| (1, 2) 115 | Pregethu? |
| (1, 2) 116 | Be ŵyr hwnnw am bregethu? |
| (1, 2) 117 | Ond mae o wrthi yn cabarddilio rhywbeth bob Sul. |
| (1, 2) 122 | Fel hyn yr ydw i yn 'i gweld hi, Mari Lewis, —mae hi yn fwy cyfforddus yn yr Eglwys, ond yn fwy saff yn y capel. |
| (1, 2) 123 | Un gwahaniaeth mawr rhwng yr Eglwys a'r capel, Mari Lewis, yw fod pobol yr Eglwys yn meddwl eu hunain yn dda, a phawb yn gwybod eu bod yn ddrwg; a phobol y capel yn meddwl eu hunain yn ddrwg, a phawb yn credu eu bod yn dda, wyddoch. |
| (1, 2) 127 | Mae digon o hono i'w gael, on' does, Mari Lewis? |
| (1, 2) 128 | —ond fydda i byth yn leicio cymyd fwy na fy share o ddim, wyddoch. |
| (1, 2) 131 | Felly bydd y gaffer acw yn deyd. |
| (1, 2) 133 | Ond "yr hen law" acw,—y nhad, —wyddoch. |
| (1, 2) 137 | All right. |
| (1, 2) 138 | Y tro nesaf mi galwaf o yn Hugh Bryan, Esq., General Grocer and Provision Dealer, Baker to His Royal Highness yr Hen Grafwr, and—— |
| (1, 2) 139 | Aros di, William; yr wyt ti yn mynd yn rhy bell. |
| (1, 2) 140 | Dwyt ti ddim i siarad fel ene. |
| (1, 2) 141 | Mae arna i ofn fod y diafol wedi cael tipyn o afael arnat ti. |
| (1, 2) 142 | Be ddaru mi, Mari Lewis? |
| (1, 2) 143 | Ddaru mi ddim lladd neb, ai do? |
| (1, 2) 145 | Pwy ydach chi'n feddwl, Mari Lewis? |
| (1, 2) 146 | Ai y gaffer acw? |
| (1, 2) 147 | Na na i, neno'r anwyl, ddim lladd yr hen law. |
| (1, 2) 148 | Be ddoi o hono i? |
| (1, 2) 149 | Mi fyddwn wedi llwgu. |
| (1, 2) 151 | Does yma'r un, mi gymra fy llw. |
| (1, 2) 153 | O! yr ydw i'n y'ch dallt chi 'rwan. |
| (1, 2) 154 | Pam na siaradwch yn blaen, Mari Lewis? |
| (1, 2) 155 | Ond dydi pechod yn y'n c'lonne ni i gyd, medde'r hen——y nhad acw. |
| (1, 2) 171 | Wn i ddim, ond mae ene un fantais wrth i goliar gael ei gymryd i'r jail. |
| (1, 2) 173 | Fedra nhw ddim rhoi y County crop iddo fo, achos mi ddyffeia i nhw i dorri 'i wallt o yn fyrrach nag ydi o. |
| (1, 2) 184 | Dydi Bob ddim wedi dwad! |
| (1, 2) 188 | Mae'r bechgyn yn deyd y daw o yn siwr efo'r tren nesa. |
| (1, 2) 189 | Ty'd, Rhys, gad i ni fynd i'r stesion, mae hi jest yn amser. |
| (1, 2) 200 | Peidiwch a rhoi'ch calon i lawr, Mari Lewis. |
| (1, 2) 201 | Yr ydw' i yn credu y troiff Bob i fyny o rywle toc. |
| (1, 2) 204 | Ond doedd y pregethwr yn deyd y Sul o'r blaen, Mari Lewis, fod hi wedi dwad yn all right ar Job yn y diwedd, er yr holl hymbygio fu arno fo, ond oedd o? |
| (1, 2) 207 | Mae hi yn siwr o ddwad yn all right arnoch chi, Mari Lewis, achos yr ydach mor dduwiol a Job, mi gymra fy llw. |
| (1, 2) 209 | Yr ydw i yn deyd y gwir o nghalon; ac yn ol fel yr oedd y pregethwr yn deyd hanes Job, yr ydw i yn y'ch gweld chi'ch dau yn debyg iawn i'ch gilydd. |
| (1, 2) 210 | Mi ddaru chi y'ch dau sticio at y'ch cylars yn first class, ac mae hi yn siwr o ddwad yn all right arnoch chithe. |
| (1, 2) 213 | Lol! Nid lol ydyw at all. |
| (1, 2) 214 | Mi fetia,—hynny ydi, mi gymra fy liw, y bydd hi yn all right arnoch chi yn y diwedd. |
| (1, 2) 216 | Miloedd ar filoedd. |
| (1, 2) 218 | Wel, ie, mewn ffordd o siarad, wyddoch, Mari Lewis. |
| (1, 2) 219 | Yr ydw i yn siwr fod yno just i gant. |
| (1, 2) 225 | 'Roedd o'n gweithio stem y dydd. |
| (1, 2) 227 | Neb, ond 'y mod i yn meddwl hynny. |
| (1, 2) 229 | No sooner said than done. |
| (1, 2) 232 | Stand at ease; as you were! |
| (1, 2) 233 | Os bydd y twllwch yn dew iawn, mi torra fo efo nghyllell. {Exit.} |
| (1, 2) 238 | Rydan ni wedi colli sport iawn. |
| (1, 2) 240 | Dydi o ddim gartre'. |
| (1, 2) 242 | Mae ene gryn dair batel wedi bod, a Ned-un-llygad wedi ei gymryd i'r Rowndws; ond mi 'mladdodd fel llew efo'r plisman—— |
| (1, 2) 244 | Ddim yn mynd adre heno,—wedi deyd wrth y gaffer—— |
| (1, 2) 251 | Be' ydach chi'n weld ar y nhrwyn i, yr angau pheasant gennoch chi? |
| (2, 2) 349 | Holo! yr hen fil blynyddoedd! |
| (2, 2) 350 | Sut sy ers cantoedd? |
| (2, 2) 351 | Roeddwn i just a meddwl dy fod ti wedi mynd i'r nefoedd, ond y mod i yn credu na faset ti ddim yn mynd heb ddeyd goodbye wrth dy hen chum. |
| (2, 2) 352 | Honour bright, rwan! |
| (2, 2) 353 | Ydi'n ffaith dy fod di wedi cael diwygiad, ne ymweliad, ne be maen hw yn 'i alw fo? |
| (2, 2) 354 | Wyst ti be? |
| (2, 2) 355 | 'Rydw inne yn ddigon parod i fynd i'r nefoedd, ne' at y sowldiwrs, waeth gen i p'run, achos 'rydw i wedi glân flino gartref acw. |
| (2, 2) 356 | Mae acw andros o row wedi bod yr wsnos yma, a hynny am ddim byd just, a dydw i ddim am ddiodde chwaneg o humbug. |
| (2, 2) 358 | Wel, mi wyddost am yr hen gloc wyth niwrnod sy yn y gegin acw? |
| (2, 2) 359 | Roedd tipyn o natur colli yno fo yn ddiweddar,—a fault, by the way, not entirely unknown amongst other orders of swperior creatures. |
| (2, 2) 360 | Yr oeddwn i yn credu o hyd y medrwn i ei giwrio fo bydaswn i yn cael amser, er na fues i 'rioed o'r blaen yn trio glanhau cloc, achos mi wyddost nad ydw i ddim yn un dwl at rywbeth felly. |
| (2, 2) 361 | Wel i ti, mi aeth yr hen bobol i ffair Wrexham, with strict injunctions that Will, in the meantime, should diligently apply himself to weighing and wrapping sugar, which occupation the said Will considered unworthy of his admitted abilities; and the said Will, following his more congenial inclination, betook himself to clock cleaning, thinking that thereby he did not waste valuable time by putting the timekeeper to rights. |
| (2, 2) 362 | Ond yr oedd hi yn fwy o job nag oeddwn i wedi feddwl, wel di; achos wrth 'i dynnu o yn dipia, yr oeddwn i yn gorfod gneyd notes o ble yr oedd pob darn yn dwad, ac i bwy 'roedd o yn perthyn. |
| (2, 2) 363 | Ar ol i mi'i lanhau o i gyd, a rhoi tipyn o fenyn ar bob olwyn, screw a bar—doedd ene ddim oil yn y ty—'roedd hi wedi mynd ymhell i'r p'nawn, er i mi fod heb fy nghinio rhag colli amser, ac yr oedd hi yn hen bryd dechre ei roi o wrth 'i gilydd cyn i'r gaffer ddwad adre o'r ffair. |
| (2, 2) 364 | So far,—good. |
| (2, 2) 365 | Ond pan es i ati i roi yr hen wyth niwrnod yn 'i gilydd, ac i gonsyltio fy notes,—welaist ti 'rioed shwn beth,—roeddwn i 'run fath a Mr. Brown, y person, yn ffilio dallt fy notes fy hun! |
| (2, 2) 366 | Ond mi ddysges hyn,—y dyle dyn sy'n mynd i lanhau clocie, 'run fath ag i bregethu, ' fedryd gneyd y job heb notes. |
| (2, 2) 367 | Welest di 'rod'shwn helynt ges i. |
| (2, 2) 368 | Ond rhaid i ti gofio y mod i yn labouring under great disadvaniages, achos cyllell ac efel bedoli oedd y nhŵls i. |
| (2, 2) 369 | 'Roeddwn i yn chwys diferol rhag ofn y base yr hen Daith y Pererin yn dwad adre o'r ffair cyn i mi roi yr hen gloc wrth i gilydd. |
| (2, 2) 370 | However i ti, mi weithies fel black, a mi ces o wrth 'i gilydd rywsut. |
| (2, 2) 371 | Ond yr oedd gen i un olwyn yn spâr, na wyddwn i yn y byd mawr lle 'roedd o i fod, na be i neyd â fo, a mi rhois o yn y mhoced. {yn dangos yr olwyn} |
| (2, 2) 372 | Wel, iti, mi 'sodes yr hen wyth yn 'i le, a mi weindies o, a'r peth cynta naeth my nabs oedd taro i lawr hyd i'r gwaelod. |
| (2, 2) 373 | Mi darodd filoedd ar filoedd, a mi 'roedd swn y gloch yn y mhen i wedi ngneyd i reit syn; ac 'roedd o'n gneyd ffasiwn row fel yr oeddwn i yn ofni i'r cymdogion feddwl fod merch y Plas yn mynd i'w phriodi! |
| (2, 2) 374 | Ar ol iddo daro gymin a fedra fo, y peth nesa naeth my nabs oedd stopio yn stond. |
| (2, 2) 375 | Wrth i mi ddal ati i bwtian y pendil yr oedd yr hen wyth yn mynd yn go lew, ond gynted y stopiwn i bwtian, mi stopie fynte fynd. |
| (2, 2) 376 | A deyd y gwir i ti, mi chwerthes nes oeddwn i yn rholio,—fedrwn i ddim peidio bydase rhwfun yn fy lladd i. |
| (2, 2) 377 | So here endeth a true account of the clock-cleaning. |
| (2, 2) 378 | Bul wait a bit. |
| (2, 2) 379 | Toc i ti, fe ddaeth yr hen bererinion adre o'r ffair, a'r peth cynta naeth y mam oedd edrach be oedd y gloch. |
| (2, 2) 380 | Roeddwn i wedi trio gesio faint o'r gloch oedd hi, a rhoi'r bysedd yn o agos i'w lle, bygswn i. |
| (2, 2) 381 | Ond fe spotiodd yr hen wraig fod yr hen gloc wedi sefyll, a medde hi, "Be sy ar yr hen gloc yma, William?" |
| (2, 2) 382 | "Ydi o wedi stopio?," medde finne. |
| (2, 2) 383 | "Ydi, debyg, er's dwyawr, medde hithe, a mi roth bwt i'r pendil. |
| (2, 2) 384 | Yr oeddwn just a marw eisio chwerthin. |
| (2, 2) 385 | "Be-sy-ar-yr-hen-gloc-yma?," medde'r hen wraig wedyn, a mi roth shegfa iddo fo, fel y gweles di rai yn trio deffro dyn meddw wedi cysgu ar ochr y ffordd. |
| (2, 2) 386 | Er mwyn i mi gael esgus i chwerthin, ebe fi, "Yr ydw i'n mawr gredu, mam, fod cwlwm ar 'i berfedd o, run fath a hunter gwr y Plas, a bydd raid i ni ei saethu o neu 'i agor o". |
| (2, 2) 387 | Ond dyma'r forwyn i fewn, ac yn splitio'n syth mod i wedi bod drwy'r dydd yn glanhau yr hen wyth. |
| (2, 2) 388 | Wel, weles di 'rod'shwn row. |
| (2, 2) 389 | Mi ath y mam yn yfflon, a'r gaffer yn gynddeiriog. |
| (2, 2) 390 | Yr ydw i'n mawr gredu y base yr hen law yn leicio rhoi cweir i mi, ond mi wydde na fedra fo ddim. |
| (2, 2) 391 | And Will went to his boots. |
| (2, 2) 392 | Drannoeth mi ddaryn yru am Mr. Spruce, y watchmaker, i roi'r hen wyth niwrnod i fynd; ond mi wyddwn na fedre fo ddim, achos 'roedd un olwyn ym mhoced Wil, a mi gafodd Wil ei revenge. |
| (2, 2) 393 | "Give it up," ebe'r hen fenspring. |
| (2, 2) 394 | Ond pan gaiff y chap yma gefn yr hen bobol am chwe awr, mae o'n bound o neyd gwyrthiau ar yr hen wyth niwrnod. |
| (2, 2) 395 | Wel, dyna fi wedi deyd fy helynt i ti. |
| (2, 2) 396 | Ond honour brigh, ydi'n ffaith fod ti wedi d'aileni? |
| (2, 2) 402 | Go on efo dy bregeth; "ni a sylwn yn yr ail le," dywed. |
| (2, 2) 404 | Wel, os nad pregeth ydi hi, mi glywis i salach lawer gwaith. |
| (2, 2) 405 | Ond i fod yn sad; 'roeddwn i wedi spotio er's tipyn dy fod wedi mynd i'r lein yna, a mi ddeudis hynny wrthat ti, onid o? |
| (2, 2) 407 | Roeddat ti'n meddwl y baswn i'n gneyd sport am dy ben di. |
| (2, 2) 408 | Far from it. |
| (2, 2) 409 | Mae'n dda gan 'y nghalon i dy fod wedi cael tro. |
| (2, 2) 410 | 'Rwyt ti am fod yn bregethwr, yn 'dwyt ti. |
| (2, 2) 412 | Waeth i ti heb ysgwyd dy ben, pregethwr fyddi di. |
| (2, 2) 413 | Mi wyddwn pan oeddat ti'n kid mai dyna fyddet ti, a mi rof air o gyngor i ti. |
| (2, 2) 414 | Wel, cofia fod yn true to nature. |
| (2, 2) 415 | Ar ol i ti ddechreu pregethu, paid a newid dy wyneb a dy lais a dy got cyn pen y pythefnos. |
| (2, 2) 416 | Os gnei di, mi fydda i'n bound o dy hymbygio di. |
| (2, 2) 417 | Paid a thrio bod yn rhywun arall, ne fyddi di neb. |
| (2, 2) 418 | Wyst ti be, mae ene ambell i bregethwr fel ventriloquist,—pan fydd o yn y ty, mae o 'run fath a fo'i hun; ond pan aiff o i'r pulpud, mi dynget mai rhwfun arall ydi o, a mae y rhwfun arall yn salach na fo'i hun, achos tydi o ddim yn true to nature. |
| (2, 2) 419 | Paid a chanu wrth ymresymu, 'run fath a phydaet ti ddim yn dy sens, achos dydi'r ffaith dy fod ti yn y pulpud ddim yn rhoi licence iti fod yn wirionach nag yn rhywle arall. |
| (2, 2) 420 | Pan ' fyddi di yn bregethwr, a mi 'rwyt yn bound o fod, {RHYs yn ysgwyd ei ben} waeth i ti heb ysgwyd dy ben,—paid a chymryd arnat fod ti yn fwy duwiol nag wyt ti, ne' mi fydd gan blant dy ofn di. |
| (2, 2) 421 | Wyst ti be, 'roedd ene bregethwr yn lodgio yn ein ty ni y Cyfarfod Misol dweutha, a 'roedd gen i ofn o drwy nghalon. |
| (2, 2) 422 | Roedd o'n reit iach, ac yn byta yn riol, ond 'roedd o'n ochneidio fel bydase'r ddannodd arno fo o hyd. |
| (2, 2) 423 | Roedd o 'run fath a bydase geno fo blât arch ar 'i frest o hyd, a 'roeddwn i fel bydaswn i mewn claddedigaeth tra bu o acw. |
| (2, 2) 424 | Mi gymra fy llw y baswn i yn fwy hy ar yr Apostol Paul pe basa fo acw. |
| (2, 2) 425 | Doedd o ddim yn true to nature, wyddost. |
| (2, 2) 426 | Os byddi di eisio rhoi rhyw airs fel yna i ti dy hun, cadw nhw nes byddi yn y ty 'rwyt yn talu rhent am dano fo. |
| (2, 2) 427 | Cofia fod yn honourable. |
| (2, 2) 428 | Pan fyddi di yn lodgio yn rhywle, cofio roi chwech i'r forwyn, bydae gen ti 'run chwech arall, ne chredith hi 'run gair o dy bregeth di. |
| (2, 2) 429 | Os byddi di yn smocio,—a mae y prygethwrs mawr i gyd yn smocio,—cofia smocio dy faco dy hun, rhag iddyn nhw rwmblan ar ol i ti fynd i ffwrdd. |
| (2, 2) 430 | Wrth bregethu, paid a beatio gormod o gwmpas y bush,—ty'd at y point, taro'r hoelen yn 'i phen, a darfod hefo hi. |
| (2, 2) 431 | Cofia fod yn true to nature yn y ty, ac yn y pulpud, ac os na fedri di neyd i bob one yn y capel wrando amat ti, rhoi fyny am bad job, a cher i werthu calico. |
| (2, 2) 432 | Os byddi yn mynd i'r College,—a mi fyddi, mi wn,—paid a bod 'run fath a nhw i gyd. |
| (2, 2) 433 | Mae nhw'n deyd fod y students 'run fath a'u gilydd,—fel lot o postage stamps. |
| (2, 2) 434 | 'Treia fod yn exception to the rule. |
| (2, 2) 435 | Paid a gadael i'r blaenoriaid dy gyhoeddi yn wr ieuanc o'r Bala. |
| (2, 2) 436 | Pregetha nes byddan nhw yn dy gyhoeddi 'Rhys Lewis,' heb son o ba le 'rwyt ti'n dwad. |
| (2, 2) 437 | Pan fyddi di yn y college, beth bynnag arall fyddi di'n ddysgu, stydia Nature, Literature, a Saesneg, achos mi daliff rheiny am 'u bwyd iti rw ddiwrnod. |
| (2, 2) 438 | Os byddi di yn dwad yn dy flaen,—ac yr wyt ti yn bound o ddwad,—paid a llyncu poker, ac anghofio dy hen chums. |
| (2, 2) 439 | Paid a gwisgo spectols i dreio rhoi ar ddeall dy fod ti wedi stydio mor galed nes colli dy olwg, ac i gael esgus i beidio nabod dy hen chums, achos mi ŵyr pawb mai fudge ydi'r cwbl. |
| (2, 2) 440 | Paid byth a thori dy gyhoeddiad er mwyn cael chwaneg o bres, neu mi nei fwy o infidels nag o Gristionogion. |
| (2, 2) 441 | Er mwyn popeth, paid a bod yn bregethwr cybyddlyd, a bedyddio dy hun yn ddyn cynnil. |
| (2, 2) 442 | Honour bright! gobeithio na chlywa i byth hynny am danat ti. |
| (2, 2) 443 | Mi fuasa well gen i glywed dy fod wedi mynd ar dy spri, na chlywed dy fod yn gybydd. |
| (2, 2) 444 | Weles i 'rioed gybydd yn altro, ond mi welis ugeinie yn sobri. |
| (2, 2) 445 | Mae o'n stranger than fiction i mi; bydaet ti'n mynd ar dy spri dim ond unwaith, mi dy stopien di i bregethu; ond bydae ti'n mynd y cybydd mwya yn y wlad, mi lowian di bregethu yr un fath. |
| (2, 2) 446 | Old fellow, wyt ti ddim yn meddwl mod i'n rhoi cynghorion go lew i ti, a chysidro pwy ydw i? |
| (2, 2) 447 | Does gan y Cyfarfod Misol mo'r courage i roi cynghorion fel 'rydw i wedi roi. |
| (2, 2) 448 | Ond mi wela dy fod ar frys. |
| (2, 2) 449 | Give us thy paw, and wire in, old boy. |
| (2, 4) 661 | Ddaru chi ddim dychryn, Miss Hughes, gobeithio? |
| (2, 4) 662 | Very sorry, begio'ch pardwn. |
| (2, 4) 664 | Be' ddyliech chi o Rhys am fynd i'r Coleg? |
| (2, 4) 666 | Wel, aros di, welis i monot ar ol y seiat y ces di dy alw i bregethu, ond dyma ni, just y peth, 'roeddwn i eisio cael ymgom efo ti. |
| (2, 4) 669 | Bydawn i yn rhoi verbatim report i ti, wnai o les yn y byd i ti. |
| (2, 4) 670 | Yr unig beth ddaru diclo tipyn ar 'y ffansi i, oedd yr Hen Grafwr yn insistio am i ti bregethu o flaen y seiat iddyn nhw weld ffasiwn stwff sydd ynnot ti, a'r hen Water Wyrcs yn'i ateb o y basa'r cynllun yn un iawn bydaset ti newydd ddwad o'r Merica, a neb yn gwybod am danat ti. |
| (2, 4) 671 | Dydw i ddim yn gwybod am ddim arall gwerth ei adrodd wrthot ti, heblaw fod yr hen thoroughbred, Tomos Bartley, pan oeddan ni'n codi llaw o d'ochor di, wedi codi ei ddwy law,—'run fath a phictiwr Whitfield, a hynny, 'roeddwn i yn meddwl, fel apology am the unavoidable absence of Barbara Bartley, owing to a severe attack of rheumatism.... |
| (2, 4) 672 | 'Rydwi wedi dwad yma i gael ymgom difrifol hefo ti, ond rhaid cael Miss o'r ffordd. |
| (2, 4) 673 | Sut? |
| (2, 4) 674 | Mi wn i. |
| (2, 4) 680 | Love story sydd gennych yn siwr, Miss Hughes. |
| (2, 4) 681 | Well i chwi aros peth eto? |
| (2, 4) 685 | 'Nawn ni ddim. |
| (2, 4) 686 | Good night, Miss Hughes, happy dreams. |
| (2, 4) 688 | Bravo! |
| (2, 4) 689 | Wel, Rhys, 'rwyt ti wedi cyrraedd y point yr ydw i wedi bod yn edrach am dano ers talwm. |
| (2, 4) 690 | Yr wyt ti 'rwan wedi dewis dy brofession; a choelia fi, mae yn dda gen i feddwl mai pregethwr wyt ti am fod. |
| (2, 4) 691 | Mae nghydwybod i heno dipyn yn fwy tawel. |
| (2, 4) 692 | Mi wn o'r gore mai fi ddaru dy daflu di oddiar y metals, a fum i byth yn hapus nes dy weld ar y metals yn d'ol. |
| (2, 4) 693 | Yr ydan ni wedi trafaelio llawer efo'n gilydd, ond yr ydan ni wedi dwad i'r junction heno. |
| (2, 4) 694 | Y fact o'r matter ydi, rhaid i ni ffarwelio, fel y mae y gân yn deyd, â'r "Dear happy hours, that can return no more." |
| (2, 4) 695 | Yr ydw i am 'i gloewi hi, a hwyrach na wela i monot ti byth eto, a mae ene lwmp yn y ngwddw i wrth i mi ddeyd hynny, mi gymra fy llw. |
| (2, 4) 696 | Glywes di am danom ni acw? |
| (2, 4) 699 | Wel, mae hi yn "U P" acw, a mi fydd pawb yn gwybod hynny cyn wythnos i heddyw, a fedra i mo'i sefyll hi. |
| (2, 4) 700 | Be ydi'r prospect? |
| (2, 4) 701 | Liquidation by arrangement a starvalion! |
| (2, 4) 702 | Ac am hynny yr ydw i am 'i gloewi hi. |
| (2, 4) 703 | I ble? |
| (2, 4) 704 | Wn i ddim. |
| (2, 4) 705 | Be fedra i neyd? |
| (2, 4) 706 | There's the rub. |
| (2, 4) 707 | Fy nyleit i, fel y gwyddost, oedd dreivio ceffyl, a doedd o ddim odds gen i prun ai dreivio llwyth o fara ai dreivio llwyth o ferched ifinc nawn i; ond wythnos i heddyw, fydd gan Hugh Bryan, Provision Dealer, yr un ceffyl i'w ddreivio! |
| (2, 4) 708 | Wyddost ti be? |
| (2, 4) 709 | Fum i 'rioed o'r blaen yn really down in the mouth. |
| (2, 4) 712 | Rhy faith i fynd drostyn nhw, was. |
| (2, 4) 713 | Y nhad yn rhy grasping,—mi drodd i speculatio. |
| (2, 4) 714 | Fifty pounds a month, ddyn bach! |
| (2, 4) 715 | Sut yr oedd yn bosib iddo ddal? |
| (2, 4) 716 | Hwyrach y bydd pobol yn y ngweld i'n selfish wrth skidadlo, ond fedra í ddim dal y disgrace. |
| (2, 4) 717 | A dyna Sus,—poor girl!—fedrwn i ddim edrach yn 'i gwyneb hi. |
| (2, 4) 718 | Mae'n lwc nad oes ene ddim byd definite rhyngom ni. |
| (2, 4) 719 | Mae'n rhaid i mi fynd,—mae rhywbeth yn fy ngyrru. |
| (2, 4) 722 | Beth ydi hynny, old fellow? |
| (2, 4) 724 | Fedra i ddim, Rhys. |
| (2, 4) 725 | Yr oeddwn i wedi meddwl troi dalen newydd ar ol i mi gael fy fling, ond mi gymres ormod o fling. |
| (2, 4) 726 | Rydw i'n ffaelio dwad yn f'ol. |
| (2, 4) 727 | 'Rydw i past feeling, mae gen i ofn, 'does dim byd yn effeithio arna i. |
| (2, 4) 728 | Yr wyf yn teimlo bron 'run fath a Wolsey,—"Had I but served my God,"—mi wyddost am y geirie. |
| (2, 4) 730 | Waeth iti heb siarad! |
| (2, 4) 731 | Fedri di ddeyd dim newydd wrthai. |
| (2, 4) 732 | Nid wyf ond kid o ran oed, ond yr wyf yn teimlo fy hun yn hen mewn pechod. |
| (2, 4) 733 | Be' nes i? {yn codi} |
| (2, 4) 734 | Laddes i ryw un? |
| (2, 4) 735 | Dim danger! |
| (2, 4) 736 | Eis i ar fy spri ryw dro? |
| (2, 4) 737 | Dim perygl! |
| (2, 4) 738 | Wnes i gam â rhywun? |
| (2, 4) 739 | Nid wyf yn gwybod. |
| (2, 4) 740 | Rhys, raid i ti wneyd yr un o'r pethe mawr yna i gael dy adael ar ol. |
| (2, 4) 741 | Be' nes i? |
| (2, 4) 742 | Dim ond lot o bethe bach, Rhys,—canu comîc songs yn lle emynau Williams ac Ann Griffiths; gwneyd sport o dy hen fam dduwiol ac Abel Hughes; mynd at y billiard table gan amlach nag i'r seiat a'r cyfarfod gweddi. |
| (2, 4) 743 | Yr wyf wedi cymeryd fy fling, ond cymerais ormod o fling, fel yr wyf yn methu dod yn ol. |
| (2, 4) 744 | Yr ydw i yn teimlo yn ddigalon, ac eto, dydw i ddim yn edifeiriol. |
| (2, 4) 745 | Yr ydw i yn teimlo remorse, ond yr un blewyn o edifeirwch! |
| (2, 4) 746 | Os ydw i'n dallt be' ydi edifeirwch. |
| (2, 4) 747 | Ond waeth tewi! |
| (2, 4) 748 | Nos dawch. |
| (2, 4) 749 | A ffarwel. |
| (2, 4) 750 | ~ |
| (2, 4) 751 | "It may be for years, |
| (2, 4) 752 | And it may be for ever!" |
| (2, 4) 753 | ~ |
| (4, 1) 1024 | Wel, yr hen ganfed! |
| (4, 1) 1025 | Ai ti wyt ti, dywed? |
| (4, 1) 1027 | Wil Bryan! |
| (4, 1) 1028 | At your service. |
| (4, 1) 1029 | Wyddost ti pwy weles i rwan just? |
| (4, 1) 1031 | Wel, mi weles yr hen Niclas yn dwad allan o'r lle yna, a mi canlynais o, a mi weles 'i fod o yn byw ar hyn o bryd yn 65 Gregg Street, ac mi ddois yn ol yma i edrych welwn i chwaneg o'r breed, a strange to tell, dyma tithe. |
| (4, 1) 1032 | Ond be ydi'r row? |
| (4, 1) 1033 | O ble yn y byd mawr y doist ti? |
| (4, 1) 1034 | Wyst ti be, rydw i wedi meddwl am danat ti filoedd o weithie, ac wedi bod yn gofyn, tybed fase Rhagluniaeth yn ein tymblo ar draws ein gilydd rywdro. |
| (4, 1) 1035 | Ond tyrd adre hefo fi. |
| (4, 1) 1036 | Does gynnom ni fawr o ffordd i'r crib acw. |
| (4, 1) 1037 | Fyddwn ni 'run dau funud hwy yn mynd heibio'r ty, 65 Gregg Street. |
| (4, 1) 1038 | Mi danghosa i o i ti. |
| (4, 1) 1039 | Tyrd. |
| (4, 2) 1059 | Dyma'r crib iti. |
| (4, 2) 1060 | Dydw i ddim wedi dechra cadw bwtler eto. |
| (4, 2) 1061 | Aros di, lle mae'r ganwyll? |
| (4, 2) 1062 | Dyma hi. |
| (4, 2) 1063 | Fase'n well i ni beidio mynd at y ty hwnnw, ond pwy fase'n meddwl y base raid i ti gael mynd i ben y ffenestr? |
| (4, 2) 1064 | Ond be ydi'r row? |
| (4, 2) 1065 | Be ydi meaning of all this? |
| (4, 2) 1066 | Spowtia. |
| (4, 2) 1074 | Gwna dy hun gartref tra byddai yn ceisio'r grub yn barod. |
| (4, 2) 1075 | Dacw le i ti 'molchi yn y fan yna, achos chei di ddim byta yn y nhy i heb molchi, a tithe wedi bod yn handlo corff y son of a gun ene. |
| (4, 2) 1077 | Wel, mi welaf fod ti'n cymeryd stoc. |
| (4, 2) 1079 | Dwad i be? |
| (4, 2) 1080 | I un room? |
| (4, 2) 1081 | 'Rydw i'n dal fod o'n true to nature. |
| (4, 2) 1082 | Mae pob creadur 'blaw dyn yn byw mewn un room ar ol iddo adael yr open air, a dydi o ddim ond humbug cael lot o rooms, ond paid di a meddwl mai hard up ydw i, fel y ca i ddangos i ti toc. |
| (4, 2) 1083 | Dywed y gair, te neu goffi? |
| (4, 2) 1085 | Same here. |
| (4, 2) 1086 | Daset ti wedi dweyd coffi, does yma ddim yn ty. |
| (4, 2) 1087 | Does dim isio gwell gwraig na'r Iandlady yma, ond mae gen i ofn 'i bod hi yn go ffri hefo nhe i. |
| (4, 2) 1088 | Cyn mynd allan heddyw, mi rois i wybedyn yn y canister ma, a mi gawn weld ydi o yno 'rwan,—edrych di yr ochr yma, a mi edrycha inna yr ochr yna. |
| (4, 2) 1089 | Wyt ti yna? |
| (4, 2) 1090 | 'Rwan. |
| (4, 2) 1091 | Gone! |
| (4, 2) 1092 | Dene ti certain proof.. |
| (4, 2) 1093 | Ond ama i mae'r bai, hefyd. |
| (4, 2) 1094 | Mae'n debyg fod y wraig yn eitha gonest daswn i yn cloi y cwpwrdd. |
| (4, 2) 1095 | Draw your chair to the table. |
| (4, 2) 1096 | Mi wela fod yna un drawback,—does yma ond un gwpan a sowser; ond am y tro, cymera di y gwpan, a mi gymera inne y sowser. |
| (4, 2) 1097 | Does gen i ddim llefrith chwaith,—ma'r tuberculosis yn enbyd ar y gwartheg yma, ac mae te heb laeth ynddo 'n torri syched yn well lawer, Rhys. |
| (4, 2) 1099 | Wel, mi wyddost pan yr es i oddi cartre. |
| (4, 2) 1100 | Wel i ti, mi fu dipyn yn galed arna i tan ges i job i ddreivio cab. |
| (4, 2) 1101 | Mi weithies yn galed, a byw yn gynnil,—a deyd y gwir i it, mi es yn gybydd,—ac yr oeddwn i yn cyfri mhres bob nos. |
| (4, 2) 1102 | Un nosweth, mi ges mod i yn werth £48, heblaw y ceffyl a'r cab, a mi brynnes chwarter o sausage i'm swper; ar ol y swper, yr oeddwn i yn teimlo rwsut yn hapus ac independent. |
| (4, 2) 1103 | Y sausage nath y job, rydw i'n meddwl. |
| (4, 2) 1104 | Mi ddechreuais fwmian canu, a be ddyliet ti oedd y dune? |
| (4, 2) 1105 | "Yr hen flotyn du!" |
| (4, 2) 1106 | A dydw i ddim yn meddwl i neb 'blaw fi gael bendith wrth 'i chanu hi 'rioed. |
| (4, 2) 1107 | Pan ddois i at y geirie, |
| (4, 2) 1108 | Pa sut mae hynt fy mam a'm tad? |
| (4, 2) 1109 | Pa sut mae'r stad yn 'styried? |
| (4, 2) 1110 | mi ges break-down, a mi ddoth hireth sobor arna i, a mi gries lond y mol. |
| (4, 2) 1111 | Doeddwn i ddim wedi 'sgrifennu at yr hen bobol er pan es i oddicartre; a wyddwn i ddim oeddan nhw yn cael bwyd, ne oeddan nhw'n fyw. |
| (4, 2) 1112 | "This is not true to nature," 'be fi, a mi gries spel wedyn, a mi es ati i 'sgrifennu at y gaffer i ofyn oedd o yn fyw, sut yr oedd o'n dwad ymlaen, faint oedd amount 'i failure o? |
| (4, 2) 1113 | A mi rois y llythyr yn y post y noswaith honno. |
| (4, 2) 1114 | Yr oeddwn i ar dân nes cael ateb, a mi ges by return. |
| (4, 2) 1115 | Yr hen wraig oedd wedi'i sgrifennu o, achos 'roedd y nhad, medde hi, yn rhy cut up. |
| (4, 2) 1116 | Ond mi wyddwn mai dodge yr hen wraig oedd hynny, achos dydi'r hen Hugh ddim mor dyner-galon a hi. |
| (4, 2) 1117 | 'Roedd yr hen wraig yn crefu fel cripil arna i ddwad adre, ac yn deyd mor dda oedd ganddi glywed oddiwrth ei mab afradlon. |
| (4, 2) 1118 | 'Roedd hi yn gneyd mistake yn y fan ene hefyd! |
| (4, 2) 1119 | 'Does ene ddim analogy rhwng y Mab Afradlon a fi. |
| (4, 2) 1120 | 'Roedd tad y chap hwnnw yn wr bonheddig, a mi roth hanner 'i stad iddo fo, a mi wariodd ynte filoedd o bunnau, a mi ath i dendio ar y moch, a mi ath adre mewn rags! |
| (4, 2) 1121 | 'Roedd 'y nhad i wedi torri i fyny, a ches i 'rioed mo'r chance i wario pum punt o'i arian, a ddaru mi ddim lorio fy hun i fynd i dendio ar y moch, a da'i byth adre mewn rags, mi gymra fy llw! |
| (4, 2) 1122 | Does ene ddim analogy at all. |
| (4, 2) 1123 | Wel, £400 oedd failure yr hen law, ac yr oedd y creditors wedi acceptio pum swllt yn y bunt. |
| (4, 2) 1124 | 'Roedd o'n dwad yn 'i flaen yn o lew, a just ffansia gyfrwystra 'r hen wraig,—mae hi'n deyd yn y llythyr, "Mae Sus yn ferch ifanc o hyd". |
| (4, 2) 1125 | Fasa'r gaffer byth yn meddwl am tactics fel ene, wyddost. |
| (4, 2) 1126 | Mi effeithiodd hynny yn arw arna i, a mi faswn yn rhoi cymin ag oedd gen i am gipolwg arni hi. |
| (4, 2) 1127 | Ond to make a long story short, mi yrris yn ol i ddeyd nad awn i ddim adre nes bydde nhad wedi talu pob dimai o'i ddyled, a mi ddeydis yr helpiwn i o, a dene sydd yn mynd ymlaen rwan. |
| (4, 2) 1128 | Mae'r cwbl just a chael ei dalu rhyngom ni. |
| (4, 2) 1131 | Mi ddof rai o'r dyddiau nesaf yma, pan fydd yr accounts yn glir. |
| (4, 2) 1134 | Wait till the clouds roll by. |
| (4, 2) 1135 | Stranger things have happened. |
| (4, 2) 1136 | Hwyrach na choeli di mona i; ond mi gymra fy llw, yr ydw i yn credu fod Wil Bryan yn dechreu dwad yn ei ol. |
| (4, 2) 1139 | Ddylies i'n siwr mai y got las oedd ene, having run us down to earth. |
| (4, 2) 1141 | Never be too sure! |
| (4, 2) 1142 | Rhai garw ydi'r bobbies yma. |
| (4, 2) 1143 | Synnwn i ddim na welwn ni o eto. |
| (4, 2) 1144 | Os daw'r officer yma, be ddeydwn ni wrtho, dywed? |
| (4, 2) 1147 | Deyd y gwir! |
| (4, 2) 1148 | Chreda nhw byth mo'r gwir. |
| (4, 2) 1149 | Bydae ni yn deyd mai eisio gweld drwy shutters y ffenestr pwy oedd yn y ty ene hefo'r hen Niclas, wyt ti'n meddwl y coelien nhw ni? |
| (4, 2) 1150 | Dim peryg! |
| (4, 2) 1154 | Os ffeindiff y got las ni, mi eiff a ni o flaen His Worship, a mi baliff lot o glwydde am danom ni, a mi gawn 14 days cyn i ti ddeyd Jack Robinson. |
| (4, 2) 1155 | Mi fydd yn go chwith i brygethwr Methodus fod yn y quad, hefyd. |
| (4, 2) 1156 | Mae o'n taro i meddwl i ydi Rhagluniaeth wedi penderfynu i bob un o'ch teulu chi gael y fraint o fynd i'r carchar am spel? |
| (4, 2) 1157 | Roedd dy dad a dy ewythr,—no offence, cofia,—quite at home yno; a dene dy frawd Bob,—un o'r dynion gore allan,—mi gafodd yntau spel; a dyma tithe 'rwan. |
| (4, 2) 1158 | Aros di, fu Paul a Samson,—be oedd 'i enw o, Rhys?—Seilas, ddim mewn durance vile unwaith? |
| (4, 2) 1159 | Wel, yr ydan ni mor ddiniwed ag oedden nhwthe'u dau. |
| (4, 2) 1160 | A sut y daethon nhw allan o'r row? |
| (4, 2) 1161 | Ai nid wrth ganu? |
| (4, 2) 1162 | Wel, mi gana inne nes bydd y lle yn speden, mi gymra fy llw! |
| (4, 2) 1164 | Officer, I must give you credit,—you are a smart fellow. |
| (4, 2) 1165 | But I am at a loss to understand what has been the cause of giving us the honour of this visit? |
| (4, 2) 1167 | Holo! |
| (4, 2) 1168 | John Jones o Hen Wlad fy Nhadau! |
| (4, 2) 1169 | Oes y Byd i'r Iaith Gymraeg! |
| (4, 2) 1170 | Cymru Rydd! Cymru Fydd! |
| (4, 2) 1175 | To be sure! |
| (4, 2) 1176 | Bydawn i byth yn bren gwely os nad y chi ydi Sergeant Williams. |
| (4, 2) 1177 | Wel, sut yr ydach chi yr hen A 1? |
| (4, 2) 1178 | Take a seat. {Gan estyn ei gadair iddo ac eistedd ar y bocs ei hun.} |
| (4, 2) 1180 | Wel, mi fuase'n rhyfedd iawn i mi fod fel neb arall, Sergeant. |
| (4, 2) 1181 | Yr ydych chwi wedi newid yn fawr. |
| (4, 2) 1183 | Sylwi 'ron i fod eich trwyn chwi'n gochach lawer nag oedd o. |
| (4, 2) 1187 | It never rains but it pours! |
| (4, 2) 1188 | Newydd i ti fod yn gweld corff d'ewythr yn yr Old Bailey, dyma'r newydd yn cyrraedd fod dy dad yn cicio'r bwced mewn private house. |
| (4, 2) 1193 | Ie, cyn iddo'i gloewi hi. |
| (4, 2) 1196 | Wel, paid a synnu os bydd yours truly yn troi adref yn fuan, achos rydw i yn mawr gredu fod Wil Bryan yn dwad yn ei ol. |
| (4, 3) 1228 | Found at last. |
| (4, 3) 1229 | Mi fuon ni acw yn edrach am danat, a mi ddeydodd Miss Hughes dy fod wedi dwad yma. |
| (4, 3) 1230 | And to kill two birds with one stone, drwy ymweld â'r hen thorough-breds, mi ddeuthom yma ar dy ol di. |
| (4, 3) 1234 | Wel, Mrs. Bartley, sut yr ydach chi? |
| (4, 3) 1242 | Dydi'r gaffer ddim quite up to the knocker heno. |
| (4, 3) 1251 | Fel secret, gan ddisgwyl nad eiff o ddim ymhellach, yr ydw i'n deyd wrthoch chi yma fod ene o'r diwedd definite understanding rhwng Sus a minne, ac yn wir ynglŷn â'r cwestiwn yna y daethom i yma i edrach am Rhys. |
| (4, 3) 1254 | Mae hynny yn dibynnu ar Rhys yma. |
| (4, 3) 1256 | Well, that settles it. |
| (4, 3) 1257 | I will leave it to Sus to name the day. |
| (4, 3) 1258 | Rhys, dyma yr eneth ore fu 'rioed ar y ddaear yma. |
| (4, 3) 1259 | Wyt ti'n cofio mod i'n deyd wrthat ti mod i'n past feeling? |
| (4, 3) 1261 | Yr oedd hynny pan oeddwn i'n meddwl fod Sus wedi fy anghofio i. |
| (4, 3) 1262 | Ond pan ddois i adra, a ffeindio fod Sus, fel y deydodd yr hen wraig, yn ferch ifanc o hyd, mi es i edrych am dani, a phan ddalltodd hi mod i yn back-slider, be' ddaru hi ddyliet? |
| (4, 3) 1263 | Nid fel buase llawer o enethod yn gneyd, rhoi y cold shoulder i mi, ond mi fyclodd Sus ati hi, a mi ymresymodd â fi, a mi siaradodd yn ddifrifol a mi. |
| (4, 3) 1264 | Ond oeddwn i ddim yn meddwl am give in. |
| (4, 3) 1265 | Yr oeddwn i wedi sefyll tân yr hen Ddeg Gorchymyn, ac had got the best arnat tithe sydd yn bregethwr Methodus, a doeddwn i ddim yn leicio'r idea o gael fy mowlio allan gan eneth ifanc. |
| (4, 3) 1266 | Ond waeth hynny na chwaneg, mi ddaliodd Sus ati nes y bu raid i mi o'r diwedd throw up my colours, and make an unconditional surrender, ac y mae yn dda gen i ddeyd wrthoch i gyd heno, fod WIL BRYAN O'R DIWEDD WEDI DWAD YN EI OL. |