Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Pobun (Cyfanswm: 391)

 
(0, 2) 32 Dos yn ebrwydd i geisio goruchwyliwr y tŷ; rhaid i mi roi gorchymyniddo.
 
(0, 2) 34 Ys gwir, y mae golwg da ar fy nhŷ.
(0, 2) 35 Saif yma yn urddasol, yn wych a chyfoethog.
(0, 2) 36 Nid oes yn y dref un tebyg iddo.
(0, 2) 37 Y mae ynddo liaws o ddodrefn drud, cistiau lawer, cypyrddau lawer, gweinidogion lawer, heblaw hynny, trysor teg o aur pur, ac o flaen y porth digon o lawntiau.
(0, 2) 38 Plasdy yn y wlad hefyd, tyddyn llawn o wartheg a defaid a'r rheiny'n dwyn elw i mi, fel yn wir y gallaf fyw'n llawen o ddydd i ddydd.
 
(0, 2) 40 Swyddog, dos i ymofyn côd lawn o aur i mi—fe anghofiais ei dodi yn fy ngwregys.
(0, 2) 41 Dal sylw ar hyn hefydy fory, rhaid paratôi gwledd o'r pethau gorau oll—bydd perthynasau a gwahoddedigion dieithr yn dyfod.
(0, 2) 42 Rhaid bod wedi trwsio'r bwrdd yn wych.
(0, 2) 43 Gyrr y Cogydd yma, dos dithau ynghylch yr aur.
 
(0, 2) 45 Y mae arnaf eisiau gwledd gostfawr erbyn yfory.
 
(0, 2) 48 Crynu'r cryd arnat!
(0, 2) 49 O'r newydd?
(0, 2) 50 Dim ysborion ar fy mwrdd i!
 
(0, 2) 52 Yr asyn!
(0, 2) 53 A wyt ti'n meddwl mai cinio cardotyn a fynnwn i?
 
(0, 2) 57 Cadw di olwg ar forwyn a gwas, nid ynt yn rhyngu mo'm bodd ym mhopeth.
 
(0, 2) 61 Dyna pam yr wyt ti'n ben swyddog yma, er mwyn i ti—O, dyma'r cydymaith!
 
(0, 2) 64 Yr oeddwn eisoes yn disgwyl amdanat.
(0, 2) 65 Awn yn awr at borth y dref i edrych y darn tir, gael i ni weld a dalo at wneud gardd bleser.
 
(0, 2) 76 Myfi?
(0, 2) 77 Pwy yw, tybed?
 
(0, 2) 82 O'r gorau!
 
(0, 2) 85 Aie?
(0, 2) 86 Gwaed Duw!
(0, 2) 87 Dyro hi'n ôl i mi, ynteu.
 
(0, 2) 90 O honyna?
 
(0, 2) 94 Dim ond hynny?
 
(0, 2) 100 Aros!
(0, 2) 101 Pwy roes gennad i ti sôn am fy nghistiau, fy rhenti a'm llogau i?
 
(0, 2) 104 Gad iddo!
 
(0, 2) 106 Weli di, yr wyt yn methu'n arw wrth feddwl y gallwn i rhag blaen rannu'r hyn sydd yn y pwrs â thi.
(0, 2) 107 Erbyn hyn, nid eiddof i mo'r arian, yn un peth—rhaid i mi eu talu heddiw fel pris gardd bleser.
(0, 2) 108 Rhoddais fy ngair i'r gwerthwr, ac nid erys hwnnw ddim yn hwy am yr arian.
 
(0, 2) 111 Pe dygid y nesaf yma, ni byddai hwnnw chwaith ddim yn rhydd.
(0, 2) 112 Rhaid i'm harian i dreiglo a gweithio, ymryson ag angau ac â'r diawl ei hun, rhedeg ymhell a gorwedd ar lôg, er mwyn i minnau gael yr eiddof fy hun.
(0, 2) 113 Heblaw hynny, cyst fy nhai lawer i mi; cadw meirch, bytheiaid a gweinidogion, a'r pethau eraill sy'n perthyn i'r busnes, gerddi, pysgodlynnoedd, tir hela mwy o ofal am bethau felly nag am blentyn bach!
(0, 2) 114 [Rhaid eu cadw mewn trefn a'u gwella o hyd, cost fawr i ddechrau a chost wedyn o hyd.]
(0, 2) 115 Hawdd iawn dywedyd "Gŵr cyfoethog," eto llawer trafferth y sydd, a galw arnom o bob cyfeiriad, peth na ddaeth i'th ben di erioed.
(0, 2) 116 Dônt yma o bell ac agos, pob un a'i hawl a phob un a'i angen; [ni chymerai dyn mo'r tricham oddi yma at y wal acw heb fod o hyd a'i law'n agored.]
(0, 2) 117 Purion, ond rhaid cael rheswm a chyfraith hefyd, ac i bawb ofalu am yr hyn a berthyn iddo.
(0, 2) 118 Rwyt ti'n methu yn y fan yma eto.
(0, 2) 119 Pe cyfrifid f'arian a'm heiddo i gyd, a'u rhannu rhwng pob Cristion y byddai arno angen elusen, ni ddeuai mwy i ti na'r swllt hwn, yn sicr.
(0, 2) 120 Am hynny, cymer ef rhag dy flaen, canys dyma dy gyfiawn ran.
 
(0, 2) 124 Bellach, ni awn, y mae hi'n hwyrhau.
 
(0, 2) 132 I bwy y mae'r ergyd yna?
 
(0, 2) 134 Nid wyf yn deall monot.
(0, 2) 135 Ni wn i ddim am bwy yr wyt ti'n fy nghymryd.
 
(0, 2) 137 Dyna air caled i mi heb achos.
(0, 2) 138 Os drwg dy sut wyt ti, beth a allaf i wrth hynny?
 
(0, 2) 142 Pwy roes ergyd i ti?
 
(0, 2) 144 [Nid adwaen i monot wrth d'olwg.]
 
(0, 2) 146 Peth rhyfedd fyddai fy mod yn gwneud hynny ac heb wybod dim am y peth.
(0, 2) 147 Beth?
 
(0, 2) 150 [Ar fy ngair, pa beth yw hynny i mi?]
 
(0, 2) 152 'Rwy'n golchi fy nwylo mewn diniweidrwydd, fel un na ŵyr ddim am y peth.
 
(0, 2) 155 [Pwy a barodd iti fenthyg arian ar lôg?
(0, 2) 156 Bellach, dyma'r cyfiawn dâl i ti.
(0, 2) 157 Ni ŵyr f'arian i ddim amdanat ti na minnau, ac ni dderbyniant wyneb neb.
(0, 2) 158 Amser wedi mynd heibio, dydd wedi darfod—dwg dy gŵyn yn eu herbyn hwy.]
 
(0, 2) 165 Aros, wraig, drwg yr wyt ti'n deall y peth a ddywedi; nid o ddrwg ewyllys yn erbyn dy ŵr y bu hyn; ystyriwyd y cwbl yn llawn ac yn deg cyn rhoi cyfraith arno.
(0, 2) 166 Arian, fel pob masnach arall, y mae arian dan gytundeb a thegwch.
 
(0, 2) 171 Yr wyt yn cablu fel ynfytyn noeth!
(0, 2) 172 Ni wn i pam yr wyf yn aros yma.
(0, 2) 173 Dywed paham y mae dy barch i arian mor brin pryd y byddai yntau'n beth mor ddwyfol i ti!
(0, 2) 174 Wrth fwrw dirmyg arno cyffelyb wyt i'r cadno a'r grawn surion; a'r sawl a ddifenwo unpeth yn ei gefn, ni chaiff hwnnw neb a'i credo ar ei air.
 
(0, 2) 177 Cymer y ddysg hon gennyf i—gŵr doeth a dyrchafedig oedd y sawl a ddyfeisiodd arian i ni, oherwydd drwy hynny, yn lle rhyw gyfnewid pethau a rhyw fan-werthu salw, daeth ein byd ni i gyd i gyflwr uwch, a dyfod pob dyn yn ei gylch ei hun yn ddioed yn debyg i ryw Dduw bychan, [fel y gallo yn ei ffordd gynhyrchu ac achosi llawer o bethau].
(0, 2) 178 Daw i feddu llawer iawn drwy hyn, ac heb na thynnu sylw na chodi sŵn, i reoli llawer mil o ddwylaw, a bod mewn gwirionedd yn llywodraethwr.
(0, 2) 179 Ni bydd dim yn rhy uchel na rhy ddiogel na ellir ei brynu am arian.
(0, 2) 180 Ti elli brynu'r tir a'r gwas ynghyd, a hyd yn oed awdurdod ysgrifenedig y brenin, peth amhrisiadwy bob amser, a pheth a gysegrwyd gan Iesu Grist ei hun; a hyd yn oed o hynny oll, ymhobman, bob amser, ti elli am arian brynu rhan.
(0, 2) 181 Ac ni wn i am un awdurdod tros ben honno; o'i blaen hi bydd raid i bawb blygu, a thalu parch i'r petb sydd yn fy llaw i yma.
 
(0, 2) 183 Myfi, rhoi parch yr wyf i lle'r haeddir parch, ac nid cablu lle bynnag y gwelwyf fod gallu.
 
(0, 2) 193 Er fy mwyn i, dos ar eu holau, ac edrych yn ddistaw at y peth.
(0, 2) 194 Aed y gŵr i'r carchar, ni thâl poeni dim erddo ef; am y wraig, mi atebaf am gysgod iddi, ac am y peth a fo rhaid iddi at fyw, a'r plant i'w chanlyn, mi a'i rhof iddynt.
(0, 2) 195 Caiff y goruchwyliwr ofalu drosof am hynny, a gwneud ystafell yn barod iddynt; eto, mynnwn fod heb glywed eu llefain na gwybod eu hangen na'u cwyn.
(0, 2) 196 Y mae hyn yn beth blin ddireswm—dyn yn byw'n dawel iddo'i hun, heb un amcan drwg yn wir yn ei feddwl, ac yn sydyn ar y dydd brafiaf fu erioed, ei lusgo fel hyn heb yn wybod iddo sut, i ganol ymryson, chwerwder a chwynfan, a'i fwrw allan o'i dawelwch.
(0, 2) 197 'Rwy'n gofyn i ti, pam y dylwn i ddyfod i mewn i beth fel hyn?
(0, 2) 198 Pa beth sydd a wnelwyf i â helynt y taeog?
(0, 2) 199 'Tynnu ei hun i'r drwbl, ac yna dyfod yma i gwyno ac ochain, hynny oll, wrth gwrs, fel y daw'r naill droed ar ôl y llall.
(0, 2) 200 Codi bwthyn ag arian benthyg; pwy bynnag a fynn dŷ felly, yr un fath y bydd hi arno.
(0, 2) 201 [Dyna'r hanes er dyddiau Adda, nid rhywbeth newydd ddyfod yw.
(0, 2) 202 Ac i ddibennu, mynnai fy ngosod i yn ei esgidiau, ac yntau yn fy nyled am dwr o arian, a bydd cost y chwarae'n disgyn ar hirymaros ac amynedd y gŵr trugarog nad oedd, yn ei olwg ef, ond diawl noeth!]
(0, 2) 203 Ond bellach, a dywedyd y gwir yn blaen, nid oes arnaf i ryw lawer o awydd mynd i weled un ardd bleser, ac y mae hi eisoes yn tywyllu.
(0, 2) 204 Gwna gymwynas eto â mi, fy nghydymaith, ar ôl iti orffen y llall,—dwg y tâl hwn i'r sawl piau, rhag bod i mi flinder oblegid esgeuluso.
(0, 2) 205 Mi rof yr ardd bleser a'r tŷ pleser ynddi yn rhodd i'm meistres ar ben eì blwydd eto.
 
(0, 2) 208 Llawer o ddiolch i ti, gydymaith da, mae awydd arnaf am brysuro yno—dyna'r unig fan yn y byd na bydd ynddo ddim yn andwyo fy mhleser; rhyw wynfyd cwbl baradwysaidd yw'r croeso parod a gaf ganddi hi.
(0, 2) 209 Am hynny, f'ewyllys yw bod pa beth bynnag a ddygaf yn rhodd iddi hi yn dangos fy niolchgarwch iddi megis mewn drych.
 
(0, 2) 211 Trefnais yr ardd gyda gofal, a bod tŷ pleser i fod yn ei chanol, a'r gwaith yn union wrth fy mryd fy hun, megis llwyfan agored, a cholofnau teg o faen yno, a dwfr yn neidio i'r awyr a delwau pres na bont yn ôl am un addurn; ac yno hefyd, gosod y gwelâu fel y bo arogleuon blodau o lawer math yn llenwi awel y bore a'r hwyr, lilîau, rhosynnau a lafant.
(0, 2) 212 [Hefyd, mynnais drefnu bod yno lwybrau i bob cyfeiriad, a bwâu wedi eu plethu o fân geinciau'r coed a'r rheiny mor dewion fel y caffo dyn gysgod rhag y gwres a hyfrydwch yno ar ganol y dydd tecaf, lle ni wywo dim rhag y tes.]
(0, 2) 213 At hynny, mewn rhyw lannerch gudd, megis gwely y ryw dduwies, mi fynnaf gael ystafell o faen llyfn caboledig, a bâdd ynddi.
 
(0, 2) 215 Mi roddaf honno i'm hanwylyd, a'i harwain hithau yno gerfydd ei dwy law, fel y gwelo hi yn yr ardd fach werthfawr hon ei llun ei hunan megis mewn drych; [lle fydd hwn fydd yn fy llawn foddhau i bob amser, a thes a chysgod hyfryd yn fy llonni, a gardd fach dawel megis hon fydd dedwyddwch a golud y garddwr].
 
(0, 2) 218 Ni fynnwn ei hysgói hi, ond yn wir nid oes imi ond ychydig amser.
(0, 2) 219 Dos di a dwg i mi'r dangosiad cymwys am yr arian, tra bwyf innau yn ei chyfarch hi.
 
(0, 3) 221 Mae awel yr hwyr yn ddrwg ei naws, a'ch iechyd chwithau'n wan a bregus, fel na allaf beidio â phryderu wrth eich gweled yma.
(0, 3) 222 Oni ddowch i mewn i'r tŷ?
 
(0, 3) 224 Am heno ni all hynny fod.
 
(0, 3) 226 Poeni yr wyf am eich iechyd chwi—hwyrach y caem ryw gyfle eto.
 
(0, 3) 233 [Fy mam, nid gwawdio yw f'amcan i, ond mi wn mai hoff iawn gan yr offeiriaid fwgwth pobl; dyna'u hunig amcan yn y byd—lladd ar gyfoeth, os gennym ni y bydd, er mwyn ei gael at eu gwasanaeth eu hunain.
(0, 3) 234 Gresyn yw meddwl na wnant ddim ond pwnio rhyw syniadau tywyll ym mhennau hen bobl a rhai afiach.]
 
(0, 3) 238 [Yr ydym ni'n Gristnogion da, yn gwrando ar bregethau, yn rhoi elusennau, ac yn byw'n ddibriod.]
 
(0, 3) 241 Nid wyf i eto brin ddeugain mlwydd oed, ac ni chaiff neb drwy orfod beri i mi beidio â'm pleserau daearol.
 
(0, 3) 243 [Yr wyf yn ieuanc o galon ac yn iach drwodd a thro, a mynnaf fwynhau fy mywyd.
(0, 3) 244 Fe ddaw'r amser yn ddigon buan pryd y bydd cymwys i mi edifarhau ac ymroddi.]
 
(0, 3) 246 [Fy mam, diflas yw'r ymddiddan hwn i mi; dywedais eisoes nad oes gennyf heddiw mo'r egwyl.]
 
(0, 3) 248 [Bryd arall, mi fyddaf yn ufudd iawn ac yn barod i'ch gwasanaethu.]
 
(0, 3) 252 Pa beth—
 
(0, 3) 256 [Fy mam, mi wn yr ystori hon yn dda.]
 
(0, 3) 258 [Ni ddaeth yr amser i hynny eto.]
 
(0, 3) 260 Nid wyf yn dywedyd nac ie na nage.
 
(0, 3) 262 Daw dydd eto yfory.
 
(0, 3) 264 Peidiwch â phoeni heb achos, fe'm gwelwch yn ŵr priod eto, yn sicr.
 
(0, 3) 266 [Nid sôn yr oeddwn am heddiw nac yfory.]
 
(0, 3) 269 Nos da, nos da, fy mam, gobeithio y cewch orffwyso'n dawel.
 
(0, 3) 274 Fe glywaf innau adsain felly hefyd!
(0, 3) 275 Ai rhyfeddod yw hynny, meddwch chwi?
(0, 3) 276 O, na, peth a ddigwydd yn naturiol yw, er na wn i ddim ychwaith pa fodd i'w esbonio.
(0, 3) 277 Ac yn awr, nid yn unig i'm clyw y daw, ond hefyd o flaen fy llygaid.
 
(0, 3) 279 Ha, dyma hi, f'anwylyd, y mae fy nghalon eisoes yn hiraethu amdani.
(0, 3) 280 Chwaryddion yn ei chanlyn yn llu a hithau'n dyfod i'm ceisio.
 
(0, 3) 282 Y mae d'oleuni di yn drech na'r ffaglau oll, a'th eiriau'n bereiddiach na sain telyn.
(0, 3) 283 Y mae hyn oll i mi yr awr hon fel balm i glwyf agored.
 
(0, 3) 285 A roddi di gymaint o bris arnaf nes sylwi ar bethau felly?
(0, 3) 286 Nid rhyw hen ddyn annymunol ydwyf iti felly, mewn gwirionedd?
 
(0, 3) 289 Yr wyf yn wir yn teimlo'n ieuanc o galon ac o'm rhan fy hun yn ddigon tebyg i hogyn, ac os wyf wedi peidio â bod yn hogyn erbyn hyn, y mae fy nheimlad lawn |mor| dyner.
 
(0, 3) 292 Pan goffaer dyn am angau, a'i fod yntau'n brudd ei fryd, bydd gweld d'anwyldeb di yn ddigon i chwalu'r meddyliau trymllyd.
 
(0, 3) 295 F'anwylyd, a berais i boen i ti?
(0, 3) 296 Gadawn iddi ymguddio dan y blodau; na boed i ni gofio dim yn y byd am un sarff, ond am ddwy yn cofleidio'n annwyl.
 
(0, 3) 298 Dy freichiau annwyl di ydynt hwy, a mynnwn orwedd ynddynt.
 
(0, 4) 340 Croeso i chwi bawb, a diolch i chwi heno am roddi arnaf yr anrhydedd olaf.
 
(0, 4) 344 Rhywbeth yn dyfod dros wefus dyn heb yn wybod iddo!
(0, 4) 345 Ond, y croeso gorau yn y byd i chwi bawb!
 
(0, 4) 351 Pam y maent hwy yn eistedd bob un yn ei amdo!
 
(0, 4) 354 Ha-ha!
(0, 4) 355 Rhyw syniad gwrthun ar ddamwain!
(0, 4) 356 Mi yfaf gwpanaid o win i glirio rhyw ddylni felly o'r ymennydd.
 
(0, 4) 359 Ai yma y dylech chwi fod, bobl?
(0, 4) 360 Yr ydych yn edrych yn union fel estroniaid i mi.
 
(0, 4) 365 Ie, ie,... dim ond... ond yr oedd yn fy meddwl i gynneu, pan ddaethoch i mewn yma gyntaf, y gallswn eich prynu i gyd a'ch gwerthu wedi hynny hefyd, ac na buasai hynny'n fwy o beth i mi na phe bawn yn torri f'ewin.
 
(0, 4) 373 Dy gosbi di, f'anwylyd?
(0, 4) 374 Peth pell o'm meddwl i yw hynny—yr wy'n dy garu fel cannwyll fy llygad fy hun.
(0, 4) 375 Rhaid fy mod yn rhyw feddwl ar ddamwain sut olwg fyddai arnat pe daethai'r newydd i ti yn sydyn gan rywun fod yn rhaid i mi farw yr awr hon.
 
(0, 4) 378 Pe gofynnwn
(0, 4) 379 A arhosi di gyda mi?
(0, 4) 380 A fynni di fod gyda mi'r tu draw megis y tu yma?
(0, 4) 381 A fynni di ddyfod i'm canlyn i'r fan draw, a chymryd rhan o'm gwely oer-fel-yr-ia?
 
(0, 4) 383 Syrthit yn ddideimlad wrth fy nhraed, fel y byddai raid i minnau edifarhau am ofyn y fath beth?
(0, 4) 384 Pe [ceisiwn gennyt ddyfod y ffordd honno, rhewai dy waed yn dy wythiennau; byddai'n artaith ddwbl i minnau, fel bustl a gwinegr ynghyd pe] bai raid i mi edrych a'm llygaid fy hun a gweld na thalai dy lw serchog ddim yn hwy, ac fel y gollyngai dy law fy llaw innau yn y diwedd, ac fel y tynnit dy wefusau oddi wrth fy ngwefusau i yn yr awr olaf!
(0, 4) 385 O, gwae!
 
(0, 4) 392 Dduw trugarog!
 
(0, 4) 447 Byddwch lawen, geraint a chyfeillion hoff; nid oeddwn gynneu ddim yn teimlo'n rhyw dda iawn, ond erbyn hyn fe'm gwnaeth y ddiod eto'n iach.
(0, 4) 448 Croeso i bawb ohonoch at fy mord gron.
(0, 4) 449 'Roedd rhywbeth megis yn pwyso ar fy mron, ond yn awr, dyma eto ddyblu pleser bywyd.
(0, 4) 450 Dedwyddwch yw ein bod ni yma gyda'n gilydd—mae hynny i mi fel gwin gwir lawenydd.
(0, 4) 451 Y mae fy nghalon yn fwy na llawn, ni wn i ddim yn wir pa beth a ddywedaf.
(0, 4) 452 Peth gwerthfawr yw ein bywyd yn y byd, ysblennydd ydyw bywyd oll o'n hamgylch ni, Ie, serch a chyfeillgarwch, mawr yw eu gwerth, a'r sawl a'u caffo hwy, ni fynn ei galon fwy; [ac os ceir hefyd gân a gwin, llawenydd y tu hwnt i fesur fydd hynny].
(0, 4) 453 Gyfeillion hoff, 'rwyf yn eich caru yn wir; mwynhewch yr awr i'r eithaf oll; na boed eich gyddfau'n segur, doed cân allan, aed gwin i mewn, clymed eich lleisiau yn y gân, a phawb a'i goflaid ganddo'n dynn, [mwynhewch yr awr ddedwyddaf hon â chalon, gwefus, llygad, llaw!]
(0, 4) 454 Na boed eisiau hir grefu arnoch, tyrd, dyro inni gân, fy annwyl gâr.
 
(0, 4) 470 Ond pa sŵn clychau yw hwnyna?
(0, 4) 471 'Rwy'n meddwl nad arwydd da mono!
(0, 4) 472 Sain groch a brawychus, yn gyrru ias a gloes drwy galon dyn!
(0, 4) 473 Paham y cân y clychau ar yr awr hon?
 
(0, 4) 484 ['Rwy'n erfyn na sonioch ddim mwy am y peth—ni chlywaf mono mwy, pob peth yn dda.]
 
(0, 4) 487 Llawer o ddiolch, fy nghâr, ond gadewch hynny.
 
(0, 4) 494 Fy Nuw!
(0, 4) 495 Pwy sy'n galw arnaf?
(0, 4) 496 O ble y gelwir arnaf?
(0, 4) 497 Ni byddaf ddedwydd byth eto tra bwyf!
 
(0, 4) 502 Dywed, fy nghyfaill, pwy sy'n galw "Pobun"' mor groch?
 
(0, 4) 504 Na, na!
(0, 4) 505 Sŵn ofnadwy, yn uchel ac yn gryf, nid yn ysgafn.
(0, 4) 506 Fel hyn: "Pobun, Pobun!" ond yn uwch nag y gallwn i ei ddynwared.
(0, 4) 507 Yn swnio'n ddieithr ac eto'n gynefin hefyd.
(0, 4) 508 O ba uffernol fan y gallent fod yn galw arnaf?
(0, 4) 509 Ni chaf i byth ddim cysur eto, na chaf!
(0, 4) 510 Yna, yna, eto!
(0, 4) 511 Clywch mor groch y maent yn galw "Pobun!"
 
(0, 4) 520 Pan drof fy ngolwg atoch, daw fy nerth yn ôl i mi, [hynny yw, ni allai'r fath gri ddigwydd ddwywaith yma.
(0, 4) 521 Gwna'r goleuni disglair les mawr i mi.
(0, 4) 522 Eistedd yn f'ymyl yma, fy nghydymaith,] a boed i'r gwahoddedigion bawb gyrraedd at bethau a'u digoni eu hunain oll.
(0, 4) 523 Yfory cymeraf gyfle i ymgynghori â meddyg, er mwyn cael gwared rhag y drybini yma cto.
 
(0, 5) 528 Er mwyn Duw, dywed, fy nghariad, pam y llysg y golau mor wan?
(0, 5) 529 A phwy sydd y tu cefn i mi yma?
(0, 5) 530 Ni cherdd ar wyneb daear ei debyg o ddyn.
 
(0, 5) 535 Paham y gofynni hynny yn awr?
(0, 5) 536 A yw'n dy boeni di?
(0, 5) 537 Pwy wyt?
(0, 5) 538 Pa beth a fynni?
 
(0, 5) 540 Sut?
(0, 5) 541 Dy anfon ataf i?
 
(0, 5) 543 Gallai hynny fod.
(0, 5) 544 Gallai!
(0, 5) 545 Fy nghydymaith da, fy meistres annwyl...
 
(0, 5) 549 Pa beth a fyn fy Nuw gennyf i?
 
(0, 5) 552 Nid wyf i mewn modd yn y byd yn barod i fedru rhoi cyfrif felly.
(0, 5) 553 Pe bai raid i mi ei roi, fe fyddai'n helbul arnaf.
(0, 5) 554 Nid adwaen i mohonot ychwaith—pa gennad ydwyt ti?
 
(0, 5) 560 [Beth?
(0, 5) 561 Nid oedi di ddjm amdanaf; a disgyn yr wyt ar ddyn heb rybudd yn y byd, a'i hoedl yntau ar ei gorau?
(0, 5) 562 Gwaed Duw!
(0, 5) 563 Nid chwarae teg mo hynny; ni chei di nemor glod erddo, canys fel yr wyf newydd ddywedyd, nid wyf i ddim yn barod; nid parod ychwaith mo'r llyfr cyfrif; pe cawn i eto ddeng mlynedd neu ddeuddeg, byddai'r llyfr mewn trefn gennyf, fel na byddai arnaf un ofn.
(0, 5) 564 Mi wnawn hynny drwy gymorth Duw.
(0, 5) 565 Gad lonydd imi, drwy drugaredd Dduw, gael imi roddi trefn ar amgylchiadau.]
 
(0, 5) 567 O Dduw trugarog ar d'orsedd yn y nef, tosturia wrthyf yn fy nghyfyngder.
(0, 5) 568 Oni chaf ar yr hynt hon ddim un i gyd-deithio â mi ond y sawl a ddanfonaist?
(0, 5) 569 Ai rhaid i mi fynd o'r byd hwn heb un i'm tywys, mi, na byddwn yma byth ar fy mhen fy hun, ond y byddai raid i mi bob amser gael cymdeithion?
 
(0, 5) 573 Felly yn wir y meddyliwn.
 
(0, 5) 576 [Dim ond un diwrnod! Dim ond heno, hyd godiad haul, fel y gallwyf drwy edifarhau fynd i mewn i mi fy hun a gwrando ar ddysg yr offeiriad a'm gwneud fy hun yn well, fel y mynnit ti.]
 
(0, 5) 579 Gwae fi, daeth amser wylo arnaf!
 
(0, 5) 581 Gwae fi, pa beth a wnaf?
(0, 5) 582 Pe na bai i mi ond rhyw orig fach yn rhydd i gael hyd i ryw gydymaith, fel na byddai raid i mi fod o flaen fy marnwr ar fy mhen fy hun yn unig.
 
(0, 5) 585 Dim ond na bawn yn unig yn y farn honno!
(0, 5) 586 Dim ond orig i gael ymddiddan a chyngor, er mwyn tosturi Crist!
 
(0, 6) 590 F'annwyl gydymaith, fe wyddost, fe wyddost—
 
(0, 6) 596 Llawer o ddiolch iti, f'annwyl gydymaith.
 
(0, 6) 598 [Buost yn gyfaill da i mi erioed, cefais di bob amser yn ffyddlon.]
 
(0, 6) 601 [Rhoed Duw, fy nghyfaill hoff, mai teilwng fwyf innau ohonot.]
 
(0, 6) 603 Fy nghyfaill!
 
(0, 6) 610 Nid wy'n poeni dim am bethau felly, Duw a'i gŵyr!
 
(0, 6) 612 [Nac wyf, gyfaill, nac wyf!
 
(0, 6) 615 [Na, annwyl gyfaill, gwrando arnaf]
 
(0, 6) 617 Och! peth arall sy'n fy mhoeni i, [peth llawer nes,] fy nghyfaill annwyl.
 
(0, 6) 619 [Ie, tydi, fy nghyfaill.]
 
(0, 6) 622 [Och fi! peth chwerw fyddai hynny.]
 
(0, 6) 625 [Pe tywalltwn fy nghalon allan i ti ac i tithau droi dy gefn arnaf a digio wrth fy ngeiriau, yna byddai imi gymaint ddengwaith o flinder a gwae!]
 
(0, 6) 627 [Taled Duw i ti.]
(0, 6) 628 Gorchmynnwyd i mi fynd ymaith.
(0, 6) 629 Y mae'r ffordd yn bell a llawn blinder; a pha beth wedyn?
(0, 6) 630 [Rhaid i mi roi cyfrif o'm cyfoeth a'm holl fywyd, ger bron fy lluniwr a'm barnwr goruchaf!]
(0, 6) 631 Am hynny, dyred gyda mi, fy nghydymaith ffyddlon, fel yr addewaist eisoes.
 
(0, 6) 635 O, dydi!]
 
(0, 6) 637 Beth!
(0, 6) 638 Dywedaist wrthyf eisoes na throit mo'th gefn arnaf nac yn fyw nac yn farw, hyd yn oed ped ai'r ffordd ar ei hunion i uffern.
 
(0, 6) 643 Ni ddoem yma mwy.
(0, 6) 644 Ni ddoem mwy hyd ddydd barn.
 
(0, 6) 647 Nid ei di?
 
(0, 6) 652 Yn enw Duw!
(0, 6) 653 Peth arall a addewaist i mi!
 
(0, 6) 658 O, gyfaill, os gallaf eto d'alw di felly.
 
(0, 6) 660 'Rwy'n erfyn arnat, gwna gymaint â hynny er mwyn tosturi Crist, a dyred i'm canlyn hyd at borth y ddinas.
 
(0, 6) 666 [{gan roi cam ar ei ôl.}
(0, 6) 667 I ble'r ei, fy nghyfaill?
(0, 6) 668 A adewi di fi yn llwyr?]
 
(0, 6) 671 Da boch, fy nghyfaill, y mae fy nghalon yn friw o'th achos di.
(0, 6) 672 Da boch bob pryd, ni welaf i monot fyth eto.
 
(0, 7) 677 [Gwae fi!
(0, 7) 678 I ba le'n y byd y trof yn awr am borth?]
(0, 7) 679 Tra fum lawen, bu yntau'n gyfaill i mi, [bellach, bychan yw ei ofid ef o'm plegid i.]
(0, 7) 680 Mi glywais fyth a hefyd ddywedyd [peth na ddaeth yn agos at fy mhrofiad i nes digwydd i mi heddiw—dyma hwnnw:]
(0, 7) 681 Tra bo lwc i ddyn bydd iddo gyfeillion lawer, ond pan dry ei lwc ei chefn arno, fe'i gad y cwbl yntau.
(0, 7) 682 Gwae fi, mi welaf hynny'n awr, [ac yr wyf yn mygu gan ing a dychryn.]
 
(0, 7) 684 Dacw fy ngheraint yn sefyll yna, fy nghefndryd caredig, sefwch yn agos ataf.
(0, 7) 685 [Yr ydych yn wir yn eich union le.
(0, 7) 686 Ni wn i am well gair yn y byd na hwnnw.
(0, 7) 687 "Mae gwaed yn dewach na dŵr"—fe'i profir gennych heddiw'n llwyr,] a chwithau, yn fy nghyfyngder, yn rhoi i mi gymorth llaw a genau.
 
(0, 7) 690 Ni adewch chwi monof ychwaith—
 
(0, 7) 696 O, llawer o ddiolch i chwi, fy ngheraint.
 
(0, 7) 698 Fe welsoch ddyfod cennad ataf ar orchymyn brenin galluog.
 
(0, 7) 702 Gorchmynnodd i mi gymryd taith.
 
(0, 7) 704 [O'r daith hon...]
 
(0, 7) 706 O'r daith hon, mi wn yn dda, ni ddof i byth yn f'ôl.
 
(0, 7) 709 [Fy ngheraint, a glywsoch chwi pa beth a ddywedais?]
 
(0, 7) 712 [Ni welir monof byth yn f'ôl.]
 
(0, 7) 714 [Myfi?]
 
(0, 7) 716 [A ddarfu i mi?]
 
(0, 7) 722 Fy ngheraint, aroswch, gwrandewch arnaf!
 
(0, 7) 725 Bydd raid i mi roddi cyfrif yno, [ac y mae gelyn i mi, a bydd hwnnw ar fy ffordd yn rymus iawn o hyd.
(0, 7) 726 O, gwrandewch arnaf!]
 
(0, 7) 728 Cyfrif o'm holl weithredoedd ar y ddaear.
(0, 7) 729 [Y modd y treuliais fy nyddiau, a pha beth a wneuthum yn fy nigofaint, ar hyd y flwyddyn, ddydd a nos;] am hynny, er mwyn Crist, da chwi, rhowch gymorth i mi amddiffyn f'achos.
 
(0, 7) 735 [Och na bawn heb fy ngeni!
(0, 7) 736 Ni byddaf ddedwydd byth mwy, os gadewch fi fel hyn!]
 
(0, 7) 743 Fy nghâr, oni ddeui di gyda mi?
 
(0, 7) 750 [Na, dangos i mi beth yn wir yw dy feddwl, a ddoi di gyda mi ai aros yma, dyna'r cwbl y mynnwn ei wybod.]
 
(0, 7) 753 [Och Iesu, ai dyna ddiwedd pob peth?
(0, 7) 754 Addawsant lawer i mi'n rhwydd, ond wedi'r cwbl, torri eu gair.]
 
(0, 8) 759 [Taeogion, pa beth fyddent i mi pe cymerwn hwy i'm canlyn—ni byddai hynny ond cymorth prin.
 
(0, 8) 761 A yw'r wledd lawen drosodd a phawb wedi mynd o'r neuadd?]
 
(0, 8) 765 Onid erys un cymorth arall i mi ynteu, ai un colledig ydwyf innau?
(0, 8) 766 Ac yn gwbl unig yn y byd, ai dyna fel y mae hi arnaf eisoes?
(0, 8) 767 [A barodd Ef eisoes fy mod yn noeth ac heb ddim gallu,] fel pe bawn eisoes yn gorwedd yn fy medd, a minnau a'm gwaed eto'n gynnes, fy nhaeogion eto'n ufudd i mi, a thai a thrysorau eto'n eiddo i mi?
(0, 8) 768 Hai! caned y clychau—-alarwm ynteu, chwithau daeogion, peidiwch ag ystelcian yn y tŷ, dowch allan ataf oll.
 
(0, 8) 770 Rhaid i mi fynd ar daith ar frys, a hynny nid mewn cerbyd ond ar droed.
(0, 8) 771 Doed fy holl weision gyda mi, dyger fy nghist arian yma, bydd y daith megis ymgyrch byddin, ac felly bydd yn rhaid i mi gael fy nhrysorau i'm canlyn.
 
(0, 8) 773 Ie, rhag blaen, heb lawer o siarad.
 
(0, 8) 775 Gelwais arnoch ar gyfer taith, a bydd raid i bob un fod yn ufudd i mi.
(0, 8) 776 Taith ddieithr a phell iawn fydd hi, yn gofyn am bobl ffyddlon; [rhaid cymryd y daith hon mewn distawrwydd llwyr, ac yr wyf yn ymddiried ynoch am hyn oll.]
 
(0, 8) 779 Yn awr, cychwynnwn i'r daith yn dawel iawn, heb yn wybod i neb.
 
(0, 9) 788 Och, Dduw, faint f'arswyd rhag Angau!
(0, 9) 789 Tyrr chwys oer drosof, ac y mae'r ing fel pe bai'n lladd yr enaid yn y corff—pa beth ynteu a ddigwyddodd i mi ar drawiad?
(0, 9) 790 [Bob amser, ar ryw oriau gwaeth na'i gilydd, hyd yma cefais hyd i ryw gysur; ni'm llwyr adawyd i erioed, yn ddim ond rhyw ynfytyn truan tlawd; ni bûm erioed lle ni fedrwn sefyll a throi yn f'ôl pan fynnwn.]
(0, 9) 791 A ddarfu am fy ngallu yn llwyr, a gymysgwyd fy meddwl fel mai prin y gallaf atgofio pethau bellach?
(0, 9) 792 Pwy ydwyf ynteu, ai Pobun, y Pobun cyfoethog o hyd?
(0, 9) 793 Dyma fy llaw, dyma fy ngwisg, a'r peth sydd eto yn y fan yma, hynny yw f'arian a'm trysor, drwyddynt hwy gynt, mi fyddwn bob amser yn cael popeth fel y mynnwn.
(0, 9) 794 Yn awr, mi fyddaf yn well wrth ei weled yma yn ymyl fy llaw yn fy helbul.
(0, 9) 795 [Os gallaf ddal ati felly, ni ddaw nac arswyd nac ing arnaf.
(0, 9) 796 Ond gwae fi, rhaid i mi fynd oddi yma—daw hynny'n ebrwydd i'm cof.
(0, 9) 797 Daeth y gennad, rhoed y wŷs, bellach rhaid mynd oddi yma.
 
(0, 9) 799 Nid hebot ti!] rhaid i ti ddyfod i'm canlyn, ni'th adawn i ar f'ôl er dim; rhaid dy gael di eto mewn tŷ arall.
(0, 9) 800 Am hynny, i fyny â thi ac allan rhag blaen!
 
(0, 9) 805 Pwy wyt ti, ynteu?
 
(0, 9) 809 Nid ymddengys dy wyneb i mi cystal, ni rydd ddim bodlonrwydd, yn wir.
(0, 9) 810 Ond nid yw hynny nac yma nac acw, rhaid i ti ddyfod i'm canlyn.
 
(0, 9) 813 Fel arall y mae'r amgylchiadau.
(0, 9) 814 Gyrrwyd amdanaf o ryw le arall.
 
(0, 9) 817 Ie, ie! daeth cennad ataf.
 
(0, 9) 826 Ac fe ddoi gyda mi, oni ddoi?
 
(0, 9) 828 Eiddof i wyt, fy meddiant a'm da.
 
(0, 9) 831 A wrthryfeli dithau, y felltith, y teclyn!
 
(0, 9) 838 Buost at fy ngalwad i.
 
(0, 9) 840 [Buost was i mi i mewn ac allan.]
 
(0, 9) 842 Gwas i mi, caethwas i mi oeddit,
 
(0, 9) 844 [Gennyf i yn unig yr oedd hawl i ymhel â thi.]
 
(0, 10) 865 Roeddwn yn meddwl bod rhywun yn galw.
(0, 10) 866 [Llais gwan ac eto'n gwbl glir.]
(0, 10) 867 Rhoed Duw nad llais fy mam ydoedd.
(0, 10) 868 [Y mae hi druan yn hen wraig fethiantus, mynnwn ei harbed rhag yr olwg hon.
(0, 10) 869 O, cymer gymaint â bynny o drugaredd arnaf; gad nad fy mam fo hi!]
 
(0, 10) 871 [Boed y neb y bo, nid oes i mi ddim egwyl at helynt na diflastod y byd bellach.]
 
(0, 10) 873 Benyw glaf yw hi; ni waeth gennyf i—edryched ati ei hun.
 
(0, 10) 875 Pa fodd y gall hynny fod?
 
(0, 10) 878 [Na'm gwatwar i, yr wyf ar farw.]
 
(0, 10) 880 [Ni wnawn i mo hynny o'm bodd.]
(0, 10) 881 Ni fynnwn eto weled fy ngweithredoedd, [ni byddai edrych arnynt wrth fy modd.]
 
(0, 10) 883 [Nid rhaid wrth wendid arall yma, ac arnaf innau ddigon o ing ac artaith eisoes.]
 
(0, 10) 886 Er hynny, ar fy mhen fy hun y bydd raid i mi fyned.
 
(0, 10) 891 O, fy ngweithredoedd, y mae hi'n galed arnaf.
(0, 10) 892 Y mae arnaf fawr angen cyngor da a chynorthwy.
 
(0, 10) 896 A fynni di ddyfod gyda mi?
 
(0, 10) 900 Wrth dy weled yn edrych arnaf yn hiraethus, tebyg gennyf na bu yn f'einioes i na chyfaill na chariad, na gwraig na gŵr a edrychai arnaf fel yna!
 
(0, 10) 902 [Gwelw a threuliedig yw dy wedd, ac eto 'rwy'n meddwl ei bod yn llawn tegwch; po fwyaf yr edrychwyf arnat, mwyaf y gwae yn fy nghalon, ond bod hwnnw'n gymysg â rhyw dynerwch, fel na wn i ddim pa beth a wnaf.
(0, 10) 903 Mi dybiwn pe gallai goleuni dy lygaid ti dreiddio i mewn drwy fy llygaid i, y digwyddai dirfawr lanhad a bendith i druan tlawd.
(0, 10) 904 Eto, gwn na ellir hynny mwy, ac nad yw bellach onid megis breuddwyd.]
 
(0, 10) 908 [Ac nid adnabûm innau monot, mor ddall oedd fy ngolwg!
(0, 10) 909 Gwae ni! pa fath greaduriaid ydym ni gan fod y fath bethau'n digwydd i ni!]
 
(0, 10) 912 [O! pe gallwn dynnu'r ddau lygad allan, ni byddai'r tywyllwch mor arswydus i mi ag yw'r gofid chwerw a dynnodd fy llygaid ffeilsion arnaf ar hyd foes.]
 
(0, 10) 915 [Y mae syched poeth eisoes yn rhedeg drwy fy holl wythiennau, a gwanc ymhob synnwyr!
(0, 10) 916 Dyna gyflog fy mywyd i!]
 
(0, 10) 920 Deued i'm rhan beidio â bod byth bythoedd!
(0, 10) 921 Onid yw pob gronyn ohonof yn awr yn llefain gan ddwfn edifeirwch a gwae gwyllt!
(0, 10) 922 Mynd yn f'ôl! ac ni allaf!
(0, 10) 923 Dim ond un cynnig eto!
(0, 10) 924 Ond ni ddaw hwnnw ddim.
(0, 10) 925 Dychryn a gloes!
(0, 10) 926 Yn y byd hwn ni cheir byw ond unwaith, yn y byd hwn ni cheir byw ond unwaith!
(0, 10) 927 [Gwn bellach beth yw'r gwae sy'n rhwygo'r fron, ac ni wybûm erioed o'r blaen beth y dichon y gair hwn ei feddwl.
 
(0, 10) 929 Dod dy hun i lawr yma a bydd farw, dyma dy ddydd!]
 
(0, 10) 935 [Am bopeth fe geir tâl, yn wir!
(0, 10) 936 O, Weithredoedd, er mwyn pob peth, na'm gad i'm trybini!
(0, 10) 937 Colledig fyddwn felly yn ddiau.
(0, 10) 938 Dod gymorth i mi roi cyfrif ger ei fron Ef sydd Arglwydd ar Angau a Bywyd, a Brenin yn dragywydd, ac onid e colledig fyddaf byth!]
 
(0, 10) 940 [Na'm gad yn ddigyngor.]
 
(0, 10) 943 Galw arni heb oedi, y mae'r amser yn ehedeg ymaith,
 
(0, 10) 945 [Pe bai dyn heb dafod, fe'i gwnai ing ac angen yn hyawdl.]
 
(0, 11) 953 'Rwy'n credu, yn credu.
 
(0, 11) 955 O, trugarhaed Duw!
(0, 11) 956 'Rwy'n credu'n gadarn yn efengyl Iesu Grist, a ddysgwyd i mi wrth liniau fy mam.
(0, 11) 957 Credaf fod popeth sydd ynddynt hwy yn wir a sanctaidd oll.
(0, 11) 958 Rwy'n credu, 'rwy'n credu.
 
(0, 11) 962 [Credaf yn amynedd Duw, od edifarhao neb mewn pryd; ond bum i mewn pechod yn rhy hir fel nad oes i mi yma drugaredd.]
 
(0, 11) 965 Credaf—
 
(0, 11) 967 Credaf!
(0, 11) 968 Felly y gwnaeth Ff, dileodd ddigofaint y Tad, gan ennill tragwyddol iachâd i ddynion, a marw ei Hun dros hynny ar y grog.
(0, 11) 969 Eto mi wn na bydd hynny les onid i'r sawl a fo sanctaidd a da; drwy weithredoedd da a dyhewyd y pryn Ef fywyd tragwyddol.
(0, 11) 970 Ond gwelwch, dyma fy ngweithredoedd i: y mae fy mhechodau yn un mynydd mor drwm yn gorwedd arnaf fel na all Duw roi gras i mi, gan mai efô yw'r perffaith gyfiawn.
 
(0, 11) 972 Ofnadwy yw cosb Duw!
 
(0, 11) 974 Tarawodd Pharao, tarawodd Sodom a Gomorra, tarawodd, tarawodd!
 
(0, 11) 978 O, y mae deiriau'n dyner; yr wyf fel pe'm ail-enid.
(0, 11) 979 Credaf, cyhyd ag yr anadlaf ar y ddaear, y byddaf gadwedig drwy Grist.
 
(0, 11) 982 [Pa le y mae ffynnon gysegredig fel y gallwyf fynd yno'n ddi-oed?]
 
(0, 11) 987 [{Ar ei liniau.}
(0, 11) 988 O, Dduw tragywydd!
(0, 11) 989 O, ddwyfol wedd!
(0, 11) 990 O, union Ffordd!
(0, 11) 991 O, oleuni nefol!
(0, 11) 992 Yma y llefaf arnat yn fy olaf awr; llef un truan a ddaw o'm genaui.
(0, 11) 993 O, fy Ngwaredwr, erfyn di ar i'm Crewr fod yn rasol tuag ataf ar y diwedd, pan ddêl y gelyn uffernol yn agos ataf, a phan wasgo angau creulon fy ngwddf hyd oni'm tago, erfyn ar iddo Ef arwain f'enaid fry.
(0, 11) 994 A phar, O, Waredwr, drwy d'eiriolaeth dy hun, fy ngosod i ar ei ddeheulaw Ef, i fyned gydag Ef i'w ogoniant.
(0, 11) 995 Gwrando ar fy ngweddi gan ddarfod iti drengi ar y Grog a phrynu'n heneidiau ni.]
 
(0, 13) 1019 [O, fy ngweithredoedd, wrth glywed eich llais, ni allwn nad wylwn innau o lawenydd.]
 
(0, 13) 1021 [Am hynny ni cheisiaf i nac oedi nacaros.]
(0, 13) 1022 Chwi, gyfeillion, gyda'n gilydd yr awn, ac oddi wrthych chwi nid af i mwy.
 
(0, 14) 1121 Weithion, rhowch i mi yn ffyddlon eich dwylaw, cefais y cymun Sanct.
(0, 14) 1122 [Bendigedig a fo'r sawl a barodd i mi hyn ac a roes i mi hefyd gyngor da.
(0, 14) 1123 Bellach, boed diolch i chwi am aros mor ofalus amdanaf gyda gweddïau dyfal.]
(0, 14) 1124 Ac weithian, gadewch i ni gychwyn ar y daith.
(0, 14) 1125 Doded pawb ei law ar y ffon hon a chanlyned fi i'm bedd.
 
(0, 14) 1132 Weithion, rhaid i mi fynd i'r bedd, sydd cyn ddued â'r nos.
(0, 14) 1133 Trugarha wrthyf yn dy holl-allu, Arglwydd!
 
(0, 14) 1136 O Arglwydd Waredwr, aros gyda mi, arnat y galwaf am drugaredd.
 
(0, 14) 1139 [{Yn y bedd fel na weler onid ei ben a'i ysgwyddau.}
(0, 14) 1140 Gan iti fy mhrynu'n rhydd, cadw eto f'enaid fel nas coller ac fel yr esgynno atat Ti yn y dydd diweddaf gyda theulu'r gwaredigion.]