Cuesheet

Yr Arth

Lines spoken by Smirnoff (Total: 221)

 
(1, 0) 75 Y lob!
(1, 0) 76 'R wyt ti'n dafod i gyd!
(1, 0) 77 Y llo dwl!
 
(1, 0) 79 Madam, mae'n anrhydedd gennyf fy nghyflwyno fy hun i chi: y tirfeddiannwr Grigori Stepanofits Smirnoff, gynt yn lieutenant yn yr artileri!
(1, 0) 80 Mae'n rhaid imi aflonyddu arnoch â neges bwysig iawn.
 
(1, 0) 83 Aeth eich diweddar ŵr... yr oedd yn anrhydedd gennyf ei adnabod... o'r byd yma, heb dalu ei ddyled imi, chwech igian o bunnoedd.
(1, 0) 84 Rhaid imi dalu llog i'r banc yfory, ac felly, Madam, rhaid imi gael yr arian gynnoch chi heddiw.
 
(1, 0) 87 Mi werthais i geirch iddo fo.
 
(1, 0) 96 'D ydw innau ddim mewn tymer i aros, ac os na thala i'r llog yfory, mi fydd raid imi saethu fy hun, a dyna ben ar bopeth.
(1, 0) 97 Mi werthir fy holl eiddo hefyd.
 
(1, 0) 99 Rhaid imi eu cael nhw heddiw, nid drennydd.
 
(1, 0) 101 Fedra innau ddim aros tan drennydd.
 
(1, 0) 103 Thalwch chi ddim felly?
 
(1, 0) 105 M...m...m!
(1, 0) 106 A dyna'ch gair ola' chi?
 
(1, 0) 108 Y gair ola' mewn difri?
 
(1, 0) 110 Diolch yn fawr i chi.
(1, 0) 111 Mi roi'r peth ar bapur.
 
(1, 0) 113 A phobol yn disgwyl i mi beidio colli 'nhymer!
(1, 0) 114 Mi welais i ddyn-y-trethi ar fy ffordd yma a dyma a ddeudodd o: "Pam 'r ydych chi bob amser wedi gwylltio, Grigori Stepanofits?"
(1, 0) 115 Ond sut medra i beidio gwylltio os gwelwch chi'n dda?
(1, 0) 116 Mae arna i eisiau arian yn ofnadwy.
(1, 0) 117 Ond 'd ydych chi ddim mewn tymer!
(1, 0) 118 Sut y medra i beidio gwylltio?
 
(1, 0) 120 Ond atoch chi y dois i, nid at y stiward.
(1, 0) 121 Be gebyst, maddeuwch imi am arfer y fath air, be gebyst sydd a nelof |i| â'ch stiward chi?
 
(1, 0) 126 Glywoch chi rytsiwn beth erioed?
(1, 0) 127 "Ddim mewn tymer", os gwelwch chi'n dda!
(1, 0) 128 Y gŵr wedi marw saith mis yn ôl!
(1, 0) 129 Oes rhaid i mi dalu'r llog ai peidio?...
(1, 0) 130 'R wy'n gofyn i chi, oes rhaid i mi dalu'r llog ai peidio?
(1, 0) 131 Mae'ch gŵr wedi marw, O, ydi, debyg iawn, a chithau heb fod mewn tymer, a'ch hen stumiau a'ch hen gastiau o bob math, a'ch stiward wedi mynd rywle, a'i gipio fo.
(1, 0) 132 Ond be 'dach chi'n ddisgwyl i mi wneud?
(1, 0) 133 Hen frechdan o ddyn ydw i, hen ffwlcyn, ie, hen, hen, wreigan hanner pen!
(1, 0) 134 'R wy wedi bod yn rhy neis tuag at fy nyledwyr...
(1, 0) 135 Aros yn wir!
(1, 0) 136 'Dwaenoch chi monofi.
(1, 0) 137 A'ch cipio chi... chewch chi ddim hel lol hefo fi.
(1, 0) 138 Mi rhosa i yma nes talith hi.
(1, 0) 139 R-r-r-r!
(1, 0) 140 Mi ydw i'n ddig heddiw, yn crynu bob mymryn, ac yn methu cael fy ngwynt, ac yn teimlo'n bur sâl.
 
(1, 0) 142 Hei, rhywun!
 
(1, 0) 144 Llymad o ddŵr neu ddiod fain?
 
(1, 0) 146 'D oes dim synnwyr mewn peth fel hyn.
(1, 0) 147 Dyn yn torri ar ei draws isio arian, ar fin crogi ei hun a hithau yn gwrthod talu, am nad ydi hi mewn tymer, welwch chi, i drin arian heddiw.
(1, 0) 148 Dyna i chi synnwyr y bais!
(1, 0) 149 Dyna pam na fûm i erioed yn caru merch, a fynna i ddim siarad â'r un ohonyn nhw chwaith.
(1, 0) 150 Mi fuasai'n well gin i iste' ar gasgiad o bowdwr-gwn na siarad â merch.
(1, 0) 151 R-r-r-r!
(1, 0) 152 Mae ngwaed i wedi fferu ar ôl clywed yr hen fadam na'n bwrw drwyddi.
(1, 0) 153 Rhaid i mi ddim ond cael cip olwg yn y pellter ar ryw anwylyd barddonol fel honna, a dyma bob gefyn yn fy nghorff i'n gryndod i gyd, a minnau bron yn gweiddi "Help, help!"
 
(1, 0) 156 Dos i ffwrdd!
 
(1, 0) 158 Yn wael!
(1, 0) 159 Fedr hi weld neb!
(1, 0) 160 Peidied |hi| ta.
(1, 0) 161 Mi rhosa i yma, mi stedda i yma nes y daw hi â'r arian imi.
(1, 0) 162 Os byddi di'n wael am wythnos, mi stedda innau yma am wythnos; os byddi di'n wael am flwyddyn, mi stedda innau am flwyddyn.
(1, 0) 163 Mi fydda i yn drech na ch'di, 'r hen chwaer.
(1, 0) 164 Ddali di monof fi â'th ffrog ddu a'r pantiau bach ar dy wyneb di; mi 'dwy'n rhy gyfarwydd â phantiau bach neis.
 
(1, 0) 166 Simon, tyn y ceffylau o'r cerbyd, 'd awn ni ddim i ffwrdd am dipyn.
(1, 0) 167 Cofia ddeud wrthyn' nhw yn y stabal am roi ceirch i'r ceffylau.
(1, 0) 168 Dyna ti eto, y mynci mul, wedi gadael i'r ceffyl ôl faglu yn y rens.
 
(1, 0) 170 "Popeth yn iawn, syr", wir!
(1, 0) 171 Mi ro i "bopeth yn iawn" i ti.
 
(1, 0) 173 Ych, ffiadd, gwres annioddefol, neb am dalu, noson ddrwg neithiwr, a'r hen ffrog ddu na heb fod mewn tymer...
(1, 0) 174 Mae cur yn fy mhen i.
(1, 0) 175 Beth am dropyn o frandi?
(1, 0) 176 Eitha' peth yn wir.
 
(1, 0) 178 Hei!
 
(1, 0) 181 Glasiad o frandi i mi!
 
(1, 0) 183 Ych!
 
(1, 0) 185 Mae golwg neis arna i, rhaid i mi ddeud, yn llwch i gyd, fy sgidia'n faw i gyd, heb 'molchi, heb gribo 'ngwallt, a gwellt ar fy ngwasgod i...
(1, 0) 186 Mae arna' i ofn fod y ledi yn fy ngweld yn debyg i leidr pen ffordd.
(1, 0) 187 Wir, ddylai neb ymddangos fel hyn mewn drawing-room, ond waeth befo, cheis i mo ngwadd yma, gall y sawl fo'n hel dyledion wisgo fel y myn; creditor ydw i, a 'd oes na ddim regulation dress i greditor.
 
(1, 0) 190 Be?
 
(1, 0) 193 Wrth bwy 'r wyt ti'n siarad?
(1, 0) 194 Taw!
 
(1, 0) 198 O, mi 'dw i'n ddig, mi leiciwn falu'r byd i gyd yn bowdwr mân.
 
(1, 0) 202 Talwch i mi, mi af innau i ffwrdd.
 
(1, 0) 204 Mi gefais innau yr anrhydedd o ddeud wrthoch chithau heb flew ar fy nhafod fod arna' i isio arian heddiw, nid drennydd.
(1, 0) 205 Os na thalwch i mi heddiw, mi groga i fy hun yfory.
 
(1, 0) 208 Thalwch chi ddim heddiw felly?
 
(1, 0) 210 Felly, mi rhosa i yma nes y caf yr arian.
 
(1, 0) 212 Drennydd, ai e?
(1, 0) 213 Campus.
(1, 0) 214 Mi rhosa innau tan drennydd.
(1, 0) 215 Mi stedda i yma fel hyn.
 
(1, 0) 217 Dyma fi'n gofyn i chi, oes rhaid i mi dalu'r llog yfory ai peidio?
(1, 0) 218 Ydach chi yn meddwl mai smalio yr ydw i?
 
(1, 0) 221 Nid am stabal 'r ydw i'n sôn ond gofyn a oes rhaid imi dalu'r llog yfory ai peidio.
 
(1, 0) 223 Celwydd.
(1, 0) 224 Mi wn i'r dim sut i ymddwyn o flaen merched.
 
(1, 0) 228 Dyma beth rhyfedd.
(1, 0) 229 Sut ydach chi'n disgwyl imi siarad?
(1, 0) 230 Siarad Ffrens mae'n debyg.
 
(1, 0) 232 Madam, |siy fw pri|, mor dda gin i na fedrwch chi ddim talu'r arian i mi, 'r ydach yn fy ngwneud i mor hapus trwy beidio.
(1, 0) 233 O, |pardon|, am eich blino chi, yn tydi hi'n ddiwrnod oI praf heddiw?
(1, 0) 234 Mae dillad duon yn dygymod â chi.
 
(1, 0) 237 Ddim yn ddigri ond yn bur anfoesgar!
(1, 0) 238 A 'd wn i ddim sut i ymddwyn o flaen merched!
(1, 0) 239 Madam, 'r ydw i wedi gweld mwy o ferched nag a welsoch chi erioed o adar to.
(1, 0) 240 Mi fûm i mewn |duel| deirgwaith o achos merched, mi drois i ddwsin o ferched heibio, ac mi gefais ffernol fy hun gan naw.
(1, 0) 241 Do, mym, bu adeg pan fedrwn i swancio a sgwario, 'd oedd mêl ar fy nhafod, ac mi fedrwn wneud stumiau hefo fy nghoesau cystal ag unrhyw sgogyn yn y byd.
(1, 0) 242 Ond erbyn heddiw, dim perig wir!
(1, 0) 243 Mi wn i amgenach pethau.
(1, 0) 244 Thwyllwch chi monof i heddiw, 'r ydw i wedi cael digon.
(1, 0) 245 Llygaid duon, llygaid nwydus, gwefusau cochion, pantiau bychain clysion yn y foch a'r ên, lloer yn codi, gruddiau'n gwrido, bronnau'n crynu, rown i ddim ceiniog a dimai amdanyn nhw i gyd heddiw, mym.
(1, 0) 246 'D w i'n deud dim am y neb sydd yma, wrth gwrs, ond y mae holl ferched y byd o'r fenga i'r hyna yn stumiau i gyd, yn uwd o glwyddau, yn ffals hyd fodia eu traed, yn hel straeon ac yn poeri gwenwyn o fore tan nos.
(1, 0) 247 Mae'n nhw'n fusneslyd, yn fisi, yn ddidosturi, heb fewarth o synnwyr, ac am y fan hon {â'i fys ar ei dalcen} gall deryn y to roi deg o boints i unrhyw athronydd fo'n gwisgo pais...
(1, 0) 248 Fel y mae gwaetha'r modd gwraig ydach chithau, ac felly 'r ydych yn deall natur gwraig i'r dim.
(1, 0) 249 Deudwch i mi â'ch llaw ar eich calon: a welsoch chi erioed wraig ddidwyll a ffyddlon?
(1, 0) 250 Naddo erioed, mi'ch heria chi.
(1, 0) 251 'D oes yr un ohonyn nhw yn ddidwyll a ffyddlon ond hen wragedd hurt a di-lun; cynt y gwelir cath â chyrn neu fran wen na gwraig ddidwyll a ffyddlon.
 
(1, 0) 253 Ie'r dynion, mym.
 
(1, 0) 267 Galar, wir!
(1, 0) 268 Pwy ydach chi'n feddwl ydw i?
(1, 0) 269 Ydach chi yn tybied na wn i amcan y ffrog ddu a'r cast o gladdu'ch hun rhwng muriau'r tŷ?
(1, 0) 270 Mi wn i'r dim.
(1, 0) 271 Bod yn gyfrin a barddonol, dyna'ch gêm chi, yntê?
(1, 0) 272 A phan ddaw rhyw gyw blwydd o offisar neu brentis bardd heibio i'ch tŷ chi, mi fydd yn edrych ar eich ffenast ac yn synfyfyrio: "Yma y trig y weddw ifanc gyfrin, y wraig ffyddlon hyd angau, a gloddiodd iddi fedd rhwng muriau ei thŷ".
(1, 0) 273 Hen gast go denau, os gofynnwch i |mi|!
 
(1, 0) 277 Claddu ei hun yn fyw, ond ddaru hi ddim anghofio rhoi powdwr ar ei gwymad!
 
(1, 0) 279 Peidiwch â gweiddi, os gwelwch yn dda, nid eich stiward chi ydw i.
(1, 0) 280 Gadewch imi alw pethau wrth eu henwau iawn.
(1, 0) 281 Nid rhyw fodan ydw i, ac mi fydda i yn deud fy marn yn groyw pob gair o'r frest.
(1, 0) 282 Byddwch cystal â pheidio gweiddi.
 
(1, 0) 285 Talwch chi'r arian, mi â inna i ffwrdd.
 
(1, 0) 287 O, gnewch, mi wnewch, mym.
 
(1, 0) 290 'D oes gin i mo'r hyfrydwch o fod yn ŵr i chi nac yn ddarpar-ŵr ichi ychwaith; felly, peidiwch â chodi'ch cloch a chadw reiat, os gwelwch chi'n dda.
 
(1, 0) 292 Dda gin i mo hynny.
 
(1, 0) 295 Ydwyf, yn eiste' i lawr.
 
(1, 0) 297 Rhowch yr arian i mi, 'ta.
 
(1, 0) 299 O, 'r ydw i'n ddig.
 
(1, 0) 304 Nag ydw i.
 
(1, 0) 306 Nag ydw i.
 
(1, 0) 315 Taw y lembo!
(1, 0) 316 Wrth bwy 'r wyt ti'n siarad?
(1, 0) 317 Taw, cyn i mi dy racsio di!
 
(1, 0) 332 Rhaid i chi ofyn yn neisiach na hynny.
 
(1, 0) 337 Sut?
(1, 0) 338 Be ddeudsoch chi?
 
(1, 0) 340 Sut y meiddiwch f'insyltio i fel'na, os gwelwch yn dda?
 
(1, 0) 343 Ydach chi'n meddwl y gallwch insyltio pobol heb i neb daro'n ôl am eich bod yn freuddwyd y bardd?
(1, 0) 344 Hy! Dyma fi'n rhoi sialens i chi.
 
(1, 0) 347 Ie, i saethu'n gilydd.
 
(1, 0) 350 Dyna i chi sialens ta.
(1, 0) 351 Waeth gin i os ydach chi'n ferch eiddil, cheith neb fy insyltio i fel'na.
 
(1, 0) 354 Mae'n bryd i mi fwrw heibio hen ofergoelion gwirion, megis y dyb mai dyn yn unig a ddylai dalu am insyltio ei gymydog.
(1, 0) 355 Mae digon o sôn am gydraddoldeb y fenyw y dyddiau hyn.
(1, 0) 356 O'r gorau, cydraddoldeb piau hi.
(1, 0) 357 "I'r maes â ni".
 
(1, 0) 360 Y munud ma.
 
(1, 0) 367 Mi saetha i hi fel cyw petrisan.
(1, 0) 368 Nid rhyw gorgi meddal ydw i; i mi 'd oes mo'r fath beth â merched gweiniaid.
 
(1, 0) 375 Mynd i saethu'n gilydd!
(1, 0) 376 Dyna chi gydraddoldeb, dyna chi |emancipation|, y ddau ryw yn gyfartal o'r diwedd!
(1, 0) 377 Mi saetha i hì er mwyn egwyddor y peth.
(1, 0) 378 Y fath wraig!
 
(1, 0) 380 "A'ch cipio chi... mi ro i fwled yn eich talcen pres chi".
(1, 0) 381 Ei hwyneb yn wrid i gyd a'i llygaid yn dân byw!
(1, 0) 382 A dyna hi wedi derbyn fy sialens i.
(1, 0) 383 Ar fy ngwir, weles i rioed y fath wraig o'r blaen.
 
(1, 0) 385 Dyna chi wraig wrth fodd fy nghalon i, gwraig go iawn, dim lol o'i chwmpas hi, dim o'ch llymru merchetaidd chi.
(1, 0) 386 Mae hi'n dân i gyd.
(1, 0) 387 Chewch chi ddim ond |powdwr| a |fireworks| gynni |hi|.
(1, 0) 388 Piti fod rhaid imi ei lladd hi.
 
(1, 0) 391 'R wy'n dechrau licio hon, ydw, tawn i'n marw.
(1, 0) 392 Er gwaetha'r pantiau bychain clws, r wy'n ei licio hi.
(1, 0) 393 'R wy hyd yn oed yn barod i faddau'r ddyled...
(1, 0) 394 Mae hon yn ddigon o ryfeddod.
 
(1, 0) 404 Welwch chi, mae na fwy nag un math o bistol.
(1, 0) 405 Mae'na |Special Mortimer Duelling Pistols|; ond |Revolvers Smith-Wesson| sy' gynnoch chi a rhai ardderchog ydyn nhw, yn costio |pum| punt y pâr.
(1, 0) 406 Fel hyn y dylid dal ryfolfar.
 
(1, 0) 408 Y fath lygaid!
(1, 0) 409 Gwna hon fi'n galon i gyd.
 
(1, 0) 411 Ie, i'r dim...
(1, 0) 412 Codi'r teclyn yma... fel hyn... a 'nelu... a'ch pen dipyn yn ôl... estyn eich braich... dyna fo... rhoi'ch bys ar y peth bach ma... a dyna chi.
(1, 0) 413 Ond cofiwch hyn: bod yn dawel ac yn bwyllog wrth 'nelu, dyna'r peth mawr.
(1, 0) 414 Triwch gadw'ch llaw rhag crynu.
 
(1, 0) 416 Ie, ond cofiwch mai saethu i'r awyr wna í.
(1, 0) 417 'p
(1, 0) 418 Gwaeth fyth!
(1, 0) 419 'D o'n i ddim yn disgwyl cael fy nhrin fel hyn.
(1, 0) 420 Pam?
(1, 0) 421 Am fod... am fod... ond fy musnes i ydi hynny.
 
(1, 0) 426 Ie, yn llwfrgi.
 
(1, 0) 429 Am... am... wel, am fy mod yn eich licio chi.
 
(1, 0) 440 Hwdiwch, ydach chi'n dal i fod yn ddig?
(1, 0) 441 'R ydw i'n ddig gynddeiriog; ond, welwch chi, wn i ddim sut i ddeud wrthoch chi... dyma ydi'r drwg... wyddoch chi... rywsut fel hyn y mae hi...
 
(1, 0) 443 Ddim arna' i mae'r bai, ond mi 'dw i yn eich licio chi.
 
(1, 0) 445 ... A'm cipio i, |mae| gynnoch chi ddodran brau, mi 'dw i yn eich licio chi.
(1, 0) 446 Ydych chi'n dallt?
(1, 0) 447 Mi 'dwi bron... yn eich caru chi.
 
(1, 0) 450 Rargian fawr, y fath wraig!
(1, 0) 451 Welais i rioed y fath beth!
(1, 0) 452 Mae hi wedi darfod amdana i; dyma ben ar bopeth, wedi fy nal fel llygoden mewn trap!
 
(1, 0) 454 Saethwch 'ta.
(1, 0) 455 Byddai'n nefoedd ar y ddaear pe cawn i farw o flaen y llygaid rhyfeddol yna, o ergyd ryfolfar yn y llaw fechan, esmwyth, feddal yna.
(1, 0) 456 'R w i wedi mynd o 'ngho.
(1, 0) 457 Rhowch ateb i mi'r funud yma.
(1, 0) 458 'R ydw i yn ŵr bonheddig o deulu da, mae gin i fil o bunnoedd yn dŵad i mewn bob blwyddyn... mi fedra i roi bwled trwy ddimai yn syrthio trwy'r awyr... mae gin i geffylau ardderchog...
(1, 0) 459 O, wnewch chi fy mhriodi i?
 
(1, 0) 463 'R ydw i wedi gwallgofi... fedra i ddallt dim... dŵr!
 
(1, 0) 466 'R w i wedi gwallgofi, yn caru fel hogyn, fel llo gwirion.
 
(1, 0) 468 'R wy'n eich caru chi, fûm i erioed yn caru fel hyn o'r blaen.
(1, 0) 469 Mi drois i ddwsin o ferched heibio, cefais ffernol gan naw, ond cherais i'r un ohonyn nhw fel yr wyf yn eich caru chi.
(1, 0) 470 'R wyf wedi mynd yn llipa ac yn feddal fel mwd, a dyma fi ar fy ngliniau o'ch blaen chi, fel llo, ac yn gofyn i chi fod yn wraig i mi.
(1, 0) 471 Cwilydd! Cwilydd!
(1, 0) 472 Dyma fi heb garu neb ers pum mlynedd ac wedi cymyd fy llw na charwn i neb byth bythol, dyma fi dros fy mhen a'm clustiau yn y ffos.
(1, 0) 473 A fyddwch chi'n wraig i mi?
(1, 0) 474 "Byddaf" ne "Na fyddaf"?
(1, 0) 475 Fynnwch chi ddim?
(1, 0) 476 Wel, 'd oes dim rhaid i chi.
 
(1, 0) 480 Y?
 
(1, 0) 493 Da boch chi 'ta.
 
(1, 0) 502 'R ydw i'n ddig wrthyf fy hun.
(1, 0) 503 Caru'n ffôl fel hogyn o'r ysgol, ar fy ngliniau o'ch blaen.
(1, 0) 504 Mae rhyw ias oer yn cerdded i lawr fy nghefn i.
 
(1, 0) 506 'R ydw i'n eich caru chi a minnau heb isio eich caru chi.
(1, 0) 507 Rhaid i mi dalu'r llog yfory, a lladd gwair hefyd, a dyma chithau...
 
(1, 0) 509 .. Faddeua i byth i mi fy hun am hyn!