| (1, 0) 150 | Fan hyn y'ch chi! |
| (1, 0) 154 | Hy! |
| (1, 0) 155 | Chi ddim yn edrych fel se chi'n poeni. |
| (1, 0) 156 | Chi'ch dou yn whare gems fan hyn, a'r hen Sosban druan ar goll yn y tywyllwch ma's fanna. |
| (1, 0) 160 | Yr hen Sosban druan. |
| (1, 0) 161 | Chi ddim yn poeni amdano i. |
| (1, 0) 165 | Ond sdim byd mor fawr a cawr – o's e? |
| (1, 0) 167 | Cewri yw'r pethe mwya yn y byd i gyd. |
| (1, 0) 168 | Sdim un man yn saff wrthyn nhw. |
| (1, 0) 170 | Weles i nhw |
| (1, 0) 172 | Wrth i'r haul fynd lawr, dros ochor y mynydd. |
| (1, 0) 173 | Rhyw filltir bant. |
| (1, 0) 174 | Mor fawr a coed derw. |
| (1, 0) 175 | Tri ohonyn nhw. |
| (1, 0) 176 | Pan o'n nhw'n cerdded o'dd y ddaear yn ysgwyd a'r creigie yn crynu. |
| (1, 0) 177 | Cysgodion mawr du, draw yn y pellter. |
| (1, 0) 179 | Sai'n siwr. |
| (1, 0) 180 | Ond heno, lawr yn y cwm, bydd y bobol fach i gyd yn cloi 'u dryse, cau 'u ffenestri a'n cuddio wrth y cewri... |
| (1, 0) 181 | "Is there anyone in there telling stories," fydd y cewri'n holi... |
| (1, 0) 182 | "Is there anyone in there singing songs?" A fydd y bobol yn gweud... |
| (1, 0) 185 | Ie, na beth fyddan nhw'n weud. |
| (1, 0) 188 | Sbel yn ol... Fe dda'th y cerwi i'n gwlad ni. |
| (1, 0) 189 | Un o'r pethe wnethon nhw o'dd stopo'n pobol ni adrodd straeon, a canu a dysgu. |
| (1, 0) 190 | On ma rhai o ni'n cario mla'n. |
| (1, 0) 191 | Heb gael y'n dala. |
| (1, 0) 192 | Heb i'r cewri allu y'n ffindio ni... |
| (1, 0) 194 | ~ |
| (1, 0) 195 | Ry'n ni'n dod at y'n gilydd |
| (1, 0) 196 | Yn dawel dawel bach |
| (1, 0) 197 | I wrando ar yr awel |
| (1, 0) 198 | A sibrwd yn y nos |
| (1, 0) 199 | ~ |
| (1, 0) 200 | Adenydd bach yn curo |
| (1, 0) 201 | Calonne bach yn curo |
| (1, 0) 202 | Calonne bach llawn ofon |
| (1, 0) 203 | Yn curo yn y nos |
| (1, 0) 204 | ~ |
| (1, 0) 205 | Achos draw fan 'na yn y pellter |
| (1, 0) 206 | Ry'n ni'n gweld rhyw gysgod mawr |
| (1, 0) 207 | Yn symud yng ngole'r lleuad |
| (1, 0) 208 | Dod yn nes mae cysgod cawr... |
| (1, 0) 209 | ~ |
| (1, 0) 210 | Ma'r cewri mawr yn gwrando |
| (1, 0) 211 | Yn gwrando ar yr awel |
| (1, 0) 212 | Tra bo ni yn adrodd straeon |
| (1, 0) 213 | A chanu yn dawel, dawel |
| (1, 0) 214 | ~ |
| (1, 0) 215 | Tra bo ni yn sibrwd yn y nos... |
| (1, 0) 216 | ~ |
| (1, 0) 217 | Ry'n ni'n dod at y'n gilydd |
| (1, 0) 218 | Yn dawel dawel bach |
| (1, 0) 219 | I wrando ar yr awel |
| (1, 0) 220 | A sibrwd yn y nos |
| (1, 0) 230 | Wrth gwrs bod hi'n iawn. |
| (1, 0) 233 | I ganu caneuon |
| (1, 0) 237 | Reit. |
| (1, 0) 238 | Ewn ni i'r pentre cynta yn y cwm... |
| (1, 0) 239 | Sefyll ar y sgwar... |
| (1, 0) 240 | A dweud... |
| (1, 0) 295 | Dim ond stori yw hi. |
| (1, 0) 296 | Hen stori dwp. |
| (1, 0) 297 | Stori stiwpid. |
| (1, 0) 301 | Y cewri? |
| (1, 0) 307 | Ti wedi gweld hi wedyn? |
| (1, 0) 310 | Byddi Alff. |
| (1, 0) 311 | Wy'n siwr byddi di. |
| (1, 0) 317 | Wrth wrando ar dy galon, Alff. |
| (1, 0) 319 | ~ |
| (1, 0) 320 | Gwrando ar dy galon |
| (1, 0) 321 | Ar swn yr hen ganeuon |
| (1, 0) 322 | Ar sibrwd dy atgofion |
| (1, 0) 323 | Sy'n adrodd yr hen straeon |
| (1, 0) 324 | Pryd hynny falle y ffeindi |
| (1, 0) 325 | Yr hyn wyt ti wedi golli |
| (1, 0) 326 | A falle hefyd y gweli |
| (1, 0) 327 | Wynebe coll dy deulu – ond |
| (1, 0) 328 | Ma rhaid i ti ddibynnu |
| (1, 0) 329 | Ar dy gof a dy galon di... |
| (1, 0) 335 | Y? |
| (1, 0) 336 | Be sy wedi mynd? |
| (1, 0) 339 | Pan wyt ti'n marw Patshyn, bydd y straeon i gyd yn marw. |
| (1, 0) 340 | A pan fydda i'n marw, bydd y caneuon i gyd yn marw. |
| (1, 0) 353 | Ond wy'n starfo! |
| (1, 0) 367 | Dyw briwsion ddim yn ddigon o fwyd i ddyn mawr fel fi... |
| (1, 0) 371 | Briwsion cawr? |
| (1, 0) 374 | O fara... mmm. |
| (1, 0) 378 | O gaws... mmmm. |
| (1, 0) 382 | O gacen... |
| (1, 0) 383 | Mmmm. |
| (1, 0) 388 | Wy'n mwynhau gymaint, ma nghalon i'n mynd bwm-bwm-bwm... |
| (1, 0) 393 | Chi'n clywed y nghalon i'n curo nawr... |
| (1, 0) 394 | Bwm-bwm-bwm! |
| (1, 0) 403 | Ma nhw wedi nghlywed i'n canu! |
| (1, 0) 419 | Cer di, i ymladd ag e! |
| (1, 0) 429 | Gwed rwbeth! |
| (1, 0) 431 | Tria edrych yn cwl... |
| (1, 0) 432 | Felse dim ofon arnot ti... |
| (1, 0) 436 | O'dd hwnna'n rybish. |
| (1, 0) 437 | Gad i fi drio. |
| (1, 0) 438 | Evening. |
| (1, 0) 439 | I had a toothache last year. |
| (1, 0) 441 | O'n i'n trio dechre sgwrs fach... |
| (1, 0) 452 | Wrth gwrs mai ddim cawr yw e. |
| (1, 0) 453 | O'n i'n gwbod 'na trwy'r amser. |
| (1, 0) 454 | Hy! |
| (1, 0) 461 | Trying to scare us... |
| (1, 0) 463 | Exactly. |
| (1, 0) 464 | Not that we were scared. |
| (1, 0) 496 | O Patshyn... |
| (1, 0) 497 | Ti ddim yn mynd i ladd rhywun eto, plis... |
| (1, 0) 501 | Alff, ti'n rhy ifanc i ddiall. |
| (1, 0) 502 | Ma rhaid neud pethe ofnadw withe... |
| (1, 0) 518 | Patshyn! |
| (1, 0) 569 | O – 'na stori drist... |
| (1, 0) 570 | Wy ishe llefen... |
| (1, 0) 583 | Fel hyn ma Patshyn. |
| (1, 0) 584 | Fel ma'r patshus yn diflannu o'i got e, ma'r streaon yn dechre diflannu o'i ben e. |
| (1, 0) 585 | 'Ny pam ma rhaid i ni gael pobol fel Alff a ti i ddysgu y straeon a'r caneuon. |
| (1, 0) 586 | Ne fyddan nhw i gyd yn marw gyda Patshyn a fi... |
| (1, 0) 626 | Yr offerynne! |
| (1, 0) 635 | O diolch i ti Patshyn... |
| (1, 0) 636 | Ne fydden i wedi colli yr holl offerynne hyfryd ma. |
| (1, 0) 640 | Mae'n olreit, ma'n offerynne i'n saff. |
| (1, 0) 645 | Geith hi gadw hwnna. |
| (1, 0) 646 | Ni ddim ishe fe! |
| (1, 0) 661 | All hi ddim... |
| (1, 0) 668 | Ond pam mae e mor werthfawr? |
| (1, 0) 699 | A beth yw darllen, eh? |
| (1, 0) 700 | O's unrhywun yn gwbod beth yw darllen? |
| (1, 0) 813 | A canwr, a ma hi'n teithio gyda nhw, i hepu nhw gyda'u gwaith... |
| (1, 0) 815 | Dim ond y peth 'ma, y peth rhyfedd 'ma "llyfyr", a o'dd neb yn siwr beth o'dd i ddefnydd e... |
| (1, 0) 818 | A un diwrnod ma hi'n cwrdd a cawr... |
| (1, 0) 820 | Ond o'dd yn sbei... |
| (1, 0) 822 | Ond o'dd eishe dwgyd y llyfyr... |
| (1, 0) 824 | I Alff. |
| (1, 0) 825 | Chwa'r fach o'r enw Beth! |
| (1, 0) 831 | Yn 'i chalon. |
| (1, 0) 832 | O'dd 'i chalon hi yn nabod ti. |
| (1, 0) 835 | Achos bod y cewri wedi dwgyd dy gof di, dwgyd dy feddwl di... |
| (1, 0) 837 | Sugno popeth ma's o dy ben di. |
| (1, 0) 838 | Dy neud di yn sbei, am byth. |
| (1, 0) 843 | Ond os wyt ti ishe aros, allu di ddysgu ni i ddarllen. |
| (1, 0) 847 | Wy'n hen ddyn nawr Beth. |
| (1, 0) 848 | Ond alla i ddysgu. |
| (1, 0) 849 | Ti ishe aros gyda ni, i ddysgu ni? |
| (1, 0) 851 | Dim gwely cynnes hyfryd i gysgu'r nos... |
| (1, 0) 856 | A wy ishe canu pob can sy yn hwn! |
| (1, 0) 861 | Cyn bo hir... |
| (1, 0) 862 | Allwn ni.... |
| (1, 0) 863 | Falle gallwn ni... |