|
|
|
|
(0, 3) 240 |
Fy ngrasol dad, fy mrenin uchel, |
(0, 3) 241 |
fy nghydymdeithion rhyfel, |
(0, 3) 242 |
hebryngwch fy mrawd Antenor |
(0, 3) 243 |
at ei gydymaith Meneläws; |
(0, 3) 244 |
mae fe'n siarad yn debyg, |
(0, 3) 245 |
a'i ddull fel gŵr bonheddig |
(0, 3) 246 |
a fyddai wedi ei elïo |
(0, 3) 247 |
'rhyd cledrau ei ddwylo. |
(0, 3) 248 |
Mae'r eli o gymhendod |
(0, 3) 249 |
yn sawrio ar ei dafod. |
(0, 3) 250 |
Nis gwêl ef mo'r niwed |
(0, 3) 251 |
er dal mewn hir gaethiwed |
(0, 3) 252 |
Fy modryb Hesion |
(0, 3) 253 |
sydd gystal merch â hithe. |
(0, 3) 254 |
Moeswch wneuthur ein meddwl, |
(0, 3) 255 |
na choeliwn iddo'n gwbwl, |
(0, 3) 256 |
sy'n dewinio y gwaetha |
(0, 3) 257 |
dros oes a chenedl Troea. |
(0, 3) 258 |
Glynwn yn ein gafael: |
(0, 3) 259 |
croeso wrth ffrotun rhyfel! |
|
|
(0, 3) 349 |
I'r gwirion na wnewch ddialedd |
(0, 3) 350 |
dros yr euog a'i gamwedd, |
(0, 3) 351 |
ac na fyddwch rhy greulon; |
(0, 3) 352 |
fe ddichon hon fod yn wirion. |
|
|
(0, 3) 386 |
Hector, fy annwyl frawd, |
(0, 3) 387 |
ymddiffynnwr gwiriondlawd, |
(0, 3) 388 |
Erfyn yr wy ich mawredd |
(0, 3) 389 |
ymddiffyn gwirionedd. |
(0, 3) 390 |
Ymddiffynwch i Gresyd, |
(0, 3) 391 |
i heinioed, a'i bywyd. |
|
|
(0, 3) 407 |
Rho fy einioes drosti |
(0, 3) 408 |
o bu yn hon un drygioni, |
(0, 3) 409 |
nac erioed yn arfer |
(0, 3) 410 |
â thwyll neu ffalster. |
(0, 3) 411 |
Yr ydym yn atolwg i chwi |
(0, 3) 412 |
roi maddeuant iddi, |
(0, 3) 413 |
ac o'r awr hon allan, |
(0, 3) 414 |
yr wyf i, Troelus, fy hunan |
(0, 3) 415 |
yn caethiwo fy rhyddid |
(0, 3) 416 |
dros gywirdeb Cresyd. |
|
|
(0, 3) 431 |
Tydi, fudredd celwyddog, |
(0, 3) 432 |
i bob achwyn yn chwannog, |
(0, 3) 433 |
dy rodresus ddyfeisiau |
(0, 3) 434 |
ydyw arwain celwyddau |
(0, 3) 435 |
a bwrw beiau ar wirion |
(0, 3) 436 |
trwy faleisus ddychmygion |
(0, 3) 437 |
ac esgusodi camwedd |
(0, 3) 438 |
ac anafus fuchedd |
(0, 3) 439 |
er mwyn ysgwyd dy gynffon |
(0, 3) 440 |
ar bob math ar ddynion. |
(0, 3) 441 |
Oni bai fod yn bresennol |
(0, 3) 442 |
fy ngwir dad naturiol, |
(0, 3) 443 |
myn yr holl Dduwiau |
(0, 3) 444 |
rhown drwyddot fy nghleddau! |
|
|
(0, 3) 446 |
Onid oes gariad, o Dduw, pa beth sy'm trwblio, |
(0, 3) 447 |
os oes gariad, pa fodd, pa sut sydd arno? |
(0, 3) 448 |
Os da cariad, o ble mae'n dyfod i'm blino? |
(0, 3) 449 |
Os drwg cariad, mae'n rhyfedd iawn ei drino! |
(0, 3) 450 |
Rhwng poen, cyffro a thynged, |
(0, 3) 451 |
er maint yr wyf yn ei yfed, |
(0, 3) 452 |
mwyfwy im yw'r syched. |
(0, 3) 453 |
~ |
(0, 3) 454 |
Os wŷf â thi gytûn mewn cariad |
(0, 3) 455 |
mae beiau mawr am achwyn arnad. |
(0, 3) 456 |
Mewn llong foel rwyf yn amddifad, |
(0, 3) 457 |
rhwng dau wynt, gwrthwyneb dreiglad. |
(0, 3) 458 |
O Dduw, pa fath ryfeddod |
(0, 3) 459 |
sydd mor ddisymwth i'm gorfod? |
(0, 3) 460 |
Rhag gwres mewn oerfel dwyn nychdod, |
(0, 3) 461 |
rhag oerfel mewn gwres rwy'n darfod. |
(0, 3) 462 |
~ |
(0, 3) 463 |
O'r uchelfraint arglwyddes cariad, |
(0, 3) 464 |
fy nhrafferthus ysbryd derbyn atat, |
(0, 3) 465 |
neu ddod im rinwedd ddianynad |
(0, 3) 466 |
i ufuddhau meistres ddigwyddiad. |
(0, 3) 467 |
Ei gwas a'i gwasanaethwr |
(0, 3) 468 |
a'i dirgel ewyllysiwr, |
(0, 3) 469 |
nes fy rhoddi mewn amdo |
(0, 3) 470 |
nis caiff wybod oddi wrtho. |
(0, 3) 471 |
~ |
(0, 3) 472 |
O Troelus, druan tuchanllyd, |
(0, 3) 473 |
mae tynged it i ddwyn penyd. |
(0, 3) 474 |
Pes gwyddai dy feistres dy ofid |
(0, 3) 475 |
nid oes fodd nas trugarhau wrthyd. |
(0, 3) 476 |
Mal rhew yw'r ddyn feindlos |
(0, 3) 477 |
ar eglur leuad gaeafnos; |
(0, 3) 478 |
tithau yw'r eira oerfelog |
(0, 3) 479 |
yn toddi wrth eirias dân gwresog. |
(0, 3) 480 |
~ |
(0, 3) 481 |
I borth marfwolaeth, Duw, na bawn wedi'n rheiglo! |
(0, 3) 482 |
Prudd-der, o'r diwedd, a'm dwc i yno! |
|
|
(0, 3) 486 |
Oddi yma y byddwn gysurus i ymado |
(0, 3) 487 |
ar blinder trallodrys beunydd sy'm cystyddo. |
|
|
(0, 3) 492 |
Pa rhyw beth a'th trefnodd di i glywed |
(0, 3) 493 |
fy meddwl trwblus a'm anoddefus gaethiwed, |
(0, 3) 494 |
yr hyn mae pawb yn orthrwm ganddynt ei weled? |
(0, 3) 495 |
Atolwg it oddi yma fyned! |
|
|
(0, 3) 499 |
Erfyn i ti fyned ymaith! |
|
|
(0, 3) 505 |
Os wyt yn meddwl mai ofn gwŷr ac arfau |
(0, 3) 506 |
sydd ddychryn i'm corff a'm trwblus feddyliau, |
(0, 3) 507 |
mae rhywbeth arall sydd drymach i'm gruddiau |
(0, 3) 508 |
nac ofni'r Groegiaid a'u mawrion eiriau. |
(0, 3) 509 |
A'r achos hwn sydd farwol |
(0, 3) 510 |
trwy drymder naturiol; |
(0, 3) 511 |
na ddod arnaf fai anianol |
(0, 3) 512 |
am gelu hyn; mae'n weddol. |
|
|
(0, 3) 521 |
Cariad, po fwya rhagddo amddiffynnwy', |
(0, 3) 522 |
bydd fy mhoen a'm penyd fwyfwy, |
(0, 3) 523 |
heb obaith ond trymder mawrglwy |
(0, 3) 524 |
a marwolaeth drom lle y byddwy. |
|
|
(0, 3) 533 |
Y sôn am ddagrau Niobe'r frenhines; |
(0, 3) 534 |
Nis gellwch im les, na help am fesitres. |
|
|
(0, 3) 537 |
Mae'ch geiriau mawrion, erchyll, |
(0, 3) 538 |
yn chwedlau y'm cewyll; |
(0, 3) 539 |
nid yw hon wamal na thrythyll, |
(0, 3) 540 |
nid oes fodd i allu ei hennill. |
|
|
(0, 3) 550 |
Gadewch hen chwedl i orwedd i'ch mynwes, |
(0, 3) 551 |
cynhyrchol farwolaeth i mi sydd gynnes. |
|
|
(0, 3) 583 |
Os rhaid i minnau bellach ddywedyd |
(0, 3) 584 |
pwy ydyw'r ferch a'm rhoes mewn penyd, |
(0, 3) 585 |
y mae pawb yma yn adwaenyd, |
(0, 3) 586 |
hon yw'r lân arweddaidd Cresyd. |
(0, 3) 587 |
Er nych, er poen, er galar, |
(0, 3) 588 |
er dwyn marwolaeth gynnar, |
(0, 3) 589 |
ni chaiff ar y ddaear |
(0, 3) 590 |
wybod hyn onid Pandar. |
|
|
(0, 3) 622 |
Pandar, Pandar, nis medraf draethu fy meddwl! |
(0, 3) 623 |
Synhwyrol wyt, ti a wyddost y cwbwl. |
(0, 3) 624 |
I'r ych a gerddo ni raid un swmbwl; |
(0, 3) 625 |
i amddiffyn fy einioes ti a ddaethost mewn trwbwl. |
(0, 3) 626 |
Gorchymyn y cwestiwn |
(0, 3) 627 |
at un ferch a garwn; |
(0, 3) 628 |
fy hoedl pe'i collwn, |
(0, 3) 629 |
ei digio nis mynnwn. |
|
|
(0, 4) 822 |
O Pandar, fy anwylyd, |
(0, 4) 823 |
na saf rhyngof a Cresyd, |
(0, 4) 824 |
ar liniau yn dyfod |
(0, 4) 825 |
i wneuthur fy ufudd-dod. |
|
|
(0, 4) 828 |
Yr anwylferch! O Cresyd drugarorg! |
(0, 4) 829 |
Trugaredd, trugaredd i wylofus farchog! |
|
|
(0, 4) 834 |
Y peth a'ch trefnodd yma i'm cysuro, |
(0, 4) 835 |
yr un peth a ganiata i chwi fy ngwrando |
(0, 4) 836 |
a deall y pethau, hir yn guddiedig, |
(0, 4) 837 |
a rhoddi i mi unwaith olwg caredig |
(0, 4) 838 |
a bod ohonoch fodlon |
(0, 4) 839 |
i wir ewyllys calon |
(0, 4) 840 |
er gofal, er adfyd, |
(0, 4) 841 |
i'ch gwasanaeth fy nghymryd. |
(0, 4) 842 |
~ |
(0, 4) 843 |
Fel fy nghyfiawn arglwyddes a'm beunydd gyrchfa, |
(0, 4) 844 |
trwy gwbwl o'm synnwyr a'm ufudd-dod i'r eithaf, |
(0, 4) 845 |
a chaffael cyfiawnder y modd y rhyglydda, |
(0, 4) 846 |
y da am y gorau, y drwg am y gwaethaf, |
(0, 4) 847 |
a gwneuthur o'ch mawredd |
(0, 4) 848 |
un cymaint trugaredd, |
(0, 4) 849 |
a thrwy fy nymuniad |
(0, 4) 850 |
fy ngorchymyn yn wastad. |
(0, 4) 851 |
~ |
(0, 4) 852 |
A minnau i fod i chwi yn ostyngedig ddidifar |
(0, 4) 853 |
i'ch gwasanaethu beunydd fel cyfrinachwr diodefgar, |
(0, 4) 854 |
bob dydd bigilydd yn chwanegu, |
(0, 4) 855 |
fy mhoen a'm wyllys yn ych gwasanaethu. |
(0, 4) 856 |
Er fy mod yn gwybod |
(0, 4) 857 |
y dygaf hir nychod, |
(0, 4) 858 |
gorchmyna yngwasanaeth |
(0, 4) 859 |
i'ch unig feistrolaeth. |
|
|
(0, 4) 954 |
Myn fy nghywir Dduw cyfiawn, yr wyf i yn tyngu, |
(0, 4) 955 |
hwn fel y mynn yr hollfyd sy'n llyfodraethu, |
(0, 4) 956 |
os celwydd y ddoeda, Achilles a'i weiw ffon, |
(0, 4) 957 |
a bod ym fywyd tragwyddol, a hyllt fy nghalon, |
(0, 4) 958 |
Os byth i'r addefa |
(0, 4) 959 |
y dirgel chwedlau yma, |
(0, 4) 960 |
i un dyn bydol |
(0, 4) 961 |
ar coweth daearol. |
|
|
(0, 4) 988 |
O Mercuriws, er mwyn cariad ar ddyn dirion, |
(0, 4) 989 |
achos hon bu Palas wrth Aglawros yn ddicllon, |
(0, 4) 990 |
moes i'm help Diana - arnat rwy'n dymuno |
(0, 4) 991 |
nad i hyn o siwrnai yn ofer fyned heibio. |
(0, 4) 992 |
Chwithau'r tair chwiorydd hefyd |
(0, 4) 993 |
sydd yn tynnu edau'r bywyd, |
(0, 4) 994 |
moeswch i mi eich help yn amser, |
(0, 4) 995 |
na adwch hyn o swirnai'n ofer. |
|
|
(0, 6) 1132 |
O Cresyd, fy anwylddyn, |
(0, 6) 1133 |
aeth y byd i gyd yn ein erbyn. |
(0, 6) 1134 |
~ |
(0, 6) 1135 |
O greulon ddiwrnod, melltigedig i lawenydd hyfryd, |
(0, 6) 1136 |
lleidr y nos a lleidr cariad wyt hefyd. |
(0, 6) 1137 |
O genfigennus ddiwrnod, melltigedig ddyfodiad |
(0, 6) 1138 |
o fewn caerau Troea heb unwaith yrru amdanad. |
(0, 6) 1139 |
Pa achos yr wyt yn ysbienna? |
(0, 6) 1140 |
A gollaist dy ffordd yma? |
(0, 6) 1141 |
Duw a wnel i ti golli |
(0, 6) 1142 |
dy lewyrch a'th oleuni? |
(0, 6) 1143 |
~ |
(0, 6) 1144 |
Och! Beth a wnaeth cariad ddynion yn dy erbyn |
(0, 6) 1145 |
pan wyt bob amser mor genfigennus unddyn? |
(0, 6) 1146 |
~ |
(0, 6) 1147 |
O Cresyd, beth bellach a wnaf gan hiraethus gariad? |
(0, 6) 1148 |
Yr owran mae'r amser o'r trwm ymadawiad. |
(0, 6) 1149 |
Hir fyw nis gallaf yn y fath drymder; |
(0, 6) 1150 |
oes byth im obaith ond arwain prudd-der? |
(0, 6) 1151 |
Nid oes fodd na ddaw hiraeth |
(0, 6) 1152 |
arnaf i'n ddigon helaeth, |
(0, 6) 1153 |
pan yr wyf yr owran yn ymwrando |
(0, 6) 1154 |
â hiraeth cyn ymado. |
(0, 6) 1155 |
~ |
(0, 6) 1156 |
Yn wir, f'arglwyddes loyw, eurbleth, |
(0, 6) 1157 |
hyn pes gwyddwn yn ddiweiniaith, |
(0, 6) 1158 |
fod eich ufudd was a'ch marchog cywir |
(0, 6) 1159 |
wedi ei osod yn eich meddwl mor sicir |
(0, 6) 1160 |
ar ydd ych chwi, f'arglwyddes, |
(0, 6) 1161 |
yn fy meddwl i a'm mwynes, |
(0, 6) 1162 |
digŵyn yw gen i ymarfer |
(0, 6) 1163 |
â hiraeth twm a phrudd-der. |
|
|
(0, 6) 1172 |
O cydymaith o'r cymdeithion, y gorau i drugaredd |
(0, 6) 1173 |
a fu erioed, ac a fu byth mewn gwirionedd, |
(0, 6) 1174 |
fy meddwl i a ddygaist i esmwythdra nefol |
(0, 6) 1175 |
o Fflegeton, y tanllyd afon uffernol, |
(0, 6) 1176 |
Pes gallwn i roddi |
(0, 6) 1177 |
fy einioes i'th wasanaethu, |
(0, 6) 1178 |
ni fydde hyn i'w wneuthud |
(0, 6) 1179 |
ddim wrth a ryglyddyd. |
|
|
(0, 6) 1206 |
Cariad, mae ytt ar dir a môr reoli; |
(0, 6) 1207 |
cariad, mae ytt orchymyn y nefoedd o fri; |
(0, 6) 1208 |
cariad, mae ytt ryddid mawr a gollyngdod; |
(0, 6) 1209 |
O cariad, i ti mae'r holl ufudddod. |
(0, 6) 1210 |
Tydi, cariad, sy'n clymu |
(0, 6) 1211 |
pob cyfraith a chwmpeini; |
(0, 6) 1212 |
cwlwm hyn o gytundeb |
(0, 6) 1213 |
rhag dyfod byth wrthwyneb. |
(0, 6) 1214 |
~ |
(0, 6) 1215 |
Cariad, ir byd mae'n dwyn caredigrwydd; |
(0, 6) 1216 |
i bob peth yn ei ryfogaeth y mae'n digwydd; |
(0, 6) 1217 |
mae hwn yn naturiol i'r pedwar deunydd; |
(0, 6) 1218 |
y rhain sy wrthwynebys bob un yw gilydd. |
(0, 6) 1219 |
Y lleuad sydd dros noswaith, |
(0, 6) 1220 |
yr Haul dros loywddydd perffaith; |
(0, 6) 1221 |
pob un ai dyfodiad |
(0, 6) 1222 |
o achos rhinwedd cariad. |
(0, 6) 1223 |
~ |
(0, 6) 1224 |
Hwn, i'r môr, or maint yw trwst ei donnau, |
(0, 6) 1225 |
sy'n gwneuthur iddo gydnabod ai derfyne; |
(0, 6) 1226 |
hwn sy'n dwyn afonydd a phrydiau digwyddiad |
(0, 6) 1227 |
i ffrwythau tiroedd o meilliondir gwastad. |
(0, 6) 1228 |
Hawsa peth i hepgor |
(0, 6) 1229 |
bob amser ydi'w gyngor; |
(0, 6) 1230 |
anhawsa peth yn wastad |
(0, 6) 1231 |
yw hepgor ydiw cariad. |
(0, 6) 1232 |
~ |
(0, 6) 1233 |
Erfyn it, arglwydd, o'th drugaredd, yn enwedig, |
(0, 6) 1234 |
roddi rhwym ar gariad a chwlwm caredig; |
(0, 6) 1235 |
a phlannu yn ei calonnau hir cytundeb, |
(0, 6) 1236 |
lle bo unwaith gariad, na bo byth anghywirdeb. |
(0, 6) 1237 |
A thyfu o gariad ffyddlon |
(0, 6) 1238 |
ai gwreiddin yn y galon, |
(0, 6) 1239 |
na bo achos iddyn dybied |
(0, 6) 1240 |
byth o angharedig weithred. |
|
|
(0, 7) 1287 |
O ffortun anffortunus, beth yr owran a'th gyffrôdd? |
(0, 7) 1288 |
Beth a wneuthum yn dy erbyn, nac o'm bodd nac o'm anfodd? |
(0, 7) 1289 |
Pa fodd y gellid fy siomi rhag pechodrwydd? |
(0, 7) 1290 |
Oes dim trugaredd ynot na gonestrwydd? |
(0, 7) 1291 |
Os clywi arnat hyn yma - |
(0, 7) 1292 |
ddwyn Cresyd oddi arna - |
(0, 7) 1293 |
anrhugarog a chreulon |
(0, 7) 1294 |
ydyw meddwl dy galon. |
(0, 7) 1295 |
~ |
(0, 7) 1296 |
Oni ddarfu im dy anrhydeddu hyd yn hyn o'm bywyd |
(0, 7) 1297 |
yn fwy na'r holl dduwiau eraill i gyd? |
(0, 7) 1298 |
Paham yr wyt yn ymgolledu o'm holl ddifyrrwch? |
(0, 7) 1299 |
O Troelus, pa fodd y'th elwir bellach ond tristwch? |
(0, 7) 1300 |
Pawb ath eilw di yn fydredd |
(0, 7) 1301 |
wedi colli dy anrhydedd; |
(0, 7) 1302 |
nes colli it dy fywyd, |
(0, 7) 1303 |
nis coll trymder trwm am Gresyd. |
(0, 7) 1304 |
~ |
(0, 7) 1305 |
O Ffortun, os wyt yn dwyn i mi genfigen |
(0, 7) 1306 |
o ran fy mod yn dwyn fy mynd yn llawen, |
(0, 7) 1307 |
dwyn einioes y brenin a'm tad a ellyd; |
(0, 7) 1308 |
dwyn einioes y mrodyr, am einioes innau hefyd. |
(0, 7) 1309 |
Sy'n trwblio yr owran y byd i gyd a'i gwynfan, |
(0, 7) 1310 |
am farwolaeth yn nychu, |
(0, 7) 1311 |
a marw yn iawn heb fedru. |
(0, 7) 1312 |
~ |
(0, 7) 1313 |
O Cresyd, pe buaswn i heb dy weled, |
(0, 7) 1314 |
Ffortun nis gallase imi mor niwed; |
(0, 7) 1315 |
trwy'r golwg hwn i cafodd arna fantais, |
(0, 7) 1316 |
yr owran fy nifeddiannu or fwy a gerais. |
(0, 7) 1317 |
Ai gorchafiaeth gennyd |
(0, 7) 1318 |
nychu gwan am i fywyd? |
(0, 7) 1319 |
Gad i ffordd hyn yma |
(0, 7) 1320 |
a gwna i mi dy eitha! |
(0, 7) 1321 |
~ |
(0, 7) 1322 |
Beth a wnaf ym prudd-der a caethiwed? |
(0, 7) 1323 |
Ai ymadael a Chresyd a brynais cyn ddruted? |
(0, 7) 1324 |
~ |
(0, 7) 1325 |
Onid ef, mi wnaf y peth allaf ei wneuthud - |
(0, 7) 1326 |
byw'n unig mewn prudd-der a chreulon benyd, |
(0, 7) 1327 |
achwyn fy hunan ar fy anffortunus ddigwyddiad, |
(0, 7) 1328 |
lle ni ddaw na glaw na haul na lleuad. |
(0, 7) 1329 |
Fy niwedd a fydd amlwg |
(0, 7) 1330 |
fel Edipws, mewn tywyllwch, |
(0, 7) 1331 |
dwyn prydd-der yn fy mywyd |
(0, 7) 1332 |
a mawr o'r diwedd mewn adfyd. |
(0, 7) 1333 |
~ |
(0, 7) 1334 |
O'r trymion lygaid, erioed bu eich difyrrwch |
(0, 7) 1335 |
i edrych ar Cresyd, ei glendid a'i hawddgarwch. |
(0, 7) 1336 |
Beth a wnewch, bod yn anghysurus i minnau, |
(0, 7) 1337 |
ai sefyll am ddim i ollwng heilltion ddagrau? |
(0, 7) 1338 |
Ewch ymaith, trymion lygaid, |
(0, 7) 1339 |
nid oes obaith i chwi amnaid, |
(0, 7) 1340 |
nid oes mo'r rhinwedd arnoch, |
(0, 7) 1341 |
eich rhinwedd a gollasoch. |
(0, 7) 1342 |
~ |
(0, 7) 1343 |
O Cresyd, Cresyd, o arglwyddes anrhydeddus, |
(0, 7) 1344 |
pwy im a rydd unwaith un gair cysurus? |
(0, 7) 1345 |
Neb nid oes pan ddarffo i'm calon dorri, |
(0, 7) 1346 |
yn lle'r corff, gad i'm ysbryd dy wasanaethu. |
(0, 7) 1347 |
I'm corff anrhugarog y buost, |
(0, 7) 1348 |
anrhugaredd mawr a wnaethost. |
(0, 7) 1349 |
O hyn allan, Cresyd, |
(0, 7) 1350 |
bydd drugarog i'm ysbryd. |
|
|
(0, 7) 1359 |
Chwychwi gariadau, sy'n aros ar dop yr olwyn beraidd, |
(0, 7) 1360 |
duw a drefno i chwi eich cariadu'n dduraidd, |
(0, 7) 1361 |
fel y gallo bod eich bywyd mewn hir ddifyrrwch; |
(0, 7) 1362 |
Ar fy medd pen y deloch, amdanafi meddyliwch, |
(0, 7) 1363 |
a doedwch: 'yn hwn fedd |
(0, 7) 1364 |
mae'n cydymaith ni'n gorwedd; |
(0, 7) 1365 |
i garu bu ei ddigwyddiad, |
(0, 7) 1366 |
er nas rhyglyddodd cariad.' |
|
|
(0, 7) 1380 |
Och i'r henddyn anheilwng cyn ei amser wedi ei eni; |
(0, 7) 1381 |
och i'r hen Galcas, pa beth a ddarfod i ti? |
(0, 7) 1382 |
Yr owran yn Roegwr, Torean eriod y'th gwelwyd. |
(0, 7) 1383 |
O Calchas, mewn amser drwg i mi y'th aned. |
(0, 7) 1384 |
Gwae fi na chawn afael |
(0, 7) 1385 |
arnat, Calchas, mewn cornel; |
(0, 7) 1386 |
mi a wnawn i ti na chyrchid |
(0, 7) 1387 |
ym mysg Groegwyr mo Cresyd. |
|
|
(0, 7) 1405 |
Cynt y caiff marwolaeth allan o'm calon wthio |
(0, 7) 1406 |
y fywoliaeth a fu cyd mewn trymder yn trigo |
(0, 7) 1407 |
nag y caiff Cresyd â'm henaid byth ymadael. |
(0, 7) 1408 |
Gyda Proserpina y byddwn i mewn gafael, |
(0, 7) 1409 |
achwyn y byddaf yno |
(0, 7) 1410 |
trwy ochain mawr ac wylo, |
(0, 7) 1411 |
y modd y darfu i minne |
(0, 7) 1412 |
glymu fy hunan yn yr unlle. |
|
|
(0, 8) 1470 |
O greulon Iau, creulonach ffortun aflawen, |
(0, 8) 1471 |
lledaist Cresyd a Throelus â'th genfigen, |
(0, 8) 1472 |
y cleddau hwn a yrr fy ysbryd i allan, |
(0, 8) 1473 |
i'th ddilyn di, Cresyd, 'rhyd feysydd Elisian. |
(0, 8) 1474 |
Yna y byddwn yn aros |
(0, 8) 1475 |
barnedigaeth brenin Minos, |
(0, 8) 1476 |
gan fod ffortun mor greulon |
(0, 8) 1477 |
a chariad eilwaith mor ddigllon. |
(0, 8) 1478 |
~ |
(0, 8) 1479 |
Gan ddarfod amdanom, myfi a'r byd ydawa, |
(0, 8) 1480 |
i ba le bynnag yr elych, dy ysbryd a gylyna. |
(0, 8) 1481 |
Ni chaiff cariadddyn am Droelus fyth ddoedyd: |
(0, 8) 1482 |
nas llefys, rhag ofn marw, gydfarw a Chresyd. |
(0, 8) 1483 |
Gan nas cewn ni yma aros |
(0, 8) 1484 |
gyda ein gilydd i fyw yn agos, |
(0, 8) 1485 |
dioddefwch yn eneidie |
(0, 8) 1486 |
yn dragwyddol fyw yn yr unlle. |
(0, 8) 1487 |
~ |
(0, 8) 1488 |
Troea, bym yno fyw mewn dolur; |
(0, 8) 1489 |
Priam, a'n holl gywir frodur, |
(0, 8) 1490 |
ac i'm mam y wnaf ganu'n iach heb wybod! |
(0, 8) 1491 |
Croeso Atropos, gwna'r elor i mi'n barod. |
(0, 8) 1492 |
~ |
(0, 8) 1493 |
Ataf a negosed cleddyf creulon, |
(0, 8) 1494 |
er dy fwyn di, at y'ng nghalon. |
|
|
(0, 8) 1542 |
Mae'n anodd cloffi ger bron cripil heb ei ganfod; |
(0, 8) 1543 |
mae cyfrwysdra Calchas bob amser mor barod. |
(0, 8) 1544 |
I dda bydol er bod ganddo ormod dychwant |
(0, 8) 1545 |
mae hen gyfrwyddyd ganddo a deall somiant. |
(0, 8) 1546 |
Chwi a glywsoch, modd y dywedan, |
(0, 8) 1547 |
haws somi babi na gwrachan. |
(0, 8) 1548 |
Anodd dallu llygaid Argos |
(0, 8) 1549 |
petai bawb yn helpio'r achos. |
|
|
(0, 8) 1558 |
Beunydd llid a ychwanega wrth golli gwaed gwirion. |
(0, 8) 1559 |
Hyn yw naturiaeth rhyfel - gwneuthur pawb yn greulon, |
(0, 8) 1560 |
a hyn a obeithia lleidr, i'w grogi pan yr elo, |
(0, 8) 1561 |
o tyr y cebystr, fod cyfraith yn ei safio. |
(0, 8) 1562 |
Nis rhoddir Helen adre |
(0, 8) 1563 |
ond yn gyfnewid i Hesione: |
(0, 8) 1564 |
hwn yw gobaith gofalon, |
(0, 8) 1565 |
a'r gobaith hwn a dyr fy nghalon. |
|
|
(0, 8) 1574 |
Hyn rwyf i yn ei ofni ac wrth ei feddwl mae'n ddolur, |
(0, 8) 1575 |
yr achos mae'ch tad i'ch cyrchu i briodi un o'r Groegwyr. |
(0, 8) 1576 |
Fe a'ch rydd i ryw ddyn a fo mewn mawr urddas; |
(0, 8) 1577 |
geiriau'r tad a dreisia'r ferch i briodas. |
(0, 8) 1578 |
Ac i Troelus cywir druan |
(0, 8) 1579 |
y daw achwyn, ochain a griddfan, |
(0, 8) 1580 |
chwychwi yn byw mewn gwrthwyneb, |
(0, 8) 1581 |
yntau yn marw mewn cywirdeb. |
(0, 8) 1582 |
~ |
(0, 8) 1583 |
Eich tad, er mwyn eich dwyn i hyn yma, |
(0, 8) 1584 |
nyni, ein tref, a'n gallu i gyd, a ddibrisia; |
(0, 8) 1585 |
ac a ddywaid nad aiff Groegwyr byth adre |
(0, 8) 1586 |
nes ennill Troea a llosgi yn llwyr ei chaere. |
(0, 8) 1587 |
Wrthyf fi y doedych |
(0, 8) 1588 |
y gwnewch iddo goelio a fynych; |
(0, 8) 1589 |
mae arna ofn yn fy meddwl |
(0, 8) 1590 |
y gwnaiff i chwi goelio'r cwbwl. |
(0, 8) 1591 |
~ |
(0, 8) 1592 |
Ym mysg Groegwyr llawer marchog glân a gewch ei weled, |
(0, 8) 1593 |
yn llawn rhywiogrwydd, afiaith a rhinweddol weithred, |
(0, 8) 1594 |
modd y bydd pawb mor ufudd, i'ch bodloni yn chwennych, |
(0, 8) 1595 |
fel nas gwyddoch pwy adawoch na phwy a ddewisych. |
(0, 8) 1596 |
Nid oes mewn Troelus ryglyddiad |
(0, 8) 1597 |
i fod munud yn eich cariad, |
(0, 8) 1598 |
ond ei fod yn rhy ffyddlon |
(0, 8) 1599 |
ac yn eich caru chwi yn ei galon. |
|
|
(0, 8) 1635 |
Derbyn, Cresyd, gan Troelus yr arwyddion yma - |
(0, 8) 1636 |
tlws a modrwy i ti a rodda', |
(0, 8) 1637 |
y tlws i dy atgoffa i ddyfod eilwaith, |
(0, 8) 1638 |
a'r fodrwy hon i feddwl am gydymaith. |
(0, 8) 1639 |
Gwisg yr rhain bob amser |
(0, 8) 1640 |
lle bo dy olwg yn ymarfer. |
(0, 8) 1641 |
Ffarwel, Cresyd, ganwaith |
(0, 8) 1642 |
hyd oni ddelych eilwaith. |
|
|
(0, 9) 1668 |
Paham nas gwnaf i dlawd a chyfoethog o'r unwaith |
(0, 9) 1669 |
gael digon i wneuthud cyn mynediad Cresyd ymaith? |
(0, 9) 1670 |
Paham nas dysgaf Droea i ryfel disymwth? |
(0, 9) 1671 |
Paham nas laddaf Diomedes cyn ei fygwth? |
(0, 9) 1672 |
A paham nas dygaf |
(0, 9) 1673 |
hon ymaith ar ei gwaethaf, |
(0, 9) 1674 |
a pha aros yr wyf innau |
(0, 9) 1675 |
cyd, heb helpu fy noluriau? |
|
|
(0, 9) 1694 |
Ble mae yr owran, fy arglwyddes am anwylyd? |
(0, 9) 1695 |
Ble mae ei phryd a'i gwedd? Ble mae Cresyd? |
(0, 9) 1696 |
Ble mae ei deufraych a'i golwg eglur sirian |
(0, 9) 1697 |
ydoedd gynt yn dy lawenychu Troelus, truan? |
(0, 9) 1698 |
Wylo yn hawdd a elli |
(0, 9) 1699 |
yr heilltion ddagrau amdani; |
(0, 9) 1700 |
nid oes yma ddim i'w weled |
(0, 9) 1701 |
ond y llawr y nen ar pared. |
|
|
(0, 9) 1719 |
Pwy sydd yr owran i'th weled, fy ngwir, gywir arglwyddes? |
(0, 9) 1720 |
Pwy sy'n eiste yn dy ymyl, a phwy sy'n dy alw'n fesitres? |
(0, 9) 1721 |
Pwy sydd a lawenycha dy galon drom hiraethus? |
(0, 9) 1722 |
Mae Troelus heb fod yna; pwy sydd it gynghorus? |
(0, 9) 1723 |
Wrth bwy y gelli ddoedyd |
(0, 9) 1724 |
ydiw Troelus yn y byd? |
(0, 9) 1725 |
Mae Pandar yn ochneidio |
(0, 9) 1726 |
a Throelus truan yn wylo. |
|
|
(0, 10) 1762 |
Pa fodd y gallaf aros deng niwrnod modd yma, |
(0, 10) 1763 |
pan ydyw cyn anhawsed i'm gydfod y diwrnod cyntaf? |
(0, 10) 1764 |
~ |
(0, 10) 1765 |
Pandar, gan yr hiraethus drymder sydd arnaf, |
(0, 10) 1766 |
parhau yn hir yn wir mi a wn nis gallaf, |
(0, 10) 1767 |
odid im gaffael fy einioes hyd yfor. |
(0, 10) 1768 |
Oherwydd hyn yma, atolwg i ti ddychmygu |
(0, 10) 1769 |
pa fodd y gwneir fy medd, |
(0, 10) 1770 |
os rhaid i mi yno orwedd, |
(0, 10) 1771 |
ac am bethau anghenrheidiol |
(0, 10) 1772 |
i roddi lle y'u bo gweddol. |
(0, 10) 1773 |
~ |
(0, 10) 1774 |
Fy nghlon, pan fyddo wedi llosgi hyd yn ulw, |
(0, 10) 1775 |
hel hwn yn yr unlle a bydd sicr o'i gadw, |
(0, 10) 1776 |
a dod mewn llestr o aur wedi ei wneuthur i hynny |
(0, 10) 1777 |
a hebrwng i'r arglwyddes a fum gynt yn ei gwasanaethu. |
(0, 10) 1778 |
A dangos mai o'i chariad |
(0, 10) 1779 |
y digwyddodd y digwyddiad: |
(0, 10) 1780 |
am gadw hwn dymunaf |
(0, 10) 1781 |
er mwyn dwyn cof amdanaf. |
|
|
(0, 10) 1790 |
Myfi a wn wrth y modd y cymrodd fy nolur myfi a'm prudd-der |
(0, 10) 1791 |
ac wrth fy mreuddwydion i, rhaid im farw ar fryder. |
(0, 10) 1792 |
Hefyd y dylluan hon a elwir Aschaffilo |
(0, 10) 1793 |
sydd y ddwy nos diwetha uwch fy mhen yn cregleisio. |
(0, 10) 1794 |
Tithe, y duw Mercwri, |
(0, 10) 1795 |
pan rhyglydd bodd i ti, |
(0, 10) 1796 |
gyrchi yr ysbryd poenedig |
(0, 10) 1797 |
allan o'r corff aniddig. |
|
|
(0, 13) 1936 |
Bellach mae yn canlyn y goleubryd siriol Fenws |
(0, 13) 1937 |
rhyd y cynefin lwybr y disgynes ar i wared Phebws; |
(0, 13) 1938 |
bellach, mae Citherea ai chyfle i gwagen yn tynny |
(0, 13) 1939 |
ac yn troi allan o'r llew hyd y mae ei gallu. |
(0, 13) 1940 |
Mae signiffer yn gole |
(0, 13) 1941 |
y ddaear a'i chanwylle; |
(0, 13) 1942 |
bellach, mai rhyfeddod |
(0, 13) 1943 |
am Cresyd yma yn dywod! |
(0, 13) 1944 |
~ |
(0, 13) 1945 |
O arglwydd Ciwpid, mawr fi i mi dy anrugaredd, |
(0, 13) 1946 |
pan atgoffaf fy hun o'm holl ddrwstan fuchedd, |
(0, 13) 1947 |
ac fel y blinaist bob dydd yn waeth na'i gilydd: |
(0, 13) 1948 |
fy muchedd i yn ystori i'r byd i gyd a ddigwydd. |
(0, 13) 1949 |
Pa oruchafiaeth sydd i ti |
(0, 13) 1950 |
bob amser fy ngorchfygu? |
(0, 13) 1951 |
Mi a ymrois i ti yn ffyddlon, |
(0, 13) 1952 |
er dy gael yn arglwydd creulon. |
(0, 13) 1953 |
~ |
(0, 13) 1954 |
Planna yng nghalon Cresyd y fath ewyllys ddyfod cyn gynted fel y rhoddaist i mi hiraeth a chwant am ei gweled. |
(0, 13) 1955 |
~ |
(0, 13) 1956 |
Y diwrnodiau a'r nosweithiau a fu'n hwy o lawer |
(0, 13) 1957 |
nag y byddai y rhain arferol o fod bob amser; |
(0, 13) 1958 |
yr haul a gerddes ei gwmpas ar gam yn bellach, |
(0, 13) 1959 |
neu mae'n myned i'w siwrnai yn annibennach. |
(0, 13) 1960 |
Y degfed ddydd aeth heibio, |
(0, 13) 1961 |
Y ddegfed nos yw heno; |
(0, 13) 1962 |
yn llawen bellach y'm gwelir |
(0, 13) 1963 |
os yw'r byd i gyd yn gywir. |
|
|
(0, 15) 2004 |
Am fi'n cysgu, noswaith, yn syrn flin, Cassandra, |
(0, 15) 2005 |
mi a freuddwydiais yn y modd i chwi y ddoeda: |
(0, 15) 2006 |
mi am gwelwn mewn forest yn rhodio ac wylo y byddwn |
(0, 15) 2007 |
o gariad ar ryw ferch ryw amser a adwaewn. |
(0, 15) 2008 |
Gwelwn, wrth rodio am gylchion, |
(0, 15) 2009 |
ryw faedd ac yscithredd creulon; |
(0, 15) 2010 |
a'r baedd ydoedd yn cysgu |
(0, 15) 2011 |
a'r haul arno yn llewyrchu. |
(0, 15) 2012 |
~ |
(0, 15) 2013 |
Yn cusanu y baedd yma, mi a welwn Cresyd, |
(0, 15) 2014 |
ac ai deufraych yn bleth amdano y gwelwn hefyd. |
(0, 15) 2015 |
Trwy chwithder a dychryn ei gweled yn y fath fodd |
(0, 15) 2016 |
ac felly yr ofn yma o'n cyntyn a'm deffrodd. |
(0, 15) 2017 |
Er pan welais y breuddwyd, |
(0, 15) 2018 |
yr wyf mewn gofal ac arswyd, |
(0, 15) 2019 |
yr wyf fi yn erfyn ac yn damuno |
(0, 15) 2020 |
i chwi roddi deallt arno. |
|
|
(0, 15) 2056 |
Celwydd, gyfarwyddes, yw dy drafferthus eirie gweigion, |
(0, 15) 2057 |
a'th holl anuwiol broffodoliaethu ffeilsion! |
(0, 15) 2058 |
Di a fynni fod dy fuchedd a'th chwedle di'n dduwiol |
(0, 15) 2059 |
a thithe'n codi chwedlau ar arglwyddesau rhinweddol. |
(0, 15) 2060 |
Duw a drefno i ti brudder — |
(0, 15) 2061 |
ffwrdd o'm golwg mewn amser; |
(0, 15) 2062 |
yn wir, nid hwyrach y byddi |
(0, 15) 2063 |
yn gelwyddog, cyn yfory. |
(0, 15) 2064 |
~ |
(0, 15) 2065 |
Cyn hawsed y gelli ddoedyd y celwydd yma |
(0, 15) 2066 |
ar rinweddol Alceste, ei ddoedyd ar Gresyda; |
(0, 15) 2067 |
gwr hon, pan oedd mewn perygl mawr amdano, |
(0, 15) 2068 |
naill ai gorfod marw ei hunan a'i rhoi un i farw drosto, |
(0, 15) 2069 |
Hon a ddewisodd gydfod |
(0, 15) 2070 |
a marfolaeth droes ei phriod. |
(0, 15) 2071 |
Gwn mae felly y gwnai Cresyd |
(0, 15) 2072 |
cyn colli Troelus ei fywyd. |
|
|
(0, 16) 2083 |
O Cresyd, f'anwylyd, o f'arglwyddes eurbleth, |
(0, 16) 2084 |
ble mae'r owran eich addewid, na phle mae'r crediniaeth? |
(0, 16) 2085 |
Ble mae'r cariad? Ble mae'r gwirionedd, Cresyd? |
(0, 16) 2086 |
Diomedes sydd yr owran yn cael arnoch chwi ei wynfyd. |
(0, 16) 2087 |
Hyn yma a ddygaswn, |
(0, 16) 2088 |
a hyn drosot a dyngaswn, |
(0, 16) 2089 |
er dywedyd ohonot anwir |
(0, 16) 2090 |
na buesit byth anghywir. |
(0, 16) 2091 |
~ |
(0, 16) 2092 |
Pwy o hyn allan i'th lyfau di, Cresyd, a goelia? |
(0, 16) 2093 |
Gwae fi, tyngaswn nas gwneuthit byth hyn yma. |
(0, 16) 2094 |
Pwy a feddyliai fod ynddot ti feddwl cyn anwadaled, |
(0, 16) 2095 |
na phwy a dybiai fod dy galon di cyn greuloned |
(0, 16) 2096 |
â lladd dyn truan diniwed |
(0, 16) 2097 |
trwy dwyll a thrwy ymddiried? |
(0, 16) 2098 |
Gwae fi erioed o ddigwyd |
(0, 16) 2099 |
i ti, Cresyd, anonestrwydd. |
(0, 16) 2100 |
~ |
(0, 16) 2101 |
Oedd yr un arwydd gennyt ti i'w roddi |
(0, 16) 2102 |
i'th newydd gariad ond hwn i'w lawenychu? |
(0, 16) 2103 |
Ar hwn llawer heilltion ddagrau a wylais; |
(0, 16) 2104 |
i ti er mwyn dwyn cof amdanaf y rhoddais, |
(0, 16) 2105 |
a thithau er cas arnaf |
(0, 16) 2106 |
i Diomedes rhoist hwn yma. |
(0, 16) 2107 |
~ |
(0, 16) 2108 |
Wrth hyn y gwn fy mod yn rhy drwstan, |
(0, 16) 2109 |
gan ddarfod i chwi fy mwrw o'ch meddwl allan. |
(0, 16) 2110 |
Er yr holl fyd eich bwrw chwi nis medraf, |
(0, 16) 2111 |
allan o'm meddwl un chwarter awr nis gallaf. |
(0, 16) 2112 |
Ar amser drwg y'm ganed, |
(0, 16) 2113 |
pawb a ŵyr hyn wrth glywed: |
(0, 16) 2114 |
chwychwi dwyllodrus i mi, |
(0, 16) 2115 |
a minnau er hyn i'ch caru. |
(0, 16) 2116 |
~ |
(0, 16) 2117 |
Trefna im, Arglwydd, er dwyn mawr artaith, |
(0, 16) 2118 |
gyfarfod â Diomedes yma unwaith; |
(0, 16) 2119 |
trefna im nerth ac amser eilwaith; |
(0, 16) 2120 |
mi a wnaf i'w galon waedu am draeturiaeth. |
(0, 16) 2121 |
Atolwg ti, Arglwydd, edrych |
(0, 16) 2122 |
am y pethau hyn yn fynych: |
(0, 16) 2123 |
os gadewch chwi hyn heb dramgwydd, |
(0, 16) 2124 |
y cyffelyb a all ddigwydd. |
(0, 16) 2125 |
~ |
(0, 16) 2126 |
O, Pandar, ti a erchaist im na choeliwn i freuddwydion; |
(0, 16) 2127 |
gwêl modd y digwyddod hyn yn rhy unuion; |
(0, 16) 2128 |
gwêl mor gywir yw dy annwyl nith Cresyd; |
(0, 16) 2129 |
meddi ti "er dim hi a gywirai dy addewid"! |
(0, 16) 2130 |
Mynych y mae'r duwiau |
(0, 16) 2131 |
yn dangos hyn o wyrthiau |
(0, 16) 2132 |
ac yn rhybydd o'n cyntun |
(0, 16) 2133 |
o'r pethau sydd i'n herbyn. |
(0, 16) 2134 |
~ |
(0, 16) 2135 |
Ar y gwir wirionedd heb chwaneg o eiriau y dywedaf: |
(0, 16) 2136 |
o'r dydd hwn allan, cyn gynted ag y gallaf, |
(0, 16) 2137 |
fy marwolaeth greulon ar flaen yr arfau a gyrchaf, |
(0, 16) 2138 |
a'm trafferthus flinder ar unwaith a diweddaf. |
(0, 16) 2139 |
O hyn allan fe ddywedir |
(0, 16) 2140 |
dy fod, Cresyd, yn anghywir. |
(0, 16) 2141 |
Ni chaiff undyn byth ddywedyd |
(0, 16) 2142 |
fod Troelus yn ffals i Cresyd. |