Cuesheet

Coroni Heddwch

Lines spoken by Y Fam (Total: 26)

 
(1, 0) 11 Weithiau, byddaf yn ofni na ddaw'r Frenhines byth yn ei hôl atom eto.
(1, 0) 12 Pa sawl diwrnod hir y buom yn gwylio ac yn disgwyl?
 
(1, 0) 21 Bydd, f'anwylyd, bydd y byd yn ddedwydd.
 
(1, 0) 35 Cofio yr wyf ddedwydded oedd fy nghartref, a'm llawenydd yn fy ngofal i gyd.
(1, 0) 36 Cofio lleisiau fy meibion, eu chwerthin sydyn, fel y byddent yn rhoi pwt o gân, ac fel y byddent yn siarad mor dyner wrthyf i.
(1, 0) 37 Cofio sŵn eu traed yn dyfod at y drws, ac fel y cawn innau, pan fyddent yn ddigalon, yr hen, hen ddawn gan Dduw, i fedru eu cysuro.
 
(1, 0) 39 Na byddwn, yr un bach.
(1, 0) 40 Y pryd hwnnw, pan eisteddwn wrth y tân, meddwl y byddwn "Yfory, rhaid i mi wneud y naill beth neu'r llall iddynt."
(1, 0) 41 Ac ambell waith, pan godwn fy ngolwg, troent hwythau a gwenu arnaf.
 
(1, 0) 61 Hwyrach bod ganddo newyddion am y Frenhines fawr.
 
(1, 0) 66 Syr, a glywsoch chwi rywbeth am y Frenhines?
 
(1, 0) 68 Heddwch yw ei henw.
 
(1, 0) 70 Dywedir ei bod hi i drigo gyda ni am byth.
 
(1, 0) 74 Ond Syr, er mwyn hynny yr aeth ein meibion allan i'w cheisio.
 
(1, 0) 86 Clywch!
(1, 0) 87 Pa sŵn yw hwnyna?
 
(1, 0) 92 Dont y-ffordd yma.
 
(1, 0) 94 O'r diwedd.
(1, 0) 95 Y Frenhines!
 
(1, 0) 102 Dywedwch i ni ba beth a welwch.
 
(1, 0) 112 Ie, y Frenhines, a'i henw yw Heddwch.
(1, 0) 113 O, Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni famau dynion.
 
(1, 0) 120 Pwy sy'n ei harwain gerfydd ei llaw at yr Orsedd?
 
(1, 0) 134 O, Frenhines, dyna'n gweddi i gyd.
 
(1, 0) 144 Dyma ni'n dysgu, a mawr yw ein hangen.
 
(1, 0) 163 O, fab rhyw fam druan, drist, pa beth a ofynni gennym ni, a fu'n disgwyl am ein meibion?