| (2, 0) 421 | Sut yr ydech chi, Mrs. Morris? |
| (2, 0) 422 | Wel, Morris? |
| (2, 0) 424 | Mae arna i ofn fy mod i wedi torri ar eich cyngor yma─dau funud fydda i─dim ond i glywed ych ateb chi. |
| (2, 0) 427 | Wel, wrth gwrs, does gen i ddim amser i grefu. |
| (2, 0) 428 | Chewch chi ddim siawns eto i ddyfod i'r |Cabinet|, mi ellwch gymryd fy ngair i yn derfynol ar hynny. |
| (2, 0) 432 | Da iawn. |
| (2, 0) 433 | Rydech chi'n gwneuthur yn gall. |
| (2, 0) 434 | Wrth gwrs, wn i ddim pa reswm |sentimental| oedd yn ych atal chi,─ond coeliwch chi fi, os ydech chi am lwyddo mewn gwleidyddiaeth, rhaid i chi ddysgu gwneuthur heb lawer o |luxuries|,─atgofion mebyd a phethau felly. |
| (2, 0) 436 | Wel, esgusodwch fi, rydw i'n brysur iawn heno. |
| (2, 0) 437 | Gadewch imi 'ch llongyfarch chi, Morris, ar ych penodiad i'r |Cabinet|─ "Dyrchafiad arall i Gymro!" yntê? |
| (2, 0) 438 | Ac yn awr, rydw i'n ddigon parod i gyfadde wrthoch chi y base'ch bil chi wedi rhwygo'r blaid yn ddeuddarn pe buasech chi wedi para i wthio fo. |
| (2, 0) 439 | Nos da, Mrs. Morris. |
| (2, 0) 444 | O, dyddorol iawn! |
| (2, 0) 445 | Bomb, tybed? |
| (2, 0) 446 | Ynte atgofion mebyd wedi eu pacio yn hwylus er mwyn cael gwared o honyn nhw ar drothwy'r bywyd newydd? |