Cuesheet

Beddau'r Proffwydi

Lines spoken by Plisman (Total: 44)

 
(1, 0) 289 Sut rydech chi yma heno i gyd, deulu diddan?
 
(1, 0) 296 Foneddigion a boneddigesau, nid hel at y Gymdeithas Feiblau ryden ni'r tro yma,—ond yma ar berwyl y gyfraith ryden ni.
(1, 0) 297 Fel hyn y bu pethau—yr oedd y bonheddwr hwn, sef Mr. Alexander McLagan, (mae'n wir ddrwg gennyf nad ydyw ei Gymraeg yn deilyngach o'i gwmni), a minnau wrth ein post heno tuag ugain munud wedi wyth yn gwylio am |boachers|, ac wedi aros wyth munud wrth fy oriawr...
 
(1, 0) 299 Yr oeddwn i yn mynd i ddweud, Mr. Williams, pan welsoch chi'n dda dorri ar draws fy sgwrs, ini weled dyn tua phum troedfedd deng modfedd o hyd yn dod allan o Winllan y Coetmor ac yn cerdded yn bwyllog tuag atom.
(1, 0) 300 Pan welodd ni, trodd yn ei ol, gan daflu rhywbeth ar y clawdd a rhedeg i ffwrdd.
(1, 0) 301 Wedi i ni fyned tua'r fan a'r lle, |to wit|, y clawdd, daethom o hyd i |game| wedi ei adael yno.
(1, 0) 302 Barnasom yn ddoeth, wedi cydymgynghori, adael y |game| yno i edrych a ddeuai yn ol i'w gyrchu.
(1, 0) 303 Cyn hir gwelsom rywun yn dod—y cyhuddedig yn ddiameu—a chymerodd arno oleu'i bibell wrth ymyl y |game|, ond pan oeddem ar fyned i afael ynddo, clywsom dwrw ymhen draw'r winllan, ac ergid o ddryll...
 
(1, 0) 305 Dryll, machgen i, dryll,—neu yn iaith y werin, gwn....
(1, 0) 306 Erbyn ini droi i chwilio am achos yr ergid, yr oedd y |poacher| wedi diflannu'n hollol gyda'r |game|,—ond ar ol dilyn ol ei draed yn y gors y mae'n ddiameu gennym mai i'r tŷ hwn—y Sgellog Fawr—neu i rywle cyfagos yr aeth.
(1, 0) 307 Yn awr, yr wyf yn eich tynghedu nad atalioch oddiwrthyf ddim os gwyddoch!
 
(1, 0) 316 Wel, dyna ni wedi colli'n deryn eto, McLagan.
(1, 0) 317 Dowch ar unwaith i chwilio am dano.
(1, 0) 318 Nos da, deulu,—roedd yn ddrwg genni'ch trwblo.
 
(1, 0) 322 Gadael beth, deudsoch chi?
 
(1, 0) 326 Pwy ddeudodd wrthych chi mai dau ffesant oedden nhw?
 
(1, 0) 331 Fuoch chi allan heno?
 
(1, 0) 334 Ym mhle, mor hy a gofyn?
 
(1, 0) 349 Mae'n rhaid imi eistedd i gymryd |notes|.
(1, 0) 350 Mae mwy yma nag sy yn y golwg.
(1, 0) 351 Yn awr, Mr. Emrys Williams,—newch chi ddweud wrthyf beth welsoch chi pan oeddech chi'n hel y baw coch yna ar ych esgidia?—er mwyn helpu gwâs y gyfraith, wrth gwrs.
 
(1, 0) 360 Gadewch ef i mi, gyfaill McLagan.
(1, 0) 361 Prin rydech chi eto'n feistr ar yr hên Gymraeg.
 
(1, 0) 363 Mae hon ar fy ffordd i.
 
(1, 0) 365 Maddeuwch i mi, Mrs. Williams.
 
(1, 0) 367 Oho! felly wir!
(1, 0) 368 'Rydw i'n gweld 'rwan.
(1, 0) 369 |To be sure|, doedd ryfedd wir ych bod chi'n gwbod am danyn nhw!
(1, 0) 370 |Dear, dear|! mi 'roedd y Sgweier yn ameu'i denantiaid.
 
(1, 0) 372 Gellwch chi'i chymryd hi fel ffaith, Mr. Williams, y bydd gwarant yn ych erbyn chi, bore fory.
(1, 0) 373 Os ydw i—{yn torsythu}—dipin yn raenus fy nghâs, mi fedrai ddal |poacher| cystal ag undyn.
(1, 0) 374 Hefyd, rhaid imi'ch rhybuddio y bydd popeth a ddywedwch yn cael ei godi i'ch erbyn eto.
(1, 0) 375 Dowch, gyfaill McLagan.
(1, 0) 376 Mi gawn ni orffen hyn eto!
(1, 0) 377 Nos da, deulu, nos da.
 
(1, 0) 391 Peidiwch a chynhennu, wragedd!
(1, 0) 392 Caiff Mr. Williams bob chware teg i ddeud y gwir wrth yr ustusiaid ddydd Sadwrn, a chaiff sôn faint fynno fo am ymddanghosiad personol swyddogion y gyfraith.
(1, 0) 393 Dowch, McLagan.
 
(1, 0) 399 O, aie wir?
(1, 0) 400 Ond sut y medrwch chi gysoni'r ffaith i mi weld dyn yn i cymryd nhw?
 
(1, 0) 404 Lle ar glawdd pella'r Coetmor roedd y ffesants, meddwch chi?
 
(1, 0) 412 Dim iws, Robert William,—dyledswydd, dyledswydd.
(1, 0) 413 Nos da.
 
(1, 0) 415 Mi fydda i'n cadw golwg arnoch chi, nes bydd y papur yn ych llaw chi.