| (1, 0) 8 | Dyro'r te ar y bwrdd penfro o flaen y tân. |
| (1, 0) 9 | Mae hi'n dechrau oeri. |
| (1, 0) 11 | Pa wahaniaeth wnâi hynny? |
| (1, 0) 15 | Mi wn. |
| (1, 0) 16 | John Elias. |
| (1, 0) 17 | Mab i grefftwr. |
| (1, 0) 18 | Wedi priodi merch i Mr. Broadhead. |
| (1, 0) 19 | Codi'n arw yn y byd. |
| (1, 0) 21 | Run fath â'i chwaer, Mrs. King? |
| (1, 0) 24 | Does arni hi ddim eisiau i'w brawd briodi. |
| (1, 0) 25 | Pan fydd y miri yn Bath a Cheltenham drosodd, mi ddaw hi'n ôl yma yn feistres. |
| (1, 0) 26 | Mi gawn ddawnsio wedyn... |
| (1, 0) 27 | Pwy fu'n glanhau fan yma bore heddiw? |
| (1, 0) 29 | Ann felly. |
| (1, 0) 30 | Dywed wrth Ann am ddwad yma. |
| (1, 0) 32 | Fedr hi? |
| (1, 0) 34 | Welais i rioed mo'r tylwyth teg. |
| (1, 0) 36 | Ar fy nhwca! |
| (1, 0) 43 | Ti fu'n tynnu llwch yma heddiw? |
| (1, 0) 45 | Rhed dy fys ar hyd y sideboard yma? |
| (1, 0) 51 | Rhyw slemp o lanhau. |
| (1, 0) 55 | Be wyt ti'n hornio, 'mechan i? |
| (1, 0) 60 | ~ |
| (1, 0) 61 | "Gwen ei brest a gwen ei bronna, |
| (1, 0) 62 | Gwen bob man a choch ei bocha". |
| (1, 0) 65 | Y mwnci diawl, be haru ti? |
| (1, 0) 67 | Mynd yn hy! |
| (1, 0) 68 | Rwyt ti'n siarad fel pladres o wraig fonheddig. |
| (1, 0) 70 | Cau dy hopran, y gnawes gipog, os dyna dy siort di. |
| (1, 0) 74 | O'r gorau, mae hi wedi cau arnat ti am le yma. |
| (1, 0) 75 | Mi gei hel dy garcas a ffwrdd a thi bore fory nesa. |
| (1, 0) 80 | Heb garictor? |
| (1, 0) 83 | Rwyt ti'n lartsh ar y naw, 'nglasan i. |
| (1, 0) 84 | Pam na ofynni di i Syr John? |
| (1, 0) 86 | Capten yn y llynges fu Syr John. |
| (1, 0) 87 | Siawns na chei di gusan ganddo yntau. |
| (1, 0) 88 | Roi di glewtan o ddiolch i Syr John? |
| (1, 0) 90 | Pwy sy eisiau dy gusan di, y sili-ffrit? |
| (1, 0) 92 | Rwyt ti'n mynd yn llond y tŷ. |
| (1, 0) 93 | Dos, gloywa hi i'r gegin i olchi'r llestri. |
| (1, 0) 98 | Mae'r te'n barod i chi syr. |
| (1, 0) 99 | A gaf i dywallt? |
| (1, 0) 102 | Y forwyn fach syr. |
| (1, 0) 103 | Yn ei blwyddyn gynta... |
| (1, 0) 105 | Dos, rwan. |
| (1, 0) 247 | Mae 'na ddyn yn y drws, syr, yn gofyn am eich gweld chi. |
| (1, 0) 249 | Nage, syr. |
| (1, 0) 250 | Methodist. |
| (1, 0) 252 | O nage, syr. |
| (1, 0) 253 | Siopwr, groser, ond ei fod o'n prygawthan pregethu hefyd. |
| (1, 0) 255 | O Lanfechell. |
| (1, 0) 256 | Dyn dwad, wedi priodi merch i Mr. Broadhead. |
| (1, 0) 260 | Gofyn am eich gweld chi. |
| (1, 0) 261 | Ddwedodd o mo'i neges. |
| (1, 0) 264 | John Elias, syr. |