Cuesheet

Noson o Farrug

Lines spoken by Tad (Total: 32)

 
(1, 0) 67 Mae min yr awel yn torri fel rasal heno: roedd hi'n oer erwinol yn yr ardd 'na rwan,
 
(1, 0) 70 Mae'r crwydriaid, fel rheol, yn derbyn 'u haeddiant: y nhw, mi wranta, sy'n gyfrifol am 'u cyflwr.
(1, 0) 71 Jane, 'dwyt ti ddim bron dwyn y smwddio na i ben?
(1, 0) 72 Does dim ond rhyw awr ne ddwy rhyngom ni a bore Saboth, wyddost.
 
(1, 0) 75 Does dim fel darfod gwaith y tŷ yn brydlon nos Sadwrn i fod yn barod i'r Sul.
 
(1, 0) 77 Ie.
 
(1, 0) 79 Ezra Davis, Llanllios.
 
(1, 0) 82 Jane, 'dalla i d'aros di yn siarad yn fychanus am ddynion da.
 
(1, 0) 84 Be sy o'i le arno?
 
(1, 0) 87 Paid a beio dyn am rhyw fân betha fel yna.
 
(1, 0) 89 Fe ddarllena chydig adnodau, ac wedyn mi awn i orffwys.
(1, 0) 90 Leiciech chi ddarllen heno, Elin?
 
(1, 0) 92 Pam?
(1, 0) 93 Ydych chi ddim yn dda heno?
 
(1, 0) 95 Oes rhyw ran y leiciech chi i mi ei darllen?
 
(1, 0) 97 O'r gore.
(1, 0) 98 Jane, ddaru ti folltio'r drws?
 
(1, 0) 102 Pam?
 
(1, 0) 104 Bolltia fo fel arfar.
 
(1, 0) 108 "Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab, a'r ieuengaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da, ac efe a rannodd iddynt ei fywyd."
 
(1, 0) 110 "Ac ar ol ychydig o ddyddiau y mab ieuengaf a gasglodd y cwbl ynghyd ac a gymerth ei daith i wlad bell, ac yno efe a wasgarodd ei dda gan fyw yn afradlon."
 
(1, 0) 113 Ddylai dim gael torri ar y darllen.
 
(1, 0) 116 Jane, gwell agor y drws efallai: hwyrach fod y pregethwr wedi dwad heno yn lle bore fory.
 
(1, 0) 128 Elin, steddwch i lawr, a pheidiwch a chyffroi'ch hunan.
 
(1, 0) 132 Wraig! rhag cwilydd i chi adrodd geiria mor gysegredig uwchben creadur fel acw {gan gyfeirio ei fys ato}, sy wedi dwyn gwarth ardal gyfa arno ni; 'nacw sy'n gyfrifol am ddwyn y bedd flynyddoedd yn nês atoch chi, ei fam, ac ataf innau ei dad.
(1, 0) 133 Ai mab yw'r un a gurodd hoelion i eirch ei rieni?
 
(1, 0) 138 Na wna.
 
(1, 0) 141 Na, dydi o ddim yn fab i mi bellach: mi fu 'y mab i farw chwe blynedd yn ol pan y gadawodd i gartref mewn gwarth.
(1, 0) 142 Jane, mae'n bryd i ti fynd i dy wely.
 
(1, 0) 157 Na, 'dei di'r un cam o'r tŷ 'ma tan fore Llun: rwyt ti wedi torri digon ar y Saboth y blynyddoedd dwaetha; thorri di mono fory o'r tŷ yma: os dyna dy fwriad, gwell i ti fynd oddiyma heno nesa.
(1, 0) 158 Cofia, un o'r ddau beth─aros yma tan fore Llun, neu fynd heno.
(1, 0) 159 Rwan, Elin, mi'ch helpiaf chi tua'r llofft.