|
|
|
|
(1, 2) 51 |
Duw a'th gadwo, Frenin! |
|
|
(1, 2) 53 |
O Ffiff, Arglwydd, lle y mae banerau Norwy yn herio'r wybren ac yn gwyntyllio'n pobl yn oerion. |
(1, 2) 54 |
Dechreuodd Brenin Norwy gyda hylltod o wŷr, a'r bradwr anffyddlonaf hwnnw, pendefig Cawdor, yn gefn iddo, ar ymgyrch ffyrnig, hyd nes mynd Macbeth i'w wynebu'n gyfartal ag yntau, gan ddofi ei ysbryd gwyllt, ac o'r diwedd, syrthiodd y fuddugoliaeth i ni. |
|
|
(1, 2) 56 |
Felly bellach y mae Brenin y Norwyaid yn erfyn am delerau, ond ni roddem ninnau iddo gennad i gladdu ei feirw hyd oni thalai i ni ddeng mil o ddoleri at ein gwasanaeth cyffredin. |
|
|
(1, 2) 58 |
Gofalaf am hynny. |
|
|
(1, 3) 152 |
Macbeth, derbyniodd y Brenin y newyddion am dy lwyddiant; a phan yw ef yn darllen dy antur di ym mrwydr y gelynion, y mae ei syndod a'i ganmoliaeth yn ymryson â'i gilydd pa un a ddylai fod yn eiddot ti neu eiddo ef. |
(1, 3) 153 |
Wedi tewi am hynny, wrth fwrw golwg ar weddill yr un dydd, y mae ef yn dy gael di yn rhengau'r Norwyaid dewr, heb ofn yn y byd rhag y pethau y rhoddaist ti dy hun arnynt ryfedd lun marwolaeth. |
(1, 3) 154 |
Yn chwyrn, dôi'r naill gennad ar ôl y llall, a phob un yn dwyn i'w ganlyn dy glod fel amddiffynnwr mawr ei deyrnas, ac yn eu tywallt ger ei fron. |
|
|
(1, 3) 156 |
Ac fel ernes o anrhydedd mwy, fo barodd i mi ar ei ran ef d'alw di yn Arglwydd Cawdor; ac ar yr urddas hwnnw, henffych, deilwng Arglwydd, canys eiddot yw. |