|
|
|
|
(1, 0) 130 |
Wele fi'n dyfod o alltudiaeth. |
(1, 0) 131 |
O, chwi, a fu bobl i mi, ai eich ewyllys i gyd yw i mi eto gymryd yr orsedd? |
|
|
(1, 0) 136 |
O, fy mhobl, oni fynnwch chwi gofio? |
(1, 0) 137 |
Oni bu hyno'r blaen? |
(1, 0) 138 |
Ai rhaid byth brynu doethineb â'r mawrbris hwn o boen? |
(1, 0) 139 |
Hebof i, nid ŷch chwi ddim, a llwch yw gwaith eich dwylaw. |
(1, 0) 140 |
Paham, gan hynny, y mae wanned eich ffyddlondeb? |
(1, 0) 141 |
Paham y gwrthodir fy llywodraeth i? |
(1, 0) 142 |
Paham y gyrr dynion fi o'u plith─i ddim ond dysgu eilwaith faint eu hangen amdanaf? |
|
|
(1, 0) 146 |
Y cwbl sydd eiddof, yr wyf yn ei roddi i chwi. |
(1, 0) 147 |
Dyma fy rhodd: bydd i'r mab ei ran o lafur ei dad, a dynion yn medi lle bu'r hau. |
(1, 0) 148 |
Caiff y mab sychu dagrau'r fam, a hithau bwyso ar ei fraich gadarn. |
(1, 0) 149 |
Cyferfydd y wyryf â'i chariad, a cherddant law yn llaw yn harddwch y byd. |
(1, 0) 150 |
Chwery'r plentyn wrth y drws, ac ni syrth ar ei chwarae mwy ddim o'r cysgod na ŵyr ef amdano. |
(1, 0) 151 |
Yn llawen y cymeraf yr Orsedd. |
|
|
(1, 0) 155 |
Tasg a wnaed yn dda. |
|
|
(1, 0) 157 |
Yn alltud hiraethus am fy lle fy hun, gan adnabod eich calonnau, gwyddwn eich bod yn y terfysg yn sibrwd fy enw i. |
(1, 0) 158 |
Ac oblegid eich angen mawr, cyfododd y Gŵr Ieuanc a daeth i'm ceisio. |
(1, 0) 159 |
Bellach, O fy mhobl, fel y rhoddwch i mi groeso, cofiwch mai rhodd y Gŵr Ieuanc yw'r rhodd yr wyf yn ei dwyn i chwi. |
(1, 0) 160 |
Na threigled hynny gyda'r pethau a anghofir. |
(1, 0) 161 |
Daeth ef i'm ceisio ar hyd ffordd gofidiau, lle y mae bob amser waed hyd y cerrig. |
|
|
(1, 0) 185 |
Lleferwch! |
(1, 0) 186 |
A ganiatewch chwi iddo ewyllys ei galon? |
(1, 0) 187 |
A ddiorseddir fi gan air cynddaredd dyn? |
(1, 0) 188 |
Ai rhaid dyfod un arall eto ryw ddydd ar hyd y ffordd drist i'm dwyn i yn f'ôl? |
(1, 0) 189 |
Ai myfi, yn wir, yw Brenhines y Bobl? |