| (1, 0) 327 | Mae pawb yn sgwennu fel y myn ac fel y gall. |
| (1, 0) 387 | Dydw i ddim yn ei dallt hi, ond 'roedd yn bleser edrych arni, 'roeddych yn actio â'ch holl enaid. |
| (1, 0) 389 | Rhaid bod digon o bysgod yn y llyn acw. |
| (1, 0) 391 | 'Rydw i'n hoff iawn o bysgota, wn i am ddim mwy difyr nag eistedd ar y lan gyda'r hwyr â'm llygad ar y fflôt. |
| (2, 0) 727 | Bore da ichi, mae'n ymddangos fod rhaid inni fynd i ffwrdd heddiw. |
| (2, 0) 728 | Mae'n ddrwg gin i am hynny, prin y cefais i olwg arnoch chi. |
| (2, 0) 729 | Nid bob dydd y ceith dyn gyfle i gyfarfod â merched ifainc diddorol, mi dw i wedi anghofio sut y byddwn i'n teimlo pan oeddwn i'n ddeunaw oed, ac felly fedra i ddim rhoi darlun cywir o ferched ifainc yn fy straeon. |
| (2, 0) 730 | Mi liciwn fod yn eich sgidiau chi am awr fechan i gael gwbod sut y byddwch yn edrych ar y byd a sut un ydych chi'n gyffredinol. |
| (2, 0) 732 | Pam? |
| (2, 0) 735 | Sut? |
| (2, 0) 736 | Fydda i'n teimlo dim, mi gredaf, feddyliais i rioed am y peth. |
| (2, 0) 737 | Rhaid eich bod chi'n fy ngosod yn rhy uchel neu ynte d'oes gan f'enwogrwydd ddim effaith o gwbwl ar fy nheimlad. |
| (2, 0) 739 | Os byddan nhw'n canmol, mi fyddaf wrth fy modd; os bydden nhw'n lladd arna i, byddaf yn ddrwg fy hwyl am ddiwrnod neu ddau. |
| (2, 0) 744 | Fi? |
| (2, 0) 745 | Mmm! |
| (2, 0) 746 | Digon hawdd ichi siarad am enwogrwydd, a dedwyddwch a bywyd disglair, diddorol, ond i mi 'dydi hyna i gyd ddim ond geiriau teg, mor ddibwys â jam cwsberins, a fydda i byth yn bwyta hwnnw. |
| (2, 0) 747 | 'Rydych chi'n ifanc ac yn garedig iawn. |
| (2, 0) 750 | Wela i ddim ardderchog yno fo fy hun. |
| (2, 0) 752 | Rhaid imi fynd i sgwennu. |
| (2, 0) 753 | Maddeuwch i mi, mae f'amser yn brin. |
| (2, 0) 755 | Ond dyna chi wedi rhoi'ch bys ar fy nolur a minnau'n dechrau cynhyrfu a cholli nhymer. |
| (2, 0) 756 | Wel, rhaid imi gael bwrw drwyddi hi. |
| (2, 0) 757 | Cymwch fy mywyd ardderchog, disglair – o ble cawn ni ddechrau? |
| (2, 0) 759 | Meddyliwch am ddyn a chwilen yn ei ben, yn meddwl am y lleuad, deudwch, bob munud awr o'r dydd a nos; mae gennyf innau fy lleuad a'r un hen chwilen yn fy nghosi ddydd a nos; rhaid imi sgwennu, rhaid imi sgwennu, oes, rhaid. |
| (2, 0) 760 | Prin y bydda i wedi gorffen un stori, ac am ryw reswm neu'i gilydd rhaid imi ddechrau ar un arall, ac un arall ar ei hôl hithau ac un arall ar ôl honno. |
| (2, 0) 761 | Rhaid imi sgwennu ar garlam yn ddi-dor, fedra i ddim peidio. |
| (2, 0) 762 | Be sy'n ardderchog yn hyn, 'rwy'n gofyn ichi, bywyd gwyllt a rhyfedd. |
| (2, 0) 763 | Dyma fi, welwch chi, wedi cynhyrfu, eisoes, ac eto'n cofio bob munud awr fod stori heb ei gorffen ar fy nesg yn y tŷ. |
| (2, 0) 764 | Dyma fi'n gweld cwmwl tebyg i biana, a bydd raid imi beidio ag anghofio sôn mewn stori am gwmwl tebyg i biana yn hwylio drwy'r awyr. |
| (2, 0) 765 | Clywaf oglau blodau'r erwain, i lawr ag o yn y llyfr na: 'oglau melys masw', ar gyfer disgrifiad o noswaith haf. |
| (2, 0) 766 | 'Rwy'n dal ar bob brawddeg o'ch genau ac o'm genau innau hefyd, yn sylwi ar bob gair ac yn eu cloi yn fy nghadw-mi-gei llenyddol, gall lenwi bwlch ryw ddydd. |
| (2, 0) 767 | Wedi cadw noswyl, byddaf yn rhedeg i'r theatr neu'n mynd i bysgota, gan ddisgwyl cael gorffwys ac anghofio popeth – yn hollol ofer; wele destun newydd yn troi yn fy mhen fel pelen haearn drom, ac yn fy llusgo yn ôl at y ddesg i'r hen gaethiwed blin, i sgwennu, sgwennu, sgwennu. |
| (2, 0) 768 | Cha i byth lonydd, 'rwy'n teimlo mod i'n ysu fy mywyd yn hel mêl o flodau gorau f'oes, yn ei wastraffu ar rywun yn y pellter, yn rhwygo'r blodau eu hunain ac yn sathru eu gwreiddiau dan fy nhraed. |
| (2, 0) 769 | Tybed mod i'n wallgof? |
| (2, 0) 770 | A fydd fy nghyfeillion gorau yn fy nhrin i fel dyn iach? |
| (2, 0) 771 | 'Be sy gynnoch chi ar y gweill? |
| (2, 0) 772 | Be gawn ni gynnoch chi nesa?' Yr un hen botas fyth a hefyd. |
| (2, 0) 773 | Mi fydda i'n meddwl weithiau mai twyll ydi eu holl sylw nhw, a'u canmoliaeth a'u brwdfrydedd, ac mi fydd arna i ofn weithiau iddyn nhw afael yn fy ngwegil i'n sydyn a mynd a mi i'r gwallgofdy. |
| (2, 0) 774 | Ac yn nyddiau f'ieuenctid, dyddiau gorau fy mywyd, 'roedd camau cynta fy ngyrfa fel llenor yn un boen hir ac annioddefol; mae llenor ifanc aflwyddiannus yn teimlo'n drwsgl, yn chwithig, ac megis ar ffordd pawb, yn anniddig a'i nerfau'n wan, ond serch hynny fedr o ddim peidio â chanlyn gwŷr y wasg, llenorion ac artistiaid o bob math, a neb yn sylwi arno, nac yn ei gydnabod, ac yntau'n rhy swil i edrych ym myw llygad neb, fel gambler heb geiniog yn ei boced. |
| (2, 0) 775 | Welais i rioed mo'm darllenwyr, ond rywsut mi fyddwn yn tybied eu bod yn elynion imi ac yn f'amau. |
| (2, 0) 776 | Mi fyddai arnaf ofn y gynulleidfa yn y theatr a phan berfformir drama newydd o'm heiddo, byddwn yn meddwl bob tro fod y bobol â phryd golau yn elyniaethol a'r rhai pryd tywyll yn oer a didaro, O! |
| (2, 0) 777 | 'Roedd yn ddychrynllyd, yn arteithiol. |
| (2, 0) 782 | Ond sut llwyddiant? |
| (2, 0) 783 | Fûm i rioed yn fodlon ar fy ngwaith, 'rwy'n ffieiddio fy hun fel llenor. |
| (2, 0) 784 | Byddaf megis mewn llewyg wrth ysgrifennu ac yn methu deall fy ngeiriau fy hun. |
| (2, 0) 785 | 'Rwy'n caru'r llyn yma, a'r coed a'r awyr las, ac yn teimlo cyfaredd natur i'r byw. |
| (2, 0) 786 | Mae'n peri imi gynhyrfu fel na fedraf beidio ag ysgrifennu. |
| (2, 0) 787 | Ond 'rwyf yn rhywbeth amgen na disgrifiwr natur, 'rwyf yn ddinesydd yn caru fy ngwlad a'r werin ac yn teimlo fod rhaid imi sôn am y werin a'i dioddefiadau, am hawliau dyn a'i dynged, am wyddoniaeth a phethau cyffelyb. |
| (2, 0) 788 | Rhaid imi siarad am bopeth, ac y mae'r byd yn drech na mi, a minnau'n troi ac yn trosi fel llwynog yng nghanol y cŵn. |
| (2, 0) 789 | Mae bywyd a gwyddoniaeth yn mynd rhagddynt yn rhy gyflym i mi eu dal, ac yr wyf bob amser ar ôl fel hogyn o'r wlad wedi colli'r trên, ac yn teimlo o'r diwedd mai am natur yn unig y gallaf ysgrifennu ac nad yw pob gair arall o'm heiddo ond hoced, ffalster a thwyll. |
| (2, 0) 794 | Ie, mewn cerbyd, fel Agamemnon i'r lladdfa. |
| (2, 0) 800 | Dacw nhw'n galw. |
| (2, 0) 801 | Rhaid imi bacio, mae'n debyg. |
| (2, 0) 802 | 'Does arna i ddim eisiau mynd. |
| (2, 0) 804 | Y fath wynfa! |
| (2, 0) 806 | Gwelaf. |
| (2, 0) 809 | Mae hi'n braf arnoch chi yma. |
| (2, 0) 811 | Be di hwn? |
| (2, 0) 813 | Deryn braf, yn wir, 'does arna i ddim isio mynd. |
| (2, 0) 814 | Triwch gael gynni hi aros. |
| (2, 0) 817 | O, dim ond nodyn, awgrym testun stori fer ddaeth i mhen i. |
| (2, 0) 819 | Geneth yn byw ar lan llyn, geneth ifanc fel chi, mae hi'n caru'r llyn fel yr wylan, ac yn ddedwydd a rhydd fel yr wylan. |
| (2, 0) 820 | Dyma ŵr yn digwydd dŵad heibio, ac am nad oes ganddo ddim gwell i'w neud yn ei difa hi fel yr wylan yma. |
| (2, 0) 824 | Yn dŵad rwan. |
| (3, 0) 836 | Sut y gnewch chi hynny? |
| (3, 0) 838 | Yr athro? |
| (3, 0) 840 | Wela i mo'r angen. |
| (3, 0) 843 | Fydd hynny ddim yn ormod? |
| (3, 0) 853 | 'D oes arna i ddim isio mynd. |
| (3, 0) 855 | Na, rosith hi ddim rwan. |
| (3, 0) 856 | Mae'r mab mor wirion. |
| (3, 0) 857 | Dyna fo'n trio saethu ei hun, ac wedyn, meddan nhw, yn mynd i roi sialens i mi. |
| (3, 0) 858 | Ac am ba reswm? |
| (3, 0) 859 | Mae o'n chwythu ac yn chwyrnu ac yn pregethu efengyl ffurfiau newydd - ond neno'r annwyl, mae digon o le i'r hen a'r newydd, 'does dim gofyn ffrae, dybiwn i. |
| (3, 0) 875 | Dwy. |
| (3, 0) 880 | Fedr neb roi cyngor ichi. |
| (3, 0) 886 | Mae hi'n neis. |
| (3, 0) 889 | Mi fydde i'n siwr o neud, mi feddylia i amdanoch fel yr oeddech chi ar y diwrnod heulog hwnnw, ydych chi'n cofio, 'r wythnos dwaetha, mewn ffrog wen – mi gawsom sgwrs – a'r wylan wen ar y fainc. |
| (3, 0) 900 | Ie. |
| (3, 0) 905 | 'Nos a dydd, tudalen 121, llinell 11 a 12.' |
| (3, 0) 908 | Cewch, bydd gofyn amdanyn nhw rywbryd, ond d'oes dim isio'r llyfrau. |
| (3, 0) 911 | Tudalen 121, llinell 11 a 12. |
| (3, 0) 912 | Be sy yn y llinellau yna? |
| (3, 0) 914 | Ydi fy llyfrau i yn y tŷ? |
| (3, 0) 916 | Tudalen 121. |
| (3, 0) 1075 | Tudalen 121, llinell 11 a 12 – dyma fo. |
| (3, 0) 1077 | 'Os bydd arnat rywbryd eisiau fy mywyd, tyrd, cymer ef.' |
| (3, 0) 1082 | 'Os bydd arnat rywbryd eisiau fy mywyd, tyrd, cymer ef.' |
| (3, 0) 1085 | O, ydi, ydi. |
| (3, 0) 1087 | Pam y mae gwaedd calon lân yn codi tristwch ac yn gneud nghalon i'n drwm? |
| (3, 0) 1088 | 'Os bydd arnat rywbryd eisiau fy mywyd i, tyrd, cymer ef.' |
| (3, 0) 1090 | Gadwch inni aros yma tan yfory. |
| (3, 0) 1092 | Gadwch inni aros. |
| (3, 0) 1095 | Triwch chithau hefyd sobri, triwch fod yn synhwyrol, 'r wy'n crefu arnoch, triwch ystyried y mater fel gwir ffrind imi. |
| (3, 0) 1097 | 'R ydych yn ddigon mawr i neud yr aberth, byddwch yn ffrind imi, rhowch fy rhyddid yn ôl imi. |
| (3, 0) 1100 | Mae rhywbeth yn fy nhynnu ati, a dyna fy mhrif angen, feallai. |
| (3, 0) 1103 | Bydd pobol weithiau yn cysgu ar eu traed, felly finnau, wrth siarad wrthoch chi, 'r wy'n cysgu ac yn ei gweld hi yn fy mreuddwyd. |
| (3, 0) 1104 | 'R ydw i dan hud breuddwydion melys, rhyfedd, gadwch imi fynd. |
| (3, 0) 1108 | Os mynnwch, gellwch fod yn ddynes anghyffredin – Cariad ifanc, swynol, barddonol, yn fy nghodi i fyd gweledigaethau, 'd oes dim arall yn y byd a all roi'r fath wynfyd. |
| (3, 0) 1109 | Phrofais i rioed y fath gariad. |
| (3, 0) 1110 | Yn fy ienctid ni chefais ddim ond crwydro o offis i offis a chynffoni i bob golygydd a brwydro'n erbyn tlodi, rŵan dyma gariad wedi ymddangos o'r diwedd ac yn galw arnaf – pa synnwyr fyddai imi redeg oddi ar ei ffordd? |
| (3, 0) 1113 | Gadwch imi fynd. |
| (3, 0) 1117 | 'D ydi hi ddim yn dallt, fyn hi ddim dallt. |
| (3, 0) 1126 | Mi all rhywyn ddŵad i mewn. |
| (3, 0) 1141 | Mae fy wyllys i wedi darfod, fu gin i rioed wyllys rydd – llipa, meddal, ufudd, dyna fy hanes i; sut y gall unrhyw ferch garu'r fath ddyn? |
| (3, 0) 1142 | Ewch â fi gyda chi, peidiwch â gollwng eich gafael am hanner cam. |
| (3, 0) 1149 | Na, mi awn i ffwrdd gyda'n gilydd. |
| (3, 0) 1154 | Mi glywais enw da'r bore ma, 'Llwyn y Forwyn', mi geith le mewn llyfr rywbryd. |
| (3, 0) 1156 | Mynd amdani hi, te? |
| (3, 0) 1157 | Mi gawn weld y trên unwaith eto, a'r stesions a'r refreshment rooms a mutton chops a digon o sgwario. |
| (3, 0) 1214 | Mi anghofiais fy ffon. |
| (3, 0) 1215 | Mae hi ar y terrace, mae'n debyg. |
| (3, 0) 1217 | Chi sy na? |
| (3, 0) 1218 | 'R ydym ni ar fin cychwyn. |
| (3, 0) 1225 | Ewch i aros yn y Slafiansci Bazâr, a gadwch imi wbod ar unwaith; 'moltsianoffca, Grocholsci,' dyna'r drecswin. |
| (3, 0) 1226 | Rhaid imi frysio. |
| (3, 0) 1230 | 'R ydych chi mor glws. |
| (3, 0) 1231 | Mae'n hyfryd meddwl y cawn ni weld ein gilydd yn fuan! |
| (3, 0) 1233 | Mi ga i weld y llygaid disglair yma unwaith eto, a'r wên dyner, hardd a glendid angylaidd eich wynepryd na all undyn byw fyth eu disgrifio. |
| (3, 0) 1234 | Fy nghariad annwyl i! |
| (4, 0) 1423 | Sut yr ydych chi, Piotr Nicolaiefits? |
| (4, 0) 1424 | Yn wael eto? |
| (4, 0) 1425 | Mae'n wir ddrwg gin i. |
| (4, 0) 1427 | Masia Ilinitsna! |
| (4, 0) 1429 | Wedi priodi? |
| (4, 0) 1431 | Yn hapus? |
| (4, 0) 1433 | Mi ddeudodd Irina Nicolaiefna eich bod chi wedi anghofio'r hen gweryl a'ch dicter. |
| (4, 0) 1439 | Mae'ch darllenwyr yn cofio atoch chi. |
| (4, 0) 1440 | Mae pawb yn Petersburg a Mosco yn teimlo diddordeb mawr yn eich gwaith ac yn holi amdanoch: 'Sut un ydi o; faint ydi ei oed o; pryd golau ai pryd tywyll sy gynno fo?' Mae pawb yn meddwl rywsut nad ydych chi ddim yn ifanc. |
| (4, 0) 1441 | Ŵyr neb mo'ch enw chi, am eich bod yn sgwennu dan ffugenw bob amser. |
| (4, 0) 1442 | Mae na ryw ddirgelwch ynglŷn â chi fel gŵr y mwgwd haearn. |
| (4, 0) 1444 | Na, 'rwy'n meddwl mynd i Mosco yfory. |
| (4, 0) 1445 | Rhaid imi orffen stori, ac mi dw i wedi addo rhywbeth at gasgliad o straeon hefyd. |
| (4, 0) 1446 | Mewn gair, yr un hen hanes. |
| (4, 0) 1448 | Croeso drwg ges i gin y tywydd a'r gwynt creulon na. |
| (4, 0) 1449 | Os bydd hi'n braf, mi a i i bysgota ar lan y llyn yfory; gyda llaw, rhaid imi fynd i gael golwg ar y fan, ydych chi'n cofio, lle'r actiwyd eich drama chi. |
| (4, 0) 1450 | Mae gin i idea am stori, ond mae f'atgofion am y lle braidd yn gymylog. |
| (4, 0) 1518 | 'Dydi o'n gwneud fawr ohoni hi – mae'n methu taro'r cywair. |
| (4, 0) 1519 | Mae na rywbeth dieithr, annelwig yn ei waith, yn ymylu ar orffwylltra; dim un cymeriad byw! |
| (4, 0) 1527 | Tawn i'n byw yn y fath blas, wrth lan y llyn, ydych chi'n meddwl y baswn yn sgwennu? |
| (4, 0) 1528 | Mi fyddwn i'n drech na'r hen nwyd ma, nawn i ddim ond pysgota. |
| (4, 0) 1530 | A dal brithyll neu slywen, dyna chi nefoedd ar y ddaear! |
| (4, 0) 1543 | Be dych chi'n feddwl? |
| (4, 0) 1545 | 'Dwy'n cofio dim am y peth. |
| (4, 0) 1547 | Na, dim o gwbwl. |
| (4, 0) 1556 | Dyna fi wedi ennill, gyfeillion. |
| (4, 0) 1736 | 'D wy'n cofio dim. |
| (4, 0) 1738 | 'D 'wy'n cofio dim! |