|
|
|
|
(2, 2) 1399 |
Gallasai eich mawrhydi, eich dau, |
(2, 2) 1400 |
Trwy yr awdurdod goruchelaidd a |
(2, 2) 1401 |
Feddienwch arnom ni, amlygu eich |
(2, 2) 1402 |
Hewyllys chwi 'n fwy mewn gorchymyn nag |
(2, 2) 1403 |
Mewn ymbil. |
|
|
(2, 2) 1656 |
Duw a'ch cadwo, syr. |
|
|
(2, 2) 1659 |
Fy anwylaf arglwydd!— |
|
|
(2, 2) 1664 |
Fel dibwys blant y ddaear. |
|
|
(2, 2) 1669 |
Yr un o'r ddau, fy arglwydd. |
|
|
(2, 2) 1675 |
Dim, fy arglwydd, ond fod y byd wedi troi yn onest. |
|
|
(2, 2) 1682 |
Yna y mae y byd yn un. |
|
|
(2, 2) 1684 |
Nid ydym ni yn meddwl felly, fy arglwydd. |
|
|
(2, 2) 1686 |
Yna ynte eich huchelfrydedd sydd yn ei wneuthur yn un: mae yn rhy gyfyng i'ch meddwl. |
|
|
(2, 2) 1690 |
Gwir, ac yr wyf fi yn dal fod uchelfrydedd o ansawdd mor awyrol ac ysgafn, fel nad yw ond cysgod, cysgod. |
|
|
(2, 2) 1696 |
Ymweled â chwi, fy arglwydd; dim neges arall. |
|
|
(2, 2) 1706 |
I ba ddyben, fy arglwydd? |
|
|
(2, 2) 1710 |
Beth a ddywedwch chwi? |
|
|
(2, 2) 1719 |
Fy arglwydd, nid oes dim o'r fath sothach yn fy meddyliau i. |
|
|
(2, 2) 1721 |
Wrth feddwl, fy arglwydd, os nad ydych yn ymhyfrydu mewn dyn, y fath groesaw prin a dderbynia y chwareuwyr genych; ni a'u daliasom hwy ar y ffordd; ac y maent yn dyfod i gynyg i chwi eu gwasanaeth. |
|
|
(2, 2) 1725 |
Y rhai hyny ag y cymerech y fath ddifyrwch ynddynt—prudd-chwareuwyr y ddinas. |
|
|
(2, 2) 1728 |
Yr wyf yn meddwl fod y gwaharddiad iddynt wedi tarddu oddiwrth y newydd-ddefod ddiweddar. [25] |
|
|
(2, 2) 1731 |
Nac ydynt, yn wir nid ydynt. |
|
|
(2, 2) 1734 |
Na, y mae eu hymgais yn dal yn y lle arferol: ond y mae, syr, y fath nythlwyth o blant, cywion bychain, sydd yn llefain allan hyd eithaf eu hysgyfaint, a hwy a glecir yn dra gormesol am dano: dyna ym y ffasiwn yn awr; a gwnant y fath dwrf a thrwst ar yr |
(2, 2) 1735 |
esgynloriau cyffredin (felly y galwant hwy), fel y mae llawer, sydd yn gwisgo hirgleddyfau, yn ofni cwils gwyddau, a phrin y meiddiant ddyfod yno. |
|
|
(2, 2) 1739 |
Yn wir, bu llawer i'w wneud o bob tu; ac nid yw y genedl yn ei gyfrif yn bechod i'w hanog yn mlaen i ddadleuaeth: nid oedd, am beth amser, ddim arian yn cael eu cynyg ar ddadl, os na byddai i'r bardd a'r chwareuydd fyned i baffio ar y pwnc. |
|
|
(2, 2) 1743 |
Ydynt, felly y maent, fy arglwydd, Hercules a'i lwyth hefyd. [26] |
|
|
(2, 2) 1757 |
Fe ddichon ei fod wedi dyfod iddynt yr ail waith; canys dywedant fod hen ddyn ddwywaith yn blentyn. |
|
|
(2, 2) 1913 |
Fy arglwydd da! |