Cuesheet

Y Sosban

Lines spoken by Siopwraig (Total: 27)

 
(1, 0) 363 Yn eisiau, llanc cryf, gweithgar i gario allan o'r siop.
(1, 0) 364 Un parod ei wên a pharod ei wasanaeth sy'n nabod yr ardal yn dda ac yn fodlon gweithio gyda'r nos ac ar Sadyrna'.
(1, 0) 365 Rhoddir tal yn ôl y cyfrifoldeb y rhoddwn arno.
 
(1, 0) 367 Yn eisiau, llanc cryf...
 
(1, 0) 369 Noswaith dda...beth alla i wneud i chi?
 
(1, 0) 372 Llanc cryf, gweithgar sy' gen i isho.
 
(1, 0) 378 Mi rwyt ti wedi gadael yr ysgol, debyg?
 
(1, 0) 380 A be' fuost ti'n ei wneud ers hynny?
 
(1, 0) 384 Rwan, elli di ddeud wrtha i lle mae'r ty yma pe taswn i eisiau i ti fynd a neges yno ar gefn dy feic?
 
(1, 0) 387 Beic y siop fyddi di'n 'ddefnyddio siŵr iawn.
 
(1, 0) 390 Beth na fedra i mo'i ddallt?
 
(1, 0) 392 Ddim reidio beic!
(1, 0) 393 Llanc dy oed ti yn methu mynd ar gefn beic!
(1, 0) 394 Mi rwyt ti yn tynnu 'nghoes i, yn dwyt?
(1, 0) 395 Gwylia di...
 
(1, 0) 402 Dwi'n gweld.
(1, 0) 403 Wel, darllen hwnna beth bynnag i mi gael gweld os wyt ti'n gw'bod lle mae o.
 
(1, 0) 406 Wel, darllen o.
 
(1, 0) 408 Be nad ydw i'n ei ddallt 'tro yma?
 
(1, 0) 410 Ddim... ddim darllen.
 
(1, 0) 412 Ond be' fuost ti'n ei wneud yn yr ysgol 'ta?
(1, 0) 413 E?
 
(1, 0) 415 Hogyn drwg ia?
(1, 0) 416 Hogyn drwg oeddat ti yn yr ysgol.
 
(1, 0) 418 Wel, dwi ddim isho hogyn drwg yn fy siop i.
(1, 0) 419 Dwi isho un cyfrifol, un sy'n barod ei wên a'i wasanaeth.
(1, 0) 420 Yn eisiau, llanc cryf, gweithgar sy'n medru reidio beic a darllen.