr yw e. |
| (1, 0) 644 | Hen lyfyr anobeithiol. |
| (1, 0) 660 | Paid credu hi... |
| (1, 0) 669 | Dyw e ddim... |
| (1, 0) 670 | Sdim defnydd iddo fe. |
| (1, 0) 675 | Hwnna? |
| (1, 0) 676 | Amhosib... |
| (1, 0) 685 | Y marce bach hyn ar y papur sy'n gweud straeon? |
| (1, 0) 698 | Sai'n credu ti. |
| (1, 0) 706 | Wyres – grand-daughter... |
| (1, 0) 707 | Merch i ferch mamgu. |
| (1, 0) 809 | Wy'n gwbod siwd ma'r stori 'ma yn gorffen! |
| (1, 0) 810 | Wy'n gwbod y diwedd! |
| (1, 0) 811 | Ar ol i mamgu farw ma Alff yn gadel y cartre, gyda'r peth mwya gwerthfawr yn y wlad. |
| (1, 0) 812 | A ma hi'n cwrdd a storiwr... |
| (1, 0) 814 | Ond o'dd dim straeon na caneuon gyda Alff. |
| (1, 0) 816 | Ond o'dd hi'n anghywir. |
| (1, 0) 817 | Achos yn y llyfyr ro'dd pob can a pob stori... |
| (1, 0) 819 | O'dd ddim yn gawr... |
| (1, 0) 821 | O'dd yn gweud bod hi'n ffrind... |
| (1, 0) 823 | Ond o'dd, wedir cwbwl, yn chwa'r... |
| (1, 0) 852 | Ni'n cysgu ar y creigie, a gorfod hela am fwyd. |
| (1, 0) 855 | A wy ishe adrodd pob stori sy yn hwn! |