|
|
|
|
(0, 1) 3 |
Chwychwi rasusol gwmpeini, yr achos o'm dyfodiad yma |
(0, 1) 4 |
ydyw i ddangos prudd-der mab brenin Troea, |
(0, 1) 5 |
y modd y dygodd hirnych cariad a thrymder, |
(0, 1) 6 |
a'r modd y trôdd hyn i lawenydd, a'i lawenydd i brudd-der. |
(0, 1) 7 |
~ |
(0, 1) 8 |
Helpia, Tisiffone, myfi sy'n traethu hyn drosto: |
(0, 1) 9 |
buchedd hwn a wnaeth i lawer glanddyn wylo; |
(0, 1) 10 |
Tydi, uffernol dduwies, arnat mae fy ngoglyd; |
(0, 1) 11 |
tydi ffurie greulon yn pruddhau mewn penyd. |
(0, 1) 12 |
Helpia myfi sy'r owran dosturus achlysur |
(0, 1) 13 |
i helpu cariad-ddynion trwy gwyno'u poen a'u dolur. |
(0, 1) 14 |
~ |
(0, 1) 15 |
Myfi nid wyf ond gwas i wasnaethwyr cariad; |
(0, 1) 16 |
caru fy hyn nis gallaf oherwydd y digwyddiad. |
(0, 1) 17 |
~ |
(0, 1) 18 |
Chwychwi gariadau sy'n ymdrochi mewn llawenydd, |
(0, 1) 19 |
os oes deigryn ynddoch o'r trugarog ddeunydd, |
(0, 1) 20 |
meddyliwch am eich blinder cyn dechreuad cytundeb, |
(0, 1) 21 |
a meddyliwch am drymder rhai eraill a'u gwrthwyneb, |
(0, 1) 22 |
a byddwch mewn cywirdeb bob amser yn cyd-dynnu |
(0, 1) 23 |
ac na feddyliwch nas gall cariad beri i chwi sorri. |
(0, 1) 24 |
A gweddiwch dros y neb sydd yn y cyffelyb gaethiwed |
(0, 1) 25 |
ag y bu Troelus am Gresyd - y modd a'r sut cewch glywed. |
|
|
(0, 1) 27 |
I lawer mae'n hysbys fel y daeth y Groegwyr yn llidiog |
(0, 1) 28 |
â mil o longau rhyngddynt yn llawn o wŷr arfog |
(0, 1) 29 |
i ddinistrio Troea a'r Troeaid oedd eu bwriad, |
(0, 1) 30 |
a'r rhyfel a barhaodd ddeng mlynedd yn wastad. |
(0, 1) 31 |
Yr achos - am ddwyn o Baris y frenhines Helena |
(0, 1) 32 |
o drais oddiar ei gŵr i dref Troea. |
(0, 1) 33 |
Yn y dref hon yr oedd arglwydd o enedigaeth, |
(0, 1) 34 |
hwn a elwid Calcas, â llawer o wybodaeth. |
(0, 1) 35 |
~ |
(0, 1) 36 |
Gwrandewch yn ddyfal fy annwyl garedigion, |
(0, 1) 37 |
bellach mi a draethaf i chwi chwaneg o'r achosion, |
(0, 1) 38 |
ac o'r trymder o ddug Troelus yn caru Cresyda, |
(0, 1) 39 |
ac fel y gwrthododd Cresyd Troelus yn y diwetha. |
|
|
(0, 1) 41 |
Tri pheth sy yn hyn i'w ddeall ar unwaith, |
(0, 1) 42 |
cariad ffyddlon, cariad gwnieithus, a chymdeithas perffaith. |
(0, 1) 43 |
Tri dyn sy'n arwyddo y tri gair hygar, |
(0, 1) 44 |
y rhain ydy Troelus, Cresyd, a Pandar. |
(0, 1) 45 |
~ |
(0, 1) 46 |
Ac nis gellir, medd arglwyddes y gwirionedd, |
(0, 1) 47 |
ddeall neb yn eglur ond wrth ei ddiwedd: |
(0, 1) 48 |
"Nes gweld ei ddiwedd nis gwyddai pwy oedd hapus". |
(0, 1) 49 |
~ |
(0, 1) 50 |
Cesglwch gyda'r wenynen y mêl o'r llysieuyn |
(0, 1) 51 |
a gollyngwch trwy'ch clustiau y gwenwyn i'r prycopyn. |
|
|
(0, 4) 635 |
Wrth rwyfo ar hyd y tonnau môr peryglus, |
(0, 4) 636 |
O gwynt! Mae'r tymyr yn esmwythau'n dynerus; |
(0, 4) 637 |
y llong o'm cyfarwyddyd sydd boenus yn nofio, |
(0, 4) 638 |
wrth hwylbren anobaith rwy'n deall ei bod yn ysmudo. |
(0, 4) 639 |
Fel y mae'r calendr yn nechreuad y llyfrau, |
(0, 4) 640 |
felly mae gobaith calandr i Troelus ar ddechrau. |
(0, 4) 641 |
O arglwyddes Clio, dy brysur help yr owran, |
(0, 4) 642 |
i'm tafod dod rwydd-deb i orffen hyn allan. |
(0, 4) 643 |
Myfi fy hun a'm esgusodaf wrth gariad-ddyn aniddig |
(0, 4) 644 |
nad fy nyfais i mo hyn ond gwaith gŵr dysgedig, |
(0, 4) 645 |
a minnau, er mwyn yr ewyllys da i chi a ddygais, |
(0, 4) 646 |
a'i trois i'r iaith Gymraeg yn orau ag y medrais. |
(0, 4) 647 |
Am hyn nid wyf yn disgwyl na diolch nac anfodd, |
(0, 4) 648 |
ond eich ewyllys da, a hynny o'ch wirfodd. |
(0, 4) 649 |
Na fernwch arnaf os wyf ddiffygiol o eiriau, |
(0, 4) 650 |
canlyn nesaf y gallwyf y dysgedig rwyf innau. |
(0, 4) 651 |
Ac ar fy amcan yr ydwyf o gariad yn traethu; |
(0, 4) 652 |
mae'n anodd i ŵr dall o liwiau allu barnu. |
(0, 4) 653 |
Os oes gennych rhyfeddod wrth glywed hyn o hanes, |
(0, 4) 654 |
pa fodd i ennillodd Troelus gariad ei arglwyddes, |
(0, 4) 655 |
neu gymryd rhyfeddod wrth eu foddion yn caru, |
(0, 4) 656 |
nid oes gennyf ddim rhyfeddod wrtho am hynny. |
(0, 4) 657 |
Odid cael tri o fewn y byd o'r un deunydd, |
(0, 4) 658 |
yn gwneuthud ac yn dywedyd un ffunud â'i gilydd; |
(0, 4) 659 |
rhai mewn prennau a gerfia, eraill mewn cerrig, |
(0, 4) 660 |
y gwirionedd a ganlynaf i. Atolwg, byddwch ddiddig. |
|
|
(0, 5) 1005 |
Yn yr amser yma y digwyddodd y Groegwyr wrth fod yn wastadol wrth ymladd tan walie Troea, yn garcharur, Antenor, un o uchelwyr Troea. |
(0, 5) 1006 |
Yn hyn, fo godes hiraethmawr ar Galchas am ei ferch Cresyd ac ofn rhag dyfod tramgwydd i'r dref Troea mewn amser disymwth, ac yn hyn colli ei ferch, y fo a syrthies ar ei linie ger bron Agamemnon un o frenhinoedd Groeg i ddeisyf cael Antenor i'w roddi yn gyfnewid am Gresyd. |
|
|
(0, 6) 1069 |
Cyffelyb i'r melys yr owran yn felysach ddywad, |
(0, 6) 1070 |
oherwydd hir chwerwder a barhaodd yn wastad, |
(0, 6) 1071 |
o brudd-der i lawenydd mawr a syrthiodd - |
(0, 6) 1072 |
ers pan fy aned y fath lawenydd nis digwyddodd. |
(0, 6) 1073 |
~ |
(0, 6) 1074 |
Gwelais ar ôl boregwaith pruddaidd, niwlog, |
(0, 6) 1075 |
yn canlyn brynhwawngwaith eglur, gwresog, |
(0, 6) 1076 |
ac ar ôl byrddydd gaeaf blin, gwlybyrog, |
(0, 6) 1077 |
yn dyfod hirddydd Galanmai yn desog. |
(0, 6) 1078 |
Ar ôl prudd-der a thristwch, |
(0, 6) 1079 |
y daw'r holl ddifyrwch, |
(0, 6) 1080 |
ac ar ôl cawodau helaeth |
(0, 6) 1081 |
yn siwr y daw gorchafiaeth. |
(0, 6) 1082 |
~ |
(0, 6) 1083 |
Amhosibl i'm tafod allu'n iawn draethu |
(0, 6) 1084 |
y difyrwch a lawenydd y sydd o bobtu. |
|
|
(0, 6) 1086 |
O noswaith ddifyr, hir y bued i'th ymofyn, |
(0, 6) 1087 |
llwyr y dygaist ddifyrwdd mawr i'th ganlyn. |
(0, 6) 1088 |
Os mawr y byd a'i gwmpas, |
(0, 6) 1089 |
dau cymaint yw dy urddas. |
(0, 6) 1090 |
Os mawr iawn yw'r mynydd, |
(0, 6) 1091 |
dau cymaint yw'r llawenydd. |
(0, 6) 1092 |
~ |
(0, 6) 1093 |
O f'arglwydd, allai i ddrewiant chwannog cenfigennus |
(0, 6) 1094 |
a fai'n goganu cariad, ac o gariad yn ddibris |
(0, 6) 1095 |
gael noswaith ddigwyddiad o lawenydd perffaith hyfryd |
(0, 6) 1096 |
fel yr owran y digwyddodd i Troelus a Cresyd? |
(0, 6) 1097 |
~ |
(0, 6) 1098 |
Chwi a glywsoch o'r noswaith ddifyr ddigwyddiad; |
(0, 6) 1099 |
rhaid i chwi glywed peth o'r trwm ymadawiad. |
(0, 6) 1100 |
Medd doeth, "ni all yr un peth barhau'n wastad: |
(0, 6) 1101 |
pob peth sydd â dechrau, rhaid iddo gael diweddiad. |
(0, 6) 1102 |
Y noswaith a blygeiniodd |
(0, 6) 1103 |
a'r plygain yn ddydd ymrithiodd, |
(0, 6) 1104 |
a'r pethau yn hyn a ddigwyddodd, |
(0, 6) 1105 |
dealled y sawl a garodd. |
(0, 6) 1106 |
~ |
(0, 6) 1107 |
Pan ddaeth y ceiliog, astrologer y cyffredin, |
(0, 6) 1108 |
dan guro ei esgyll â rhybudd fod y nos ar derfyn, |
(0, 6) 1109 |
a'r seren Luwsiffer, cennad y gloywddydd, yn codi |
(0, 6) 1110 |
yn y deau, a'i phelydr dros yr hollfryd yn llewyrchu - |
(0, 6) 1111 |
Yno y dywedai Cresyd |
(0, 6) 1112 |
wrth Troelus ei hanwylyd: |
|
|
(0, 6) 1126 |
Troelus, tostur eiriau Cresyd, pan glywodd, |
(0, 6) 1127 |
heilltion ddagrau ar hyd ei ruddiau a ollyngodd, |
(0, 6) 1128 |
megis yn rhyfeddu o'r fath lawenydd a difyrwch |
(0, 6) 1129 |
mor ddisymwth yn dywed y cyfriw drymder a thristwch. |
(0, 6) 1130 |
Ochenaid trwm, a rodde |
(0, 6) 1131 |
ar geiriau hyn a ddoede: |
|
|
(0, 7) 1242 |
Tydi loywbryd arglwyddes, unferch Diana y'th farned, |
(0, 7) 1243 |
dy un mab dall asgellog, Syr Cipwid gwrandawed, |
(0, 7) 1244 |
chwithau'r Chwiorydd naw sy'n aros yn Helicon |
(0, 7) 1245 |
yn Mynydd Parnasus, clywch chwithau f'achwynion. |
(0, 7) 1246 |
Fe ddarfu i chwi hyd yma fy nghyfarwyddo cyn belled - |
(0, 7) 1247 |
onis cyfarwyddwch fi'r owran, yn bellach nis medraf fyned, |
(0, 7) 1248 |
i ddangos a ddigwyddodd i Troelus o'i wasanaeth, |
(0, 7) 1249 |
sydd bellach o hyn allan yn myned waethwaeth. |
(0, 7) 1250 |
Tithau Mars, rhyfelwr creulon a thad Quireinus, |
(0, 7) 1251 |
moes dy help i orffen o Cresyd a Troelus. |
(0, 7) 1252 |
~ |
(0, 7) 1253 |
Diomedes, ar hyn yn fyned wrth y Troeaid - at Priaf yn eistedd wrth ei senedd - ac yn doedyd fel hyn: |
|
|
(0, 9) 1644 |
Bellach mae'n dyfod nesnes y dynged |
(0, 9) 1645 |
hon y mae Iau o'i ddirgelwch yn ymwared, |
(0, 9) 1646 |
ac i chwithau, Parcas ddicllon, dair chwiorydd, |
(0, 9) 1647 |
mae'n gorchymyn i chwi ar hyn wneuthur diwedd. |
(0, 9) 1648 |
Mae Diomedes yn dyfod ac Antenor i Droea. |
(0, 9) 1649 |
Mae Cresyd yn mynd ymaith at y Groegwyr |
(0, 9) 1650 |
a Troelus yn dwyn penyd nes darfod i Lachesys nyddu edau ei fywyd. |
|
|
(0, 17) 2174 |
Mae Cresyd ar hyn yn llesmeirio a Ciwpid yn tincio cloch arian ac yn galw y duwiau i'r un lle. |
|
|
(0, 17) 2219 |
Fe ddarfu y Duwiau ddewis Mercuriws i siarad trostynt yn y cymanfa a'r senedd hon. |
|
|
(0, 19) 2401 |
I Troelus pan ddywedwyd o drwm farwolaeth Cresyd, |
(0, 19) 2402 |
gwallt ei ben a dynnodd fel dyn ynfyd. |
(0, 19) 2403 |
O'i gwendid, o'i thlodi, o'i nychod pan glywodd, |
(0, 19) 2404 |
o dosturi a thrymder mewn llesmair er syrthiodd. |
(0, 19) 2405 |
Tra fu fyw, yn ochneidio bob dydd amdani. |
(0, 19) 2406 |
Fel arglwyddes y mynnodd i'r ddaear ei diwarthu, |
(0, 19) 2407 |
o gerrig marbl y parodd wneuthur bedd iddi. |
(0, 19) 2408 |
Ar ei bedd yr ysgrifennes i bawb yno a ddelai |
(0, 19) 2409 |
y rheswm hwn sy'n canlyn, mewn euraidd lythrennau, |
(0, 19) 2410 |
"Gwelwch, arglwyddesau, lle mae Cresyd o Droea'n gorwedd, |
(0, 19) 2411 |
ryw amser yn flodeuyn ar holl ferched a gwragedd". |
(0, 19) 2412 |
~ |
(0, 19) 2413 |
O'r diwrnod hwn allan rhoes ddiofryd nas peidiau |
(0, 19) 2414 |
ag ymladd mewn rhyfel nes marw o waith cleddau. |
(0, 19) 2415 |
Yn y diwethaf hyn i gyd a gywires, |
(0, 19) 2416 |
ei einioes a gollodd ar law creulon Achiles. |
(0, 19) 2417 |
Pandar o drymder a dorrodd ei galon; |
(0, 19) 2418 |
hyn ydyw diwedd hyn i gyd o achosion. |