Ciw-restr

Macbeth

Llinellau gan Ross (Cyfanswm: 9)

 
(1, 2) 46 Duw a'th gadwo, Frenin!
 
(1, 2) 48 O Fife, wiw deyrn, lle y mae baneri Norwy'n herio'r wybr ac yn gwyntyllio'n pobl yn oer.
(1, 2) 49 Dechreuodd brenin Norwy ei hun, âg aruthr nifeiri, a'r bradwr anffyddlonaf hwnnw, pendefig Cawdor, ymgyrch ffyrnig, hyd nes myned Macbeth i'w wynebu'n gyfartal âg yntau, gan ddofi ei ysbryd gwyllt; ac, i mi orffen, syrthiodd y fuddugoliaeth i ni.
 
(1, 2) 51 Felly yn awr, y mae brenin y Norwyaid yn erfyn am delerau; ond ni roddem ninnau iddo gennad i gladdu ei feirw hyd oni thalai i ni ddeng mil o ddoleri at ein gwasanaeth cyffredin.
 
(1, 2) 53 Gofalaf wneuthur hynny.
 
(1, 3) 140 Macbeth, derbyniodd y brenin y newyddion am dy lwyddiant; a phan fo ef yn darllen dy antur di ym mrwydr y gelynion, y mae ei syndod a'i ganmoliaeth yn ymryson a'i gilydd pa un a ddylai fod yn eiddot ti neu eiddo ef;
(1, 3) 141 yn ol ei dewi gyda hynny, wrth fwrw golwg ar weddill yr un dydd, dy gael y mae yn rhengau'r Norwyaid dewr, heb unrhyw ofn rhag y pethau y gwnaethost hwy dy hun yn rhyfedd lun marwolaeth.
(1, 3) 142 Yn chwyrn y deuai'r naill gennad ar ol y llall, a phob un gydag ef yn dwyn dy glodydd yn amddiffyn mawr ei deyrnas, ac yn eu tywallt ger ei fron.
 
(1, 3) 144 Ac fel ernes o anrhydedd mwy, fo barodd i mi drosto dy alw'n Arglwydd Cawdor; ac ar yr urddas, henffych deilwng arglwydd, canys eiddot yw.