|
|
|
|
(1, 0) 127 |
Sut rwyt ti, Catrin? |
(1, 0) 128 |
Lle mae John? |
|
|
(1, 0) 133 |
Galw arno fo; mae genni rwbeth pwysig i ddeud wrtho fo. |
|
|
(1, 0) 139 |
Catrin bach, mae'n ddrwg iawn genni, ydi wir. |
(1, 0) 140 |
Mi rois y chweigien i ddwytha oedd gen i neithiwr i orffen cownt y capel─daset ti wedi gofyn yn gynt imi, mi faswn wedi i chadw ond mi dreia i gael benthig un i ti gan John Ellis y Siop─mae o'n un reit barod. |
|
|
(1, 0) 147 |
Eisio dy weld ti.─ |
(1, 0) 148 |
Wyddost ti beth─dydw ì ddim am fynd i'r chwarel heddiw. |
|
|
(1, 0) 154 |
Nag ydw i, ond pen y mis neu beidio, dydw i ddim am fynd. |
|
|
(1, 0) 158 |
Mi riteiria i o'r byd yma os â i i'r chwarel heddiw, rydw i'n ddigon siwr o hynny. |
|
|
(1, 0) 160 |
Wel, dyma fo─ac mi gei ditha chwerthin, os leici di, ond dydw i ddim yn mynd i wrando dim arnat... |
(1, 0) 161 |
Mi ges hen freuddwyd cas iawn neithiwr. |
|
|
(1, 0) 165 |
Wel, mi welwn fy hun yn taro iti ar wyneb y graig, a thitha'n dal yr ebill. |
(1, 0) 166 |
Wedi bod wrthi hi drwy'r pnawn, debygwn i, dyma'r corn yn canu, a ninna'n codi i fynd at y trên, ond cyn ini roi'n cotia am danon, dyma rywun o ben y clogwyn yn galw |wâr|, a chyn ini fedru symud, dyma'r clogwyn i gyd yn ysgwyd ac yn disgyn arnon ni'n dau... a wedyn mi ddeffris... |
(1, 0) 167 |
Dydw i ddim yn mynd i'r chwarel heddiw. |
|
|
(1, 0) 170 |
Do. |
|
|
(1, 0) 172 |
Wel, rhyw frith atgo sy genni am dano fo; ond roeddwn i'n meddwl mai'r hen Huw Lewis y Buarth oedd o,─dyna dychrynodd fi gymint. |
|
|
(1, 0) 178 |
Yr un breuddwyd, beth wyt ti'n feddwl? |
|
|
(1, 0) 181 |
Felly wir. |
(1, 0) 182 |
O ia! |
|
|
(1, 0) 187 |
Ydi─roeddwn i'n ddigon siwr o hynny cyn dwad yma, ond dawn i ddim yno rwan wedi clywed y peth glywis pe cawn i'r chwarel i gyd yn aur am fynd. |
|
|
(1, 0) 197 |
Gwna dy feddwl i fyny, ngwas i, i aros adre bellach... |
|
|
(1, 0) 226 |
Nag oes, dim perig. |
(1, 0) 227 |
Rhaid iti dalu arian parod am bopeth. |
|
|
(2, 0) 363 |
Rydw i'n gofyn ych pardwn chi'ch dau am ych styrbio chi fel hyn gefn trymedd y nos. |
(2, 0) 364 |
Ond mi ddois i bob cam o gartre heddiw, a mi fuom yn crwydro am oria yn chwilio am y ty yma. |
(2, 0) 365 |
Wedi imi ddeud fy neges, mi a i i'r stesion eto i aros am y trên nesa i fynd yn ol. |
|
|
(2, 0) 372 |
Mae dy fam a finna'n ddigon iach, ond mae pawb acw cyn dloted ag y mae posib iddyn nhw fod. |
(2, 0) 373 |
Mae'r hen le acw, yn bentra, ac yn ysgol, ac yn gapal, yn marw dan yn dwylo ni,─mi ddarun y nanfon i yma i siarad hefo ti, Ifan. |
|
|
(2, 0) 377 |
Nag oes, machgen i, nid teulu i gael ffortiwn yden ni. |
(2, 0) 378 |
Ond rydw i'n dwad yma i gynnig ffortiwn arall i ti─ffortiwn nad oes ond ychydig iawn yn medru i hel hi weldi, ond roedd Iesu Grist yn i plith nhw, a dy dad titha... |
|
|
(2, 0) 383 |
Nage, machgen i. |
(2, 0) 384 |
Does arna i na neb arall eisio bysnesu hefo dy grefydd di─os oes gan aelodau seneddol grefydd pan fyddan nhw'n byw yn Llundan. |
(2, 0) 385 |
Mi ddyla fod, o ran hynny, mae yna ddigon o bregethwyr yn i mysg nhw... |
(2, 0) 386 |
Ond dyma'r ffortiwn oedd genni i gynnig iti─aberth. |
|
|
(2, 0) 391 |
Mi wyddost, beth rydw i'n geisio ddeud wrthyt ti, ond mod i'n flêr, yn bystachu fel hen gaseg mewn cors, wrth geisio'i ddeud o. |
(2, 0) 392 |
Mae arnon ni eisio iti fynd ymlaen hefo bil y cyflog. |
|
|
(2, 0) 396 |
Gwrando arna i, machgen i. |
(2, 0) 397 |
Dwyt ti ddim wedi ystyried y mater, neu ynte fuasa mab John Morris ddim yn gwrthod y cyfle i dalu tipyn bach yn ol o'r hen ddlêd. |
(2, 0) 398 |
Mi laddwyd dy dad, er iddo fo gael i rybuddio gan freuddwyd rhag mynd i'r chwarel; yr oedd dy dad yn ffit arwr i sefyll gyda'r seintia mwya... |
|
|
(2, 0) 400 |
Do, mi fu farw ym mloda 'i ddyddia─rydw i'n cofio mynd i nol o, a dwad a fo i lawr ar elor o'r chwarel, a thitha'n hogyn bach yn rhythu ar ben y drws ac yn methu sylweddoli beth oedd yn bod. |
(2, 0) 401 |
Wyt ti wedi sylweddoli erbyn hyn? |
|
|
(2, 0) 404 |
Ie, dyna'r plant─dyna ddeudodd dy dad y bora hwnnw pan aeth o i'r Chwarel. |
(2, 0) 405 |
Dyden ni wedi sôn fawr am y peth hyd yn hyn rhag dy boeni.─ |
(2, 0) 406 |
Ond wyddost ti pam yr aeth o i'r Chwarel y bore hwnnw? |
|
|
(2, 0) 408 |
Ie, roedden ni yn dau wedi penderfynu peidio mynd. |
(2, 0) 409 |
Roeddet ti'n hogyn bach yn y siambar yn yr hen dy,─yn pesychu yn dy wely─ac mi glywodd dy dad ti. |