|
|
|
|
(1, 2) 152 |
Yn bwyllog Arglwydd Grey! Ni cha un dyn |
(1, 2) 153 |
I chwareu'r ffyrnig gi, na'r heliwr chwaith, |
(1, 2) 154 |
Ac yn ysglyfaeth dewrddyn fel Glyndwr, |
(1, 2) 155 |
Tra bo gan Harri Mynwy law neu lais, |
(1, 2) 156 |
I godi i'w amddiffyn. |
|
|
(1, 2) 160 |
Fy Arglwydd Frenin! Pob dyledus barch |
(1, 2) 161 |
A dala'th fab i ti, ac i dy lys; |
(1, 2) 162 |
Ond ni wna parch i lys, nac arglwydd chwaith |
(1, 2) 163 |
Ddileu y ddyled enfawr arnaf sydd |
(1, 2) 164 |
I Owen o Glyndwr. |
|
|
(1, 2) 166 |
Pan ydoedd haul dy lwyddiant di fy nhad, |
(1, 2) 167 |
A'm llwyddiant i dan dywyll gwmwl erch; |
(1, 2) 168 |
Tydi yn Ffraingc, yn alltud o dy wlad; |
(1, 2) 169 |
A mi, a'm cefnder, Gloster, draw yn mhell, |
(1, 2) 170 |
Yn Nghastell Trim yn garcharorion, heb |
(1, 2) 171 |
Un cyfaill ini'n agos, nac un wên |
(1, 2) 172 |
O obaith ini'n codi o un man: |
(1, 2) 173 |
Ein rhwymau'n dyn, a'n bwyd yn hynod wael; |
(1, 2) 174 |
Ein rhyddid ini mynodd y Glyndwr, |
(1, 2) 175 |
A throsom ni yn feichiau aeth ei hun, |
(1, 2) 176 |
Ei dy gymerodd le y dywell gell, |
(1, 2) 177 |
A'i huliog fwrdd, ein gwrthwyneblyd fwyd. |
(1, 2) 178 |
Ei garedigrwydd nid annghofiaf byth. |
|
|
(1, 2) 323 |
Fy anwyl dad, er mwyn eich anwyl fab, |
(1, 2) 324 |
Gwnewch gofio 'i gymwynaswr! |