|
|
|
|
(1, 1) 470 |
Wel, y mae hyn yn aflwydd gerwin, |
(1, 1) 471 |
Ni alla'i ddangos fy wyneb na fo i mi wenwyn; |
(1, 1) 472 |
Rhyw garpiach fawiach yn gwaeddi ar f'ol, |
(1, 1) 473 |
A'm galw i Rondol Roundun. |
(1, 1) 474 |
~ |
(1, 1) 475 |
Ond mi ddweda' i'r hanes fel 'rwy' heno |
(1, 1) 476 |
Yn Rondol Roundun, os gwnewch chwi wrando; |
(1, 1) 477 |
Chwi glywsoch am y Roundied fu ar hynt, |
(1, 1) 478 |
Presbyterians oedd gynt yn 'styrio. |
(1, 1) 479 |
~ |
(1, 1) 480 |
Ac wrth y rhai'n o'r dechre |
(1, 1) 481 |
Fe lynodd fy mhobline, |
(1, 1) 482 |
A'u dilyn hwy'n glir mewn tref a gwlad |
(1, 1) 483 |
Y bydde 'nhad a 'nheidie. |
(1, 1) 484 |
~ |
(1, 1) 485 |
Ni fynent hwy o hyd eu hamser |
(1, 1) 486 |
Ddim son am grefydd Eglwys Loegr; |
(1, 1) 487 |
Ond y Presbyterians yn mhob rhyw, |
(1, 1) 488 |
'Rwyf fine'n byw 'run faner. |
(1, 1) 489 |
~ |
(1, 1) 490 |
Mi briodes wraig dda iawn ei theimlad, |
(1, 1) 491 |
Ni fu 'rioed un dostach am y Methodistied, |
(1, 1) 492 |
Ac yn wir mae hi am y byd gerbron, |
(1, 1) 493 |
Ac yn ddigon calon galed. |
(1, 1) 494 |
~ |
(1, 1) 495 |
Mae hi'n wraig arafedd, addfwyn, rywiog, |
(1, 1) 496 |
Ac yn edrych yn llonydd, ond hi gogiff y llwynog; |
(1, 1) 497 |
Os caiff hi ymgais ar fantais fwyn, |
(1, 1) 498 |
Hi a ddirwyn yn gynddeiriog. |
(1, 1) 499 |
~ |
(1, 1) 500 |
'Rydwy' i'n lew erwin am hel arian, |
(1, 1) 501 |
Ond mae hi'n well o'r haner am dynu ati'i hunan; |
(1, 1) 502 |
O rhyfedd mor gyfrwys y bydd hi'n gwneud gwên, |
(1, 1) 503 |
Wrth fachu rhyw fargen fechan. |
(1, 1) 504 |
~ |
(1, 1) 505 |
Hi ddywed cyn deced, os bydd un ffordd a dycia, |
(1, 1) 506 |
Ac a ddeniff i'w gwinedd y cryf fel y gwana'; |
(1, 1) 507 |
O, mor wyliadwrus y bydd hi o hyd, |
(1, 1) 508 |
A'i gofal am y byd yn gyfa'. |
(1, 1) 509 |
~ |
(1, 1) 510 |
Hi a hidla wybedyn, mae'n rhy onest i beidio, |
(1, 1) 511 |
Ac a lynca gamel 'run pryd dan ymgomio; |
(1, 1) 512 |
Ni choelie neb wrth weled ei ffull, |
(1, 1) 513 |
Ei bod hi gystal ei dull am dwyllo. |
(1, 1) 514 |
~ |
(1, 1) 515 |
Hi aeth heddyw i'r capel i wrando rhyw berson, |
(1, 1) 516 |
'Rwy'n disgwyl y bydd hi yma'n union; |
(1, 1) 517 |
Dyma hi'n dwad, os ydw' i'n fyw, |
(1, 1) 518 |
Caf yn addas ryw newyddion. |
|
|
(1, 1) 521 |
Ie, Sian druan, na chym'rwch gyffro; |
(1, 1) 522 |
Rhowch glun i lawr am dipyn bach, |
(1, 1) 523 |
Mae pobpeth yn iach, gobeithio. |
|
|
(1, 1) 528 |
Mae hyn yn helynt erwin, |
(1, 1) 529 |
Ni wnes ond troi 'nghefn oddiwrthyn', |
(1, 1) 530 |
I fyn'd i'r llofft i roi pwys o wlan |
(1, 1) 531 |
I'r fwdach gan Sian Ddolfadun. |
|
|
(1, 1) 534 |
Haro, do, doedd fawr yn fy mryd |
(1, 1) 535 |
Goelio un mynud mo'ni. |
(1, 1) 536 |
Ond a wyddoch chwi pwy fu'n ceisio |
(1, 1) 537 |
Phioled o yd, a'i choelio? |
|
|
(1, 1) 540 |
Ni wrandewes i mo'r pethe, |
(1, 1) 541 |
Ni cha'dd hi damed, na gwerth dime; |
(1, 1) 542 |
Mi a'i pecles i'w ffordd, ni bu'm i dro, |
(1, 1) 543 |
'Rhen garen, dan grio'i gore. |
|
|
(1, 1) 545 |
Gwraig eich Mr. Hughes, o'r Hendre Lydan. |
|
|
(1, 1) 548 |
Wel, beth a wnewch i ddiawlied meddalion, |
(1, 1) 549 |
Oni all'sent hwy edrych yn well at eu moddion? |
(1, 1) 550 |
'Does fater fod rhaid i rai fyw'n fain, |
(1, 1) 551 |
Mae gofid i'r rhai'n yn gyfion. |
|
|
(1, 1) 556 |
Mi weles i lawer o ffermwyr cryfion, |
(1, 1) 557 |
Wrth fyw'n uchel ac yn wychion, |
(1, 1) 558 |
Wedi myn'd trwy'r cwbl drwbl dro, |
(1, 1) 559 |
Heb ddim golud yn bur ddigalon. |
|
|
(1, 1) 562 |
'Rwy'n amhe'n wir fod y gwalch yn wan, |
(1, 1) 563 |
Mi greda fy hunan hyny. |
(1, 1) 564 |
~ |
(1, 1) 565 |
O ran fe fu'n ceisio prynu dau eidion |
(1, 1) 566 |
Geny' am ddegpunt onid coron; |
(1, 1) 567 |
Ac yn crefu arna'i yn nghysgod perth, |
(1, 1) 568 |
Am ei goelio fe nerth ei galon. |
|
|
(1, 1) 573 |
Y porthmyn, mae'r diawl yn rhei'ny, |
(1, 1) 574 |
Ni byddant hwy dro'n gwneud mil gwerth eu crogi; |
(1, 1) 575 |
Wrth goelio'u celwydd hwy a'u brad, |
(1, 1) 576 |
O! faint ga'dd y wlad ei thlodi. |
(1, 1) 577 |
~ |
(1, 1) 578 |
'Fe dora chwilgi o borthmon diffeth |
(1, 1) 579 |
Am dair neu beder mil ar unweth; |
(1, 1) 580 |
'Nol hyny'n pwnio am wneud compound, |
(1, 1) 581 |
A dyna i chwi |sound| farsiandieth. |
(1, 1) 582 |
~ |
(1, 1) 583 |
Os can' hwy'r |plate| arian, ni wiw cadw twrw, |
(1, 1) 584 |
Hwy fyddant yn |fancrups| digon hoyw; |
(1, 1) 585 |
A da os cyrhaeddant goron y bunt, |
(1, 1) 586 |
'Nol tori, mae'n helynt arw. |
|
|
(1, 1) 591 |
Oes, mae yn Lloegr laweroedd o ddryge, |
(1, 1) 592 |
Ond ni fydde ddim cyment pe 'rosent hwy gartre'; |
(1, 1) 593 |
Na chyment chware |lottery| noeth, |
(1, 1) 594 |
Na phuteinied mor uchel eu pene. |
(1, 1) 595 |
~ |
(1, 1) 596 |
Mae porthmyn Cymru pan elont yno |
(1, 1) 597 |
'Run fath a phethe wedi gwylltio; |
(1, 1) 598 |
O! fel y gwelir hwy yn eu gwanc |
(1, 1) 599 |
Tua'r |Irish Bank| yn 'sboncio. |
(1, 1) 600 |
~ |
(1, 1) 601 |
Ac hyd y ffyrdd ynte mor gomfforddus, |
(1, 1) 602 |
Maent hwy'n ddialedig am eu |Ladies|; |
(1, 1) 603 |
Yn puteinio, ac yn meddwi, ac yn colli eu co', |
(1, 1) 604 |
A rhei'ny yn eu robio'n rheibus. |
(1, 1) 605 |
~ |
(1, 1) 606 |
Ni bydd na |play|, na |show|, na |lottery|, |
(1, 1) 607 |
Na byddant hwy ynddi wedi meddwi; |
(1, 1) 608 |
Oes ryfedd wedi, mewn cyfri' cas, |
(1, 1) 609 |
I'r fath rai diras dori? |
|
|
(1, 1) 614 |
Byw maent hwy yn y tafarne |
(1, 1) 615 |
Yn ddyddan, a'r wlad geiff ddyodde'; |
(1, 1) 616 |
Ni cheiff llawer un ond chwerthin am ei ben, |
(1, 1) 617 |
Heb gael ar ddamwen ddime. |
|
|
(1, 1) 622 |
Dyna ddysgu rai i goelio rogsiach digywilydd, |
(1, 1) 623 |
Pac o wag ladron yn twyllo'r gwledydd; |
(1, 1) 624 |
Ni feddant hwy ddim at fyn'd yn borthmyn, |
(1, 1) 625 |
Ond rhywfaint o Saesneg a thipyn am danyn'. |
(1, 1) 626 |
Os ceir botas a 'spardune, a cheffyl dano, |
(1, 1) 627 |
A chôb, a het, a bwcwl, dyna'r porthmon yn picio; |
(1, 1) 628 |
Ac yn cletsian ei chwip i fynu ac i lawr, |
(1, 1) 629 |
Fe wneiff ystwr mawr nes toro. |
|
|
(1, 1) 639 |
Wrth gofio, Sian, ni feddylies unweth |
(1, 1) 640 |
Ofyn i chwi yn mh'le 'roedd |text| y bregeth. |
|
|
(1, 1) 643 |
'Rwy'n leicio'r fan yn eglur, |
(1, 1) 644 |
Mae'n peri i ni garu'r brodyr; |
(1, 1) 645 |
Ond caru pob siabas, diflas dôn, |
(1, 1) 646 |
Annethe yw son am wneuthur. |
(1, 1) 647 |
~ |
(1, 1) 648 |
Ni charwn i yn fy nghalon |
(1, 1) 649 |
Yn fy myw mo'r bobl dlodion, |
(1, 1) 650 |
Nac un o'r rhai gwanllyd, haerllug hil, |
(1, 1) 651 |
Annghynil sydd mewn anghenion. |
|
|
(1, 1) 666 |
A ddarfu i chwi farcio, Sian, nos Wener, |
(1, 1) 667 |
Y bwcle mawr oedd gan Sion y Sadler? |
(1, 1) 668 |
Ac y mae rhai cyment gan |swags| y dre' |
(1, 1) 669 |
Ag aerwyon lloie llawer. |
|
|
(1, 1) 674 |
Fe blygi rhagor eto, |
(1, 1) 675 |
Mewn gofid bydd amryw'n gwyfo; |
(1, 1) 676 |
A phan ddel yr amser i'w dwyn o'r byd, |
(1, 1) 677 |
Aiff Gofid a nhwy gydag efo. |
|
|
(1, 1) 686 |
Gâd ollwng y wêdd sy'n aredig yr âr, |
(1, 1) 687 |
Mae hi eto'n rhy gynar geny'. |
(1, 1) 688 |
~ |
(1, 1) 689 |
Wel, ni welodd neb â'i lyged, |
(1, 1) 690 |
Fath wraig a Sian ar les ei hened; |
(1, 1) 691 |
Hi ddeil i ddarllen ac i ganu, |
(1, 1) 692 |
Oni bydda' i'n cael gwaith a pheidio a chysgu. |
(1, 1) 693 |
~ |
(1, 1) 694 |
Ac yr ydwy' i'n gweled yn rhyfeddol |
(1, 1) 695 |
Y darllen a'r canu bydd rhai pobol; |
(1, 1) 696 |
'Rwy'n leicio crefydd fy hun yn odieth, |
(1, 1) 697 |
Ond nid da genyf gym'ryd dim llawer o drafïerth. |
(1, 1) 698 |
~ |
(1, 1) 699 |
Peth da ydyw peidio tyngu a rhegi, |
(1, 1) 700 |
A pheth pur anfuddiol y gwela'i feddwi; |
(1, 1) 701 |
Bod yn sad a lled onest, a siarad yn dyner, |
(1, 1) 702 |
Fe geiff dyn ei goelio'n well o lawer. |
(1, 1) 703 |
~ |
(1, 1) 704 |
Mae rhyw enw o grefydd yn sefyll yn gryfach, |
(1, 1) 705 |
Tra fo'r wlad yma'n ole, ac yn llawer manylach; |
(1, 1) 706 |
Arferyd dweyd "|Dear|," "O! 'ranwyl," ac "Felly," |
(1, 1) 707 |
Pe baid heb ddim crefydd yn y byd ond hyny. |
(1, 1) 708 |
~ |
(1, 1) 709 |
Mi a glywn ar fy nghalon ganu 'rwan, |
(1, 1) 710 |
Mae'n gerdd hynod o'm crefydd fy hunan, |
(1, 1) 711 |
A chystal a salm yn ddigon siwr, |
(1, 1) 712 |
At gyflwr gwr ag arian. |
|
|
(1, 1) 755 |
Mi a dawaf a chrychnadu, |
(1, 1) 756 |
Bellach, mae fy llais yn pallu, |
(1, 1) 757 |
Ond mi wn i mi ddweyd y gwir yn ddilai, |
(1, 1) 758 |
Heddyw, mae rhai yn ei haeddu, |
|
|
(1, 1) 1081 |
Ol! syn imi f'areth, Sian a fu farw, |
(1, 1) 1082 |
Wel, bychan y gwyddwn yr awn yn wr gweddw: |
(1, 1) 1083 |
Bhoi gwraig lysti, iachus mewn bedd, |
(1, 1) 1084 |
Mae gan ange ryw gyredd garw. |
(1, 1) 1085 |
~ |
(1, 1) 1086 |
O! mi f'aswn foddlonach yn fy nghalon, |
(1, 1) 1087 |
Glywed claddu holl wragedd y cym'dogion; |
(1, 1) 1088 |
Na chladdu Sian oedd lan ddilys, |
(1, 1) 1089 |
Wraig drefnus, hyderus dirion. |
(1, 1) 1090 |
~ |
(1, 1) 1091 |
O! mor ddaionus oedd hi, newydd ei hened, |
(1, 1) 1092 |
Yn gweithio ac yu hwylio pawb gan gyniled;; |
(1, 1) 1093 |
Ac yn trefnu ei theulu heb gelu'n gall, |
(1, 1) 1094 |
Nis gwn i, mewn gwall mo'm colled. |
(1, 1) 1095 |
~ |
(1, 1) 1096 |
Hi fydde'n gwneud mewn blwyddyn, |
(1, 1) 1097 |
Er cysur, lawer cosyn: |
(1, 1) 1098 |
Ni fydde'n dyfod fyth i dre', |
(1, 1) 1099 |
O unlle cystal enllyn. |
(1, 1) 1100 |
~ |
(1, 1) 1101 |
Ond am un llestr 'menyn, hi ga'dd gan enw, |
(1, 1) 1102 |
A dim ond darn penog oedd yn y twb hwnw, |
(1, 1) 1103 |
Ac o achos hyn bu gwragedd sir Fflint, |
(1, 1) 1104 |
Yn taeru mewn helynt arw. |
(1, 1) 1105 |
~ |
(1, 1) 1106 |
Nid oedd yn y byd, 'rwy'n coelio, |
(1, 1) 1107 |
Ei gonestach hi am drin ysto; |
(1, 1) 1108 |
Ond ambell farsiant cyfrwys iawn, |
(1, 1) 1109 |
Fydde'n tynu penau mawn o tano. |
(1, 1) 1110 |
~ |
(1, 1) 1111 |
Ond ne' gole i'w hened, pe gwelwn i haner, |
(1, 1) 1112 |
Oedd ynddi hi o fendith a chyfiawnder; |
(1, 1) 1113 |
Pe bae cyn onested bawb trwy'r wlad, |
(1, 1) 1114 |
Ni fydde ddim lliwiad llawer. |
|
|
(1, 1) 1118 |
O taw, taw gwell genyf i ti, |
(1, 1) 1119 |
Ar fyrder dewi a'th fyrdwn. |
|
|
(1, 1) 1122 |
O! ni ddichon un dyn sydd mewn croen, |
(1, 1) 1123 |
Ddirnad y fath boen sydd arna'. |
(1, 1) 1124 |
~ |
(1, 1) 1125 |
Mi gladdes wraig lan hawddgar, |
(1, 1) 1126 |
Brydferthaf ar wyneb daear; |
(1, 1) 1127 |
Nid oes i neb na dydd na nos, |
(1, 1) 1128 |
A goelia 'r fath achos galar, |
|
|
(1, 1) 1133 |
Peth mawr ydyw cariad, ni waeth iti dewi, |
(1, 1) 1134 |
Mi gefes i golled syn am dani. |
|
|
(1, 1) 1142 |
Pe cawn wraig bob dydd, fydda'i byth mor ddedwyddol, |
(1, 1) 1143 |
A chael un mor lân a Sian Ddefosionol. |
|
|
(1, 1) 1151 |
Marwnad i Sian, wel iechyd i'th 'sene, |
(1, 1) 1152 |
Braidd na 'wyllysiwn i glywed y geirie; |
(1, 1) 1153 |
Ond ni roi fyth fath glod ar frys, |
(1, 1) 1154 |
Yn gyhoeddus ag a haedde. |
|
|
(1, 1) 1157 |
'Rwy'n ofni bydda' i'n wylo'n swrth, |
(1, 1) 1158 |
Wag lewyg, wrth ei glywed. |
|
|
(1, 1) 1203 |
Wel, dyma 'ran cariad, i ti haner coron, |
|
|
(1, 1) 1207 |
Pe cawn un gywaethog i ofalu a gweithio, |
(1, 1) 1208 |
'Rydwy'n ame y priodwn unweth eto, |
|
|
(1, 1) 1217 |
Wel, dos di yno heddyw, |
(1, 1) 1218 |
Yn gywren i dori'r garw; |
(1, 1) 1219 |
Os gwnei di droswyf fargen dda, |
(1, 1) 1220 |
Mi dala' gynta' delwy'. |
(1, 1) 1221 |
~ |
(1, 1) 1222 |
Ond a glywch yma hyn mewn difri', |
(1, 1) 1223 |
Mentro mawr ydyw ail briodi; |
(1, 1) 1224 |
A chwedl garw cadw, onide, |
(1, 1) 1225 |
Weinidogion i chware a diogi. |
(1, 1) 1226 |
~ |
(1, 1) 1227 |
Tra b'wyf yn eu golwg hwy wnan' ga'lyn, |
(1, 1) 1228 |
Pan drothwy nghefn ni wnant fymryn; |
(1, 1) 1229 |
Nis gwn i pa beth ar unrhyw dro, |
(1, 1) 1230 |
Feddylia'i heno o honyn'. |
(1, 1) 1231 |
~ |
(1, 1) 1232 |
Mi fyddwn weithie yn credu mor ethol, |
(1, 1) 1233 |
Y gallwn ymddiried i'r forwyn sy'n hen ac arferol; |
(1, 1) 1234 |
Ond ni waeth imi goelio'r diawl ei hun, |
(1, 1) 1235 |
Na hyderu ar ddyn daearol. |
(1, 1) 1236 |
~ |
(1, 1) 1237 |
Ac os prioda'i siopwraig, |
(1, 1) 1238 |
Fe alle gwna'i ddrwg ychwaneg; |
(1, 1) 1239 |
Taflu'r cyfan at din y cwd |
(1, 1) 1240 |
I dalu hen rwd ar redeg. |
(1, 1) 1241 |
~ |
(1, 1) 1242 |
Ond mae rhai siopwyr yn byw yn siapus, |
(1, 1) 1243 |
Dyna Sion Bentre Foelas, wrth fod yn ofalus; |
(1, 1) 1244 |
A ambell rai eraill mewn tref a llan |
(1, 1) 1245 |
'N gwneud eiddo anrhydeddus. |
(1, 1) 1246 |
~ |
(1, 1) 1247 |
A phe gwyddwn ine'n enwog, |
(1, 1) 1248 |
Fod hon yn bur gywaethog, |
(1, 1) 1249 |
Mi werthwn fy |stock| a'm holl da byd, |
(1, 1) 1250 |
Ac awn yn siopwr clyd fy sipog. |
(1, 1) 1251 |
~ |
(1, 1) 1252 |
Ond gwyn ei fyd a wydde, |
(1, 1) 1253 |
I ymddiried pa beth sydd ore; |
(1, 1) 1254 |
'Rwyf bron syfrdanu a gyru ar goll, |
(1, 1) 1255 |
Yn erwin fy holl synhwyre. |
(1, 1) 1256 |
~ |
(1, 1) 1257 |
Mi fyddwn yn cadw gofid o'r neilldu, |
(1, 1) 1258 |
Mae fo'n awr mor ddig'wilydd yn do'd gyda mi'r gwely, |
(1, 1) 1259 |
Ac yn fy nilyn i'r ty a'r dw'r |
(1, 1) 1260 |
Yn bwrdwr ac i'r beudy. |
(1, 1) 1261 |
~ |
(1, 1) 1262 |
Ond os ca'i wraig a chanddi arian, |
(1, 1) 1263 |
Mi fyddaf eto'n ddyn i mi fy hunan, |
(1, 1) 1264 |
Ac a wnaf i Ofid a phob drwg hyll, |
(1, 1) 1265 |
Wall hyllig sefyll allan. |
|
|
(1, 1) 1268 |
Fydde fwy genyf na phiso roi |kick| i'ch ffasiwn. |
|
|
(1, 1) 1271 |
Mae kicio begers o'r gore debyga'i, |
(1, 1) 1272 |
'Ran llawer arian sy'n myn'd i rywrai. |
|
|
(1, 1) 1280 |
Pa beth a gawswn i, faeden gynddeiriog! |
(1, 1) 1281 |
Sal, Hwy fuasent yn eich |witchio| chwi'n ysgyfarnog. |
(1, 1) 1282 |
Wel, mi glywn ar fy nghalon dori rhes |
(1, 1) 1283 |
O'ch danedd chwi g'nawes donog. |
|
|
(1, 1) 1288 |
Un o b'le ydych, nis gwn i amcan! |
|
|
(1, 1) 1295 |
O mi weles ryw |sipsiwns| hyd y byd, |
(1, 1) 1296 |
Yn dygyd yn lled eger. |
(1, 1) 1297 |
~ |
(1, 1) 1298 |
Ac fe ddarfu'r gêr gythreulig, |
(1, 1) 1299 |
Yn y Trallwm wneud tro hyllig; |
(1, 1) 1300 |
Ddychrynu'r sessiwn i ffordd o'r |hall|, |
(1, 1) 1301 |
Trwy'u castie uffernol ffyrnig. |
|
|
(1, 1) 1304 |
Wel, un o'r |breed| mewn |onor| braf, |
(1, 1) 1305 |
Yn eich eithaf, ydych chwithe. |
|
|
(1, 1) 1307 |
Nis gwn i fath ffortun ellwch ei draethu, |
(1, 1) 1308 |
A fedrwch chwi ddweud y gwir yn siwr |
(1, 1) 1309 |
Fath |fatch| geiff gwr fo' am garu! |
|
|
(1, 1) 1312 |
'Rych chwi fel cyfreithwyr, ni ro'wch ddim traul |
(1, 1) 1313 |
Ar eich gwefle, heb gael eich cyflog. |
|
|
(1, 1) 1316 |
Wel, faint a gym'rwch geny'n gu, |
(1, 1) 1317 |
A'ch talu chwi yn eich dwylo? |
|
|
(1, 1) 1322 |
Wel, bacwn, beth ydyw hyny fy 'neidie? |
|
|
(1, 1) 1324 |
Wel, chwi a gewch hyny, ond i mi fy hun |
(1, 1) 1325 |
Ei dori, wyr dyn, yn dene. |
(1, 1) 1326 |
Ond safio |nonsense| gwirion |
(1, 1) 1327 |
Yn hel rhyw ryddredd roddion, |
(1, 1) 1328 |
Gwell genyf nag ymdroi'n rhy hir, |
(1, 1) 1329 |
Os dywedwch y gwir, roi coron. |
|
|
(1, 1) 1331 |
Hai, o ran |onor|, mi rho hi'n union. |
|
|
(1, 1) 1334 |
Nis gwn i pwy lyfre fyddwch yn eu dilyn. |
|
|
(1, 1) 1338 |
Wel, gadewch gael gwybod rhywbeth bellaoh. |
|
|
(1, 1) 1345 |
Wel, pe gwyddwn eich bod yn dweyd y gwir, |
(1, 1) 1346 |
Ni byddwn ddim yn hir yn herian. |
|
|
(1, 1) 1356 |
Hw, am y tyddyn nid ydwy'n hidio, |
(1, 1) 1357 |
Mi werthraf ryw ddiwrnod y cwbl oddiarno. |
|
|
(1, 1) 1360 |
Wel, os dewch chwi eto fyth ffordd yma, |
(1, 1) 1361 |
'Rwy'n erchi i chwi'n dyner ddwad i edrych am dana', |
(1, 1) 1362 |
Mae'n fawr genyf roi i chwi dafod drwg |
(1, 1) 1363 |
Pan ddaethoch i'r golwg gynta'. |
|
|
(1, 1) 1367 |
|Good bye, Madam, I wish you well|; |
(1, 1) 1368 |
O mae hi'n un ffel ddeallus. |
(1, 1) 1369 |
~ |
(1, 1) 1370 |
Son a wnawn ni am ryw ofer setlach, |
(1, 1) 1371 |
Sian a Sioned, a Rebela o Ddinbych, |
(1, 1) 1372 |
|They're not fit to open their mouths|, |
(1, 1) 1373 |
Nid y'nt wrth rai'r |South| ond sothach. |
(1, 1) 1374 |
~ |
(1, 1) 1375 |
Er fod hon yn gas ar olwg, |
(1, 1) 1376 |
O! mae hi'n dweyd |fortune| yn bur amlwg; |
(1, 1) 1377 |
Gobeithio daw'r cwbl yn eu lle |
(1, 1) 1378 |
I mine i'r gole heb gilwg. |
(1, 1) 1379 |
~ |
(1, 1) 1380 |
A rhyfedd y darfu hi ddweyd mor hynod, |
(1, 1) 1381 |
'Mod i am garu'r-siopwraig hono'n barod, |
(1, 1) 1382 |
Wel, 'rydwy'n barnu gwybodeth fel hyn, |
(1, 1) 1383 |
Huw fadde i mi, yn gryn rhyfeddod. |
(1, 1) 1384 |
~ |
(1, 1) 1385 |
Ond nid a' i bellach ddim yn ffermwr, |
(1, 1) 1386 |
Mi gym'ra' 'myd mwy segur wrth bwyso siwgwr; |
(1, 1) 1387 |
Bydd pobl y wlad yn dwad atai'n dwp |
(1, 1) 1388 |
Pan elwy'n swp o siopwr. |
(1, 1) 1389 |
~ |
(1, 1) 1390 |
A gwyn ei fyd yn gryno |
(1, 1) 1391 |
Na b'a'wn wedi 'mhriodi unweth eto; |
(1, 1) 1392 |
Rhyfedd genyf yn dda fy hun |
(1, 1) 1393 |
Na ddar'fase'r dyn fyn'd yno. |
|
|
(1, 1) 1397 |
Peth rhyfedd iawn, debygaf fi |
(1, 1) 1398 |
Yw lwc a pharti |fortune|. |
(1, 1) 1399 |
Ac 'rwyt yn meddwl y daw hi o ddifri'. |
|
|
(1, 1) 1403 |
Wel, rhy hwyr imi wneyd y gore o'm hamser, |
(1, 1) 1404 |
Y fi pia hi, onide, Pleser? |
|
|
(1, 1) 1407 |
Wel, i ffordd yn y munyd dyma fi'n myned. |
(1, 1) 1408 |
|Early to-morrow I shall be married|. |
|
|
(1, 1) 1547 |
Holo, |boys| fy 'neidie, ni fu erioed ffasiwn adeg, |
(1, 1) 1548 |
A'r lwc oedd i mi briodi'r siopwraig: |
(1, 1) 1549 |
Rwy'n meddwl nad oes o Ben-y-graig |
(1, 1) 1550 |
I Lunden wraig mor landeg. |
(1, 1) 1551 |
~ |
(1, 1) 1552 |
A dweyd y gwir, 'roedd Sian o'r gore, |
(1, 1) 1553 |
Ond mae hon yn amgenach fil cant o weithie; |
(1, 1) 1554 |
Bydde rhyfedd gan galon llawer un |
(1, 1) 1555 |
Mor hoffusawl mae'n hi'n trin ei phwyse. |
(1, 1) 1556 |
~ |
(1, 1) 1557 |
Mae ganddi mewn ffwndwr, ni all neb ei ffeindio, |
(1, 1) 1558 |
Rhyw smic yn ei bysedd, hi wneiff i beth bwyso; |
(1, 1) 1559 |
Ac ryw sut gyda'i bawd yn rho'i mesur bach, |
(1, 1) 1560 |
Ni fu erioed un â delach dwylo. |
(1, 1) 1561 |
~ |
(1, 1) 1562 |
Hi wneiff i rai'i choelio yn mhob goruchwylieth, |
(1, 1) 1563 |
'Ran mae hi'n |gwaceres|, ac yn bur |gwick| ei hareth |
(1, 1) 1564 |
Ni ddywed hi'n amser uwch ben ei ffair, |
(1, 1) 1565 |
Am dani hi air ond unweth. |
(1, 1) 1566 |
~ |
(1, 1) 1567 |
Peth ffiedd yw |fflatro|, bydd ffylied pen sitrach, |
(1, 1) 1568 |
Gwneyd gormod o siarad, 'does dim sydd oerach; |
(1, 1) 1569 |
'Rwy'n barnu dynion dystaw |sad|, |
(1, 1) 1570 |
O grefydd yn gwneud marchnad gryfach. |
(1, 1) 1571 |
~ |
(1, 1) 1572 |
Dyma hwy'r Methodistied yn rhai pur dostion |
(1, 1) 1573 |
Yn nghylch yn un stori ag oeddym ni'r |Presbyterion|, |
(1, 1) 1574 |
Ond Mae'r |Cwaceriaid| yn fwy fest, |
(1, 1) 1575 |
A gonest mewn bargenion. |
(1, 1) 1576 |
~ |
(1, 1) 1577 |
Er fod y |Dissenters| i mi'n grwgnach, |
(1, 1) 1578 |
Mi af fi'n |Gwacers| pe b'ai hwy goegach; |
(1, 1) 1579 |
O ran mae gwr a gwraig a'u ffydd, |
(1, 1) 1580 |
Un grefydd yn ddigrifach. |
(1, 1) 1581 |
~ |
(1, 1) 1582 |
Yr ydwy'n credu mewn cu ryddid, |
(1, 1) 1583 |
Mai'r |Cwacers| a'i pia hi yn mhob bywyd, |
(1, 1) 1584 |
Can's mae hwy'n gyfoethogion, ac yn helpu'n dda |
(1, 1) 1585 |
Eu gilydd gyda'u golud. |
|
|
(1, 1) 1589 |
Na alw'n Roundiad mo'nai'n hwy, |
(1, 1) 1590 |
'Rwy'n caru'n fwy'r |Cwaceriaid|. |
|
|
(1, 1) 1595 |
Ni waeth i ti dewi â'th ofer siarad, |
(1, 1) 1596 |
Mae'r wraig yn |Gwaceres|, ac yn haeddu cariad. |
|
|
(1, 1) 1599 |
'Rwy'n coelio fod o ddifri' |
(1, 1) 1600 |
Rai'n dda o bob |sect| a |party|. |
|
|
(1, 1) 1608 |
Oni werthai'n nhrysore, |
(1, 1) 1609 |
A'm cyweth, a'm ty, a'm caee;. |
(1, 1) 1610 |
A mi a'i |hadferteisiaf|, fel ag y b'o tyst, |
(1, 1) 1611 |
I'w gweled hyd y pyst a'r gwalie. |
|
|
(1, 1) 1614 |
Nid wrth ranu na phrynu'n ffri |
(1, 1) 1615 |
Y medde i fy moddion. |
(1, 1) 1616 |
Ac nid oes dim achos, yr ydwy'n ame, |
(1, 1) 1617 |
Fod neb yn dlodion mwy na mine. |
|
|
(1, 1) 1620 |
Wel, dyweded fel y myno ni choelia'i fyth mo'ni, |
(1, 1) 1621 |
'Ran mi wn i'r hanes lawer o rieni, |
(1, 1) 1622 |
Ac mae diogi ac oferedd, neu ddrwg ryw fodd, |
(1, 1) 1623 |
A'i dylydodd hwy i dylodi. |
|
|
(1, 1) 1628 |
Ond ydwy'n amheuthun i mi werthu mhethe? |
(1, 1) 1629 |
I gael bod yn siopwr ag arian sypie. |
|
|
(1, 1) 1632 |
Mae ffair Gaer yn nesu bydd y wraig mewn eisio |
(1, 1) 1633 |
Cael arian hynod erbyn hòno. |
|
|
(1, 1) 1636 |
Fe fydd genyf arian yroedd, |
(1, 1) 1637 |
Mi allaf |gountio| llawer o gantoedd. |
|
|
(1, 1) 1640 |
Wel rhy hwyr i mi fyn'd adre'n union, |
(1, 1) 1641 |
Mi gaf eto helynt arw yn setlo fy materion; |
(1, 1) 1642 |
Rhaid i mi edrych arnaf fy hun yn glên, |
(1, 1) 1643 |
Neu dygyd a wneiff yr hen wein'dogion. |
|
|
(1, 1) 1759 |
Dyma fine'ch ewythr Rondol, chwith i chwi wrando! |
(1, 1) 1760 |
Mi gefes o'r diwedd fy llwyr andwyo; |
(1, 1) 1761 |
Ni wel'soch chwi ddyn yn unlle ar droed, |
(1, 1) 1762 |
Mwy trwstan erioed, 'rwy'n tystion. |
(1, 1) 1763 |
~ |
(1, 1) 1764 |
O'r felldith fawr oedd i mi, |
(1, 1) 1765 |
Wneyd â'r siopwraig hòno air siapri, |
(1, 1) 1766 |
A gwae fy nghalon wneud tro mor ffol. |
(1, 1) 1767 |
Afreidiol a phriodi, |
(1, 1) 1768 |
~ |
(1, 1) 1769 |
Hi a'm twyllodd i werthu'r cyfan, |
(1, 1) 1770 |
Gynta' gellid o'm ty ac allan; |
(1, 1) 1771 |
Ac felly darfu i mi'n ddifeth, |
(1, 1) 1772 |
Bynorio pob peth yn arian. |
(1, 1) 1773 |
~ |
(1, 1) 1774 |
Ond oeddwn yn fy meddwl fy hun yn |glyfar|, |
(1, 1) 1775 |
Y byddia arian i'w llogi, yr awn yn wr lliwgar, |
(1, 1) 1776 |
Gan ddisgwyl fod ganddi hithe'n 'stor, |
(1, 1) 1777 |
Rai cantoedd yn nror y |counter|. |
(1, 1) 1778 |
~ |
(1, 1) 1779 |
Ond hithe ni feddai fawr o foddion, |
(1, 1) 1780 |
Na dim |guineas|, nac arian gwynion, |
(1, 1) 1781 |
Ond bocsiad llawn, na wnai nhwy ddim lles, |
(1, 1) 1782 |
Ysbariodd hi o bres byrion. |
(1, 1) 1783 |
~ |
(1, 1) 1784 |
A dechre hel llyfre wedi'r holl afrad, |
(1, 1) 1785 |
A rhuo bod arian beth didoriad; |
(1, 1) 1786 |
Wedi iddi goelio'r wlad ar led, |
(1, 1) 1787 |
A rhoi gormod o gred i grwydried. |
(1, 1) 1788 |
~ |
(1, 1) 1789 |
Beth a wnes ine, pan glywes hyny, |
(1, 1) 1790 |
Ond rhoi beili a chyfreithiwr i safnrythu; |
(1, 1) 1791 |
Ac ni chaed fawr fantes yn odid fan, |
(1, 1) 1792 |
Ond rhai diles rhy wan i dalu. |
(1, 1) 1793 |
~ |
(1, 1) 1794 |
Ac wedi'r cwbl hi a'm perswadie |
(1, 1) 1795 |
I ddod i ffair Gaer, y doi pobpeth o'r gore: |
(1, 1) 1796 |
Ac felly ni aethom yno'n llawn, |
(1, 1) 1797 |
A chadarn iawn ein code. |
(1, 1) 1798 |
~ |
(1, 1) 1799 |
Ac ar ol myned yno, 'roedd hi'n denu |
(1, 1) 1800 |
At y |dealers| lle'r oedd lleia i dalu, |
(1, 1) 1801 |
I gael i mi feddwl yn dda fy nghred |
(1, 1) 1802 |
Nad oedd fawr ddyled ar y ladi. |
(1, 1) 1803 |
~ |
(1, 1) 1804 |
Dyna lle'r oedd y |dealers| hyny mor dalog |
(1, 1) 1805 |
Yn ysgwyd dwylo, a chusanu'r hen fyswynog; |
(1, 1) 1806 |
A dwad gyda ni i'r dafarn yn gadarn o'u co', |
(1, 1) 1807 |
A rhoi i mi groeso gwresog. |
(1, 1) 1808 |
~ |
(1, 1) 1809 |
Y nosweth hono, ni fu erioed fath wynfyd, |
(1, 1) 1810 |
Gwyr Lerpwl, Manchester, a Chaer hefyd, |
(1, 1) 1811 |
Yn rhoi i mi |bunch|, a |negus|, a |liquors| yn ffri, |
(1, 1) 1812 |
Ac yn dodi, ni fedra'i ddim d'wedyd. |
(1, 1) 1813 |
~ |
(1, 1) 1814 |
Dweyd wrtha'i, "|Good health and success to the business|," |
(1, 1) 1815 |
A mine heb fawr o Saesneg, ond tipyn o rodres; |
(1, 1) 1816 |
Ond codes i ddweyd |Thank ye|, yn bur dwt, |
(1, 1) 1817 |
Ac a syrthiais pwt i'w potes. |
(1, 1) 1818 |
~ |
(1, 1) 1819 |
Fe aeth y bwrdd a'r \inkhorns| hwnw lawr mor ronco, |
(1, 1) 1820 |
A'r holl lestri trwstan, on'd oedd y ty'n crynu drosto; |
(1, 1) 1821 |
A gwaeth na thori'r celfi a cholli'r cawl, |
(1, 1) 1822 |
Fe aeth y |glasie| diawl i'm dwylo. |
(1, 1) 1823 |
~ |
(1, 1) 1824 |
Ond rhyw sut yn y funud fe'm codwyd i fynu, |
(1, 1) 1825 |
Gan ymroi gyda'u gilydd i'm llusgo i'r gwely; |
(1, 1) 1826 |
Ffitiach fuase, a dweyd y gwir, |
(1, 1) 1827 |
Fod mewn rhyw fudr feudy. |
(1, 1) 1828 |
~ |
(1, 1) 1829 |
'Doedd ben yn y byd i mi fel y dylase, |
(1, 1) 1830 |
Ond gwaed ac aflwydd o'm dwylo a'm gwefle; |
(1, 1) 1831 |
Ar ol i mi feddwi a cholli ngho', |
(1, 1) 1832 |
'Roedd gwaith repario'r bore. |
(1, 1) 1833 |
~ |
(1, 1) 1834 |
A'r bore 'doedd hanes am neb ond fy hunan, |
(1, 1) 1835 |
Mi a ddechreues fyfyrio yn mh'le rhois fy arian; |
(1, 1) 1836 |
Ond y wraig a wnaeth â mi gnot ysdits, |
(1, 1) 1837 |
Fe gadwodd y |witch| y godan. |
(1, 1) 1838 |
~ |
(1, 1) 1839 |
Ni adawodd hi geiniog i mi'n deg hynod, |
(1, 1) 1840 |
Ond rhyw faint o bres yn mhoced fy ngwasgod, |
(1, 1) 1841 |
Mi ddechreues waeddi a myn'd o'm co', |
(1, 1) 1842 |
Fe ddarfu i mi wylltio hylldod. |
(1, 1) 1843 |
~ |
(1, 1) 1844 |
Mi redes hyd y grisie, on'd oedd pawb yn ymgroesi, |
(1, 1) 1845 |
"|For God's sake,|" medde'r bobl, "|what ails the old booby|?"' |
(1, 1) 1846 |
'Roeddwn fel pe buase gacwn yn codi o'm pen, |
(1, 1) 1847 |
Ni fu erioed beth mor ddreng a myfi. |
(1, 1) 1848 |
~ |
(1, 1) 1849 |
Mi redes hyd y |rowses| o nerth fy nghalon, |
(1, 1) 1850 |
Ac i |Manchester Warehouse| yn mron myn'd yn wirion, |
(1, 1) 1851 |
Ac i ffordd o hyd i'r |New Linen Hall|, |
(1, 1) 1852 |
Ag ymddygiad gerwinol ddigon. |
(1, 1) 1853 |
~ |
(1, 1) 1854 |
Mi droisym i siop rhyw |siapard| o Wyddel, |
(1, 1) 1855 |
Fe ddechreuodd hwnw scwandro a chware "|What d'ye want scoundrel|? " |
(1, 1) 1856 |
A dweyd, "|Go about your business, you son of a whore|," |
(1, 1) 1857 |
Mi redes yn siwr am fy hoedel. |
(1, 1) 1858 |
~ |
(1, 1) 1859 |
Ac yn mlaen a myfi gan ymofyn am dani, |
(1, 1) 1860 |
Mi a gyfarfum â rhyw glamp o dorglwyd lusti, |
(1, 1) 1861 |
Ac a dynes fy het, ac a dd'wedes yn fwyn, |
(1, 1) 1862 |
"A welsoch chwi, 'r gwr mwyn, mo Anni?" |
(1, 1) 1863 |
~ |
(1, 1) 1864 |
"|G—d d—mn you blockhead|," ebe hwnw, |
(1, 1) 1865 |
A phwy oedd ond y Maer yn haner meddw; |
(1, 1) 1866 |
Fe'm hordrodd i'r |madhouse| at Stephen Hyde, |
(1, 1) 1867 |
A pheri rhoi |guide| i'm cadw. |
(1, 1) 1868 |
~ |
(1, 1) 1869 |
Dyma rhyw |rogues| yn codi, ac ynw'i'n cydio, |
(1, 1) 1870 |
Rhai'n gwthio'n ewyllysgar, a'r lleill yn llusgo; |
(1, 1) 1871 |
A mine'n gwaeddi ar bob discwrs, |
(1, 1) 1872 |
Am y wraig, y pwrs a'r eiddo. |
(1, 1) 1873 |
~ |
(1, 1) 1874 |
Ond fe ddaeth rhyw Gymro ac a darawodd i'r cwmni, |
(1, 1) 1875 |
Ac fe ddeallodd fy helynt wrth hir ymholi, |
(1, 1) 1876 |
Nhw'm gollyng'son i'n rhydd gan fynu mewn rhoch |
(1, 1) 1877 |
Bob ceiniog goch oedd geny'. |
(1, 1) 1878 |
~ |
(1, 1) 1879 |
A mi ddaethum i'm |lodging| tan |low the latsio|, |
(1, 1) 1880 |
A garw fu'r dwned imi ar ol d'od yno; |
(1, 1) 1881 |
'Roedd rhyw leidr o feili yn ei ledieth, |
(1, 1) 1882 |
Wedi myn'd â'm ceffyle i yn eu corffoleth. |
(1, 1) 1883 |
~ |
(1, 1) 1884 |
Ni feddwn i feddwl cychwyn adre, |
(1, 1) 1885 |
Na gwraig, nac arian, na cheffyle; |
(1, 1) 1886 |
Mi glywawn ar fy nghalon fyn'd tros ganllaw'r bont, |
(1, 1) 1887 |
Oherwydd mor front fu'r siwrne. |
(1, 1) 1888 |
~ |
(1, 1) 1889 |
A chwedi i mi rywsut gyrhedd adre, |
(1, 1) 1890 |
'Roedd beilied Rhuthyn ar y trothe, |
(1, 1) 1891 |
Wedi chwalu'r ty o'r gwaelod i'r top, |
(1, 1) 1892 |
A gwerthu'r holl siop yn sypie. |
(1, 1) 1893 |
~ |
(1, 1) 1894 |
Dyna gefes, fel mae mwya' gofid, |
(1, 1) 1895 |
Am goello fy ffortun a phob celwydd dybryd; |
(1, 1) 1896 |
'Rwy'n hen a thylawd mewn annoeth lun, |
(1, 1) 1897 |
Fy ngelyn aeth a'n ngolud. |
|
|
(1, 1) 1900 |
Ow, mae 'nghalon yn curo fel Pandy Glynceiriog. |
(1, 1) 1901 |
Dyma yspryd Sian, 'rydwy'n ofni'n siwr, |
(1, 1) 1902 |
Oes na gwraig na gwr trugarog? |
(1, 1) 1903 |
~ |
(1, 1) 1904 |
Hai! wchw! mwrdwr? er mwyn Go'r Maerdy, |
(1, 1) 1905 |
Rhoed rhywun loches imi lechu. |
|
|
(1, 1) 1908 |
Nid alla'i ddim sefyll oni cha'i fy safio, |
(1, 1) 1909 |
Mae rhyw euogrwydd yn fy rhwygo. |
|
|
(1, 1) 1912 |
Ow, Mrs. anwyl, na wnewch ddim camsynied, |
(1, 1) 1913 |
Ni wnes i gam â neb a'r aned, |
(1, 1) 1914 |
Ond fe wnaeth fy ail wraig â fi gam o'i go', |
(1, 1) 1915 |
Dwyn fy arian mewn tro cyn fyred. |
|
|
(1, 1) 1917 |
Fe aeth fy arian i heibio 'run fath a mwg. |
|
|
(1, 1) 1919 |
A garw ydyw'r gofid sydd gydag efo. |
|
|
(1, 1) 1921 |
Ni wn i fwy am ened mwy na phen mawnen. |
|
|
(1, 1) 1923 |
Dim garwach nag eraill pan elo hi'n gwarel. |
|
|
(1, 1) 1928 |
Pe gwyddwn yn iawn y cawn ddigonedd, |
(1, 1) 1929 |
A dyblu 'nghyfoeth fel Job yn y diwedd, |
(1, 1) 1930 |
Cael ychen ran pleser ddeg cant yn gyplyse, |
(1, 1) 1931 |
Pe bai'r diawl yn fy nguro mi ddaliwn fy ngore. |
|
|
(1, 1) 1950 |
Ond y wraig a'u gwariodd hwy, ffolog wirion. |
|
|
(1, 1) 1960 |
Mae'n arw os rhaid i mi ateb eto, |
(1, 1) 1961 |
Am bethe ddarfu'r wraig ddistrywio; |
(1, 1) 1962 |
Ond pe gwelwn y genawes ddrwg ei bri, |
(1, 1) 1963 |
Mi atebwn iddi hi, 'rwy'n tybio. |
(1, 1) 1964 |
~ |
(1, 1) 1965 |
Yr aflwydd i'w chanlyn, ni fedra'i lai na choelio, |
(1, 1) 1966 |
Nad yn y Deheudir y mae hi'n rhodio; |
(1, 1) 1967 |
Ran yno mae'r lladron egron wg |
(1, 1) 1968 |
A'r siopwyr drwg yn sypio. |
(1, 1) 1969 |
~ |
(1, 1) 1970 |
A'r holl rai cerdded, sy a'r diawl yn eu corddi, |
(1, 1) 1971 |
Yn newid eu gwragedd ac yn ymgrogi; |
(1, 1) 1972 |
Maent hwy o sir Benfro i Gastell Nedd, |
(1, 1) 1973 |
Yn Morganwg, rhyfedd geny'. |
|
|
(1, 1) 1983 |
A glywch chwi, medda'i, 'r gynulleidfa, |
(1, 1) 1984 |
Fe aeth hon i gregethu, gwnaed pawb eu gwaetha'; |
(1, 1) 1985 |
Mae rhyw beth o grefydd, 'run fath ag ymgrafu, |
(1, 1) 1986 |
Ni cha'i lonydd nosweth heb ryw fan yn ysu. |
(1, 1) 1987 |
~ |
(1, 1) 1988 |
Mi briodes wraig o'r Methodistied, |
(1, 1) 1989 |
'Roedd hono'n erwinol yn rhuo am yr ened; |
(1, 1) 1990 |
Fe fu agos un waith, gan faint oedd hi'n swnio, |
(1, 1) 1991 |
Y troisym ryw fesur, ond fe ddarfu i mi fisio. |
(1, 1) 1992 |
~ |
(1, 1) 1993 |
Ond priodi'r Gwaceres, hen siopwraig oeredd, |
(1, 1) 1994 |
Hono a'm handwyodd i yn y diwedd; |
(1, 1) 1995 |
Pe doi hi i'm golwg, neu un o'r |colors|, |
(1, 1) 1996 |
Ni choelia'i na chiciwn i hi efo'i Chwacers. |
|
|
(1, 1) 1999 |
Os achubiff ef hi, fe haedde fawl, |
(1, 1) 2000 |
Ei gadel i ddiawl a ddylid. |
|
|
(1, 1) 2003 |
Wel, mater mawr i mine mod, |
(1, 1) 2004 |
Wedi colli 'nghod a'm harian, |
|
|
(1, 1) 2025 |
O! wyneb fy holl drueni, |
(1, 1) 2026 |
Sy'n dechre ymddangos imi; |
(1, 1) 2027 |
Mae diawlied uffern yn un byw, |
(1, 1) 2028 |
A digllonedd Duw'n fy llenwi. |
(1, 1) 2029 |
~ |
(1, 1) 2030 |
'Rwy'n gwel'd fy mod, heb gelu, |
(1, 1) 2031 |
Fel Cain a Suddas wedi cwbl droseddu; |
(1, 1) 2032 |
Fe aeth fy edifeirwch i'n rhy hwyr, |
(1, 1) 2033 |
Mae anobeth yn fy llwyr wynebu. |
(1, 1) 2034 |
~ |
(1, 1) 2035 |
Fe'm carcharwyd yn rhwymyn chwerwedd, |
(1, 1) 2036 |
A bustl pob anwiredd; |
(1, 1) 2037 |
Fe seriwyd fy nghydwybod â haiarn poeth, |
(1, 1) 2038 |
'Rwy'n ddelw noeth o ddialedd. |
(1, 1) 2039 |
~ |
(1, 1) 2040 |
Os bwriwyd Fransis Spira, |
(1, 1) 2041 |
I anobeth a chreulondra; |
(1, 1) 2042 |
Os gwnaeth Judas am dano'i hun, |
(1, 1) 2043 |
'Rwyf fine yn 'run cyfyngdra. |
(1, 1) 2044 |
~ |
(1, 1) 2045 |
Mac uffern yn berwi'n barod, |
(1, 1) 2046 |
'N gwneud ebwch trwy 'nghydwybod; |
(1, 1) 2047 |
O! 'r euogrwydd arna'i sydd, |
(1, 1) 2048 |
'Rwy'n beichio oherwydd pechod. |
(1, 1) 2049 |
~ |
(1, 1) 2050 |
Mi wawdies bob math ar grefydd, |
(1, 1) 2051 |
Fy mhleser o'm calon oedd adrodd eu c'wilydd; |
(1, 1) 2052 |
'Run fath a chi yn llyfu briw, |
(1, 1) 2053 |
Mi neidiwn i'w cernwydydd. |
(1, 1) 2054 |
~ |
(1, 1) 2055 |
O! mor 'wyllysgar y cablwn y rhai llesga, |
(1, 1) 2056 |
Ac mor hoff y dyrchafwn rai drwg mewn cybydd-dra, |
(1, 1) 2057 |
O! yr esgus rhagrithiol oedd genyf fi, |
(1, 1) 2058 |
I guddio fy nigywilydd-dra. |
(1, 1) 2059 |
~ |
(1, 1) 2060 |
O! cym'rwch fi'n rhybudd, y cwmni enwog, |
(1, 1) 2061 |
Nid oes dim cellwer âg arfe miniog; |
(1, 1) 2062 |
O eisie dilyn cydwybod rydd, |
(1, 1) 2063 |
Fy niwedd sydd yn euog. |
(1, 1) 2064 |
~ |
(1, 1) 2065 |
Nid yw hyn ond megys gwatwor agwedd |
(1, 1) 2066 |
Cyflwr truenus dyn drwg ei fuchedd; |
(1, 1) 2067 |
Ond cofiwch bawb tra f'om ni byw, |
(1, 1) 2068 |
Na watworir Duw yn y diwedd. |
(1, 1) 2069 |
~ |
(1, 1) 2070 |
O! chwi'r rhai sy'n gwrando'r geirie, |
(1, 1) 2071 |
Ac yn edrych ar hyn fel chware; |
(1, 1) 2072 |
Gwyliwn y daw'n edifeirwch prudd |
(1, 1) 2073 |
Annedwydd i'n heneidie. |
(1, 1) 2074 |
~ |
(1, 1) 2075 |
Daw'r amser y pregethir ar bene'r teie, |
(1, 1) 2076 |
'Rhyn a wnaed mewn anialwch a thywyll gornele; |
(1, 1) 2077 |
Heddyw yw'r dydd i sefydlu'r daith, |
(1, 1) 2078 |
Gwybyddwch nad oes gwaith mewn bedde. |